E-fwletin Olaf 2019

Diwedd blwyddyn a diwedd degawd. Felly bu’r cyfryngau yn bwrw trem yn ôl. Mae’n arwyddocaol mai prin oedd yr ymgais i fwrw trem ymlaen – ag eithrio rhaglen wych Radio 4, Correspondents Look Ahead (https://www.bbc.co.uk/programmes/m000cn1t).

Fe aeth edrych ymlaen yn dipyn o fwgan i lawer. Bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn rhywbeth i’w ofni yn hytrach na’i ddathlu i 71% o Gymry Cymraeg, yn ôl ymchwil yr Athro Richard Wyn Jones. Tu hwnt i hynny, gair y flwyddyn 2019 yn ôl Geiriadur Rhydychen oedd ‘argyfwng hinsawdd’. Mae arolygon yn dangos nad breuddwydio am ddyfodol gwell y mae llawer o bobl ifainc, ond ofni’r gwaethaf. Gair y flwyddyn dictionary.com oedd ‘existential’ – mae ein bodolaeth yn y fantol.

Sut, felly, mae ymateb i’r ofn o’n cwmpas? Un ymateb Beiblaidd yw eiddo’r Pregethwr – Y peth gorau all rhywun ei wneud ar y ddaear yma ydy bwyta, yfed a mwynhau ei hun (Pregethwr 8.15, Beibl.net). Dyna gyfiawnhau Nadolig llawer ohonom, felly. Ond cofier bod y cyngor hwn yng nghyd-destun dealltwriaeth yr Athro am fywyd – Mae’n ddiystyr! Dydy e’n gwneud dim sens! Mae’r cwbl yn hollol absw’rd! (Pregethwr 1.1)

Mae cynnwys yr athroniaeth hon rhwng cloriau’r Beibl wedi bod yn destun cwestiynu i Iddewon a Christnogion. Mae rhai ysgolheigion yn gweld ôl lliniaru ar y neges gan genedlaethau wedyn drwy ychwanegu ambell adnod fwy ystyrlon. Mae eraill yn gweld yr adnodau mwy uniongred hynny yn arwydd bod y Pregethwr ei hun yn cloffi rhwng dau feddwl (gweler pennod 2 yn enwedig).

Rhywbeth felly yw bywyd eglwysi yn yr oes hon hefyd. Bydd oedfaon y Nadolig wedi cloffi rhwng dau feddwl – gyda Siôn Corn yn ymddangos mewn ambell un ochr yn ochr â Iesu Grist. Hyd yn oed pan nad eir i’r eithafion hynny i gymodi â’r byd, bydd drama’r geni wedi bod yn gyfle i ddweud ww ac aa am y plant – a denu eu rhieni i’r capel – gyda dim ond casgliad apêl Nadolig Cymorth Cristnogol i ddwysáu’r sentiment ryw ychydig. Bydd ambell bregethwr wedi ceisio cyflwyno neges ddwys yn gwisgo siwmper Rwdolff neu sannau jingle bells, rhag bod neb yn meddwl ein bod yn cymryd ein crefydd ormod o ddifri.

Oes yna obaith i 2020, felly? Yn unol ag arfer Iesu, rhaid edrych y tu hwnt i’r addoldy i’w weld. Yn ôl Geiriadur Collins, nid ‘argyfwng hinsawdd’ ond ‘streic hinsawdd’ oedd gair y flwyddyn 2019. Dyma blant a phobl ifainc yn cefnu ar yr ysgol ddyddiol, fel y maent eisoes wedi cefnu ar yr Ysgol Sul, am nad yw’n mynd i’r afael â’u gwir ofid a gwir angen ein byd. Mae capeli yn ei chael hi’n anodd gwybod beth i’w ddweud am hyn – yr un anhawster ag y cawsant adeg streiciau’r glowyr – rydym wedi hen arfer â chloffi rhwng dau feddwl. Ond nid felly ein plant. Yn eu dycnwch nhw a’u parodrwydd i edrych tu hwnt i flaenoriaethau llugoer eu rhieni a’u Pregethwyr y gorwedd ein gobaith.

Canys plant a aned i ni, meibion a merched a roddwyd i ni……

Diolch am eich cefnogaeth drwy gydol 2019, a Blwyddyn Newydd Dda chi.