Blwyddyn Newydd a Dechrau o’r Newydd

BLWYDDYN NEWYDD A DECHRAU O’R NEWYDD
Enid R. Morgan

 Yn y ffilm Clock yr oedd yr actor John Cleese yn gwneud ei orau i gyrraedd rhyw gyfarfod pwysig a phob math o ddamweiniau’n ei rwystro. Mewn un man mae e’n gorwedd mewn ffos ac yn ebychu, “Gallaf ddod i ben ag anobaith. Gobaith sy’n annioddefol.” Mae’n ein hatgoffa’n fachog nad teimlad ydi gobaith ond rhinwedd. Mae’r ymadrodd wedi bod yn help i mi chwerthin mewn gwahanol sefyllfaoedd dros y blynyddoedd, ac mae’n hynod berthnasol i’r rheini sydd wedi parhau i feddwl y bydd Brexit yn gyflafan. Ond bydd yn digwydd am fod cyflafan y banciau yn 2008 wedi cael ei chladdu’n gyflym a’r canlyniadau ariannol wedi cael eu priodoli i’r Undeb Ewropeaidd. Bydd Brexit yn digwydd a chyda llawer o newidiadau eraill, heb sôn am gyflafan yr amgylchfyd a’r anawsterau mawr a ddaw yn sgil hwnnw, mae’r cwestiwn sylfaenol yn debyg i “Beth ddaw ohonom ni?”

Dyma’r syniadau oedd yn pwyso arna i wrth baratoi pregeth ar gyfer Sul ola’r Adfent ac fel Anglican ufudd yn dechrau o’r Efengyl osodedig ar gyfer y Sul yn y llithiadur. Diau bod amryw o bobl C21 yn tybio mai mater arbenigol iawn yw’r llithiadur ac nad ydyw o ddiddordeb nac o bwys i ddarllenwyr Agora. Ond rhinwedd y lithiadur yw ei fod yn eich gorfodi i dalu sylw i ddarnau ysgrythurol nad ydych wedi gweithio arnyn nhw o’r blaen.

Felly, heb fanylu mwy nag sydd raid, y mae’r Llithiadur Diwygiedig Cyffredin yn dilyn trefn tair blynedd gan ddechrau gyda Mathew, wedyn Marc ac wedyn Luc, gan dafellu Efengyl Ioan ym mhob blwyddyn. Y mae’r ysgolheigion yn mynnu bod hyn yn dychwelyd at batrwm darlleniadau’r Eglwys Fore wrth i’r ‘Testament Newydd’ ymffurfio mewn gwahanol gymunedau.

Eleni felly dyma ni’n dychwelyd at Efengyl Matthew. Mae edrych ar y darlleniadau perthnasol i’r ymgnawdoliad ym Mathew a Luc yn hynod ddiddorol oherwydd y mae hi’n glir bod Mathew yn ysgrifennu stori sy’n mynd i fod yn berthnasol i’r Iddewon hynny oedd wedi eu gwasgaru o Jerwsalem ar ôl i Vespasian a’u filwyr lwyr ddileu’r Deml. Yr oedd llawer o’r Iddewon wedi ffoi i Antioch a phawb ohonynt wedi dychryn, wedi eu harswydo ac yn dyfalu beth ar y ddaear allai ddigwydd nawr bod ffocws a chanolbwynt crefydd a hunaniaeth y genedl wedi eu dinistrio. Yr oedd eu byd wedi dod i ben.

Yn nehongliad Alexander John Shaia yn ei gyfrol Heart and Mind, mae Efengyl Mathew wedi ei llunio i ateb y cwestiwn ‘Sut ddylen ni fyw yn wyneb y dinistr sydd wedi digwydd?’ Wrth gwrs, yr oedd cyflafan yr Iddewon yn llawer mwy dwys na’n hargyfwng presennol ni, ond yr un yw’r broblem. Sut mae dygymod, wynebu newid pan mae cymdeithas fel petai’n dymchwel o’ch cwmpas?

All yr efengyl hon yn arbennig fod o help i ni?

Y drafferth gyda setiau preseb y Nadolig, dramâu Nadolig, a’r carolau Nadolig hyd yn oed, yw eu bod yn cywasgu’r straeon yn un ac fe gawn rhyw datws stwnsh o stori gyda’r bugeiliaid, yr angylion, y doethion, y defaid a’r ychen i gyd yn cael eu casglu ynghyd, ac eglurder a pherthnasedd yr Efengylau unigol mewn perygl o fynd ar goll.

