Archifau Categori: Agora3

Agora Mehefin 2016

Golygyddol

Mwynhad a lwc y We

Mae golygu neu ysgogi cylchgrawn yn gymysgwch rhyfeddaf o rwystredigaeth a chyffro. Stryffaglu i gael ambell gyfrannwr i gadw addewid, ac yna rhodd rasol o enw a phersonoliaeth newydd a chyfraniad yn gytgordio’n hapus ag amcanion Agora.

Yn Agora2 cyfeiriais at anerchiad gwefreiddiol gan Esyllt Maelor yn ein hencil yn Nant Gwrtheyrn. Soniodd, a hithau mewn galar ar ôl colli ei mab, Dafydd, am y ffordd y daeth y geiriau ‘Tabitha Cwmi’ yn gyfrwng cysur ac ysbrydiaeth iddi. Trwy ‘gyd-ddigwyddiad’ roeddwn wrthi ryw bythefnos yn ddiweddarach yn chwilio am adnoddau pregeth ar Actau 9: 31–4. Dechreuais o wefan Progressive Christianity a gwasgu rhyw fotymau addawol yr olwg, a gweld cyfeiriad at y testun ar wefan broffesiynol iawn yr olwg dan yr enw, braidd yn anaddawol, fel y tybiwn ar y pryd, pastordawn.com.

Roedd hi’n bregeth ardderchog, yn mynd at y testun gyda thrylwyredd a dirnadaeth benigamp.

Pastor Dawn

Pastor Dawn Hutchinson

Mae’r Pastor Dawn Hutchinson yn blaen ac yn onest yn dweud nad yw rhai o straeon y Testament Newydd yn hanesyddol, hynny yw, yn ffeithiol wir. Ond mae hi’n argyhoeddedig bod ystyr a gwirionedd yn y straeon hynny. Wrth gymryd anadl ddofn i fagu’r plwc i ddweud: ‘Dw i ddim yn credu honna’, beth sy eisiau wedyn yw’r plwc a’r dyfalbarhad i ymaflyd codwm â’r testun (fel Jacob gyda’r angel); mae angen parchu ysgolheictod er mwyn i’r ‘gwirionedd uwch’ ddod i’r golwg a throi’n ‘Air Bywiol’ sy’n treiddio i’n calonnau yn ogystal â’n hymennydd.

Rhaid i ni beidio â chredu bod yr ysgrythurau wedi’u cyfyngu i ystyr lythrennol. Rhyw dybiaeth go fodern a chenhedlig yw honno. Gwir mai cyfyng yw’n crebwyll, ond Duw a’i rhoddodd i ni, a’n dyletswydd yw ei fwydo, ei ddisgyblu a’i ddefnyddio. Pan yw rhywun lleyg heb gymhwyster mewn astudiaethau beiblaidd yn holi: ‘Sut y

penderfynwyd pa lyfrau fyddai’n mynd i mewn i’r Testament Newydd?’, dyw ateb x, ‘Yr Ysbryd Glân’, ddim yn gwneud y tro.

Ateb diog ydyw ac nid ateb deallus i gwestiwn didwyll a chall.

Dyna felly sail i frwdfrydedd Golygydd Agora wrth ddarganfod gwefan, blog, adnoddau litwrgaidd, ayyb, gan Dawn Hutchinson.

Dyma fi felly, fel golygydd cydwybodol a gonest, yn lle codi defnydd da heb gydnabod y ffynhonnell, yn gyrru nodyn at y wefan yn egluro pam roeddwn i’n awyddus i ddefnyddio’r bregeth, a’i haddasu ychydig at ein cefndir ni yng Nghymru.

 A dyma neges ’nôl mewn rhyw ddwyawr o ardal i’r gogledd o Toronto yng Nghanada: ‘My father is Welsh (from Tredegar) and although the Welsh language is all but lost to our family, I know that he will be delighted to know that some small contribution to a Welsh-speaking community might find its way across the digital landscape back to Wales. Tangnefedd gyda chwi.’

Yn y dyfodol rwy’n siŵr y byddai’n benthyca gan pastordawn. Yn y cyfamser, cyfarchion iddi hi ac i’w thad, a diolch iddi hi am ei hymateb cynnes.

https://pastordawn.com/

 

Pytiau

PYTIAU

 

Mae gwadu’r Drindod yn beryg i’n hiachwdwriaeth;
mae ceisio egluro’r Drindod yn beryg i’n pwyll.
(-Martin Luther)

 

Nid yw crefydd yn bennaf yn set o gredoau, nac yn gasgliad o weddïau, nac yn gyfres o ddefodau. Y mae crefydd yn gyntaf ac yn bennaf yn ffordd o weld. All e ddim newid y ffeithiau am y byd yr ydyn ni’n byw ynddo, ond gall newid y ffordd yr ydyn ni’n gweld y ffeithiau, ac mae hynny weithiau ynddo’i hun yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn.

(-Rabbi Harold Kushner yn Who Needs God?)

Mynnwch feithrin tangnefedd ynoch eich hunan,
yna fe allwch ei rannu â phobl eraill.
(-Thomas à Kempis)

Duw yw popeth sy’n dda. Duw wnaeth bopeth a wnaed ac mae Duw yn  caru pob rhan ohono. Os wyt yn caru pawb oherwydd cariad Duw, fe fyddi di’n caru popeth sydd, am dy fod yn caru’r creawdwr. Canys y mae Duw ym mhob person, a phob person yn Nuw. Os wyt yn caru yn y ffordd hon, fe fyddi di’n caru popeth.

