AGORA
Cliciwch yma i weld y rhifyn pdf: Agora Ebrill 2016
neu sgroliwch i lawr i weld pob erthygl yn unigol a rhyngweithiol:
Cynnwys Rhifyn 1 (Mis Ebrill)Gair o gyflwyniad John Gwilym Jones Tir Neb: Ysbrydoledd a Chreadigrwydd Aled Jones Williams Tameidiau Tomosaidd Gethin Abraham-Williams Chwilio’r Ysgrythurau: Y Daith i Emaus Enid R. Morgan Y Storm ar Fôr Galilea: Myfyrdod Emlyn Davies Duw yw’r Broblem Ymatebion i gyfrol Cynog ac Aled Third Way Pryderi Llwyd Jones Hanes Cyffrous y Cwm Gerald Morgan Trais a Thynerwch: Sgwrs â Jerry Hunter |
Gwahoddiad i gyfrannu
RhagorGwahoddiad i gyfrannu
Does dim angen aros am wahoddiad i gyfrannu i Agora!
Os ydych chi eisiau ymateb yn sydyn i rywbeth, anfonwch air at y Bwrdd Clebran ar y wefan (www.cristnogaeth21.org) a pharhau’r drafodaeth yn y fan honno. Os oes rhywbeth yr hoffech chi fanylu arno, neu yr ydych yn awyddus i ddechrau trafodaeth yn ei gylch, neu os buoch yn darllen llyfr difyr, neu’n pori mewn gwefan ddiddorol, fywiog, anfonwch gyfeiriad atom, ac fe ddatblygwn gornel gysylltiadau.
Os oes gennych erthygl neu syniad, anfonwch at Enid (enid.morgan@gmail.com), a gall fod yn rhan o becyn newydd ...
Gair o gyflwyniad gan John Gwilym Jones, Cadeirydd C21
RhagorGair o gyflwyniad gan John Gwilym Jones, Cadeirydd C21
Mae uniongrededd wedi llethu a llurgunio crefyddau ar hyd y canrifoedd. Bu hynny yn arbennig o amlwg o fewn Cristnogaeth. Hyd yn oed yn ystod y ganrif ddiwethaf byddai heddlu athrawiaeth yn gwylio a gwrando, gydag eneidiau didwyll ac ymroddedig yn ein plith yng Nghymru yn arswydo rhag troseddu yn erbyn y ‘canonau’ oesol. O dro i dro clywem rai pregethwyr ac athrawon ysgol Sul yn mentro gwthio’r ffiniau, ond caent eu hystyried fel eithriadau, yn feddyliau ar ddisberod, neu’n hereticiaid haerllug oedd yn meiddio herio ffydd y tadau eglwysig.
Bellach ...
Pam Agora?
RhagorPam Agora?
Man agored, medd y geiriadur; man cyfarfod yn yr iaith Roeg, y man lle’r aeth Paul ati i geisio mynegi’r newyddion da mewn iaith seciwlar, sef iaith ei gyfnod. Mae’n disgrifio’n dda amcan y fenter hon i greu cylchgrawn digidol Cymraeg fydd o ddiddordeb a bendith i bawb y mae enw Iesu yn bwysig iddyn nhw (er bod capel ac eglwys yn eu digalonni). Y gobaith yw y daw yn fan agored a diogel i bobl holi a thrafod, man lle y gellir anghytuno heb ddigio, heb ymosod, heb gondemnio, ac yn sicr heb sarhau ...
Rhagor ar Ysbrydoledd a Chrefydd
RhagorI barhau ar y trywydd a osodwyd gan Aled Jones Williams yn yr erthygl flaenorol, mae gan Gethin Abraham-Williams (Cyn-ysgrifennydd Cytûn ac Enfys) gyfrol ddifyr dan y teitl, Spirituality or Religion? Do we have to choose ? (ISBN 978 1 8469 4149 8). Mae’n dechrau gyda thrafodaeth ar stori Branwen: ‘A Celtic tale with a Gospel meaning’.
