Cerddaf o’r hen fapiau

Cerddaf o’r Hen Fapiau

Cyfrol ‘unigryw’ o gerddi gan y Prifardd Aled Jones Williams.
Lansiad: Morlan, Aberystwyth, 6 Mawrth 2020, gyda Cynog Dafis, Emyr Llewelyn, Manon
Steffan Ros a Gwerfyl Pierce Jones.
51 o gerddi – yn llaw’r bardd – wedi eu rhwymo’n gain – rhediad cyfyngedig o
gopïau ffacsimili – ar gael trwy’r post neu yn y lansiad

Mae’r gair unigryw yn cael ei orddefnyddio’n ddifrifol.
Gyda gofal felly, y mae’n bleser cyhoeddi digwyddiad cyhoeddi pwysig ac yn wir, unigryw.
O ran ffurf a chynnwys mae cyhoeddi cyfrol ddiweddaraf y Prifardd Aled Jones Williams o gerddi – Cerddaf o’r Hen Fapiau – yn ddigwyddiad unigryw.
Dros y misoedd diwethaf derbyniodd nifer o gyfeillion y bardd gopi o Cerddaf o’r Hen Fapiau yn rhodd.
Roedd pob un yn unigryw, pob un yn gopi llawysgrif o gyfrol o tua 50 o gerddi (nid o anghenraid yr un rhai bob tro) wedi eu hysgrifennu yn ei law ei hun a’u rhwymo’n gain gan Susan Williams. Does dim dwy ohonynt yn union yr un fath.
Mae’r cerddi i gyd yn fyfyrdodau ar ‘dduw’ (nid Duw sylwer) ac am yr ymchwil parhaus am y peth hwnnw.
Bellach mae Aled wedi cytuno i gyhoeddi rhediad cyfyngedig o’r gyfrol. Er hynny, nid cyfrolau printiedig cyffredin fydd y rhain ond copïau ffacsimili o un o’r cyfrolau gwreiddiol hynny.
Bydd lansiad y gyfrol yng Nghanolfan y Morlan, Aberystwyth, yng nghwmni’r bardd, a’i gyfeillion Cynog Dafis ac Emyr Llewelyn, a’r awdur a’r gantores Manon Steffan Ros, a’r noson wedi ei chadeirio gan Gwerfyl Pierce Jones.
Bydd y gyfrol ar gael ar y noson neu drwy’r post, ond, rhag cael eich siomi, bydd modd rhag-archebu yn ogystal. Fydd y gyfrol ddim ar gael yn y siopau’n gyffredinol, felly gwnewch yn siŵr o’ch copi.

Ar sawl cyfri mae hon yn gyfrol nodedig.
Aled Jones Williams yw un o’r prifeirdd cyfoes mwyaf cyffrous. Mae cyhoeddi unrhyw gyfrol o’i waith yn anorfod yn ddigwyddiad o bwys sy’n siŵr o brocio trafodaeth. Dyw hon ddim yn eithriad.
Mae’n un o feddylwyr crefyddol mwyaf gwreiddiol a beiddgar y Gymraeg ac mae hon yn gyfrol sydd nid yn unig yn crisialu ei ymchwil ei hun am y ‘duw’ hwnnw sy mor anodd ei amgyffred ond hefyd yn fyfyrdodau ac yn ganllawiau cyfoethog i eraill wneud yr un modd.

Yn llyfryddol, mae hwn yn ddigwyddiad cyhoeddi unigryw i’r Gymru gyfoes – bod bardd yn dewis cyhoeddi cyfrol newydd fel ffacsimili o lawysgrif.
Yn gelfyddydol, go brin bod digwyddiad tebyg wedi bod, lle mae bardd wedi cynhyrchu cyfrol o gerddi mewn llawysgrif yn anrheg i’w gyfeillion; bod pob un o’r rheiny wedi ei rhwymo’n gain gan ei gymar a bod un wedyn wedi ei dewis i’w hatgynhyrchu’n rhediad cyfyng mewn ffacsimili i’w gwerthu.
Dylai hon fod yn llyfrgell pob casglwr.

Meddai Cynog Dafis:
“Rwyf wedi darllen y cerddi yma drosodd a throsodd. Dwyf i ddim wedi gwneud y fath beth ers i fi fod yn astudio ac yn dysgu barddoniaeth ers lawer, llawer dydd. Go brin mod i wedi darllen hyd yn oed bryd hynny fel rwyf wedi gwneud y tro yma. Mae’r cerddi yma yn gain, yn gywrain, yn brydferth, yn ddiwastraff, yn ddi-falu-awyr, yn ddwysfyfyriol, yn synhwyrus, a hefyd yn graff-sylwgar, yn glyfar, yn ddyfeisgar. Maen nhw’n farddoniaeth ddiledryw.”

Meddai Aled Jones Williams, yn ei ragymadrodd i’r copïau a gyflwynwyd i’w gyfeillion:
“Go brin y gwêl y cerddi hyn olau ddydd heblaw yn y diwyg y cyflwynaf hwy i chwi yn y llyfryn bychan hwn.
Nid yw’r pwnc, na’r dull o’i fynegi, yn mynd i apelio at lawer yn y Gymru Gymraeg sydd ohoni. Nid beirniadaeth o unrhyw fath mo hyn. Ffaith ydyw.
Nid geiriau i ddisgrifio unrhyw beth sydd yma, ond geiriau sy’n symud o’r ffordd er mwyn creu lle. Y lle a grëir sydd oruchaf, nid yr hyn a ddywedir. Geiriau sy’n absenoli eu hunain ydynt.”

Gallwch lawrlwytho ffurflen archebu yma.

Am ragor o wybodaeth, cysyllter â:
Rocet Arwel Jones: rocetarwel@yahoo.com (07527198861)
Cynog Dafis: cdafis@me.com (07977093110)