(-Julian o Norwich 1342–1416)

BENDITH

Cariad yw Duw ac y mae Cariad yn drech na ffiniau.
Does dim terfynau i Atgyfodiad, felly byddwch byw ynddo nawr.
Rhowch eich hyder nawr yn yr hyn sydd y tu hwnt i eiriau, 
Bydd Duw yr hyn a fyddo Duw.
IHWH yr ‘Ydwyf’ Mawr,
Crist sy’n gariad Duw,
A’r Ysbryd Glân sy’n anadlu’r bywyd dwyfol 
Yn a thrwy bawb sy’n credu mewn cariad.
Amen
              Gweddi'r Arglwydd
              (Dehongliad Posib:)
Ti, yr Un sy’n esgor ar y Cread,
Canolbwyntia dy oleuni ynom ni a’i wneud yn ddefnyddiol:
Crea deyrnas unedig yn awr –
A bydd dy chwennych di yn cydweithredu â’n chwennych ninnau
ym mhob goleuni, ym mhob ffurf.
Dyro i ni heddiw yr hyn sydd arnom ei angen mewn bara a dirnadaeth.
Datod gortynnau’r camsyniadau sy’n ein rhwymo
Wrth i ni ollwng gafael ar edafedd euogrwydd pobl eraill.
Paid â gadael i bethau arwynebol ein twyllo
Ond gwared ni rhag y pethau sy’n ein dal ’nôl,
Oddi wrthyt ti y genir pob bwriad lywodraethol,
Y nerth a’r bywyd i weithredu,
Y gân sy’n harddu popeth
Ac yn adnewyddu popeth o genhedlaeth i genhedlaeth.
Yn wir, bydded i hyn i gyd – trwy’r gosodiadau hyn
Fod yn dir y bydd fy holl weithredoedd yn tyfu ynddo:
Amen

 

 

 

 

 

 

 

‘Icarus’ (Pieter Brueghel)

Myth yn llefaru wrthym 

gan John Gwilym Jones

Icarus

Cwymp Icarus (Pieter Brueghel) (Amgueddfeydd Brenhinol Celfyddyd Gain Gwlad Belg)

Fel y byddai Iesu yn defnyddio grym dameg ac alegori, felly y byddai awduron yr Hen Destament yn defnyddio mytholeg i ddysgu am Dduw a’i berthynas â dyn. Un enghraifft amlwg yw hanes y creu yn Llyfr Genesis. Ond mae yna awduron eraill wedi gweld fod myth yn medru cyfleu ambell wirionedd oesol.

Defnyddiodd y bardd Lladin Ovid (43CC–17AD) gorff o fythau i ddarlunio cwrs hanes o’r creu hyd at farw Julius Cesar a’i ddwyfoli. Ymhlith y 250 a mwy o chwedlau a ddefnyddir ganddo y mae hanes Daedulus a’i fab, Icarus. Roedd y ddau wedi eu carcharu ar ynys Creta ac yn hiraethu am ffoi. Ond roedd pob ffordd ar dir a môr wedi eu cau rhagddyn nhw. Dechreuodd Daedalus feddwl am yr awyr. Fe luniodd adenydd o blu ar eu cyfer, wedi eu glynu wrth ei gilydd â chŵyr ac edau, fel y gallent hedfan i’r entrychion a chyrraedd adre.

“Cofia,” meddai ei dad wrtho, “cadw at y lefel ganol, ddim yn rhy uchel na rhy isel.”

Ond wedi dechrau hedfan fe ddechreuodd Icarus orfoleddu mewn ecstasi yn uchder ei daith.

Roedd ffarmwr yn aredig islaw, a bugail a physgotwr wrth eu gwaith, wedi ei weld a’i edmygu fel petai’n dduw. Eithr oherwydd ei ysfa am yr uchelfannau fe hedfanodd Icarus yn rhy agos at yr haul nes i’r cŵyr doddi a’r plu ryddhau. A chan weiddi enw ei dad, mae’n plymio i’r môr a boddi.

Fe baentiwyd llun gan Pieter Brueghel (1525–69) – mae rhai’n dadlau ai’r llun gwreiddiol ydyw’r un sydd ar gael, ai copi – yn darlunio Icarus yn disgyn i’r môr. Mae’r llun yn ffyddlon i gerdd Ovid yn dangos y pysgotwr a’r bugail a’r ffarmwr yn aredig. Ond lle mae Ovid yn dweud eu bod wedi ei weld yn uchelfannau ei orchest, yn llun Pieter Brueghel does yr un o’r tri yn gweld y boddi.

Mae’r ffarmwr yn aredig â’i gefn ato, mae’r bugail yn syllu tua’r awyr ond â’i gefn at y boddi, a’r pysgotwr a’i lygaid i lawr ar y dŵr wrth law ac nid ar y boddi yn y môr draw.

Fe gyfansoddwyd cerddi am Icarus gan wahanol feirdd, gan gynnwys Gwenallt yn Gymraeg. Ond ceir hefyd ddegau o gerddi mewn gwahanol ieithoedd yn dehongli neges llun Pieter Brueghel. Un o’r enwocaf yw eiddo W. H. Auden:

Musee des Beaux Arts’:  

About suffering they were never wrong,

The old Masters: how well they understood

Its human position: how it takes place

While someone else is eating or opening a window or just walking dully along;

How, when the aged are reverently, passionately waiting

For the miraculous birth, there always must be

Children who did not specially want it to happen, skating

On a pond at the edge of the wood:

They never forgot

That even the dreadful martyrdom must run its course

Anyhow in a corner, some untidy spot

Where the dogs go on with their doggy life and the torturer’s horse

Scratches its innocent behind on a tree.

