Iaith a Chyfathrebu

 Iaith a Chyfathrebu

 Mis Mawrth 1825 oedd hi ar un o’r ynysoedd Aleutiaidd, ynys a oedd, bryd hynny, yn rhan o ymerodraeth Tsar Rwsia. Yr oedd cenhadwr Uniongred, y Tad John Veniaminov, am y tro cyntaf ers iddo gyrraedd yr ynysoedd, yn dathlu litwrgi’r Pascha. Yr oedd wedi gorymdeithio o gwmpas yr eglwys yn datgan ‘Atgyfododd Crist oddi wrth y meirw, yn sathru angau trwy angau’. Aeth drwy’r ddefod hynafol yn ei wisgoedd Rwsiaidd traddodiadol. Yn ddiweddarach yn y dydd aeth o gwmpas cartrefi’r bobl, gan gyhoeddi, ‘Atgyfododd Crist’. Sylwodd y Tad John fod llawenydd ‘Ysbryd y Pasg’ ar led. Yr oedd wedi sylwi bod ei blwyfolion, pobl hynod ddifynegiant ar y cyfan, fel pe baent mewn hwyliau siriol iawn. Oedd hi’n bosibl eu bod nhw wedi eu gwir gyffwrdd gan y dathlu cyntaf hwn o’r Atgyfodiad?

Yr oedd y ddefod, wrth gwrs, mewn Slafoneg Eglwysig, iaith swynol, ysbrydol i bobl Rwsia, ond cwbl annealladwy i’r Aleutiaid. Ond darganfu’r Tad John fod ei braidd mewn gwirionedd yn ymateb i un o bleserau mawr y flwyddyn. Enw mis Mawrth yn eu hiaith hwy yw Kisangunak, sy’n golygu’n syml iawn: ‘mae gennym bethau i’w bwyta’. Wrth i’r dydd ymestyn ac i’r awyr gynhesu ychydig, yr oedden nhw’n gallu mynd i hela, i adnewyddu’r stoc o fwyd ac i wledda. Yn ystod y gaeaf nid oedd dewis ond bod yn newynllyd. Nid mater o ddewis disgyblaeth ysbrydol oedd ymprydio iddyn nhw, ond mater o raid caled na ellid ei osgoi. O hyn ymlaen fe fydden nhw’n fodlon ystyried cydymffurfio â gorchmynion y masnachwyr Rwsiaidd i fynd allan a hela am grwyn – a hynny mwy o ran sbri na chwennych elw.

Doedd y Tad John Veniaminov ddim yn brin o werthfawrogi’r ffordd y mae teimladau dynol fel petaent yn cynganeddu ar draws ffiniau diwylliannol. Yr oedd wedi dysgu’n fuan iawn i barchu ffyrdd a doniau poblogaeth gynhenid yr Aleutiaid wrth ymgodymu â chaledi’r tywydd. Ar ben hynny yr oedd wedi ymroi i dasg yr un mor anodd, sef dysgu eu hiaith, i’w alluogi i agor ysgol i 22 o blant y pentref. Erbyn Ionawr 1826 yr oedd yn cyfieithu’r Catecism i’r Aleuteg ac yn ei anfon am gymeradwyaeth gan gyfieithwyr oedd yn deall Rwsieg. Erbyn yr haf yr oedd wedi anfon copi at ei esgob gan egluro:

Yr unig amcan wrth gyfieithu hwn yw sicrhau bod yr Aleutiad sy’n ei ddarllen, neu’n gwrando arno yn ei iaith ei hun, yn medru deall a dysgu oddi wrtho beth a ddylai gredu a gwneud er ei iachawdwriaeth …. Gan fod llawer o Aleutiaid yn medru deall Rwsieg, ystyriaf hi’n ddoeth i argraffu’r fersiwn hwn gyda’r testun Rwsiaidd – yn fy marn i, gall hyn fod o werth mawr gan fod y rhai sy’n deall Rwsieg yn medru darllen y catecism yn Rwsieg a’r rhai sydd ddim yn medru Rwsieg yn ei ddarllen yn yr Aleuteg.

