E-fwletin 26 Ionawr, 2020

Mae deugain mlynedd ers y digwyddiad. Bryd hynny golygai Pererindod sasiynol aros dwy noson ar aelwyd – hynny cyn bod sôn am glwydo ar gampws prifysgol  na llety teithiwr.  Wedi pryd bwyd y noson gyntaf ac er mwyn cynnal sgwrs meddai’r gwesteiwr, “Wel, beth oedd dan sylw heddiw ’te?”  A chan feddwl y byddai Materion Cymdeithasol at ei ddant a ninnau mewn ardal ddiwydiannol yn Ne Cymru, dyna fentro rhannu rhai o’r pynciau a’r trafod fu arnyn nhw. Ond daeth taran o ymateb, “Pam ydach chi’n boddran efo’r byd hwn? Sdim gobaith i hwn, mae’n brysur ddarfod.  Rhowch eich bryd ar baratoi at y nesa”.  

Tipyn o sioc o gredu mai ‘felly y carodd Duw y  byd fel y rhoddodd…’ neu’r neges  am Dduw yn ‘cymodi’r byd ag Ef ei hun’.  Dichon y byddai eistedd yn gyfforddus wrth deledu a gweld tanau Awstralia a chwestiwn diogelu’r amgylchedd, neu ddioddefaint oherwydd ryfeloedd y Dwyrain Canol yn ategu’r gred honno, o bosib yn ennyn diddordeb apocalyptaidd eraill i’w derbyn. Onid oes synnwyr ynddi?   Anodd dygymod ag erchylltra canlyniadau cynhesu byd a’r rhagolygon o fynd heibio pwynt tyngedfennol y cynhesu.  Ni allwn oddef meddwl am bopty o fyd yn rhostio neu’n boddi plant ein plant.  Hawdd felly fyddai dehongli’r sefyllfa fregus a bygythiol hon fel dadfeiliad a diwedd planed.  Trueni, hefyd, dros bobl ac anifeiliaid de ddwyrain Awstralia, neu ddioddefaint ac anobaith plant a ieuenctid Syria neu fabanod a’u mamau yn y Swdan. Yr unig ddewis yw hwnnw rhwng anobaith llwyr neu forol am y byd a ddaw. ‘Gwneud popeth o’r newydd y mae O’  fel y crochenydd efo’i glai a dysgwn ganu’n hyderus-gyfforddus am ‘pan êl y byd ar dân.’

Ond onid yw geirfa’r ffydd yn pwyntio at ffordd arall, o bosib mwy Beiblaidd, o ddehongli’r sefyllfa? Dyna’r gair ‘edifeirwch’ sef y gallu i ddirnad bod rhaid newid  holl osgo a chyfeiriad bywyd,  ei ystyr, ei bwrpas  a’i werthoedd.  Nid disail y stori  i Gristnogaeth hybu’r meddylfryd o gynnydd cyfalafol drwy’r gorchymyn i ‘ddarostwng y ddaear’ ac ‘arglwyddiaethu’ arni. Cysylltir hi a chyfalafiaeth ac a thrwydded i reibio’r  greadigaeth a chwalu’r undod anorfod rhwng dyn a’i amgylchedd. Ymgyfoethogodd rhai yn enwedig yn y Gorllewin gan fanipiwleiddio eraill, a’u gormesu yn enw cynnydd a chreithiwyd y greadigaeth, ein hamgylchedd, nes bron a bod y tu hwnt i adferiad.  Yn wahanol i Robert Williams Parry ni allwn ffoi oddi wrth ‘hacrwch cynnydd.’ Onid yw Gwenallt yn nes ati wrth sôn ‘mor llwm yw’r enaid’ wedi diosg parchusrwydd, a gwybodaeth, diwylliant a dysg. ‘Mae’r llaid cyntefig yn ein deunydd tlawd/Llysnafedd bwystfil yn ein mêr a’n gwaed…’

Ai dyna a welwn yn y fflamau uffernaidd, yng nghri’r plant a’r ifanc, yr ofn a’r gofid am y dyfodol? Ond cam cwbwl bositif yw edifeirwch gan ei fod yn hawlio troi a chanfod y ffordd newydd. Caru hunan-aberthol, cyfannu, cyd-berthyn, cymod a chydlawenhau.

‘Y blaidd a drig gyda’r oen, y llewpard a orwedd gyda’r myn a…’

Her i bob copa walltog ohonom, credu neu beidio!