Agora rhif 37 mis Ionawr – Chwefror 2020
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Cofiwch ailymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Blwyddyn Newydd a Dechrau o’r Newydd
Enid Morgan
Eli ar glwyfau ddoe
Emlyn Davies
Eli ar glwyfau ddoe
RhagorELI AR GLWYFAU DDOE
Cofio Dresden wedi 75 mlyneddGŵr ifanc 25 oed oedd Victor Gregg pan ddigwyddodd cyflafan Dresden. Flwyddyn yn gynharach, roedd newydd ymuno â 10fed Gatrawd y Parasiwtwyr pan gafodd ei ddal yn garcharor yn Arnhem yn 1944, a rhoddwyd dewis iddo: naill ai gwirfoddoli i fynd i wersyll gwaith neu gael ei gludo i un o’r gwersylloedd i garcharorion rhyfel. Penderfynodd yntau wirfoddoli, a chafodd ei gludo i gyrion Dresden lle bu’n ddiwyd yn ei ymdrechion i geisio dianc. Ond llawer mwy difrifol yn llygad yr awdurdodau oedd ei weithred yn cynnau tân mewn ffatri sebon lle roedd yn gweithio, ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth, ...
Blwyddyn Newydd a Dechrau o’r Newydd
RhagorBLWYDDYN NEWYDD A DECHRAU O’R NEWYDD
Enid R. MorganYn y ffilm Clock yr oedd yr actor John Cleese yn gwneud ei orau i gyrraedd rhyw gyfarfod pwysig a phob math o ddamweiniau’n ei rwystro. Mewn un man mae e’n gorwedd mewn ffos ac yn ebychu, “Gallaf ddod i ben ag anobaith. Gobaith sy’n annioddefol.” Mae’n ein hatgoffa’n fachog nad teimlad ydi gobaith ond rhinwedd. Mae’r ymadrodd wedi bod yn help i mi chwerthin mewn gwahanol sefyllfaoedd dros y blynyddoedd, ac mae’n hynod berthnasol i’r rheini sydd wedi parhau i feddwl y bydd Brexit yn gyflafan. Ond bydd yn digwydd am fod cyflafan y banciau yn 2008 wedi cael ...