 

In Breughel’s Icarus, for instance: how everything turns away

Quite leisurely from the disaster; the ploughman may

Have heard the splash, the forsaken cry,

But for him it was not an important failure; the sun shone

As it had to on the white legs disappearing into the green

Water, and the expensive delicate ship that must have seen

Something amazing, a boy falling out of the sky,

Had somewhere to get to and sailed calmly on.

 

Enghraifft arall yw eiddo William Carlos Williams:

‘Landscape with The Fall of Icarus’

According to Brueghel
when Icarus fell
it was Spring

a farmer was ploughing
his field
the whole pageantry

of the year was
awake tingling
near

the edge of the sea
concerned
with itself

sweating in the sun
that melted
the wings’ wax

unsignificantly
off the coast
there was

a splash quite unnoticed
this was
Icarus drowning.

O’r holl gerddi i’r llun hwn a welais i mewn cyfieithiadau, maent i gyd yn dilyn yn fras yr un dehongliad: fod trasiedi neu drychineb wedi digwydd, a’r byd yn mynd yn ei flaen yn ddihidio. Ond y mae yna un eithriad, un gerdd gan un bardd, sy’n ddehongliad hollol wahanol. Ac mae’r bardd hwnnw wedi trosi gorchest Icarus yn orchest fodern y wennol ofod:    

               ‘Daear’ (Sgubo’r Storws, t.37)

Ddoe yr aeth gwennol ofod i ffwrdd ar gefn ei mwy,
ac arddwr yn troi’r gwndwn yn gweld eu myned hwy,
ond ni sylwodd y teledydd ar y fwyaf gwyrth o’r ddwy.

Heddiw mae’r wennol ofod mewn hangar wedi’i rhoi,
a’r egin eto’n glasu lle bu’r arddwr yn ymroi;
y sawl sy’n trin y ddaear sy’n cadw’r byd i droi.

Y bardd hwnnw yw Dic Jones. Yn ôl dehongliad Dic, y mae camp Icarus yn wyrth dros dro, ond y mae gwaith y ffermwr a’i aradr yn fwy o wyrth ac yn bwysicach gwyrth ar gyfer bywyd y byd. Mae’r dehongliad yna yn ein harwain ymlaen at arwyddocâd dyfnach fyth. Ym myd crefydd bydd dyn yn ymdrechu i gyrraedd Duw drwy athrawiaeth neu ddefosiwn neu weddi neu ympryd. Fe all yn wir gyrraedd yr uchelfannau gorfoleddus yn ei olwg ei hun. Fe all, fel y Mwslim eithafol, modern, neu fel Cristnogion gorffwyll y Croesgadau, gyrraedd rhyw sicrwydd ei fod yn agos at Dduw.

Ond i grefyddwyr fel y rheini y mae’r gwres yn sicr o’u lladd yn hwyr neu’n hwyrach, a’u holl ymgyrchu penboeth yn dod i ddim, fel yr oerodd Diwygiadau yng Nghymru mewn ychydig flynyddoedd. Dyna dynged Icarus yn yr hen chwedl, ac y mae uchel gampau crefyddwyr eithafol a threisgar yr oesoedd mewn gwirionedd yn amherthnasol i deyrnas Dduw. Y maent, fel boddi Icarus, ar ymyl y llun.

Eithr ar lefel llawr y ddaear fe gawn gymeriad arall y chwedl, y ffermwr yn aredig, a’i waith yn arwain at wyrth yr egino wedyn. Ble y gwelwn hwnnw ond yn y Bregeth ar y Mynydd, yn nilynwyr Iesu sy’n troi’r foch arall, yn caru cymydog, yn cerdded yr ail filltir. Dyna’r rhai sy’n hanfodol yng ngwaith teyrnas Dduw, ac yn eu bywydau hwy y mae’r wir wyrth. Yn eu bywydau hwy y bydd cariad a gras yn egino. Ac oherwydd dehongliad Dic Jones dyna welaf i bob tro yn y llun.

 

 

Atgyfodi Tabitha

ATGYFODI TABITHA

Actau 9:36 – 41

Dawn Hutchinson

Dyrchafu Cariad: y mwy na’r llythrennol

Tybed a oes modd adrodd straeon am yr atgyfodiad mewn ffordd fydd yn ein trawsnewid ni i fod yn ddilynwyr Iesu all fwydo, daearu a chynnal y math o dangnefedd y mae’r byd yn dyheu amdano?

Rwy’n credu ei bod yn hanfodol i bregethwyr gyfleu bod cynulleidfaoedd yn gallu gollwng gafael ar lawer o ddehongliadau o’r ysgrythur sy’n sarhad ar eu crebwyll, er mwyn chwilio i gyfoeth yr ystyr ‘mwy na llythrennol’. (Marcus Borg)

Ewig Dorcas

Ewig Dorcas

Petawn i’n dweud stori am gwrdd â dynion bach gwyrdd wrth fynd am dro, fyddech chi ddim yn fy nghredu, na fyddech? Ac eto ry’ch chi’n teimlo y dylech chi gredu’r straeon yn y Beibl fel petaen nhw’n sôn am ffeithiau. Beth am stori’r Apostol Pedr yn codi Tabitha o farw’n fyw? Ein profiad ni yw fod rhywun sy wedi marw yn parhau’n farw.

Mae’r stori’n dweud bod Tabitha wedi marw, bod ei ffrindiau wedi golchi ei chorff a’i rhoi i orwedd mewn goruwchystafell. Dywed y stori fod Pedr wedi anfon pawb allan o’r ystafell, wedi penlinio a gweddïo a dweud: ‘Tabitha, saf ar dy draed.’ (Tabitha cum). A dyna wnaeth hi. Oni bai ei bod hi yn y Beibl, fydden ni ddim yn credu’r stori. Ac rwy’n amau bod y mwyafrif ohonon ni ddim yn credu bod pethau wedi digwydd yn union fel y mae’r Beibl yn dweud. Ydych chi?

