E-fwletin 7 Chwefror 2021

Cofio

Ni ellir gor-ddarllen y Gwynfydau. Yn wir, da o beth yw eu gosod ar lechen y cof. Prin fod yna faniffesto amgenach wedi’i gyflwyno erioed na’r Bregeth ar y Mynydd. Mae wedi gwrthsefyll prawf amser. Sieryd yn huawdl o hyd.

Pan fyddom yn Cofio da o beth yw galw’r Gwynfydau i gof gan eu gosod fel meini prawf ochr yn ochr â’r digwyddiad hwnnw a goffeir i sylweddoli pa mor bell rydym wedi cafflo. Dyna chi’r holocost.

Arweiniwyd 11 miliwn o bobl i’r lladdfa mewn siambrau nwy a hynny am nad oedd eu cenedligrwydd neu eu rhywioldeb yn gweddu i ddiben cynllun anfad i greu hil honedig berffaith.

Roedd y cysyniad o gariad wedi’i ddileu. Roedd cariad yn absennol o galonnau erlidwyr a phoenydwyr. Roedd dynoliaeth ar ei ffordd i ddifancoll. Yn ei difa ei hun.

Penderfynodd erlidwyr arddel casineb dall yn hytrach na chariad golau. Yn wyneb hynny roedd y canhwyllau a ofynnwyd i ni eu cynnau yn symbolau pwerus i wrthweithio pwerau’r fall.

Ac nid digwyddiadau’r Ail Ryfel Byd yw’r unig staen ar ein bodolaeth. Gellir cyfeirio at hil-laddiad ym Mosnia, Rwanda a Cambodia ein hoes ni. Heb sôn am achosion cyffelyb a groniclir yn yr Hen Destament.

Ond mae yna unigolion sy wedi herio’r anfad ar sail y Gwynfydau. Mae eleni yn hanner can mlynedd ers marwolaeth Waldo Williams. Mae Cofio ar sail rhifau yn medru bod yn fynegbyst i’n dyfodol a’n gorffennol.

Penderfynodd y bardd herio’r awdurdodau. Credai bod gorfodaeth filwrol a’r rhyfela yng Nghorea yn y 1950au yn groes i hanfod y Gwynfydau. Os taw’r Gwynfydau oedd y llinynnau mesur priodol ar gyfer ein byw a bod, ni welai fod defnyddio arfau dinistriol a hyfforddi i’w defnyddio yn gydnaws â neges yr adnodau.

Wynebodd garchar gan dreulio cyfnodau dan glo yn Abertawe a Rutland a hynny ynddo’i hun i’r Crynwr a’r cyfrinydd yn fodd o buro’r galon. Cefnodd ar Anghydffurfiaeth. Gwelai pob dim yn gliriach yn nistawrwydd oedfaon y Cyfeillion. Cafodd ei lethu gan yr agwedd ‘shwd enjoioch chi’r bregeth?’ blaenorol ar derfyn oedfa.

Dyw hynny ddim i ddweud y dylai pregeth fod yn gyfystyr ag adloniant na chwaith fod yn syrffedus. Ond dylai o leiaf gynnig deunydd cnoi cil o bryd i’w gilydd os nad cynnig goleuni o’r newydd ar sail argyhoeddiad. Gorau oll os gwna gynnig ysgydwad er daioni.

Gellir dweud bod nifer o gerddi  Waldo yn darllen fel adnodau. Ni fedrai glodfori rhyfelwyr na thywysogion Cymreig. Nid arwyr iddo mohonynt.

Soned i Sant Tysilio oedd ei gerdd olaf a hynny am fod y Cymro o’r seithfed ganrif wedi ymwrthod â’r cledd. Doedd e ddim am ddilyn llwybr ei dad, Brochwel Ysgithrog, Tywysog Powys, a olygai parodrwydd i ddefnyddio trais.

Beth am i gynulleidfaoedd gyd-ganu, trwy gyfrwng zoom, ‘Dod ar fy mhen dy sanctaidd law’? Mae’r awdur, Eifion Wyn, wedi distyllu’r Bregeth ar y Mynydd yn ei eiriau. A’r un modd Euros Rhys Evans yn ei emyn-dôn a gyfansoddodd pan oedd yn ddeg oed. Y Gwynfydau yw’r gannwyll fwyaf llachar ohonynt i gyd.