Agora 43 mis Ionawr – Chwefror 2021

Agora rhif 43 mis Ionawr – Chwefror 2021

Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.

Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!

Cynnwys

Dewi Sant
Gerald Morgan

Teyrnged i Vivian Jones
John Gwilym Jones

Holi’n Deg. Sgyrsiau gyda Geraint Rees

                Anna Jane Evans

                Geraint Rees

                Gareth L Davies

            Elin Maher

Karen Owen

Eifion Wynne

Y Parch. Dad Allan R. Jones, CRIC

Catrin Elis Williams

Iaith a Chyfathrebu
Enid Morgan

Sancteiddrwydd mewn Gwleidyddiaeth, John Lewis
Enid Morgan

 

 

  • Dewi Sant

    DEWI SANT

    Sawl Dewi Sant sydd? Faint o wahanol fersiynau o nawddsant Cymru sy’n bodoli? A pha Ddewi Sant yw’ch dewis chi?

    Rhaid i mi gyfaddef na wyddwn pa sawl Dewi Sant sydd pan es i ati i sgrifennu llyfr amdano – ond fe ges i’r hwyl ryfeddaf o fynd ar eu holau nhw. Dyna Ddewi Sant Dydd Gŵyl Ddewi, gyda merched bach ysgolion cynradd yn eu hetiau cardbord a’u bratiau gwyn a sgerti gwlanen. Mae Dewi Sant y gwledda a’r llwncdestun mewn gwestai crand, a Dewi Sant y swperau mewn neuaddau pentref, gyda chawl cennin a theisen afal.

    Neu ystyriwch yr holl sefydliadau sy’n bodoli dan enw Dewi: yr ysgolion, ...

    Rhagor
  •  Iaith a Chyfathrebu

     Iaith a Chyfathrebu

     Mis Mawrth 1825 oedd hi ar un o’r ynysoedd Aleutiaidd, ynys a oedd, bryd hynny, yn rhan o ymerodraeth Tsar Rwsia. Yr oedd cenhadwr Uniongred, y Tad John Veniaminov, am y tro cyntaf ers iddo gyrraedd yr ynysoedd, yn dathlu litwrgi’r Pascha. Yr oedd wedi gorymdeithio o gwmpas yr eglwys yn datgan ‘Atgyfododd Crist oddi wrth y meirw, yn sathru angau trwy angau’. Aeth drwy’r ddefod hynafol yn ei wisgoedd Rwsiaidd traddodiadol. Yn ddiweddarach yn y dydd aeth o gwmpas cartrefi’r bobl, gan gyhoeddi, ‘Atgyfododd Crist’. Sylwodd y Tad John fod llawenydd ‘Ysbryd y Pasg’ ar led. Yr oedd wedi sylwi bod ei blwyfolion, pobl hynod ...

    Rhagor
  • Geraint Rees

    Cyfweliad gyda Geraint Rees

    Mae Geraint yn frodor o’r Efail Isaf, ger Pontypridd. Ers cyfnod coleg yr ochr arall i Glawdd Offa ac fel athro yn Kenya, mae wedi treulio 35 mlynedd yn gweithio ym myd addysg yng Nghymru – fel athro, pennaeth ysgol ac ymgynghorydd polisi. Ar hyd ei fywyd bu’n weithgar yn ei eglwys leol a bu’n ymddiriedolwr am gyfnod gyda PCN, y Progressive Christianity Network. Ei ddiddordebau pennaf yw hanes a materion cyfoes, cerdded a byd natur, crefydd a cherddoriaeth o ...

    Rhagor
  • Elin Maher

     

    Cyfweliad Elin Maher

    Mae Elin Maher yn byw yng Nghasnewydd erbyn hyn ac er bod ei gwreiddiau’n ddwfn yng Nghlydach, Cwmtawe, bu’n byw yn Ffrainc ac yn Iwerddon am gyfnodau yn ystod ei bywyd, gan ymgartrefu yng Nghasnewydd ugain mlynedd i eleni. Mae’n briod ag Aidan, sy’n Wyddel ac wedi dysgu Cymraeg, ac yn fam i Rhys, Ioan ac Efa. Mae’n un o dri arweinydd yn Eglwys Mynydd Seion, Casnewydd, ac mae’n gweithio fel ymgynghorydd iaith ac addysg ac i fudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

    1. Disgrifiwch ...
    Rhagor
  • Cyfweliad: Catrin Elis Williams

    Catrin Elis Williams

    Yn wreiddiol o Fynytho ym Mhen Llŷn, mynychodd Catrin brifysgolion Manceinion ac Abertawe ac mae bellach yn feddyg teulu ym Mangor. Mae’n byw ar gyrion y ddinas gyda’i phriod (sy’n llawfeddyg) a’u tri mab, yr hynaf ohonynt yn byw â chyflwr awtistiaeth. Mae’n mwynhau canu mewn côr ac yn brysur yn ei chymuned.

    1. 1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod …

    Roedd fy magwraeth yn un capelgar tu hwnt – capel dair gwaith ar y Sul, am 10am, 2pm a ...

    Rhagor
  • Cyfweliad Karen Owen

    Karen Owen

    Newyddiadurwr a bardd sydd wedi perfformio ei gwaith ar bum cyfandir, gan dreulio cyfnodaun byw yn Vilnius, Bogota, Cape Town, Chennai a Kiev. Treuliodd hanner blwyddyn yn byw mewn cwfaint yn Fienna. Mae wedi ymroi i herio tri pheth: yr ego, anwybodaeth, a’r syniad fod yn rhaid i bopeth Cymraeg fod yn ‘neis’.