Mae straeon fel hon am Tabitha yn peri anesmwythyd i lawer ohonom. A straeon fel hyn sy’n ei gwneud mor anodd delio â’r Beibl. Yn ôl yr ysgolhaig Marcus Borg: ‘Yn yr hanner canrif diwethaf mae mwy o Gristnogion wedi gadael yr eglwys oherwydd y Beibl nag am unrhyw reswm arall.’

Dyw pobl ddim yn sylweddoli mai ffordd fodern, newydd, ac nid ffordd draddoddiadol o ddarllen y Beibl, yw llythyrenoldeb; ac mae llythyrenoldeb arwwynebol wedi cloi pobl y ganrif hon mewn bocs sy’n eu gorfodi i wrthod y Beibl fel ffynhonnell doethineb. O ddechrau Cristnogaeth deallwyd yr ysgrythurau fel cymysgwch cymhleth o’r hanesyddol, y metafforaidd, yr alegorïaidd a’r symbolaidd sy’n adlewyrchu’r berthynas rhwng y Creawdwr a’r greadigaeth.

Dim ond ers rhyw ddwy ganrif y datblygodd y syniad bod yn rhaid derbyn straeon y Beibl fel hanesion ffeithiol. Nid yw’r straeon am y creu yn Llyfr Genesis yn ddim ond copa’r mynydd rhew hwnnw sy’n boddi cred y ffyddloniaid. Maen nhw’n methu diosg eu crebwyll wrth ddrws y capel ac mae llawer o Gristnogion wedi gwrthod croesi’r trothwy. Maen nhw wedi hen roi’r gorau i ystyried testunau sy’n dod o oes a fu. O ganlyniad, mae llawer o Gristnogion yn glynu wrth y Beibl ac yn ofni y bydd cydnabod nad yw rhyw ddigwyddiad yn llythrennol wir yn dymchwel y tŷ o gardiau’n llwyr.

Ac felly, mae dadlau am ffeithiol gywirdeb y Beibl yn bwrw cysgod dros y ddoethineb sydd yn y testunau sanctaidd. Rwy’n credu bod cyfyngu’r stori arbennig hon i ddewis rhwng credu a wnaeth Pedr atgyfodi Tabitha’n gorfforol ai peidio yn ein dallu rhag gweld y gwirionedd yn y testun.

Gadewch i ni chwilio am y gwirionedd ‘mwy na llythrennol’.

Yn gyntaf, mae’r ffaith bod y stori’n digwydd yn Joppa yn hysbysu’n eglur i ddarllenwr o ddiwedd y ganrif gyntaf fod Pedr yn mentro o’r byd Iddewig i fyd y cenhedloedd, i gymdeithas gymysg iawn. O Joppa y dihangodd Jona gynt rhag gorchmynion Duw, ac ystyrid Joppa yn rhyw fath o ben draw byd y grefydd Iddewig. Down yn ôl at fater ffiniau yn y man.

Ond mewn hen destunau o bob math sylwch fod enwau’n bwysig iawn. Mae Adda’n golygu ‘llwch’, ac Abraham yn golygu ‘tad cenhedloedd’ ac Iesu (Jeshua) yn golygu’n llythrennol YAHWEH. Rhoddwyd i dad anhysbys Iesu yr enw Joseff, enw’r breuddwydiwr a ffôdd i’r Aifft, oherwydd allan o’r Aifft y deuai gwaredwr o’r enw Moses (yn llythrennol – yr un sy’n gwaredu) y datguddir yr enw YAHWEH iddo. Ac mae’r enw hwnnw’n golygu ‘Ydwyf yr hwn Ydwyf’. Mae’r cwbl mewn enw. Ac mae awdur Llyfr yr Actau yn tynnu sylw at y peth mewn Aramaeg a Groeg wrth gyflwyno’r enw Tabitha – Dorcas mewn Groeg – sy’n golygu ‘ewig’ neu ‘antelope’. Weithiau fe’i gelwir yn ‘gazelle’, gair sy’n dod o hen air Arabaidd am gariad.

Nawr mae ewigod yn gyffredin yn y Dwyrain Canol, yn enwedig y math a elwir yn ‘ewig dorcas’, sef cariad-cariad. Gwell fyth, byddai awdur Llyfr yr Actau’n gwybod yn iawn ei fod yn camu i fater dadleuol y rheolau bwyd Iddewig. Carnolion sy’n cnoi eu cil yw ewigod, ac maen nhw’n dechnegol yn lân. Ond nid creaduriaid domestig mohonynt ac am fod modd eu hela, ni ellid eu haberthu yn y deml. Ni chaniateid aberthu creaduriaid gwyllt; ni ellid eu cysegru i amcanion crefyddol.

 Roedd dilynwyr Iesu mewn tipyn o bicil ynglŷn â beth i’w wneud â phobl y cenhedloedd. Oedd hi’n bosibl bwyta gyda nhw a mentro bod yn ‘aflan’ o ran y defodau Iddewig? Mae’r dadleuon ynghylch pwy sy’n cael cymuno a phwy ddim yn cael gwneud mynd yn bell ’nôl!