Gŵr hynod iawn oedd John Veniaminov, a ddaeth wedyn yn Esgob Uniongred Rwsiaidd cyntaf Alasga a’r gwledydd Americanaidd, ac fe’i cofir fel St Innokent. (Buasai’n braf clywed sgwrs rhyngddo ef, William Salesbury, Richard Davies a William Morgan!) Ef oedd y cyntaf i ysgrifennu’r iaith Aleuteg ac aeth ati hefyd i gynhyrchu gramadeg cyntaf yr iaith. Cyfieithodd y litwrgi a’r Ysgrythurau i iaith yr Aletuiaid, pobl oedd wedi cael eu hecsbloetio a’u dirmygu gan fasnachwyr y cwmni Rwsiaidd-Americanaidd a oedd yr un pryd yn dibynnu arnynt am y crwyn a’u ffwr. Fel tiriogaethwyr eraill y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yr oedd Veniaminov yn cymryd yn ganiataol na fyddai’r Aleuteg yn byw yn hir, ond yn y cyfamser yr oedd yn rhaid ei hastudio, ei defnyddio ac yn wir ei charu fel cyfrwng i gyfleu’r efengyl i bobl yr oedd wedi dysgu eu parchu a’u hanwylo.

Yr oedd y Tad John a’i deulu’n byw yn yr un math o dŷ cyntefig â’r Aleutiaid eu hunain, gan sylweddoli mai nhw eu hunain wyddai orau sut i gadw’n gynnes (er yn ddrewllyd) drwy’r gaeaf hir. Yr oedd y teulu bach cenhadol hwn yn byw ei ffydd ag ymroddiad syml a dwys. Gan deithio mewn caiac, sefydlodd Veniaminov eglwysi, cynhaliodd yr addoli, a dysgu’r bobl. Y peth mwyaf trawiadol oedd ei fod wedi dechrau amddiffyn y bobl yn erbyn creulonderau’r cwmni Rwsiaidd-Americanaidd. Yr oedd dewrder a gonestrwydd y teulu Cristnogol hwn yn dystiolaeth pwerus i’w ffydd. Yn y cyfamser, yr oedd y Tad John yn gyson yn darganfod yn y grefydd gynhenid arwyddion o bresenoldeb Duw a oedd, yn ei ddirnadaeth ef, wedi paratoi ffordd i’r efengyl. Yr oedd modd treiddio drwy’r ffin.

Yn ddiweddarach ailadroddwyd yr hanes wrth i’r Tad John gael ei ddyrchafu’n Esgob Innokent ac yn Metopolitan Moscow, yn sylfaenydd y Gymdeithas Genhadol Rwsiaidd ac yn gefnogwr i doreth o waith cenhadol y mae Cristnogaeth y gorllewin yn anymwybodol ohono. Treuliodd gyfnod ar ymweliad â Japan. Yno yr oedd y caplan Rwsiaidd yn y llysgenhadaeth Rwsiaidd yn Tokyo mor ddigalon fel ei fod yn treulio’i amser yn darllen nofelau. Cafodd ei ysbrydoli gan Innokent a dechreuodd ar y dasg o ddysgu Japaneeg gan Samurai traddodiadol oedd yn gwgu ar ei amcanion. Dechreuodd ar y gwaith o gyfieithu’r litwrgi a thestunau eraill. Gwnaeth hynny mor effeithiol nes i’r Samurai ei hun gael tröedigaeth a dod yn y man yn offeiriad Uniongred cyntaf Japan. Fe’i cofir yn y traddodiad hwnnw fel y Tad Nikolai o Tokyo.