    1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod …

    Mi ges fy magu ar aelwyd gwbwl Gymraeg, yn ferch i fecanig ac ysgrifenyddes feddygol, ym mhentref Pen-y-groes, yn hen ardal chwareli llechi Dyffryn Nantlle – yr hynaf o ddwy chwaer. Yn ôl fy rhieni, mi ofynnais am gael ...

    Rhagor
  • Teyrnged JGJ i Vivian Jones

    Vivian Jones

    O dro i dro mewn bywyd byddwn yn cwrdd â phobol fydd yn ffitio i mewn yn dwt i’n cymuned ni, a’r rhan fwya ohonyn nhw yn debyg iawn i ni ein hunain. Nid un fel yna oedd Dr Vivian Jones. Yn wir, fe fydde fe wedi chwyrnu arna i eisoes, o nghlywed i’n rhoi’r teitl yna iddo ac yntau’n gwybod mai Viv fyddai mewn cwmni ac yn ei gefn. Byddai’n meddwl amdano’i hun iddo gael ei fagu ar aelwyd gyffredin, ac eto aelwyd anghyffredin oedd hi, oherwydd cynhesrwydd ac anwyldeb y cartre a’r gymdeithas a welodd yn ei blentyndod. Fe wnaeth gymwynas â phob glöwr a ...

    Rhagor
  • Anna Jane Evans

    Cyfweliad gydag Anna Jane Evans, Cadeirydd Cristnogaeth21

    Dechreuodd Anna Jane ar ei gwaith fel gweinidog yng Nghaernarfon a’r Waunfawr ym mis Gorffennaf 2020, ar ôl deunaw mlynedd o weithio fel cydlynydd gwaith Cymorth Cristnogol yng ngogledd Cymru. Cyn hynny bu’n gweithio drwy’r Eglwys Bresbyteraidd efo plant ac ieuenctid yn y Rhondda ac yn Eglwys Noddfa, Caernarfon. Hi yw Cadeirydd Cristnogaeth21.

    1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

    Magwraeth o fynd i’r capel yn selog fel teulu ...

    Rhagor
  • Gareth Davies

    Cyfweliad gyda Gareth L Davies

    Tyfodd Gareth i fyny mewn teulu uniaith Gymraeg, a chael ei addysg yn Ysgol Gymraeg Llanelli ac wedyn yn Lloegr. Cymerodd ddiddordeb mewn pynciau crefyddol ac athronyddol fel myfyriwr yn y chwedegau, cyfnod Honest to God, a theimlo’r her o droedio llwybr rhwng anffyddiaeth a ffwndamentaliaeth. Ar ôl dysgu ieithoedd, a bod yn diwtor i bregethwyr lleyg dan nawdd yr Eglwys Fethodistaidd, mae’n cynnull grŵp lleol o’r Progressive Christian Network yng Nghanolbarth Lloegr.

     AR Y FFORDD O HYD, Gareth L Davies

    1. 1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

    Wrth imi gael fy magu ar aelwyd Gymraeg ...

    Rhagor
  • Sancteiddrwydd mewn Gwleidyddiaeth

    Sancteiddrwydd mewn Gwleidyddiaeth, John Lewis

    Yn ystod y flwyddyn un o’r colledion gafodd lai o sylw nag a haeddai oedd marw John Lewis (1940–2020), un o arweinwyr y mudiad hawliau dinesig yn yr Unol Daleithiau. Dyma ŵr a geisiai sancteiddrwydd, a hynny yn y bywyd cyhoeddus llwgr yr ydym, yn anffodus, wedi cyfarwyddo ag ef. Mae ei eiriau yn weddi.

    “Gwybyddwch fod y gwir yn arwain yn gyson at gariad ac yn meithrin heddwch. Nid yw byth yn cynhyrchu chwerwder a gwrthdaro. Gwisgwch eich hunan yng ngwaith cariad, yn y gwaith chwyldroadol ...

    Rhagor
  • Cyfweliad Eifion Wynne

    Eifion Wynne 

    Mae Eifion wedi byw yn Nyffryn Clwyd er pan oedd yn 3 oed. Mae’n 65 oed ac wedi ymddeol. Mae wedi gweithio mewn sawl maes, ond yn bennaf fel athro am dros chwarter canrif. Mae’n briod a chanddo ddau fab a phump o wyrion. Ei ddiddordebau pennaf yw’r sefyllfa grefyddol yng Nghymru heddiw, a materion cyfoes sydd yn y newyddion. Mae’n mwynhau cerdded a beicio hamddenol. 

    1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod … ...
    Rhagor
  • Cyfweliad Allan R Jones

    Y Parch. Dad Allan R. Jones, CRIC

    Crefyddwr ac offeiriad Catholig, ac aelod o Urdd Canon Rheolaidd Sant Awstin ers 2006; cafodd ei ordeinio ddeng mlynedd yn ôl. Mae wedi byw mewn nifer o wledydd a lleoedd gwahanol gan gynnwys Daventry, ei gartref presennol, ers 2018.

    1. Disgrifiwch eich magwraeth, ac unrhyw ymwneud â chapel neu eglwys, neu fywyd ffydd yn ystod eich plentyndod.

    Mae gen i deulu cymysg o ran ffydd; roedd teulu fy mam yn gymysg o Gatholigion ac anffyddwyr, a chapelwyr ar ochr fy nhad. Dim ond fy mam oedd yn mynd ...

    Rhagor