Ond i’r darllenydd Iddewig byddai rhywbeth pwysicach fyth. Fe ddywedais i fod y gair am ewig yn golygu ‘cariad’. A ‘Duw, cariad yw’. Mewn celfyddyd Iddewig mae’r ewig yn symbol o YHWH, ac yn arbennig o YHWH fel ffynhonnell bywyd. Mae’r awdur yn awyddus i sicrhau na fydd y darllenydd yn colli arwyddocâd yr enw, a bod Tabitha-Dorcas yn byw ar ymylon y ffydd Iddewig. Mae am fwrw i’n pennau’r ffaith fod y wraig hon yn symbol o un sy’n dwyn enw YHWH sydd yn gariad. Welwch chi’r gwirionedd-mwy-na’r-llythrennol sy’n cael ei ddangos i ni? Y mae’r tu hwnt i eiriau.

Ga’ i eich hatgoffa mai dyna ystyr y gair ‘metaphor’. Meta yn golygu ‘tu hwnt’ a phor yn golygu cario. Mae metaffor yn cario ystyr y tu hwnt i eiriau. Felly, dyma fetaffor am Joppa, y dref ar y ffin lle mae Iddewon a’r cenhedloedd yn cymysgu â’i gilydd. Dyma unigolyn o’r enw Tabitha-Dorcas, yr un enw mewn Aramaeg a Groeg, yn dynodi cymysgu hil a chrefydd, yn dynodi creadur sy’n byw ar ffiniau gwareiddiad; ac mae’r enw’n symbol o enw IHWH, sy’n gariad.

Ac un peth arall. Mae gan ewig gyrn, ac mae’n defnyddio’r cyrn i gloddio am ddŵr. Byddai dilynwyr cynnar Iesu’n cyfeirio ato fel ‘Dŵr Bywiol’. Disgrifir Tabitha-Dorcas, disgybl nad yw’n blino ar garedigrwydd a haelioni. Mae hi’n cynrychioli’r dychweledigion cenhedlig oedd yn byw ar ymylon y cymunedau Cristnogol cynnar. Ar yr union gyfnod pan oedd cymunedau Cristnogol yn dadlau ynglŷn â statws pobl y cenhedloedd, gofynnir i Pedr atgyfodi hon o farw’n fyw. I brofi ei gwerth i’r gymuned mae’r gwragedd yn dangos i Pedr (y graig, sail yr eglwys) ffrwyth ffydd Tabitha, y gwahanol ddillad a wnaeth hi. Dyma digon o dystiolaeth i Pedr, sy’n gyrru pawb arall i ffwrdd ac yn gweddïo.

Gan droi at y corff, dywed Pedr: ‘Tabitha, saf ar dy draed.’ Ac yn y fan honno byddai darllenwyr wedi clywed adlais o eiriau’r Iesu yn dweud: ‘Tilitha cum!’, sy’n golygu: ‘Eneth fach, saf ar dy draed.’ A rhag ofn i chi anghofio, mae’r gair a glywn ni fel atgyfodiad yn golygu ‘Saf ar dy draed’. Ac mae Tabitha’n agor ei llygaid – ydi hynny’n eich atgoffa o fywyd? Bywyd dwyfol!

Dywedir bod Tabitha wedi ‘eistedd i fyny’ (ond yr un yw’r gair Groeg â ‘sefyll i fyny’). Mae bywyd dwyfol yn dychwelyd i gredinwraig o blith y cenhedloedd. Nid stori am atgyfodi unigolyn am ychydig flynyddoedd yw hon ond rhywbeth llawer mwy. Rhodd bywyd Duw sy’n cael ei estyn y tu hwnt i ffiniau’r bywyd crefyddol Iddewig. A rhag ofn nad ydych chi wedi deall y pwynt, mae’r awdur yn ychwanegu bod Pedr wedi aros ymlaen yn Joppa gan aros yn nhŷ Simon y Barcer – un oedd yn trin crwyn anifeiliaid. Byddai pob Iddew gwerth ei halen yn gwybod bod cyffyrddiad gan ddyn felly yn ei wneud yn ‘aflan’.

Yn y ffordd hon mae’r awdur yn paratoi’r ffordd ar gyfer y stori nesaf am Cornelius, a beth y gellir ac na ellir ei fwyta. Mae’r cwbl yn gweu ynghyd i gyfleu mai ‘Duw, Cariad yw’ ac y gallwn ninnau, ddilynwyr Iesu, fyw mewn cariad gyda’n cymdogion.

Dyna, gyfeillion, y gwir-mwy-na’r-llythrennol am atgyfodi Tabitha. Cariad yw Duw ac y mae Duw’n drech na’r ffiniau a godwn ni i wahaniaethau rhyngon Ni a Nhw.

(Mae’r bregeth yn seiliedig ar waith academaidd gan arbenigwr ar y Testament Newydd o’r enw Rick Strelan yn Biblical Theology Bulletin, 1 May 2009, dan y teitl ‘Tabitha: the gazelle of Joppa.’) 