Y peth eironig oedd mai’r cwmni marchnata ffwr Rwsiaidd-Americanaidd a ofynnodd i’r eglwys yn Rwsia ddarparu cenhadon i Alasga, a hynny’n bennaf i gwrdd ag anghenion yr helwyr. Yr oedd Nicholas Behring yn 1742 wedi darganfod ffordd i Alasga trwy’r culfor sydd bellach yn dwyn ei enw. Yn dilyn y darganfyddiad hwn, agorwyd y penrhyn er mwyn manteisio ar ei adnoddau naturiol. Ym 1793 anfonwyd chwech o fynachod i Ynys Kodiak, un o’r gyfres o ynysoedd Aleutaidd, ac aethant ati i bregethu a throi’r boblogaeth gynhenid at Gristnogaeth. Ar y dechrau bu’r genhadaeth yn hynod lwyddiannus a’r brodorion yn eithaf parod i dderbyn neges yr Efengyl. Dim syndod bod y ddelwedd o oleuni’n gwawrio oddi uchod yn apelio’n fawr atynt. Yr anhawster pennaf yn ffordd y cenhadon oedd tystiolaeth bywyd a moesau’r helwyr ffwr. Rhoddwyd croeso i’r cenhadon pan welwyd bod modd iddyn nhw fod yn gefn i’r Aleutiaid yn erbyn camdriniaeth a gwawd y masnachwyr ffwr oedd yn eu trin mor gywilyddus. Ond nid dyna’r ffordd i’w gwneud yn boblogaidd gyda’r masnachwyr ffwr eu hunain. Yn y pen draw aeth rhai o’r mynachod ’nôl i Rwsia a bu farw eraill. Ond arhosodd un a mynd i fyw bywyd staretz, dull traddodiadol Rwsiaidd o fod yn feudwy, ar Ynys Spruce, a doedd dim amheuaeth na wnaeth ei symlrwydd a’i dynerwch a’i allu i ymgynnal yn y gaeaf, fel y gwnâi’r Aleutiaid eu hunain, wedi taro tant ag ysbrydolrwydd y shamaniaid cynhenid. Bu St Hermann fyw ar yr ynys tan 1837 pryd y bu farw’n 81 oed.

Bu cenhadaeth Hermann i’w bobl ei hun, yr helwyr Rwsiaidd, yn anos na’i weinidogaeth i’r Aleutiaid. Ar un achlysur fe’i gwahoddwyd i siarad â swyddogion y llong pan ddaeth un o longau’r llynges a bwrw angor yn Ynys Kodiak. ‘Foneddigion,’ meddai, ‘beth ydych chi’n ei garu’n fwy na dim arall, a beth ydych chi’n ei chwennych er mwyn bod yn hapus?’ Gallwch ddyfalu’n hawdd beth oedd yr atebion! Cyfoeth, enwogrwydd, gwragedd hardd, bod yn gapteniaid ar long fawr. ‘Ond ydych chi’n siŵr eich bod chi’n chwennych y peth sydd fwyaf teilwng o’ch cariad?’ Yr ateb oedd, ‘Siŵr iawn.’ ‘Ond fyddech chi ddim yn gwadu mai’r un sydd fwyaf teilwng o’n cariad yw’r Arglwydd Iesu Grist – a’n creodd ni, a roddodd fywyd i’r greadigaeth gyfan, sy’n ein porthi, ac yn gofalu amdanom? Oni ddylem ni ei garu e’n fwy na dim?’

Ni fedrai’r swyddogion wneud dim ond cytuno! Wrth gwrs eu bod yn caru Duw. Roedd yn rhaid i bawb wneud hynny. Ond ateb Hermann oedd: ‘Rydw i, bechadur, wedi bod yn ymdrechu ers deugain mlynedd i garu Duw, ac rwy’n dal i fethu dweud mod i’n ei garu â chariad perffaith. Os ydyn ni’n caru rhywun, rydyn ni wastad yn cofio’r person hwnnw, yn ceisio rhoi llawenydd iddo, yn meddwl amdano ddydd a nos. Ydych chi, foneddigion, yn caru Duw fel’na? Ydych chi’n troi ato yn aml? Ydych chi’n gweddïo arno ac yn trio ufuddhau i’w orchmynion? Gadewch inni o leia addo ceisio caru Duw yn fwy na dim byd arall ac ufuddhau i’w ewyllys sanctaidd.’