Dair blynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Seeing the Good in Unfamiliar Spiritualities
(ISBN 978 ...
Diwedd … a dechrau
RhagorDiwedd … a dechrau.
Ar ddechrau Ebrill eleni daeth y cylchgrawn Third Way i ben.
O fewn yr un mis, ymddangosodd Agora.
Fe lansiwyd Third Way ar 13 Ionawr 1977 gyda’r slogan ‘Towards a Biblical Word View’ ac er mai’r meddwl efengylaidd oedd tu ôl i’r cylchgrawn, roedd un o’r erthyglau yn y rhifyn cyntaf yn awgrymu’r hyn oedd i ddod. Ronald Sider oedd yr awdur a ...
PORI MEWN PRINT
RhagorPORI MEWN PRINT
Duw yw’r Broblem
gan Aled Jones Williams a Cynog Dafis,
Gwasg Carreg Gwalch, Mawrth 2016 £8.00
Cyfrannodd y ddau awdur bob o ddarn, gwahanol iawn i’w gilydd, i’r gyfrol. Ymson myfyrgar am le ffydd yn ein bywyd cyfoes, gan dynnu ar elfen gref o brofiad personol, yw cerdd ac ysgrif Aled Jones Williams. Lluniodd Cynog Dafis bedair pennod yn cloriannu’r ddadl gyfredol am fodolaeth Duw, ynghyd â thrafodaeth ar y cefndir hanesyddol, yn enwedig yng Nghymru Gymraeg yr 20fed ...
Blas o rai o gyfweliadau ‘Third Way’
RhagorBlas o rai o gyfweliadau ‘Third Way’
Michael Eavis, sylfaenydd, cyfarwyddwr, a gwestai Gŵyl Glastonbury ar ei dir yn flynyddol – cyfweliad yn rhifyn Medi/Hydref 2015:
Cefais fy magu’n Fethodist ac rwy’n dal yn Fethodist. Mae tri neu bedwar gweinidog yn y teulu … braidd yn hen ffasiwn oeddan nhw, ond … roedden nhw’n solet, gadarn. Rydw i’n mynd i’r capel bob bore Sul (mae tua 35 ohonom) ac mae hynny’n arbennig o bwysig i mi … yn arbennig y mawl … Er mai digon amwys yw fy nghred, fe wn mai o’r fan yma y daeth fy sosialaeth ac mae’r gred yn Nuw ...
Ymateb un o selogion Cristnogaeth 21 i’r gyfrol Duw yw’r Broblem
RhagorAdolygiad o Duw yw’r Broblem
“Unigryw Gymreig ar y naill law, ac yn gwbl ryngwladol ei sylwedd ar y llaw arall”
Sylwadau un o selogion Cristnogaeth 21 ar Duw yw’r Broblem,
gan Cynog Dafis ac Aled Jones Williams
Anaml iawn y daw campwaith o’r wasg Gymraeg sydd yn unigryw Gymreig ar y naill law, ac yn gwbl ryngwladol ei sylwedd ar y llaw arall.
Yn Duw yw’r Broblem mae dau ffigwr blaenllaw yn y ...
Rhagor ar Ysbrydoledd a Chrefydd
RhagorRhagor ar Ysbrydoledd a Chrefydd
I barhau ar y trywydd a osodwyd gan Aled Jones Williams yn yr erthygl flaenorol, mae gan Gethin Abraham-Williams (Cyn-ysgrifennydd Cytûn ac Enfys) gyfrol ddifyr dan y teitl, Spirituality or Religion? Do we have to choose ? (ISBN 978 1 8469 4149 8). Mae’n dechrau gyda thrafodaeth ar stori Branwen: ‘A Celtic tale with a Gospel meaning’. Dair blynedd yn ddiweddarach, cyhoeddodd Seeing the Good in Unfamiliar Spiritualities
(ISBN 978 1 8469 499 4).
