E-fwletin 12 Ionawr 2020

DUW – EIN MAM

Ers blynyddoedd maith mae Cristnogion ffeministaidd wedi cydnabod y gallwch ddefnyddio llawer o enwau am Dduw mewn addoliad: yr unig enw sy’n amhosibl ei ddefnyddio tu allan i gylchoedd ffeministaidd yw “Ein Mam,”(neu cyfeirio at Dduw fel ‘Hi’)  gan y  bydd eraill yn anesmwytho.

Gallwn olrhain yr anhawster i benodau cyntaf Genesis, “Creodd Duw ddyn ar ei ddelw ei hun.”  Mae ystyr y gair  “dyn”  yn newid o ‘unigolyn’ i ‘wryw’ yn ôl y cyd-destun. Dysgwyd yr eglwys am ganrifoedd fod gwryw wedi ei greu gyntaf a’i wraig wedyn, ac “Ef” yw pinacl y greadigaeth. Gan fod ‘dyn’ (gwryw) wedi ei greu ar ddelw Duw, honnwyd gan yr eglwys fod Duw hefyd yn ‘wryw’ Copi amherffaith o’r gwryw oedd y fenyw, heb fod ar ddelw Duw, ac felly yn israddol i’r gwryw ac o dan ei awdurdod. Nid yw’r dehongliad hwn wedi diflannu o rhai rhannau o’r eglwys.

Galwodd Iesu Duw yn “Abba.”  A oedd yn bwriadu dweud mai’r  gair Tad, neu Abba, yw unig enw addas ar Dduw, neu a ydoedd yn ceisio arwain pobl i deimlo agosrwydd Duw? Os mai’r ail sy’n gywir, onid yw mynnu galw Duw yn Dad yn rhwystro’r agosatrwydd hwnnw, yn enwedig pan mae’n cael ei ddefnyddio i ormesu menywod sydd wedi dioddef trais  gwrywod? (Ac mae rhai ohonom mewn eglwysi Gymraeg.)

Mae’r defnydd mynych o’r geiriau Tad,  Arglwydd, Barnwr, neu Frenin sy’n cyfleu grym gwrywaidd wedi cau menywod allan o ran lawn ym mywyd yr eglwys ac yn rhagfarnu yn erbyn delweddau benywaidd o Dduw.

Mae’n amhriodol uniaethu Duw gyda gwrywdod. Os ydym yn derbyn fod gwryw a benyw wedi eu creu ar ddelw ac ar lun Duw, mae’n dilyn yn gwbl naturiol ei bod yr un mor briodol i ddarlunio Duw fel menyw: Ein Mam, Duw sy’n esgor, bydwraig, mam eryr, pobyddes, gwraig a gollodd ddarn o arian, cyfeilles; Duw sy’n cysuro ac yn ymgeleddu; Duw Sara a Hagar yn ogystal â Duw Abraham.

Cymharodd Iesu ei hun, ymhlith amrywiaeth o cymariaethau eraill, i iâr yn casglu cywion o dan ei hadenydd. Weithiau cyfeirir at yr Ysbryd fel person benywaidd. Mae “ruach” [gair benywaidd sy’n golygu ysbryd] “yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd.” (Gen.1.2). Sonnir hefyd  am Soffia, doethineb Duw yn y Diarhebion fel menyw yn y NRSV.

Mae’r Beibl, er gwaetha ei batriarchaeth, yn llawn o wahanol ddelweddau o Dduw ond mae’n bosibl mynd trwy oedfa mewn capel heb clywed unrhyw gyfeiriad at Dduw heblaw fel “tad” neu fel “arglwydd”,  sydd yn creu’r argraff nad yw’r  Duw yr ydym yn ei addoli yn y capel mor agos a’r Duw sy’n bresennol pan yn gweddïo gartref.

Mae unrhyw iaith, unrhyw eirfa, sy’n ceisio darlunio Duw, yn annigonol. Dylai’r ffaith hon ein ysgogi  i ddefnyddio geirfa mor eang a phosibl wrth gyfeirio ati Hi.  Yn bennaf mae’n amser i ni gydnabod fod dweud ein “Ein Mam” yr un mor ddilys ag unrhyw eiriau eraill wrth i ni geisio agosáu at Dduw.