Dengys y dystiolaeth fod y mynachod Uniongred o Rwsia yn gweithredu yn eu ffordd a’u hethos eu hunain gan herio bydolrwydd a gwanc gwyllt y masnachwyr yn ogystal ag ystyfnigrwydd y boblogaeth gynhenid a alwent, â holl hyder archwilwyr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ‘savages’. Nid pethau a ddyfeisir yw ffiniau. Roedd ffiniau digon eglur rhwng y Rwsiaid a’r Aleutiaid mewn diwylliant ac iaith, rhwng y Rwsiaid seciwlar (y masnachwyr) a’r cenhadon, rhwng Cristnogaeth ac ysbrydolrwydd cynhenid yr Aleutiaid.

Ym 1841, ar ôl i Hermann farw, yr oedd John Veniaminov yn hwylio ger Ynys Spruce mewn storm fawr, a gweddïodd am ymbiliau Herman o’i blaid er mwyn i’r storm ddistewi. Dywed y stori fod y storn wedi darfod mewn chwarter awr, y gwynt wedi gostegu ac arbedwyd Veniaminov. Yr oedd y fath ffydd syml, uniongrychol, mewn ymyrraeth ddwyfol yn cysylltu’r Rwsiaid nid yn unig ag ysbrydion cyn-Gristnogol yr Aleutiaid ond hefyd â’r seintiau Celtaidd gynt. Roedd y cwbl yn dra gwahanol i’r cenhadon Prydeinig, oedd, yn yr un cyfnod, yn gweithio yn ardaloedd llawer poethach Affrica ac India. Ond gellid yn hawdd gysylltu rhai o’r cenhadon Cymraeg oedd o leiaf yn rhannu’r un tlodi â’r bobloedd yr oeddent yn pregethu iddynt.

Ffolineb, wrth gwrs, fyddai tybio bod tröedigaethau’r Aleutiaid wedi bod yn syml a digymysg. Mynnai un ohonynt fod dyfodiad Cristnogaeth i’w bobl wedi bod yn gyflafan oherwydd bod y Cristnogion wedi dwyn rhaniadau i’w plith. Hyd yn oed mewn angau, mynnai, yr oedd rhai yn cael eu claddu fel Catholigion, rhai fel Protestaniaid ac eraill fel pobl Uniongred. Cyrhaeddodd Protestaniaeth i Alasga a’r Aleutiaid am fod Rwsia wedi gwerthu’r tir i’r Unol Daleithiau, a ddrysodd y bobl mewn ffyrdd eraill hefyd. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd yr ynyswyr eu symud o’u cartrefi gan yr Americaniaid, a hyd heddiw maen nhw’n dal i geisio cael iawndal am ddinistrio’u heglwysi a’r drwg a wnaed i’w heiconau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Y mae gweithgarwch cenhadol y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn dipyn o embaras, os nad gwawd, i bobl Ewrop heddiw oherwydd y cysylltiad agos ag imperialaeth a chyfalafiaeth. (Mae eithriadau gloyw, wrth gwrs.) Yn niwedd yr ugeinfed ganrif yr oedd agweddau tuag at y cenhadon yn ystyried eu bod yn bobl oedd wedi eu llygru gan eu cefndir, eu diwylliannau a’u hagweddau hiliol. Mae lle i feirniadu. Ond yn ddwfn yn yr hanes amwys mae yna straeon am burdeb gweledigaeth, cariad dynol a’r ymwahanu gan y cenhadon o agweddau safonol eu cefndir bydol imperialaidd. Yr oedd croesi cyfandiroedd yn ymroddiad i barhau mewn tlodi gan wynebu digalondid a methiant. Ond gadawodd llawer ohonynt atgofion ymhlith y bobl o ddaioni a chariad bregus oedd yn cyfleu rhywbeth o’u gweledigaeth o Dduw. Mae yna straeon am genhadon yn cyfathrebu ar draws ffiniau iaith a diwylliant a’i gwnaeth hi’n bosibl i bobl ddechrau o’r newydd.

