Blas o rai o gyfweliadau ‘Third Way’

Blas o rai o gyfweliadau ‘Third Way’

Michael Eavis, sylfaenydd, cyfarwyddwr, a gwestai Gŵyl Glastonbury ar ei dir yn flynyddol – cyfweliad yn rhifyn Medi/Hydref 2015:

Michael Eavis

Michael Eavis

Cefais fy magu’n Fethodist ac rwy’n dal yn Fethodist. Mae tri neu bedwar gweinidog yn y teulu … braidd yn hen ffasiwn oeddan nhw, ond … roedden nhw’n solet, gadarn. Rydw i’n mynd i’r capel bob bore Sul (mae tua 35 ohonom) ac mae hynny’n arbennig o bwysig i mi … yn arbennig y mawl … Er mai digon amwys yw fy nghred, fe wn mai o’r fan yma y daeth fy sosialaeth ac mae’r gred yn Nuw fel Creawdwr yn fy llonni yn gyson … dim ond gobeithio’i fod yn fy ngwneud innau’n hael a llon fy ysbryd hefyd.

(O.N. Mae’n werth nodi mai’r un oedd yn cyfweld Michael Eavis oedd wedi darganfod yn ei ymchwil fod Glastonbury yn codi £2 filiwn yn flynyddol i elusen, ac nid elusennau mawr fel Oxfam a Greepeace yn unig ond nifer o rai lleol hefyd. Nid yw Michael Eavis chwaith wedi derbyn yn gyson y £60,000 blynyddol, sef ei gyflog fel cyfarwyddwr yr ŵyl)

Jurgen Moltmann, diwinydd Almaenig, awdur Diwinyddiaeth Gobaith (1964), Y Duw Croeshoeliedig (1972), Moeseg Gobaith (2012) a nifer o gyfrolau eraill – cyfweliad yn rhifyn mis Mehefin 2012:

Moltmann

Jurgen Moltmann

Yn 1943 yr oeddwn yng nghanol Hamburg, a chatrawd o filwyr o’m cwmpas a miloedd o bobl yn marw yn y storm-dân, pan waeddais ar Dduw am y tro cyntaf: ‘Ble rwyt ti ?’ … Ond mae pobl yn parhau i gael eu rhyddhau o nos dywyll yr enaid gan y cariad sy’n gwbwl ddiamod. Felly y digwyddodd i mi wedi nos dywyll y rhyfel yn yr Almaen, ac fe ddigwyddodd mewn tair ffordd. Yn gyntaf, y goeden geirios yn blodeuo yng ngwlad Belg ym Mai 1945, a minnau’n garcharor rhyfel, ac yn creu ynof ymdeimlad dwfn o fywyd yn dilyn tywyllwch ac oerni carchar rhyfel. Yna, dynoliaeth fawr gweithwyr yr Alban a’u teuluoedd lle bûm hefyd yn garcharor rhyfel. Ac yna, y Beibl a gefais gan gaplan y  carchar  … a darllen Efengyl Marc yn arbennig. Yr efengyl hon a wnaeth Iesu yn fwy presennol ac yn fwy meidrol, yn fwy nag a wna Efengyl Ioan, er enghraifft. A’i roi’n syml, roedd yr Iesu a welais ym Marc yn fwy o frawd i mi.