E-fwletin 9 Chwefror 2020

Goleuo

Fe ddaeth yn fis bach. Ac roedd synau’r casglwyr calennig – clatsh rhythmig eu sgidie wrth groesi’r beili, cynghanedd rhyfedd eu cyd-chwerthin ac undod unsain eu Blwyddyn Newydd Dda – yn dal i ganu yng nghlustiau’r cof. Yn dihuno seiadau di-synnwyr y lili-wen-fach. Yn rhagfynegi’r atgyfodiad oesol oedd eisoes yn stwrian dan donnau’r cymoedd a’r esgeiriau.

Yn cyd-stwrian â’r mynydd ei hunan roedd holl gelloedd byw-byw-byw corff a meddwl a dychymyg ei gyd-ymdeithwyr. Tra fod y fam ddaear yn huno roedd arall-olau tywyllwch yn llusern lachar er di-huno a chywain pobl y mynydd ynghyd. Yn y ffermdai. Yn y dafarn. Yn yr addoldy. Yn holl anheddau cymdogaeth y Cyd. I gyd-greu. I gydymaddysgu. I gyd. Yma. Ynghyd.

Nes mlaen, wedi i’r haul ad-ennill ei awydd a’i hyder i belydru’i wres i groth holl gelloedd byw-byw-byw y bobl hyn a’u daear, roedd cymanfaoedd mawr y ‘cynaeafu a’r cneifo’ yn eu disgwyl.

Dyna oedd eu disgwyl. Am mai dyna fu eu disgwyl.

Erioed. Erioed.

 

Ond y flwyddyn oedd 1940. Ac ‘yma’ oedd Epynt.

 

Diddymwyd pob disgwyl.

Datodwyd y clymau cymhleth-gyfoethog.

Diwreiddiwyd pob tyfiant dynol.

Dinistriwyd y celloedd byw.

Yn olaf, mewn ymgais i’w ddiffodd, bomiwyd yr haul.

 

Eleni – bedwar ugain o flynyddoedd yn ddiweddarach – dyma ‘Gofiwch’ arall i’w ychwanegu at fur ein colledion.

Ond pa werth catharsis lleiafrif?

Dim llawer. Oni wna’r lleiafrif hwnnw’n ymroi i godi wal newydd. Un i gynnal ffenestr Grist-oleuedig fyd-lydan a fydd yn pelydru sylw ar y lleiafrifoedd hynny sy’n byw yng nghysgod erchyll y PeiriannauClirioPawb/PopethO’rFfordd. Heddiw. Nawr.

Ac, yn amlach na pheidio (fel ym Myanmar, Madagasgar, Ynysoedd Chagos, Brazil a Chanada er enghraifft) yn ein henw ni.

 

‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’: Cyfrol ‘unigryw’ o gerddi gan y Prifardd Aled Jones Williams.  Lansiad: Morlan, Aberystwyth, 6 Mawrth 2020.  51 o gerddi – yn llaw’r bardd – wedi eu rhwymo’n gain – rhediad cyfyngedig o gopïau ffacsimili – ar gael trwy’r post neu yn y lansiad.  Medrwch archebu copi ar y wefan drwy glicio YMA neu www.cristnogaeth21.cymru a mynd i’r adran Newyddion.