Pan groeshoeliwyd Iesu, roedd yna arwydd tairieithog yn cyhoeddi ei fod yn ‘Frenin yr Iddewon’: yn Lladin – iaith yr ymerodraeth Rufeinig; Groeg – iaith y byd diwylliedig, creadigol, Groegaidd, a’r Hebraeg – iaith Semitaidd ysgrythurau’r Idewon, ac Iesu ei hun. Mae’r tair iaith a welwyd ar y Groes fel petaent yn cyfateb i dri rhaniad o fewn yr eglwys fyd-eang: (1) yr eglwysi Uniongred Groegaidd sy’n cynnwys yr eglwysi Slafoneg eu hiaith; (2) y Gristnogaeth ddwyreiniol a welir yn eglwysi Cristnogol Syria ac Ethiopia, a (3) Gorllewin Lladin, y mae Cristnogaeth Cymru yn deillio ohoni. A bu ieithoedd gwahanol ac anawsterau cyfieithu yn sicr yn rhan o’r cweryla.

Er bod Groeg yn iaith gyffredin i lawer iawn o’r Cristngoion cynnar, yr oedd ymwahanu ieithyddol yn anochel wrth i’r ffydd ymledu. Daeth Lladin yn brif iaith ddiwinyddol y Gorllewin a chreu problemau cyfieithu rhwng yr Uniongred a’r Catholig, ac aeth yr eglwysi Syriaidd a Choptaidd ati i ddefnyddio’u hieithoedd eu hunain. Bu Lladin yn iaith gyffredin i’r dysgedigion wrth i ieithoedd cynhenid Ewrop ddatblygu yn eu hamrywiaeth dros y canrifoedd. Ond mae proses twf ieithoedd yn cael ei drysu gan bŵer gwleidyddol, economaidd a milwrol. Wrth i wledydd Ewrop chwilio am wledydd i fanteisio arnynt, achubwyd ar y cyfle i bregethu’r Efengyl. Estynnodd y ffydd ar gynffonnau byddinoedd, ac yn sicr yr oedd yr angen i ddefnyddio grym i reoli yn torri ar draws yr angen i’r Eglwys gyfleu ei neges o gariad mewn ffordd y byddai’r cymunedau a’r diwylliannau dieithr yn medru ei chlywed a’i deall. Bu ieithoedd ymerodraethol – Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Norwyeg – yn rhan o’r broses o gyhoeddi’r Efengyl. Mae ’na ddryswch wedi bod rhwng iaith y concwerwyr, ac iaith y cenhadon, a thyndra gwaeth rhwng rheoli a charu pobl, heb sôn am hiliaeth ac agweddau gwawdlyd.

Yn Ewrop ei hun cynyddodd y pwysau i gyfieithu’r Ysgrythurau i ieithoedd cynhenid, ac erbyn y bymthegfed ganrif, pan ddaeth argraffu’n ddyfais newydd bwerus iawn, yr oedd her Martin Luther i ddefnydio iaith a ddeellid gan y bobl yn amhosibl ei gwrthsefyll. Yn 1563, pan basiodd llywodraeth Elisabeth I ddeddf i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg (a ddygodd ffrwyth yn 1588), yr oedd yr awydd i sicrhau undod y deyrnas Brotestannaidd lawn cyn bwysiced â’r awydd i ennill eneidiau. Peth naturiol oedd ofni y buasai’r Cymry’n glynu wrth yr hen ffydd oni bai iddynt gael yr ysgrythur yn eu hiaith. Ar waetha’r awydd i gyfyngu’r gyfraith i’r Saesneg yn unig, yn ymarferol bu cyfieithu’r ysgrythur i’r Gymraeg yn ffordd o danseilio’r bwriad hwnnw. Gwelwn yn ein hanes ni ein hunain y cymhlethdod ffiniau rhwng y bobl imperialaidd a’r bobl a goncwerwyd, rhwng Catholig a Phrotestannaidd, a rhwng gwahanol ymerodraethau hefyd.