Joseff yw prif gymeriad stori’r Nadolig yn Efengyl Mathew – Joseff, gŵr Mair, sy fel petai’n cynrychioli’r gymuned Iddewig. Y mae’n ŵr cyfiawn, yn credu ym mhwysigrwydd y ddeddf, yn y traddodiadau a’r ‘pethau’ gorau yn hanes ei genedl. Y mae dechrau’r bennod yn swnio fel ach deuluol ac fe fyddai’r enwau wedi bod yn ddealladwy ac yn llawn swyn a chyfaredd i’r Iddewon yn Antioch oedd yn gyfarwydd â’u hanes. Ond oherwydd ein hanwybodaeth o’r Hen Destament maen nhw bron yn annealladwy i gynulleidfa heddiw, ac anaml iawn y mae’r geiriau’n cael eu darllen oherwydd hynny.

Nid chwilio achau drwy dystysgrifau nac oherwydd genedau teuluol sydd yma ond hanes ffydd, perthynas y genedl â Duw, y ffyddloniaid a’r anffyddloniaid, yr ufudd a’r anufudd, y da a’r drwg. Y mae’r stori’n dod i’w huchafbwynt yn stori Iesu, uchafbwynt sy’n gychwyn newydd. Cafodd Joseff weledigaeth newydd o ‘ewyllys Duw’. Pe bai Joseff wedi dilyn y ddeddf, fe ddylai fod gadael i Fair gael ei llabyddio. Yr oedd yn ddigon o ddyn i ymwrthod â’i chosbi, ond ei fwriad oedd gadael iddi wynebu sgandal a chywilydd ar ei phen ei hun. Dyna’r gorau y gellid yn rhesymol ddisgwyl i ddyn ‘cyfiawn’ ei wneud. Ond y mae’r negesydd yn ei brocio i fod yn ddyn sy’n gallu mentro dehongli drosto’i hun, i fod yn hael, i weld y potensial mewn baban a’r angen i anwylo ac amddiffyn bywyd ei fam.

Y mae Joseff (fel Iddewon Antioch) yn wynebu newid aruthrol yn ei fywyd ac yn mentro ar daith o ymddiried yn Nuw, beth bynnag ddaw, am ei fod wedi mentro’i farn ei hun, a gweithredu’n gariadus wrth wrthod llymder y ddeddf. Mae e’n gwneud hynny ar sail yr addewid bod Duw yn Emaniwel, ar ei ochr ef, ar ochr Mair, ar ochr y plentyn. Y mae’n golygu ymddiried i’r dyfodol gydag argyhoeddiad mai cariad a gwerthfawrogi bywyd yw ffordd Duw. Dyna ystyr y stori i bobl wedi drysu ac wedi dychryn a’u byd yn dymchwel o’u cwmpas. Tu hwnt i ddeddfau, tu hwnt i arfer da, tu hwnt i ysyriaeth pentref, tu hwnt i’r rhesymol.

Wrth gwrs, yn Luc mae’r stori i gyd am Fair a’r digwyddiadau’n dra gwahanol. Ond y peth godidog yw mai’r un yw’r ystyr! Ymateb Mair i’r angel lefarodd wrthi hi oedd: “Bydded i mi yn ôl dy air di” – mynegiad clasurol o ymddiriedaeth syml yn Nuw.

Mae darllen Efengyl Mathew o’r safbwynt hwn, neu drwy’r sbectol hon, yn rhywbeth all ein cynnal ni yn y blynyddoedd sy’n dod. Mae hi’n efengyl dechrau’r daith o’r newydd, ac erbyn 2023 byddwn ninnau wedi dysgu gwersi newydd, annymunol ac anodd yng nghwmni’r efengylau eraill. Dydi hyn ddim yn golygu bod yn oddefol, ond gweithredu fel unigolion a chymunedau mewn ffordd greadigol, trwy fod yn bobl sy’n ymddiried yn Nuw, i amddiffyn y gorau y gwyddom amdano, ac i ofalu am ein gilydd ac i amddiffyn y cread. Oherwydd, heb wneud y pethau hynny, gall etholiadau cyffredinol fod yn bethau pitw.

A dyma stori o ddoethineb gwerin i godi gwên.

Mewn dosbarth derbyn plant bach yn Sir Fôn, clywodd yr athrawes sgwrs rhwng geneth a bachgen pedair oed. Yr oedd y bachgen newydd gael ail frawd bach ac fe gyhoeddodd yn hyderus: “Pan fydda i’n fawr, fe fydda i’n cael tair merch!”

“Hwff!” atebodd y ferch. “Wyddost ti ddim bod rhaid i ti gym’yd be ddaw.”