Dim ond y llynedd y cyhoeddodd drydedd cyfrol, lle mae’n datblygu ei syniadau ymhellach: Why the Gospel of Thomas Matters: the Spirituality of Incertainties. ...
BETH YW HANES CRISTNOGAETH 21?
RhagorBETH YW HANES CRISTNOGAETH 21?
Sefydlwyd Cristnogaeth 21 yn y flwyddyn 2007, a dilynwyd hynny gyda chreu gwefan a lansiwyd yn swyddogol ar Ragfyr 1af 2008. Denodd hynny gryn sylw ar y radio, ar deledu, yn y cylchgronau enwadol ac mewn papurau dyddiol ac wythnosol. Y bwriad oedd cyhoeddi erthyglau ar wahanol bynciau fel bod modd cael llwyfan i safbwyntiau nad ydynt yn cael sylw yn y papurau enwadol.
Maes o law, dechreuwyd dosbarthu neges wythnosol drwy e-bost i bawb sydd wedi mynegi dymuniad i’w derbyn, sef cyfanswm o tua 250 o bobl i gyd. Dyma’r e-fwletin wythnosol fel y ...
Bwrdd Golygyddol:
RhagorBwrdd Golygyddol:
Enid Morgan
Pryderi Llwyd Jones
Marian Beech Hughes
Emlyn Davies
Tir Neb: Ysbrydoledd a Chreadigrwydd gan Aled Jones Williams
RhagorTir Neb: Ysbrydoledd a Chreadigrwydd gan Aled Jones Williams
(Fy ‘rhagarweiniad’ i sgwrs a roddais ar fy ngweithiau fy hun yn Encil C21 yn Nhrefeca, Medi 2015, yw’r llith ganlynol.)
Mae ‘ysbrydoledd’ a ‘chreadigrwydd’ yn drybeilig o anodd i’w diffinio. Y mae yna rywbeth yn gyfleus niwlog amdanyn nhw, yn enwedig felly ‘ysbrydoledd’.
Mae hi’n weddol hawdd diffinio ‘crefydd’. Ar un wedd, medrir dweud mai diben y crefyddol yw eich amddiffyn rhag yr ysbrydol. Trwy systemau, credoau, ffurf-wasanaethau, offeiriadaeth a mathau eraill o weinidogaeth – paraffernalia’r ‘crefyddol’ – fe’n diogelir rhag anarchiaeth yr ‘ysbrydol’, y mae ei ‘hanfod’ i’w ...
‘Y Storm ar Fôr Galilea’ gan Emlyn Davies
Rhagor‘Y Storm ar Fôr Galilea’ gan Emlyn Davies
Myfyrdod yn seiliedig ar Mathew 8:23–34
(Traddodwyd yn Encil Trefeca, Medi 2015)
Wrth i mi draddodi’r sylwadau hyn, rwy’n ymwybodol iawn ein bod, yn y cyfnod hwn eleni, yn nodi carreg filltir go nodedig yn hanes darlledu. Aeth trigain mlynedd heibio ers darlledu’r rhifyn cyntaf o From Our Own Correspondent ar Radio 4, ac mae’n anodd meddwl am unrhyw gyfres debyg sy’n dod yn agos ati o ran ei safon uchel.
Cyfle sydd yma i newyddiadurwyr tramor gael pum munud o ryddid i ...
Hanes Cyffrous y Cwm gan Gerald Morgan
RhagorHanes Cyffrous y Cwm gan Gerald Morgan
Ysgolhaig ifanc hynod o ddysgedig ac effeithiol yw Dr Hannah Jane Thomas, sy’n hanu o Lanelli, a ddaeth i annerch Cymdeithas Lyfryddol Aberystwyth yn diweddar, a hynny’n llwyddiannus iawn. Ymddangosai ei thestun yn dra sych, sef ‘Llyfrgell Coleg y Cwm yn Eglwys Gadeiriol Henffordd’, ond fe wnaeth yr hanes afael yn y gynulleidfa.
