AGORA Mis Mehefin 2016
Cliciwch yma i weld y rhifyn pdf: Agora Mehefin
Medrwch argraffu’r fersiwn pdf uchod o’r cylchgrawn Agora, neu ei darllen ar y sgrin yn ei ffurf bresennol fel pdf, yn union fel pebai’n gopi print, neu medrwch ddewis darllen yr erthyglau yn ddigidol o fewn eich porwr, gan sgrolio i lawr i weld pob erthygl yn unigol a rhyngweithiol:
Cynnwys Rhifyn 3 (Mis Mehefin) (Cliciwch ar y teitl i ddewis yr erthygl neu sgrolio i lawr nes y dewch ati)
Golygyddol Enid Morgan
Cwymp Icarus John Gwilym Jones
Atgyfodi Tabitha Dawn Hutchinson
Symud Ymlaen (Vivian Jones) Gwerthfawrogiad gan Pryderi Llwyd Jones
Holi a Gwrando Tecwyn Ifan
At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd Eileen Davies
Y Tad Daniel Berrigan Erthygl Goffa
Golygyddol
RhagorMwynhad a lwc y We
Mae golygu neu ysgogi cylchgrawn yn gymysgwch rhyfeddaf o rwystredigaeth a chyffro. Stryffaglu i gael ambell gyfrannwr i gadw addewid, ac yna rhodd rasol o enw a phersonoliaeth newydd a chyfraniad yn gytgordio’n hapus ag amcanion Agora.
Yn Agora2 cyfeiriais at anerchiad gwefreiddiol gan Esyllt Maelor yn ein hencil yn Nant Gwrtheyrn. Soniodd, a hithau mewn galar ar ôl colli ei mab, Dafydd, am y ffordd y daeth y geiriau ‘Tabitha Cwmi’ yn gyfrwng cysur ac ysbrydiaeth iddi. Trwy ‘gyd-ddigwyddiad’ roeddwn wrthi ryw bythefnos yn ddiweddarach yn chwilio am ...
‘Icarus’ (Pieter Brueghel)
RhagorMyth yn llefaru wrthym
gan John Gwilym Jones
Fel y byddai Iesu yn defnyddio grym dameg ac alegori, felly y byddai awduron yr Hen Destament yn defnyddio mytholeg i ddysgu am Dduw a’i berthynas â dyn. Un enghraifft amlwg yw hanes y creu yn Llyfr Genesis. Ond mae yna awduron eraill wedi gweld fod myth yn medru cyfleu ambell wirionedd oesol.
Defnyddiodd y bardd Lladin Ovid (43CC–17AD) gorff o fythau i ddarlunio cwrs hanes o’r creu hyd at farw Julius Cesar a’i ddwyfoli. Ymhlith y 250 ...
Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones
RhagorSymud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones
Gwerthfawrogiad Pryderi Llwyd Jones
I aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae’r geiriau ‘Symud ymlaen’ yn gyfarwydd fel enw ar gynllun i ‘ailstrwythuro’r gyfundrefn’. Dyna hefyd oedd teitl y ddogfen i hyrwyddo undod rhwng yr enwadau Anghydffurfiol ddiwedd y 90au – gobaith sydd yn fwriadaol yn cael ei anghofio erbyn hyn. Yn y gyfrol hon mae i’r geiriau ystyr lawer pwysicach. Dyma ddau ddyfyniad:
“Pan ddechreuais fy mhererindod, yn naturiol i ...
At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd
RhagorDathlu’r Wythnos Fawr yn Nyffryn Aeron a’r Fro
At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd
gan Eileen Davies
Yr Wythnos Fawr, yn sicr yr wythnos fwyaf yng nghalendar pob Cristion. Dyma’r wythnos lle mae yna gwestiynau mawr yn cael eu holi, o beth yn union ry’n ni’n credu ynddo, i bwysigrwydd y Groes a Sul y Pasg. Beth mae Gwener y Groglith a’r Atgyfodiad yn ei olygu i Gristnogion heddiw? Beth mae’n ei olygu i fyd seciwlar sydd am fwynhau gwyliau o’r gwaith beunyddiol heb ystyried ...
Pytiau
RhagorPYTIAU
Mae gwadu’r Drindod yn beryg i’n hiachwdwriaeth; mae ceisio egluro’r Drindod yn beryg i’n pwyll. (-Martin Luther)
Nid yw crefydd yn bennaf yn set o gredoau, nac yn gasgliad o weddïau, nac yn gyfres o ddefodau. Y mae crefydd yn gyntaf ac yn bennaf yn ffordd o weld. All e ddim newid y ffeithiau am y byd yr ydyn ni’n byw ynddo, ond gall newid y ffordd yr ydyn ni’n gweld y ffeithiau, ac mae ...
Atgyfodi Tabitha
RhagorATGYFODI TABITHA
Actau 9:36 – 41
Dawn Hutchinson
Dyrchafu Cariad: y mwy na’r llythrennol
Tybed a oes modd adrodd straeon am yr atgyfodiad mewn ffordd fydd yn ein trawsnewid ni i fod yn ddilynwyr Iesu all fwydo, daearu a chynnal y math o dangnefedd y mae’r byd yn dyheu amdano?
Rwy’n credu ei bod yn hanfodol i bregethwyr gyfleu bod cynulleidfaoedd yn gallu gollwng gafael ar lawer o ddehongliadau o’r ysgrythur sy’n sarhad ar eu crebwyll, er mwyn chwilio i gyfoeth yr ystyr ‘mwy na llythrennol’. (Marcus Borg)
Petawn i’n dweud ...
Holi a Gwrando
RhagorHoli a Gwrando
Tecwyn Ifan yn disgrifio ffordd newydd o fod yn fugail
Aeth bron i bum mlynedd heibio ers i mi gael fy lleoli ym Mlaenau Ffestiniog gan Gymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion fel Ysgogwr. Cynllun arbrofol oedd hwn, gyda’r bwriad o geisio cwrdd â phobl yn y man lle roedden nhw ar eu taith ysbrydol. Dechreuwyd trwy gomisiynu arolwg ar agweddau pobl yr ardal tuag at bethau crefyddol ac ysbrydol.
Cafwyd ...
Gwerthfawrogiad o gyfraniad Y Tad Daniel Berrigan
Rhagor“Don’t just do something, stand there!”
Geiriau rhyfedd y Tad Daniel Berrigan, a fu farw ar 30 Ebrill yn 94 oed yn Efrog Newydd.
Ym mhle y gwelir y geiriau isod o eiddo Berrigan?
Fe aethom â’n morthwylion bychan (a’n dewrder llai) gyda ni ac ar 9 Medi 1980 fe aethom i mewn i safle General Electrics ym Mhensylfania. Yno, mewn safle eang o siediau anferth roedd y taflegryn Mark A (‘a first strike nuclear horror’) yn barod i’w gludo i Amarillo, Texas. A chyda’n morthwylion ...