Gwerthfawrogiad o gyfraniad Y Tad Daniel Berrigan

“Don’t just do something, stand there!”

Geiriau rhyfedd y Tad Daniel Berrigan, a fu farw ar 30 Ebrill yn 94 oed yn Efrog Newydd.

Ym mhle y gwelir y geiriau isod o eiddo Berrigan?

Fe aethom â’n morthwylion bychan (a’n dewrder llai) gyda ni ac ar 9 Medi 1980 fe aethom i mewn i safle General Electrics ym Mhensylfania. Yno, mewn safle eang o siediau anferth roedd y taflegryn Mark A (‘a first strike nuclear horror’) yn barod i’w gludo i Amarillo, Texas. A chyda’n morthwylion bychan buom yn gwneud tolc ar drwyn tri thaflegryn. Fe garcharwyd y naw ohonom am weithred fechan yn erbyn drygioni llawer iawn mwy.

Berrigan

Y Tad Daniel Berrigan © Thomas Good

 

Mae’n gwestiwn anodd am fod Berrigan wedi ysgrifennu dros 50 o lyfrau, yn farddoniaeth, ysgrifau, erthyglau ac esboniadau. Yr olaf yw’r cliw i’r dyfyniad. Go brin bod unrhyw esboniad arall ar lyfr y proffwyd Eseia wedi cynnwys geiriau o’r fath gan yr awdur. Y digwyddiad y cyfeirir ato oedd dechrau’r mudiad Plowshare yn America, wedi’i ysbrydoli gan eiriau Eseia am droi ‘cleddyfau yn geibiau a’u gwaywffyn yn grymanau’ (Eseia 2; Meica 4).

 

 

Ond roedd Berrigan wedi dod i sylw’r wlad cyn hynny pan losgodd ef ac wyth arall (gan gynnwys ei frawd, Phylip) bapurau consgriptio 300 o ieuenctid America i’r rhyfel yn Fietnam.  Fe’i carcharwyd am dair blynedd am ddinistrio eiddo’r Llywodraeth (y papur). ‘Maddewch i ni,’ meddai Berrigan wrth y llys, ‘am siglo’r drefn a llosgi papur yn hytrach na phlant. Ni allwn, Duw a’n helpo, wneud yn wahanol.’ Bu’r ymgyrch honno yn hir a chostus, ond, yn y diwedd, bu raid i America ddod o Fietnam. Meddai yn ei hunangofiant, To dwell in peace:Roedd y weithred honno yn bitw – tân a fflamau bychain o’i gymharu â choelcerth ddinistriol y rhyfel. Ond o edrych yn ôl roedd y tân bychan hwnnw wedi goleuo mannau tywyll y galon, lle mae dewrder a gobaith yn disgwyl am wawr.’

Eseia: ysbryd dewrder, rhodd o ddagrau yw teitl esboniad grymus Berrigan ar Eseia. A dyma gyfraniad mawr Daniel Berrigan i’r dystiolaeth Gristnogol. Fe fydd llawer yn ei gysylltu â’r hyn a’i gwnaeth i fod yr offeiriad Catholig cyntaf i’w garcharu. ‘For the first time,’ meddai yn ei ddyddiadur yn ystod y carchariad hwnnw, ‘I put on the prison blue jeans and denim shirt; a clerical attire I highly recommend for a new church.’ Treuliodd ddeng mlynedd yng ngharchar yn ystod ei fywyd. Bu ei ddylanwad yn fawr ar yr ymgyrchoedd yn America’r 60au a’r 90au. Neilltuwyd clawr rhifyn o’r Time iddo – rhywbeth a ystyrir yn ‘anrhydedd’ yn America, a does dim amheuaeth na fu Berrigan yn bennaf cyfrifol am arwain ymgyrchoedd grymus yn erbyn arfau niwclear ac iddo gario’i argyhoeddiad o Gristnogaeth radical i bob rhan o’r byd.

Ond nid dyna gyfrinach ei ddylanwad. Fe ysgrifennodd dros ugain o esboniadau.

Bu’n Athro Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Ysgrythurol. Fe fu’n byw mewn mwy nag un gymuned o’r Jesiwitiaid, â’u pwyslais ganolog ar fyfyrdod a gweddi. Bu hefyd yn gaplan mewn cartref i dlodion ac yn gaplan i bobl oedd yn marw o ganser ac Aids. Ar sail y profiadau hynny yr ysgrifennodd y cyfrolau cyfoethog Yr ydym yn marw cyn byw a Galar a gododd y bont. Mae’n werth cyfeirio at ddwy gyfrol arall hefyd, sef Minor prophets, major themes a Whereon to stand (Acts of the Apostles).

TimeA dyna ddod at deitl yr erthygl hon: Don’t just do something, stand there! Gŵr o weddïo dwfn oedd Daniel Berrigan – yn edrych, fel y Daniel arall, bob amser â’i ffenestri yn agored i gyfeiriad ei Dduw. Mewn geiriau eraill, gweddi a myfyrio ar y Beibl oedd sylfaen y radicaliaeth a’i gwnaeth yn ddraenen yn ystlys byd ac eglwys.

Arhoswch, oedd ei alwad; myfyriwch, ystyriwch, plygwch, os ydych am newid y byd a’i werthoedd ac am wynebu teyrnasoedd daear gyda theyrnas Dduw. Dyma oedd Eseia a Jeremeia, Amos a Hosea – gwŷr a blygodd yn ostyngedig o flaen Duw ac a heriodd frenhinoedd a llywodraethau gyda’u geiriau a’u gweithredoedd eithafol a oedd yn golygu mai eithafwyr, clowns a gwrthryfelwyr oeddynt.

Yn 1964 aeth Berrigan ac eraill ar encil dan arweiniad Thomas Merton i Abaty Gethsemani. Bu’r encil honno’n un bwysig i Berrigan a Merton. Roedd Merton yn cael ei ystyried yn un a gyfunodd neu a gyfannodd ysbrydolrwydd dwfn â gweithredu radical, a daeth yn ddylanwad mawr ar eraill. Ond fe gafodd Berrigan ddylanwad mawr arno yntau hefyd, ac meddai am Berrigan: ‘zeal, compassion, understanding and uninhibited religious freedom. Just seeing him restores one’s hope in the church.’

Credai Daniel Berrigan fod Duw yn trawsnewid ei eglwys yn ei fyd ac yn trawsnewid ei fyd drwy ei eglwys. Diolchwn i Dduw amdano a’i gyfraniad golau yn y trawsnewid hwnnw.