Eli ar glwyfau ddoe

ELI AR GLWYFAU DDOE
Cofio Dresden wedi 75 mlynedd

Dresden heddiw
Bgabel at wikivoyage shared / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)

Gŵr ifanc 25 oed oedd Victor Gregg pan ddigwyddodd cyflafan Dresden. Flwyddyn yn gynharach, roedd newydd ymuno â 10fed Gatrawd y Parasiwtwyr pan gafodd ei ddal yn garcharor yn Arnhem yn 1944, a rhoddwyd dewis iddo: naill ai gwirfoddoli i fynd i wersyll gwaith neu gael ei gludo i un o’r gwersylloedd i garcharorion rhyfel. Penderfynodd yntau wirfoddoli, a chafodd ei gludo i gyrion Dresden lle bu’n ddiwyd yn ei ymdrechion i geisio dianc. Ond llawer mwy difrifol yn llygad yr awdurdodau oedd ei weithred yn cynnau tân mewn ffatri sebon lle roedd yn gweithio, ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth, a’i anfon i Dresden i wynebu ei gosb.

Roedd hynny ar 12 Chwefror 1945, a’r noson wedyn, ar Fawrth yr Ynyd, dechreuodd Llu Awyr Prydain ollwng bomiau ar y ddinas yn ddidrugaredd. Dros y deuddydd nesaf, lladdwyd 25,000 o ddinasyddion sifil – y mwyafrif llethol ohonyn nhw’n blant a henoed. Roedd hi’n lladdfa erchyll gyda’r dioddefwyr wedi eu dal yn y fflamau neu mewn gwres eiriasboeth o dan y rwbel, a’u sgrechiadau’n atseinio drwy’r adfeilion. Roedd pelen o dân yn gorchuddio’r ddinas, gan greu gwynt nerthol oedd yn sugno’r ocsigen o’r awyr. Gollyngwyd dros 3,500 tunnell o fomiau gan dros 1,000 o awyrennau, heb unrhyw ymdrech i osgoi’r ardaloedd lle roedd y bobl gyffredin yn byw, ac o ganlyniad cafodd 75,000 o gartrefi eu difetha a’u gwastatáu.

Eglwys Fair, Dresden (Frauenkirche) ar ôl y bomio
Bundesarchiv, Bild 183-60015-0002 / Giso Löwe / CC-BY-SA 3.0 / CC BY-SA 3.0 DE (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0/de/deed.en)

Treuliodd Victor Gregg y pum niwrnod nesaf yn cynorthwyo i achub bywydau, yn clirio’r meini a llusgo’r cyrff i’r wyneb, ond unwaith y tawelodd y panig a’r anhrefn, gwyddai ei fod yntau mewn perygl unwaith yn rhagor, a dihangodd tua’r dwyrain ymhell o afael y dienyddwyr.

Ers hynny, ac yntau bellach yn 100 oed, mae wedi bod yn llafar iawn am y digwyddiad. Cafodd ei gyf-weld sawl gwaith dros yr wythnosau diwethaf ar deledu, radio ac mewn print, wrth i’r byd gofio am drychineb Dresden, a’r un oedd ei neges ar bob achlysur. O fod yn llygad dyst i’r bomio dychrynllyd, mae’n gwrthod derbyn bod yna unrhyw reswm dros yr ymgyrch. “Welais i erioed y fath ddrygioni,” meddai. “Roedd y rhyfel ar ben i bob pwrpas, ac mae’r hyn a ddigwyddodd yn ninas Dresden yn achos o drosedd rhyfel. Hil-laddiad oedd yr ymgyrch, a dim llai. Fe ddylai Llywodraeth Prydain ymddiheuro am yr hyn wnaethon nhw.” Cyhoeddodd nifer o lyfrau ar y pwnc, a gwelodd yr olaf olau dydd y llynedd, dan y teitl “Dresden: A Survivor’s Story, February 1945” (e-lyfr Bloomsbury Publishing Plc 2019).

Roedd Victor Gregg yn filwr profiadol cyn digwyddiadau Dresden; ymunodd â’r fyddin yn 1937 a bu’n gwasanaethu yn India ac ym Mhalestina, cyn symud i’r Gatrawd Barasiwtwyr yn 1947. Hyd yma, bu’n ufuddhau i bob gorchymyn i ymosod, brwydro a lladd heb feddwl ddwywaith, a heb adael i unrhyw beth effeithio ar ei deimladau personol. Hyd yn oed yng nghanol uffern Arnhem, dyma ei argraffiadau: “For the next seven days the small fields and hedgerows of the battlefield became strewn with the dead and mangled bodies of British and German young men, all going to their final resting place in the belief that they were offering themselves up as a sacrifice for the good of mankind.”