The Raising of LOVE: the “more-than-literal” meaning of the Raising of Tabitha – a sermon on Acts 9:36-41

https://pastordawn.com/2013/04/17/the-raising-of-love-the-more-than-literal-meaning-of-the-raising-of-tabitha-a-sermon-on-acts-936-41/

 

Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones

Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones

Gwerthfawrogiad Pryderi Llwyd Jones

I aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae’r geiriau ‘Symud ymlaen’ yn gyfarwydd fel enw ar gynllun i ‘ailstrwythuro’r gyfundrefn’. Dyna hefyd oedd teitl y ddogfen i hyrwyddo undod rhwng yr enwadau Anghydffurfiol ddiwedd y 90au – gobaith sydd yn fwriadaol yn cael ei anghofio erbyn hyn.   Yn y gyfrol hon mae i’r geiriau ystyr lawer pwysicach. Dyma ddau ddyfyniad:

Vivian“Pan ddechreuais fy mhererindod, yn naturiol i rhywun ifanc, ceisiais hoelio popeth i lawr, diffinio’r efengyl yn glir a manwl. Yn y cyfnod anaeddfed hwnnw, gadawn i’r hyn a ddywedai eraill wrthyf oedd fy mhrif anghenion personol – a phawb arall – lywio fy nghred … ond ymestyn a wnaeth gorwelion fy ffydd a dyfnhau a wnaeth ei hanfod. Mae’n dal i wneud ac mae’r rhyfeddod, wrth ymwybod â hyd a lled y datguddiadau sy’n parhau i ddod, yn feddwol. Gobeithio y bydd y meddylfryd hwnnw ynof yn parhau fel y gall fy ysbryd ymdebygu fwyfwy i’r hyn a dybiaf oedd ysbryd Iesu, a ddaeth i’r byd yn gryf ond yn dyner a gwylaidd a chyfeillgar. (Rhagair)

 

Ni bu symud ymlaen mewn ffydd yn thema bwysig ymhlith Protestaniaid. Yr achos, meddai Paul Holmer … yw i bregethwyr Protestannaidd fod mor daer i sôn am ras Duw iddynt esgeuluso sôn am symud Cristion ymlaen mewn ffydd. O ganlyniad mae addoli Protestannaidd wedi anelu at greu credinwyr a ffyddloniaid, ond nid pererinion. Bu mwyafrif Protestaniaid fyw heb ymdeimlad o fywyd fel pererindod. Nid awgrymodd teithi meddwl eu heglwysi hynny iddynt, na chynnig disgyblaethau i’w helpu yn hynny.” (tud. 90 )

Mae angen craffu’n fanwl ar y ddau ddyfyniad, ac ni fyddai’n anodd cynnwys nifer fawr o ddyfyniadau y byddai’n talu i bawb sy’n ymwneud â’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru graffu arnynt. Mae adlais hunangofiannol yn y dyfyniad cyntaf, ac mae hynny’n wir am y gyfrol drwyddi draw. Mae dylanwad y traddodiad efengylaidd (‘efengylaidd-ceidwadol’ yw disgrifiad Vivian Jones yn y gyfrol hon) arno yn y blynyddoedd cynnar, ddwy filltir o Gasllwchwr, a dyddiau’r cyfarfodydd efengylaidd yn Llanelli ac yna gyfarfodydd efengylaidd CIFCU yng Nghaerdydd. Roedd yn y cyfarfod yn y Borth, Aberystwyth, yn 1949 pan lansiwyd mudiad efengylaidd i fyfyrwyr Cymru, a Martyn Lloyd-Jones ei hun yno.

Mae’n hunangofiannol hefyd oherwydd mae popeth sy’n cael ei drafod yn y gyfrol wedi tarddu, nid o hir fyfyrdod, darllen eang a meddwl treiddgar yn unig, ond, yn bwysicach, o weinidogaeth Vivian. ‘Hoffwn wneud yn glir,’ meddai yn y Rhagair,  ‘nad ysgolhaig mohonof, yn ceisio ysgrifennu yn gynhwysfawr ac awdurdodol ar bob pwnc y cyffyrddaf ag ef. Fy amcan yw ceisio mynegi meddyliau a symudodd fy neall i o’m ffydd a’i goblygiadau ymlaen, a’m deall o’m gwaith fel gweinidog.

 Mae’n bwysig ein hatgoffa, gyda llaw, nad gweinidog ‘sydd wedi bod yn America’ yw Vivian, ond un a dreuliodd lawer mwy o’i amser fel gweinidog yma yng Nghymru. Bu’n weinidog am 15 mlynedd ar eglwys fawr Plymouth yn Minneapolis ac mae ei gyfrolau yn adlewyrchu ei weinidogaeth gyfoethog yno. Ers iddo ymddeol yn 1995 mae wedi llafurio i gyhoeddi pedair cyfrol, a phob un yn gyfraniad clodwiw i geisio adeiladu unigolion ac eglwysi yn y ffydd. Mae teitl cofiadwy’r gyfrol gyntaf o’r pedair, Helaetha dy Deyrnas (2004), yn gyflwyniad i’r gweddill: Y Nadolig Cyntaf (2006), Menter Ffydd (2009), yn ogystal â’i addasiad i Cristnogaeth21 o gyfrol Saseneg, Byw’r Cwestiynau (2012).

I eglwysi ac unigolion sy’n barod i symud ymlaen, i ddysgu ac i drafod, does neb arall yn cynnig deunydd mor gyfoethog a diddorol sy’n cyflwyno cymaint o faterion yn ymwneud â’r bywyd Cristnogol.

Yr ofn mwyaf, wrth gwrs, yw bod cymaint o eglwysi wedi peidio â dysgu, meddwl na thrafod.

 Mae’r awdur yn tynnu sylw at y ffaith, gan wybod mai ychydig sy’n darllen bellach, ei bod yn ymddangos bod cyfraniadau byr yn fwy addas i’r cyfnod hwn. Er mor drist yw cydnabod hynny, mae’n rhaid derbyn mai diwylliant y tri munud yw ein diwylliant bellach. (Mae’n werth nodi un sylw sydd gan Vivian – ac mae ganddo lawer o rai diddorol tebyg – am Heinrich Ott, olynydd Karl Barth yn Basel, ar ôl i Vivian ofyn iddo a oedd myfyrwyr heddiw yn darllen y pedair cyfrol ar ddeg o Church Dogmatics Karl Barth, iddo gael yr ateb, ’Fawr neb, a’r rheini yn y nos, o dan y dillad gwely.’)

