E-fwletin 14 Chwefror 2021

Yna, Ti a Gredi

Mae amrywiaeth mawr yn y modd bydd pobl yn darganfod y dimensiwn ysbrydol i’w bywydau, gan ddod i gredu.

Dywed rhai, er mwyn credu, fod rhaid cytuno gyda dogmâu a chredoau penodol a rhaid llyncu’r pecyn cyfan. Mae hyn wedi bod yn broblem i mi erioed.

Gallai i ddim derbyn y pecynnau cyfan o athrawiaethau, dogmâu a chredoau; na chwaith deimlo’n ysbrydol gysurus pan fydd pobl yn gwthio a gorfodi eu syniadau a’u ffordd o feddwl arnaf.

Nid system o gredoau o wneuthuriad pobl eraill yw fy nghredoau i. Yn wir, alla’ i ddim derbyn llawer o’r syniadau uniongred am faterion ysbrydol. Yn union fel na allaf dderbyn awdurdod anffaeledigrwydd un person, megis y Pab, ni allaf dderbyn chwaith awdurdod anffaeledig un llyfr, megis Y Beibl.

Yn y gorffennol mae llawer o bobl, a rheini’n bobl dda ac ddyfnder ysbrydol, wedi cael eu herlid a’u cosbi a hyd yn oed eu lladd am nad ydynt wedi derbyn credoau penodol megis Credo’r Apostolion, Athenasiws a Nicea.  

I mi mae’r ffordd y down i ‘gredu’ yn ddibynnol ar agwedd y meddwl wedi i ni orfod wynebu profiadau gwahanol. Mae’r cyfan yn cael ei grynhoi yn ddestlus a’i fynegi mor glir yn y darn sy’n dilyn o waith y diweddar D. Jacob Davies B.A..

YNA, TI A GREDI

Os gwelaist ti olau mwyn llygad mam yn edrych ar ei chyntaf-anedig ym mhlyg ei mynwes wedi storm ei eni; os gwelaist ti’r rhyfeddod a’r diolchgarwch yn cydlawenhau wrth anwylo’r bychan byw,                                                          

YNA, TI A GREDI.

 Os buost ti ar goll mewn tyrfa fawr yn blentyn bach; os gwyddost ti am y gwae gwyllt o chwilio am wyneb dy fam a chlustfeinio ymysg y llu am ei llais; os teimlaist wedyn gynhesrwydd cyffyrddiad ei llaw,

 YNA, TI A GREDI.

 Os cefaist ti dy hun yn llethol unig ar frig mynydd uchel a’r distawrwydd mor fawr a glas pell yr awyr uwchben; os gwelaist dydi dy hun yn dy holl fychander yn ymyl aruthredd y mawredd mud,

 YNA, TI A GREDI.

 Os ymgollaist rywbryd yn ogofeydd dy gof; os ymgrwydraist yng nghilfachau dy feddwl; os rhoddaist lam ffydd tu hwnt i gyfyngderau ffawd; os gofynnaist i’r nos am seren, a’i chael,

 YNA, TI A GREDI.

 Os ymdeimlaist a hud anghyffwrdd awen bardd; os adnabyddaist ti ecstasi llenor pan ddaw a gair at air mewn cariad i genhedlu syniad; os clustfeiniaist ti ar wylofain hen alaw sy’n llefain a thafodau pobl ac angylion,

 YNA, TI A GREDI.

 Os buost ti’n agos, agos i boen, mor agos nes teimlo’r artaith, er nad oedd yn dy gnawd dy hun; os bu trai a llanw anadl un annwyl yn cwyno yn dy glust,

 YNA, TI A GREDI.

 Os oes gennyt freuddwyd na dderfydd yn y bore, na ddifethir gan wawd yr anghredinwyr; os gwyddost ti fod y breuddwyd hwn wedi dy feddiannu fel y rhoddit dy einioes i’w gadw,

 YNA, TI A GREDI.

 Os gwelaist lawenydd mawr sydd a’i berarogl yn goroesi pob diflastod a thristwch; os bu hwn yn gannwyll i ti yn nos dy dristwch,

 YNA, TI A GREDI.

 Os y’th fradychwyd yn dy ymdrechion; os gadawodd dy gyfeillion di ar drugaredd y dyrfa ddi-hid,

eto, os arhosodd un yn unig hyd y diwedd,

 YNA, TI A GREDI.

 

[Allan o ‘Yr Hen Foi – Ysgrythur Dafodiaith a Darlleniadau Eraill’, D. Jacob Davies].