E-fwletin 19 Ionawr, 2020

                                                         Bwledyn

Hyderaf y bydd rhywrai ohonoch wedi eich cynddeiriogi o weld y pennawd hwn i’r Bwletin. Oherwydd dyna un o’r blinderau bach sy’n fy mhoeni y dyddiau hyn. Anodd cerdded heibio stondin papurau newyddion mewn siop heb ichi sylwi ar yr arfer syrffedus o greu gair mwys ar gyfer pennawd. Gyda’r papurau tabloid ymddengys ei bod hi’n orfodol bob dydd i gael rhyw strôc geiriol ar ben y prif eitem. Erbyn hyn “y mae pun ym mhob pennawd”. A byddaf yn meddwl weithiau ei bod hi’n gystadleuaeth rhyngddynt i ddyfeisio’r pennawd clyfraf.

Efallai fod rhai eraill ohonoch yn wfftio mod i’n gorymateb. Ond fy mhryder i yw fod hyn eto’n arwydd o’r agwedd sydd gennym bellach at hanes. Gêm yw rhyfel. Hap chwarae yw newid hinsawdd. A chwaeth y werin oedd yn pennu yr wythnos diwethaf fod clonc am y teulu brenhinol yn bwysicach na thynged pentrefi yng nghysgod llosgfynydd.

Gellid dadlau fod yr agwedd ysgafn yma yn fendith, fel cyffur i dynnu’n sylw oddi ar dynged trallodus ein byd. Ond mwy iach o lawer i mi yw agwedd rhai fel Antje Jackelén o Eglwys Sweden, sy’n gweld fod y trallodion dychrynllyd cyfoes yn peri inni chwilio am obaith. Ac fel y mae Jürgen Moltmann wedi dadlau yn ddi-ildio o gyson, rhaid inni weld fel y gall cyd-ddyheu mewn gobaith gwir ecwmenaidd symbylu gweithgaredd ymarferol. Dyfynnodd hanesyn gan gyfaill o Dde Affrica. “Pryd bynnag y byddai ar fy nhad angen can byddai’n torri coeden ar ei gyfer. Eithr cyn ei thorri byddai’n gofyn am faddeuant gan ysbryd y goeden. Yna daeth cenhadwr heibio a dweud mai eilunaddoliaeth oedd hyn: goresgynnwch y ddaear a thorrwch y goeden meddai hwnnw. Ond bellach bydd amgylcheddwyr yn dweud mai fy nhad oedd yn iawn: Y mae’r coed yn rhan o fywyd y ddaear, a rhaid gofyn i’r ddaear am faddeuant a phlannu coeden newydd yn ei lle.”

Gallaf ddychmygu dosbarth y dynion yn hen eglwys fy magwraeth yn trafod yr hanesyn hwn gyda blas, a byddai Enoch Dafis, a oedd â’i draed o hyd ar y ddaear ym mhob dadl, yn siŵr o ofyn pam llusgo’r ysbryd i mewn: fe ddylai rheswm ddysgu iddo fod yn ddarbodus a pheidio torri gormod o goed. Ond petai Moltmann yn athro ar y dosbarth byddai hwnnw’n ateb: y mae Nirfana crefyddau Bwda, a Duw crefyddau’r byd, gwaetha’r modd, yn gweld y byd yn rhy ddaearol ac wedi cadw’u llygaid yn ormodol ar fyd tragwyddol y tu hwnt. “Y maent wedi cynnig cysur yn nieithrwch y byd hwn, ond troesant y byd hwn yn ddieithryn. Y maent wedi cynnig paradwys mewn byd arall drwy ymwrthod â’r byd hwn.” Ac felly, i’r gwrthwyneb i’r agwedd hon, byddai’r weddi am faddeuant yn creu perthynas rhwng dyn a’r greadigaeth.

Daeth yn hen bryd inni bellach gofleidio’r ddaear, yn wir, caru’r ddaear, gan weld y ddynoliaeth yn rhan ohoni. Nid gweld y ddynoliaeth fel arglwydd ar y bydysawd ond cydnabod ei thasg drwy fod yn gyfrifol amdani. Ni all crefydd sydd heb gyfrifoldebau na gofynion gynnig cysur.