Mae’n werth nodi hefyd, er bod cynnwys y gyfrol hon yn addas ar gyfer pob traddodiad Cristnogol, ei bod yn amlwg mai traddodiad Cymraeg Protestannaidd ac Anghydffurfiol Cymru sydd fwyaf ym meddwl Vivian Jones. Mae dyled y traddodiad hwnnw yn fawr iawn iddo am ei gyfraniadau. Maent wedi bod yn unigryw.

……………………………….

Symud YmlaenCyfrol fer ydyw ( 96 tudalen ) ac i’r rhai sydd yn gyfarwydd â’i gyfrolau, mae’n anorfod bod ychydig ail adrodd. Does dim gobaith i gyfeirio at gynnwys y 12 pennod yn yr erthygl hon, felly dyma fodloni ar rai dyfyniadau.

Nid llyn yw Cristnogaeth i bysgota ynddo am osodiadau y gellid eu tynnu allan a’u troi’n ddatganiadau ynysig, anffaeledig … dylai’r stori gadw Cristnogion rhag dweud mai rhan o’r stori sy’n cael ei harddel ganddynt hwy yw’r stori i gyd … caiff negeseuon rhannol fel y rheiny eu pregethu o Sul i Sul, fel pe baent yn gyfystyr â Christnogaeth. (‘Cristnogaeth fel stori’, tud. 11)

 

Nid un ystyr sydd i’r gair ‘pechod’ yn y Beibl, ac nid pechod yw’r unig bwyslais sylfaenol yn y Beibl … byddai’n ddisgyblaeth dda i bob pregethwr osgoi’r gair pechod o bryd i’w gilydd a defnyddio’r gwahanol ystyron a roir iddo yn y Beibl. (‘Gweddau ar bechod’, tud. 24 )

Gwn am weinidog sydd byth a hefyd, meddai tad yn y gynulleidfa sy’n ffrind i mi, yn dweud wrth blant ei eglwys eu bod yn bechaduriaid. Gallaf feddwl am negeseuon mwy dyrchafol a Beiblaidd na hynny i blant. (‘Plant a’r eglwys’, tud. 54 )

Tuedda efengylwyr-ceidwadol i ddisgrifio pob syniad Cristnogol newydd â’r label ‘rhyddfrydol’ … tueddant i feio pob trai ar grefydd ar ryddfrydiaeth … Ymddengys bod rhai Cristnogion yn credu nad yw rhyddfrydiaeth fawr mwy na gwrthod y gred bod y beibl yn anffaeledig … un o anghenion Rhyddfrydwyr … yw disgrifiadau mor llawn ag y gellir o’u cred a’u hysbryd.  (‘Diwinydda yng Nghymru’, tud. 86 )

Mae’n galw’r traddodiad rhyddfrydol i gyfrif oherwydd iddo fynd yn llugoer, os nad yn ddiog, o fewn Anghydffurfiaeth sydd wedi colli ei radicaliaeth.

Mae digon o faeth i’r meddwl, ysgogiad i gred a chwestiynau tyngedfennol yn y ddwy bennod olaf, ‘Diwinyddiaeth yng Nghymru’ a ‘Symud ymlaen’ (yn ogystal â’r bennod ‘Cenhadaeth yng Nghymru’) i gadw eglwys yn effro’n ysbrydol drwy addoli ac astudiaethau Beiblaidd. Mae’r penodau ‘Gwaddol Cystennin’, ‘Ffydd ac Arian’, a ‘Plant a’r eglwys’ yn gofyn cwestiynau ynglŷn â beth yw eglwys a bywyd ymarferol yr eglwys. Mae ‘Y weinidogaeth’ yn ymwneud â hen gwestiwn sydd angen ei godi’n barhaus am weinidogaeth yng Nghymru. Ac mae ‘Teitlau i Iesu?’ yn uno â’r alwad o wahanol gyfeiriadau yn yr 21ain ganrif i fynegi ein Cristoleg mewn iaith ystyrlon, iaith fydd yn sôn am y dystiolaeth gyfan a’r Iesu cyfan. Mae dau o’r dyfyniadau uchod yn ein cyfeirio at ddwy bennod, ‘Gweddau ar bechod’ a ‘Troeon Maddeuant’, sy’n ymwneud â maes y mae angen gwirioneddol ei ystyried ar lefel bersonol ac eglwysig – ac Anghydffurfiol!

Cariad ac ymrwymiad oes i’r Efengyl – a’r Efengyl sydd wedi’i gadw yn ifanc ac effro ei ysbryd – sydd tu ôl i’r gyfrol hon, fel ei gyfrolau eraill. A’i obaith yn y weinidogaeth sydd wedi parhau drwy ei gyfrolau, yw rhannu y bywyd a dardd wrth ‘ehangu dy babell’ a ‘symud ymlaen’ gyda Duw.

Vivian Jones yw Llywydd Anrhydeddus Cristnogaeth21

 

Holi a Gwrando

Holi a Gwrando

Tecwyn Ifan yn disgrifio ffordd newydd o fod yn fugail

TecsAeth bron i bum mlynedd heibio ers i mi gael fy lleoli ym Mlaenau Ffestiniog gan Gymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion fel Ysgogwr. Cynllun arbrofol oedd hwn, gyda’r bwriad o geisio cwrdd â phobl yn y man lle roedden nhw ar eu taith ysbrydol. Dechreuwyd trwy gomisiynu arolwg ar agweddau pobl yr ardal tuag at bethau crefyddol ac ysbrydol.