Dechreuodd cenhadon pabyddol Cymdeithas Iesu ymgyrch yng Nghymru a Lloegr yn 1580, ac erbyn 1623 roeddent wedi ffurfio ‘talaith’ dros y ddwy wlad. Roedd Cymru gyda swyddi Henffordd, Caerloyw a Gwlad yr Haf yn ffurfio un adran, ond yn 1670 ...
TRAIS A THYNERWCH Holi Jerry Hunter am ‘Y Fro Dywyll’
RhagorTRAIS A THYNERWCH Holi Jerry Hunter am ‘Y Fro Dywyll’
Mae’r Fro Dywyll yn nofel swmpus i ymgolli’n llwyr ynddi. Nofel hanesyddol am gyfnod Cromwell a’r Rhyfel Cartref yng Nghymru a Lloegr, ac yn America yng nghyfnod sefydlu diwylliant piwritanaidd a’r cysylltiad â’r llwythau brodorol. Mae Rhisiart Dafydd yn Gymro gwyllt sy’n byw trwy newidiadau, siomedigaethau, cyffroadau enbyd.
Ble, felly, Jerry Hunter, y mae, neu efallai, beth yw Y Fro Dywyll?
Mae’r tywyllwch a’r goleuni yn natur y canfyddiad. Roedd y Piwritaniaid Prydeinig a ymsefydlodd yn America yn ...
Morris Morris yn rhoi croeso i ‘Duw yw’r Broblem’
RhagorMorris Morris yn rhoi croeso i ‘Duw yw’r Broblem’
Bu hir ddisgwyl am y gyfrol hon, a da dweud na chefais fy siomi’r un mymryn wrth ei darllen. Ar yr olwg gyntaf, cawn ein taro gan waith cymen Gwasg Carreg Gwalch yn paratoi cyfrol mor ddeniadol, ac yna mae’r clawr …! Ie, y clawr yw’r unig ddirgelwch i mi, gan fod enw’r gyfrol ynghyd â’r cartŵn lliwgar yn beryg o gamarwain y sawl fyddai’n prynu’r gyfrol gan feddwl mai tipyn o herio a thynnu coes crefyddol sydd ynddi! Dim o’r fath beth. Mae’n gyfrol sylweddol, uchelgeisiol hyd yn oed, sydd ...
Chwilio’r Ysgrythurau: Y Daith i Emaus gan Enid Morgan
RhagorChwilio’r Ysgrythurau: Y Daith i Emaus gan Enid Morgan
(Luc 24 : 13–35)
Stori am yr Atgyfodiad yw’r daith i Emaus – neu felly y tybiwn. Ac mae’n arwain yn aml at ddadl ynglŷn â natur y gŵr oedd mor anodd ei nabod, ac a ddiflannodd mor sydyn. Mae’n calonnau ninnau’n cynhesu wrth ddarllen y geiriau: ‘Onid oedd ein calonnau’n llosgi ynom …’ Ond nid yw’r ffaith fod y stori’n annwyl a chyfarwydd yn golygu ein bod ni wedi deall ei hamcan hi. Felly, gan gydnabod dyled enfawr i’m hathro diwinyddol James Alison, rwy am agor drws i ...
Codi Gwên
RhagorCodi Gwên
Cymeriad o bwys cynyddol i Gristnogion blaengar o fewn y byd rhithiol yw David Hayward, neu’r ‘Naked Pastor’. Wedi tyfu lan yn Fedyddiwr, ac wedyn yn Bentecostiad, cyn gweithio fel gweinidog yn un o eglwysi rhwydwaith Vineyard, cyrhaeddodd y Parchedig David Hayward ben ei dennyn yn 2010. Gadawodd y weinidogaeth amser llawn, gan deimlo na allai gynnal ei integriti personol tra bo’r eglwys yn dymuno dibrisio cymaint o ddysg gyfoes. Fodd bynnag, aeth ati i greu gweinidogaeth newydd, a hynny ar y we. Yn ôl yn 2006, roedd eisoes wedi sefydlu gwefan Naked Pastor, lle bu’n ysgrifennu ...