E-fwletin 16 Chwefror 2020

Un llyfr. Dau berson.

Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gwrando ar ddau berson yn y gwaith sydd weithiau’n trafod eu ffydd ag eraill.

Maen nhw’n aelodau o wahanol eglwysi yn yr un dref. Pan fo hi’n sộn am ei Beibl, mae’n gweld cymhelliad i gynnwys pobl; tra ei fod ef yn gweld cymhelliad i eithrio.

Mae hi bob amser yn sôn am gydraddoldeb; ond ei reddf ef yw rhagfarn. Mae hi’n gweithio i geisio lleddfu poenau pobl yn y byd hwn. Ond iddo ef y byd nesaf yw’r cyfan sydd i’w weld o bwys.

Yn ei hanfod, mae hi’n gweld ei Beibl fel cymhelliad i garu; tra mai’r hyn y caiff ef o’r un llyfr yw pechod a barn gyfiawn Duw.  

Un llyfr. Dau berson. Dau fyd-olwg gwahanol.

Mae hyn yn gwneud i mi bwslo mai’r hyn yw’r Beibl, mewn gwirionedd, yw drych; a bod yr hyn a welwn ynddo wrth ei ddarllen yn aml yn adlewyrchiad ohonom ni ein hunain.

Efallai mai dyna paham y dylem fod yn gweithio at fodelu ein ffydd ar Iesu – nid ar ddrych ohonom ni’n hunain. Un Iesu cyson sy’n rhedeg drwy’r cyfan. Neu fel arall, mae perygl ein bod ni’n gallu bod mor ddi-gariad a rhagfarnllyd fel y gall unrhyw beth fod yn bosib. Dyna sut mae arweinwyr eglwysig yn Affrica yn gallu galw am ddienyddio pobl hoyw; a Franklin Graham yn America yn gallu darlunio Donald Trump fel cennad dros Dduw.  

Felly, heddiw, beth am weithio ar gryfhau ein ffydd, nid wrth edrych yn y drych, ond gan edrych fwy i gyfeiriad Iesu, perffeithydd ein ffydd. Efallai mai dyna sut y gallwn dyfu i fod yn blant y Gwynfydau.

 

‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’: Cyfrol ‘unigryw’ o gerddi gan y Prifardd Aled Jones Williams.  Lansiad: Morlan, Aberystwyth, 6 Mawrth 2020.  51 o gerddi – yn llaw’r bardd – wedi eu rhwymo’n gain – rhediad cyfyngedig o gopïau ffacsimili – ar gael trwy’r post neu yn y lansiad.  Medrwch archebu copi ar y wefan drwy glicio YMA neu www.cristnogaeth21.cymru a mynd i’r adran Newyddion.