Morris Morris yn rhoi croeso i ‘Duw yw’r Broblem’

Morris Morris yn rhoi croeso i  ‘Duw yw’r Broblem’

Bu hir ddisgwyl am y gyfrol hon, a da dweud na chefais fy siomi’r un mymryn wrth ei darllen. Ar yr olwg gyntaf, cawn ein taro gan waith cymen Gwasg Carreg Gwalch yn paratoi cyfrol mor ddeniadol, ac yna mae’r clawr …! Ie, y clawr yw’r unig ddirgelwch i mi, gan fod enw’r gyfrol ynghyd â’r cartŵn lliwgar yn beryg o gamarwain y sawl fyddai’n prynu’r gyfrol gan feddwl mai tipyn o herio a thynnu coes crefyddol sydd ynddi! Dim o’r fath beth. Mae’n gyfrol sylweddol, uchelgeisiol hyd yn oed, sydd yn ymrafael â’i maes yn drwyadl, ac yn gwneud hynny mewn ffordd hynod afaelgar.

Aled yw awdur y bennod gyntaf, ac os oes beirniadaeth garedig, nid yw’n fwy na bod y bennod wedi dirwyn i ben yn rhy fuan. Mae’r gerdd agoriadol yn gampwaith tyner, a’r bennod sy’n dilyn yn ddeifiol ar brydiau ond yn farddoniaeth drwyddi draw. Mae’n feistr ar drin geiriau, ac yn cyflwyno’i brofiad ysbrydol mewn ffordd gwbl ddiffuant, gan warchod gwerth y trosgynnol, tra’n ymwrthod yn onest â’r goruwchnaturiol …‘A yw “Duw” yn bod? Wrth gwrs. Nid fel “gwrthrych”. Nid fel “enw”. Ond fel “berf”.’ Efallai fod dyfyniad fel hwn yn dangos nad yw pennod Aled bob amser yn hawdd, ond ei bod yn bosib oedi gyda phob brawddeg i ganiatáu iddi ei dylanwad llawn.

Mae gweddill y llyfr, y gyfran fwyaf ohono, yn gynnyrch meddwl praff ac ymchwil arwrol ‘mab y pregethwr’, sef Cynog Dafis.Cynog

Gellid yn hawdd ei gymeradwyo yn unig fel crynhoad hwylus o gynnyrch ystod eang o awduron ar faes cymhleth bodolaeth Duw a hygrededd crefydd.

Mae nifer yr awduron y cyfeirir atynt yn hynod, ac nid pobl sy’n cynhyrchu llyfrau poced ysgafn mo’r rhain, ond meddylwyr blaengar y mae angen amser a chryn amynedd i dreiddio i’w gwaith. Yn hynny, mae llafur a chyfraniad Cynog yn gymwynas enfawr â’r sawl sydd â diddordeb yn y maes.

Mae’n bwrw golwg dros waith ambell awdur o Gymro sydd wedi codi cwr y llen ar ei amheuon personol, megis T. Gwynn Jones a Tegla, neu wedi ceisio gwthio’r llong ymhellach i’r dŵr, megis J. R. Jones. Ond ni chyfyngwyd ei orwelion i’n gwlad fach ni, gan i ddadleuon Richard Dawkins gael lle amlwg a haeddiannol yn y gyfrol. Yma y gwelir Cynog ar ei orau, sef ei fod yn medru crynhoi a chyflwyno dadleuon awduron eraill, heb eu derbyn yn wasaidd na chwaith eu beirniadu’n ddidrugaredd. Daw hynny i’r amlwg yn gliriach fyth pan aiff ati i drafod cyfraniad pobl megis John Houghton a Richard Swinburne, gan roi iddynt ofod teg a chyflwyno’u safbwynt mewn ffordd werthfawrogol a bonheddig, er ei fod maes o law yn gorfod anghytuno â llawer o’u casgliadau. Noder hefyd nad yw yn brin o weld gwendidau amlwg yn nadleuon ac ymagwedd Dawkins hefyd.

Pe gofynnid i mi gloriannu prif gryfder y gyfrol tu hwnt i’r hyn ddywedais eisoes, rwy’n sicr mai’r peth amlycaf fyddai na theimlais ar un dudalen fod yna ymagwedd bregethwrol, ‘efengylaidd’, i geisio fy ennill i ryw safbwynt hoff gan yr awduron. Roedd y cyflwyno bob amser yn gadarn ond yn hynod ddiymhongar hefyd, heb fyth syrthio i’r gwter ddilornus ac ymosodol y mae Richard Dawkins yn llithro iddi yn rhy aml! Na, gwŷr bonheddig yw’r awduron hyn, ac mae hynny’n gaffaeliad mawr wrth i lawer darllenydd gael ei arwain i dir newydd, anghyfarwydd ac anghysurus.

Amheuon am y clawr

Rhaid dweud drachefn, serch hynny, fod natur y clawr yn debyg o ddenu ambell ddarllenydd fydd yn torri ei galon cyn cyrraedd y bennod olaf. Ni wn yn iawn faint o drafod synhwyrol sydd ar grefydd bellach, ac fe ymddengys i mi fod yn rhaid wrth fesur o ddiddordeb yn y maes, a mesur hefyd o ymwybyddiaeth o gynnyrch y gwahanol awduron y cyfeirir atynt, i dderbyn y fantais lawn o’r gyfrol ryfeddol hon.

Wedi dweud hynny, yr wyf yn ddiolchgar amdani, yn wir ddiolchgar. Does yr un gyfrol arall yn y Gymraeg y gwn amdani sy’n dweud ar goedd gymaint o’r hyn mae cynifer ohonom yn ei deimlo. Gobeithio’n wir y bydd yn dechrau sgwrs dyner a deallus ar ‘dduw’ a chrefydd ymhlith y Cymry. Ni fedraf lai na chredu mai dyna ei bwriad.