ARAF ac AROS
Sylwadau a ddeilliodd wedi i weithwyr baentio’r arwydd ‘ARAF’ ar yr hewl ger capel cyn cyrraedd croesffordd lle’r oedd yna arwydd ‘AROS’.
Mae’n rhaid i bawb ohonom arafu, aros a gorffwys o bryd i’w gilydd. Dyna sy’n rhoi rhythm i’n bywydau. Pan yn effro byddwn yn weithgar ac yn gwneud pethau. Ond mae angen i ni arafu weithiau; ac mae angen cwsg ar y corff wrth i weithgarwch a bwrlwm y dydd ymdoddi i orffwysfa’r nos.
Wedi’r gorffwys daw toriad gwawr wrth i dywyllwch ildio i oleuni’r diwrnod newydd unwaith eto. Dyna sy’n digwydd yn ein bywydau dynol, yn union fel sy’n digwydd ym myd natur. Wedi arafwch yr hydref, daw gorffwys llwyr y gaeaf cyn bod y byd yn paratoi at dyfiant newydd a thwf y gwanwyn drachefn.
Er pwysiced curiad cyson a di-dor y galon i’n cadw ni’n fyw, yn ôl y meddygon, mae’n debyg bod y galon yn gorfod gorffwys ar ôl pob curiad. Mae’r ysgyfaint hefyd yn gorffwys rhwng pob anadliad. Mae rhythmau’r galon a’r ysgyfaint yn hanfodol i’n cadw’n fyw. Rydym am gyflawni rhywbeth drwy’r amser. Mae perygl i ni o beidio arafu ac o beidio â gorffwys ac o ganlyniad gallwn golli llawer.
Dwi’n cofio unwaith cymryd rhan mewn taith gerdded. Unwaith y dechreuodd pawb gerdded roeddwn gyda’r rhai blaen ac roeddwn yn benderfynol o sefyll yno – felly y bu trwy gydol y daith. A dyna deimlad braf oedd cyrraedd diwedd y daith gydag un arall oedd yn mynnu bod gyda’r cyntaf i orffen.
O dipyn i beth daeth gweddill y cerddwyr i’n dilyn. O’u clywed yn siarad am eu profiadau ar y daith, y sgyrsiau cyfeillgar, a’u sylwadau am y golygfeydd a rhyfeddodau byd natur, diflannodd y teimlad braf o gyrraedd ar y blaen i bawb. Mor ffôl roeddwn wedi bod wrth beidio arafu a chymryd amser i sylwi ar yr hyn a welodd eraill. Mae arafu yn golygu llawer mwy na dim ond gweld – mae’n golygu sylwi.
Wrth i ni gael ein llethu gan bwysau pryderon a gofalon ac wrth i ni ymrwymo’n hunain i ormod o weithgarwch heb amser i orffwys, gall ein hymrwymiadau fod yn orthrwm. Tybed ai cyd-ddigwyddiad yw hi fod y gair Tsieineaidd am brysurdeb yn cynnwys y symbolau am galon a lladd?
Pan nad oes amser i orffwys ein tuedd yw cymryd pob dim yn ganiataol – pethau, pobl a gwybodaeth. Nid oes gennym amser i fwynhau pethau syml bywyd nac i ofalu yn ddigonol am ein hunain, ein hanwyliaid nac eraill.
Wrth neilltuo amser i wrando, byddwn yn cofio o ble yr ydym wedi hanu. A gall ystyried y gwerthoedd sy’n sail i’n bywydau ein harafu. Mae dod i wasanaeth crefyddol yn torri ar rythm yr wythnos a chynnig amser i orffwyso. Bydded i ni ganiatáu amser i’n hunan i arafu a gorffwyso rhag prysurdeb a byddardod holl fynd-a-dod bywyd.
Fel y gwelwn ym myd natur, oni fyddai’n gwneud lles i ni hefyd adael rhai dogmâu, credoau ag athrawiaethu yn llonydd yn eu gaeafgwsg a chaniatáu i’n hunan symud ymlaen at dyfiant newydd?
‘Cerddaf o’r Hen Fapiau’: Cyfrol ‘unigryw’ o gerddi gan y Prifardd Aled Jones Williams. Lansiad: Morlan, Aberystwyth, 6 Mawrth 2020. 51 o gerddi – yn llaw’r bardd – wedi eu rhwymo’n gain – rhediad cyfyngedig o gopïau ffacsimili – ar gael trwy’r post neu yn y lansiad. Medrwch archebu copi ar y wefan drwy glicio YMA neu www.cristnogaeth21.cymru a mynd i’r adran Newyddion.