Ond ceir enghraifft gynharach yn Ewrop o ddefnyddio iaith gynhenid i amcanion cenhadol. Yn y nawfed ganrif aeth Cyril a Methodius o Gaergystennin i adfywio a diwyllio’r Eglwys yn Morafia, ardal yr hen Tsiecoslofacia. Yr oedd cenhadon o’r Gorllewin wedi gorfodi trefn Ladin ar y bobl, ond creodd Cyril wyddor ar gyfer yr ieithoedd Slafonig sy’n dal yn hysbys wrth ei enw ef – yr wyddor Cyrilig. Aeth ati i gyfieithu’r ysgrythurau a thestunau litwrgaidd i iaith yr ydym erbyn hyn yn ei galw’n hen Slafoneg, neu’n Slafoneg Eglwysig. Gorffennodd Methodius y cyfieithiad o’r Beibl cyn iddo farw yn 885. Yr oedd eu dulliau doeth a gwir dangnefeddus yn dra gwahanol i ddulliau ymerodraethol y cenhadon Frankaidd. Yn eironig iawn, datblygodd Slafoneg Eglwysig yn iaith ‘sanctaidd’ fel a ddigwyddodd i’r iaith Ladin yn Ewrop y Canoloesoedd. Ers y cyfnod hwnnw datblygodd ffiniau ieithyddol a diwinyddol yng ngwledydd y Balkan, a’r cwbl wedi ei ddrysu ymhellach gan bresenoldeb Islam. Y mae gwahaniaethau ethnig yn cael eu cryfhau gan ieithoedd, diwinyddiaeth, diwylliannau – a grym milwrol. Ar un lefel cawn ymateb cyfoethog ac amrywiol i’r Efengyl, ond hefyd dystiolaeth o’r ffordd y mae balchder dynol yn colli gafael ar hanfod yr Efengyl ac yn gwrthod derbyn y rhodd o ddeall llais Duw mewn gwahanol ieithoedd.

Os yw’r Efengyl yn dod gan gyfleu gobaith newydd, yna gall ymwreiddio’n rasol a graddol. Ond os yw ynghlwm wrth rym milwrol a masnachol, mae yna wenwyn hefyd. Wrth geisio cyfleu’r stori am Iesu, y mae cyfieithu’r Ysgrythurau a litwrgïau gwahanol wedi bod yn bwysig tu hwnt. Pan fu gwrthdaro â llywodraethau a byddinoedd, cafwyd merthyrdod a gwrthdaro rhwng hawliau’r Efengyl a’i gwerthoedd a styfnigrwydd diwylliant a phŵer gwleidyddol. Pan ddaeth yr Efengyl yn sgil concwest filwrol, fel yn achos Siarlymaen, hawliwyd difodiant diwylliannol.

Mewn litwrgi Sacsonaidd hynafol daw’r adran hon:
A wyt yn ymwrthod â’r diafol?
Rwyf yn ymwrthod â’r diafol.
Ac urdd y cythreuliaid?
Rwyf yn ymwrthod â holl urdd y cythreuliaid.
A holl weithredoedd y diafol?

Rwyf yn ymwrthod â holl weithredoedd y diafol a geiriau’r diafol, Donar a Wodan, Saxnot a’r holl ysbrydion aflan sydd yn gyngheiriaid iddynt.

