E-fwletin 5 Ionawr, 2020

Ar ddechrau blwyddyn cofiwch… chwerthin.

Fe soniodd awdur e-fwletin olaf 2019 am ‘bregethwr yn cyflwyno neges ddwys yn gwisgo siwmper Rwdolff neu sannau jingle bells.’ Mae hynny’n beth cyffredin: addoli ysgafn joli ho-ho plant, a chyn i Rwdolff dynnu ei siwmper Nadolig, gwneud yn siŵr fod y plant (eto fyth) yn gwybod a chredu fod yn rhaid edifarhau am eu pechodau oherwydd  bod Crist wedi marw trostynt. Dwys iawn – mater o fywyd a marwolaeth!

Ond, ar ddechrau 2020, dyma neges arall i bawb a fu’n dathlu’r Nadolig, a chael eu denu, dros dro, i ryfeddod, lliw, dychymyg a chyfoeth addoli: mae Duw am i ni rannu llawenydd  a bendithion ei gariad  a pheidio cymryd ein hunain yn or-ddifrifol. Mae byd o wahaniaeth rhwng cymryd Duw o ddifrif, a chymryd ein hunain o ddifrif. Dathlu Duw yw’r naill, bod yn grefyddol iawn ydi’r llall.  Mae Marcus Borg wedi sôn amdano’i hun  yn siarad gyda myfyrwyr mewn awyrgylch anffurfiol, ond roedd yno un myfyriwr dwys, ceidwadol efengylaidd. Fel roedd y gymdeithas yn ymlacio a llawer o hwyl yn trafod ‘cred y Cristion’  roedd y myfyriwr hwnnw yn cochi , yn aflonyddu ac yn llawn tyndra. Yna, diflannodd yn ei ‘gynddaredd ysbrydol.’

Anrheg Blwyddyn Newydd ardderchog i Gristnogion o bob lliw a llun, barn a rhagfarn, fyddai  cyfrol Nick Page, A Nearly Infallible History of Christianity (Hodder & Staughton  2013) Yr is-deitl gan yr awdur yw “A history of 2000 years of saints, sinners, idiots and divinely inspiried trouble makers”.  Mae sibrydion ar led fod Cytûn am gyfieithu’r gyfrol i Gymraeg eciwmenaidd, ond bod yr Anglicaniaid a’r Annibynwyr am baratoi eu cyfieithiad eu hunain er mwyn gwarchod eu traddodiad. Mae prolog byr y gyfrol yn cyfeirio  at Cresibius, Groegwr (300 cyn Crist) yn dyfeisio rhywbeth tebyg i res o beipiau, a math o focs pren a llafnau cyllyll yn dod trwyddo – math o offer poenydio, neu arf rhyfel efallai? Ond Cresibius oedd dyfeisiwr yr organ!

Mae cyflwyniad byr i bob pennod. Ar ddechrau Pennod 2 cawn restr o eiriau sydd ddim yn y Beibl: penyd, trindod, eglwys, Nadolig, uniongred, Cristnogaeth (a llawer mwy). Nid yw hyn  yn golygu fod y geiriau hyn yn annerbyniol, ond mae’n golygu eu bod, ar un amser, yn eiriau newydd. Yna, ar ddechrau Pennod 7, ‘heretic’ yw un gair oedd yn anghywir ar y pryd. Mae bron pob meddyliwr Cristnogol wedi cael ei alw’n heretic gan rywun, fel Iesu ei hun. Yna, Pennod 12: does dim yn newydd – mae Cristnogaeth ar fordaith oesol o ddarganfyddiadau. Ond, yn allweddol, ym Mhennod 1:  busnes canolog Cristnogaeth yw Atgyfodiad. Mae bywyd wedi marwolaeth ac y mae gobaith yn oesol. O ystyried rhai o’r mannau y byddwn yn ymweld â hwy ar ein taith trwy hanes, mae’n werth dal gafael ar y ffaith hon.

O ddarllen y fath gyfrol hwyliog a ffraeth, ond gwybodus a threiddgar, fe gaiff Cristnogion Cymru (a thrwy’r byd) o bob gradd ac anwybodaeth,  dehongliad a thraddodiad, fodd i weld y Duw ‘a chwardd’  Salm 2.4) wrth ein gweld –  Cristnogion, eglwysi, cenhedloedd – fel ‘mân lwch y cloriannau’ (Eseia 40:15 ) ar ddechrau 2020.