AMDANOM NI
Mae Cristnogaeth 21 yn elusen gofrestredig (Rhif 1011618)
sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel 'Llusern'.
Sefydlwyd Cristnogaeth 21 gan griw bychan o weinidogion a lleygwyr sy’n awyddus i weld dehongli hanfodion Cristnogaeth radical ar gyfer yr oes bresennol. Credwn fod y Gymru Gymraeg wedi dioddef yn ystod y blynyddoedd diweddar o ddiffyg trafodaeth eang ar natur Cristnogaeth yn ein dyddiau ni.
Rydym yn byw mewn cyfnod o newidiadau syfrdanol sy’n hawlio trafodaeth o’r ffydd Gristnogol mewn ffordd sy’n cydnabod y newidiadau hynny.
- Credwn fod lle i drafod y ffydd heb ddisgwyl unffurfiaeth.
- Ymdrech yw Cristnogaeth 21 i gynnal fforwm i roi llais i ystod eang o safbwyntiau diwinyddol Cristnogol er mwyn miniogi a chyfoethogi meddylfryd Cristnogol Gymraeg.
- Ein bwriad yw cyflwyno’n gyson erthyglau amrywiol ar destunau y tybiwn ni eu bod yn greiddiol i ddilynwyr yr Iesu yn yr 21ain ganrif.
Gwahoddwn unrhyw un i ymateb i’r wefan yn gwrtais ac yn onest.
SUT I YMATEB?
Medrwch ymateb i unrhyw erthygl drwy bostio neges ar ein tudalen Facebook neu anfon neges at cristnogaeth21@gmail.com
Aelodau Pwyllgor Cristnogaeth 21: Cadeirydd: Anna Jane Evans* Trysorydd: Gareth Ff. Roberts* Golygydd Technegol y Wefan: Iestyn Hughes Trefnydd Facebook: Geraint Rees* Ysgrifennydd: Gareth Ioan* Aelodau Eraill: Dafydd Iwan*, John Gwilym Jones*, Rocet Arwel Jones*, Marian Beech-Hughes*, Pryderi Llwyd Jones*, Enid Morgan*, Cen Llwyd* Dynoda * bod y person yn un o'r Ymddiriedolwyr Mae Cristnogaeth 21 yn elusen gofrestredig (Rhif 1011618) sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel 'Llusern'. |