Victor Gregg (rhannwyd ar drydar gan Dan Snow)

Ond fe newidiodd popeth ar ôl Dresden. Neilltuodd weddill ei fywyd i gyhoeddi mai gwallgofrwydd cwbl ofer yw pob rhyfel, ac ni all yn ei fyw faddau i’r rhai oedd yn gyfrifol am fomio Dresden: “I feel that the British people still have to face up to the satanic acts that were committed in their name. Above all else I wish to live to see a doctrine enforced by law that this nation will never again turn civilians into targets to create terror.”

Nid pawb fyddai’n cytuno â safbwynt Victor Gregg. Mae rhai a fyn ddadlau fod Dresden yn allweddol yn y cyfnod hwn wrth i filwyr yr Almaen gael eu symud yno er mwyn ailffurfio i wrthsefyll dyfodiad y Fyddin Goch.

Ganol Chwefror eleni, fel bob blwyddyn, cynhaliwyd gwasanaeth coffa yn y Frauenkirche, (Eglwys Fair) yn ninas Dresden. Un o’r gwahoddedigion oedd Christopher Cocksworth, Esgob Coventry, a’i bresenoldeb yn dyst i’r cyfeillgarwch a fu rhwng y ddwy ddinas dros y blynyddoedd.

War Office official photographer, Taylor (Mr) / Public domain

Cadeirlan Coventry yn fuan wedi’r bomio
Gan ffotograffydd swyddogol y Swyddfa Ryfel, Taylor (Mr) / Parth Cyhoeddus.

Mae rhai sylwebyddion yn argyhoeddedig mai cosbi’r Almaenwyr am y bomio a fu ar Coventry bum mlynedd ynghynt oedd y cyrch awyr yn yr Almaen yn 1947. Dechreuwyd ar y gwaith o ailadeiladu’r Frauenkirche pan unwyd yr Almaen yn 1994, ac mae’n draddodiad erbyn hyn i ffurfio cadwyn o bobl o’i chwmpas fel rhan o’r seremoni goffa, a phob un â’i gannwyll yn olau. Wrth annerch torf yn y Kulturpalast (Palas Diwylliant), rhybuddiodd yr Arlywydd Frank-Walter Steinmeier fod gwrth-Semitiaeth a hiliaeth ar gynnydd mewn rhannau o’r Almaen, gan gynnwys Dresden, a bod rhai carfanau â’u bryd ar ddefnyddio hanes y bomio i ennyn cydymdeimlad â’r adain dde eithafol. Roedd yn cyfeirio at y ffaith mai Dresden yw crud y mudiad eithafol PEGIDA (Patriotische Europäer gegen die Islamisierung des Abendlandes – Ewropeaid Gwladgarol yn erbyn Islameiddio’r Gorllewin), sy’n gwrthwynebu mewnfudo ac yn annog casineb yn erbyn Islam. Trefnwyd protestiadau gan un o’u harweinwyr, Bjoern Hoecke, sy’n dadlau bod yr Almaenwyr wedi dioddef llawn cymaint â’r Iddewon yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a bod Dresden yn brawf o hynny. Mae’r ffrae wedi creu rhwyg anferth yn rhengoedd y CDU, plaid y Canghellor Angela Merkel, yn enwedig felly yn nhalaith Thuringia. Croesawyd araith Steinmeier gan sylwebyddion ledled y byd fel geiriau hynod ddoeth mewn sefyllfa anodd, wrth iddo apelio am undod i amddiffyn democratiaeth yr Almaen.

Does dim dwywaith nad yw Dresden yn ddinas ranedig heddiw, gydag un garfan am ei gweld yn datblygu’n ddinas agored, oleuedig, sy’n croesawu amrywiaeth a goddefgarwch, tra bo’r garfan arall yn byw mewn ofn, yn drwgdybio pob mewnfudwr, boed hwnnw hyd yn oed yn Almaenwr o dalaith arall y tu allan i Sacsoni. Bu cynnydd sylweddol mewn troseddau ar sail hil, ac fe ddisgrifiwyd yr awyrgylch yn yr ardal gan sawl gwleidydd fel un llawn gwenwyn ac atgasedd.