Roedd hyn i gyd yn gymaint o fater gwleidyddol â chrefyddol. Oherwydd yr oedd y duwiau Germanaidd i raddau helaeth yn dduwiau gwladwriaeth, ac yr oedd y llywodraethwyr newydd yn awyddus i ddangos yn eglur fod y duw Cristnogol hwn yn fwy pwerus. Yr oedd yn fater o bwys i amgyffred natur y pŵer oedd yn perthyn i’r duw newydd, a’r ffordd y gallai ddewis ei ddefnyddio neu beidio. Y mae’r rhai sy’n defnyddio grym bydol wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio’r ffydd (ac nid dim ond y ffydd Gristnogol) fel cyfrwng i helaethu eu grym gwleiddyol a masnachol – boed y rheiny’n ymerodrol yn y nawfed ganrif yn Ewrop, yn Normaniaid yn y ddeuddegfed ganrif, yn Rwsia yn y ddeunawfed ganrif, neu’n fasnachwyr caethion o Loegr o Bortiwgal neu Sbaen.

Mae’r broses o groesi’r ffin rhwng diwylliant a ffydd gan amla’n golygu ailddehongli’r hen straeon cenhedlig mytholegol. Ac, oherwydd pwysigrwydd y gair ysgrifenedig mewn Cristnogaeth, mae’r broses yn digwydd yn y cyfnod hwnnw o symud o ddiwylliant llafar i ddiwylliant llawysgrif a llyfr, yn ogystal â thrwy iaith a defod addoli. Mae dod i weld y broses hon yn digwydd yn llên Ewrop yn yr Oesoedd Canol yn hynod o ddiddorol. Yn y byd Seisnig fe’i gwelir yn yr epig gynnar Beowulf. Mae’n eglur iawn yn y Mabinogi, er enghraifft, y man yn stori Pwyll lle y cyfeirir at ei blentyn a’r ffaith ei fod wedi ei fedyddio yn ôl ‘bedydd y cyfnod hwnnw’. Yn achos y Mabinogi, er nad oes cyfeiriadau uniongyrchol at y ffydd. yr wyf yn argyhoeddedig fod y meddwl oedd yn gyfrifol am weu’r straeon ynghyd wedi hen ddeall a meddiannu neges yr Efengyl o faddeuant a thangnefedd.*

Yn y byd Sacsonaidd, adroddir stori Iesu mewn cerdd o’r enw yr ‘Heliand’ (Y Gwaredwr). Mae’r cefndir yn hollol Germanaidd a’r llongau ar fôr Galilea yn meddu blaenau uchel fel llongau’r gogledd a’r disgyblion yn griw o arwyr wedi digio’n llwyr wrth y milwyr sy’n dod i arestio Iesu. Mae Iesu ei hun yn dywysog arwrol nad yw’n swnio’n debyg o gwbl i’r Iesu mwyn a thirion y magwyd cenedlaethau o Gymry arno.

Yr oedd y duwiau paganaidd wedi bod dan rym Wyrd (Tynged), a’r neges yn y gerdd yw fod Iesu’n drech na Thynged ei hun. Mae manylion y straeon yn cael eu ‘Ellmyneiddio’, a chraidd y neges obeithiol newydd yw fod Tynged wedi ei darostwng. Yn y gerdd Hen Saesneg ‘Breuddwyd y Groes’ (Dream of the Rood) cyflwynir Iesu fel arwr ifanc sy’n dringo lan i’r groes nid mewn darostyngiad ond mewn buddugoliaeth. O bellter gallwn weld y ffin, y gwnïad blêr lle y mae dau ddarn o ddefnydd yn dod at ei gilydd. Gallwn adnabod cymdeithas arwrol y gogledd yn gafael yn yr elfennau yn yr Efengyl sydd fwyaf hygyrch i’w diwyllliant hwy.

* Bydd angen traethawd arall i ystyried y meddylfryd Cristnogol yn y Mabinogi!

EM