Eglwys Fair, Dresden (Frauenkirche)
Netopyr / CC BY-SA (https://creativecommons.org/licenses/by-sa/3.0)

Pe bai’r rhai oedd yn mynychu’r digwyddiadau wedi codi eu golygon tua thŵr y Frauenkirche, fe fydden nhw wedi gweld y groes ar ben yr eglwys, oedd yn rhodd gan Eglwys Gadeiriol Coventry adeg yr ailadeiladu. Fe’i lluniwyd gan of arian oedd â’i dad wedi cymryd rhan yn y cyrch awyr.

Saif croes arall a ddaeth o ddinas Coventry y tu mewn i’r eglwys, sef y Groes o Hoelion a gyflwynwyd i’r Almaenwyr fel arwydd o faddeuant a chymod. Pan ddinistriwyd yr Eglwys

Y Groes o Hoelion yn y Frauenkirche
Gan Concord – [Own work, CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=12530044]

Gadeiriol yn 1940 roedd yr awdurdodau yn ninas Coventry mewn cyfyng gyngor mewn cyfyng gyngor beth i’w wneud. A ddylid ailgodi’r adeilad neu symud i rywle arall? Ond pharodd y pendroni ddim yn hir iawn. Ar ddydd Nadolig 1940 fe ddarlledwyd neges arbennig o adfeilion yr eglwys gan y Profost Richard Howard yn dweud y bydden nhw, trwy ras Duw, yn codi cadeirlan newydd ac y byddai’r hen adfeilion yn dod yn symbol o oddefgarwch a chymod. Hon fyddai Canolfan Cymod y Byd yn hybu brawdgarwch lle bynnag roedd gwrthdaro. Fe ddefnyddiwyd hoelion o styllen yn nho’r hen adeilad i greu croes – yr hyn a alwyd yn ‘Cross of Nails’, a heddiw mae Cymuned y Groes o Hoelion yn gweithredu ar y cyd gyda dros 230 o bartneriaid mewn tua 35 o wledydd ledled y byd, gweithio er mwyn gwell dealltwriaeth a chymod a chariad.

Bob dydd, bydd gweddi arbennig yn cael ei hadrodd yn y gadeirlan yn Coventry, sef litani a luniwyd gyntaf yn 1958. Mae’n arferiad hefyd i’r un weddi gael ei chyflwyno yn eu hieithoedd eu hunain gan y partneriaid ledled y byd, boed nhw’n eglwysi, yn elusennau neu’n gymdeithasau sy’n gweithio dros heddwch. O ystyried y datblygiadau diweddar yma yng ngwledydd Prydain, mae Gweddi Heddwch Coventry yr un mor berthnasol i ninnau yma yng Nghymru. Fel y dywedodd Deon y Gadeirlan, John Witcombe, mae heddwch a chymod yn berthnasol bob amser, ond mae rhwygiadau Brexit a’r cynnydd mewn eithafiaeth wedi peri i’r cysyniad fod yn fwy ingol nag erioed.

Adfeilion yr hen Gadeirlan yn ninas Coventry
Gan Andrew Walker (walker44), CC BY-SA 3.0, https://commons.wikimedia.org/w/index.php?curid=21283982

Arweinydd:     Rydym i gyd wedi syrthio’n fyr o ogoniant Duw.
Y casineb sy’n rhannu cenedl a chenedl, hil a hil, dosbarth a dosbarth,

Pawb:              O Dad, maddau i ni.

Arweinydd:     Yr awch sydd ynom i flysio a chwenychu’r hyn nad yw’n eiddo i ni.

Pawb:              O Dad, maddau i ni.

Arweinydd:     Y trachwant sy’n arwain at ecsbloetio llafur ac sy’n difetha’r ddaear.

Pawb:              O Dad, maddau i ni.

Arweinydd:     Ein heiddigedd o les a hapusrwydd eraill.

Pawb:              O Dad, maddau i ni.

 Arweinydd:     Ein difaterwch am gyflwr carcharorion sy’n cael cam, y digartref a’r ffoaduriaid.

 Pawb:              O Dad, maddau i ni.

 Arweinydd:     Y trachwant rhywiol sy’n diraddio cyrff dynion, menywod a phlant.

 Pawb:              O Dad, maddau i ni.

Arweinydd:     Y balchder sy’n peri inni ymddiried ynom ni ein hunain, ac nid yn Nuw.
Pawb:              O Dad, maddau i ni.

Arweinydd:     Boed i ni fod yn garedig tuag at ein gilydd, yn dyner ein calonnau, yn faddeugar fel y mae Duw yn maddau i ni.

 Pawb:              O Dad, maddau i ni. Amen