Cafwyd bod y rhan fwyaf o’r rhai a holwyd naill ai heb fod wedi perthyn i gapel neu eglwys erioed, neu wedi arfer mynd ond bod yr arfer hwnnw wedi peidio erbyn hyn.

 

Er hynny gwyddai’r rhan fwyaf a holwyd pa un oedd ‘capel ni’ eu teuluoedd yn arfer bod! Dangosai’r arolwg hefyd fod materion ysbrydol yn dal yn bwysig i 63% o’r bobl, ond roedd dros 90% yn teimlo bod enwadaeth a sefydliadau crefyddol yn amherthnasol iddynt.

Codi pontydd at bobl fel yna yw un o’r pethau rwy wedi bod yn ceisio’i wneud. Nid y nod oedd dod â phobl yn ôl i rengoedd ein capeli ni, ond gwneud cyswllt â phobl yn y gymuned gyda golwg ar arbrofi gyda ffurfiau gwahanol o ymwneud â’r ysbrydol.

Gwrando ar bobl; holi beth oedd y rheswm oedd gan rai ohonynt dros adael eu capel a’u crefydd; ystyried sut allem wneud pethau’n wahanol; treialu ac arbrofi gyda ffyrdd gwahanol.

I’r diben hwnnw cynhaliwyd gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau, yn festrïoedd capeli, mewn tafarndai ac yn y llyfrgell. Ystyriwyd i ba raddau roedd agweddau ysbrydol, ffydd neu gred yn berthnasol i fywydau pobl yn gyffredinol. O ran y rhai a oedd yn perthyn i gapel neu eglwys yn y grwpiau hyn, cwynai nifer nad oeddent yn deall llawer o’r geiriau oedd yn cael eu defnyddio yn y pulpud, eraill yn dweud nad o’n nhw’n cytuno â llawer o’r hyn oedd yn cael ei ddweud o’r pulpud. Cwyn fynych arall oedd y ffaith fod yna ddim cyfle i drafod yr hyn oedd yn cael ei ddweud o’r pulpud. Ac er bod y rhain yn dal i berthyn i eglwys ac yn mynychu oedfaon, roedd hi’n amlwg eu bod wedi’u dadrithio ac yn dyheu am weld newidiadau mawr o fewn y gyfundrefn. 

Y drefn fel arfer yn y grwpiau oedd dechrau trwy ddarllen cerdd neu bwt o erthygl neu eitem o newyddion y dydd, rhywbeth fase ddim o reidrwydd ar destun crefyddol, ond a oedd yn rhoi lle i drafodaeth. Roedd cyfle i bawb i ddweud eu dweud, heb fod yna bwysau ar neb i gyfrannu yn erbyn eu hewyllys. Roedd cael rhannu profiadau a chwestiynu safbwyntiau mewn awyrgylch saff ac anfeirniadol yn rhywbeth oedd cael ei werthfawrogi’n fawr.

Mae un grŵp rwy’n ymwneud ag ef am fynd ychydig yn bellach na’r lleill. Yn hytrach na dim ond trafod, maent am weithredu ar yr hyn sy’n cael ei ddweud. I’r diben hwnnw maent wedi llunio rhestr o amcanion iddynt eu hunain sy’n cynnwys hybu a datblygu ymwybyddiaeth am agweddau ‘ysbrydol’ bywyd yn ei ystyr ehangaf o fewn y diwylliant Cymraeg, gan ddefnyddio celf i ddyfnhau dealltwriaeth pobl o natur ysbrydol bywyd.

Mewn cyfnod pan mae hen draddodiadau crefyddol yn cael eu herio gan agweddau a syniadau oes ‘ôl-Gristnogol’, mae’r tensiwn a’r tyndra yna’n gallu bod yn beth cyffrous a chreadigol iawn.

Poster

Dyna a esgorodd ar gyflwyniad o ‘Gymanfa’ gan Cai a Meilir Tomos yng Nghapel Calfaria yn y Blaenau llynedd. Cyflwyniad ar ffurf symud a meim i sŵn nodau cerddorol oedd hwn, gan ddefnyddio bedyddfan agored (bedydd trochiad) Calfaria fel gorweddfan i Cai ar ddechrau a diwedd y perfformiad.

Mae’r ddau frawd yn gweithio ar brosiect newydd i ni ar hyn o bryd yn seiliedig ar hanes Huw Llwyd, y dewin a’r ‘dyn hysbys’ a oedd hefyd yn bregethwr ’nôl yn y 18fed ganrif. Maent eisoes wedi bod yn ffilmio ger ‘Pulpud Huw Llwyd’ yng Nghwm Cynfal, ac yn recordio dyheadau, dymuniadau, ofnau a gobeithion pobl Blaenau ar ffurf sain a fideo, gyda golwg ar baratoi cyflwyniad cyhoeddus cyn hir.

Mae cyllid o Gronfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion hefyd wedi’i gwneud hi’n bosib noddi gweithdai therapi creadigol i ferched sy’n cael help gan Trais yn y Cartref De Gwynedd dros y flwyddyn ddiwethaf. Datblygiad diweddaraf y cynllun hwn yw comisiynu Mair Tomos Ifans i baratoi cyflwyniad theatrig yn cyfuno hanes y santes Gwenffrewi (a dreisiwyd gan filwr ifanc o’r enw Caradog) â phrofiadau rhai o’r merched sydd wedi bod yn mynychu’r gweithdai therapi.

Rwy’n cofio Gareth Miles yn dweud ar raglen radio dro’n ôl fod  ‘pob celfyddyd yn dechrau gyda chrefydd – y ddrama, cerddoriaeth, arlunio: rhan o ddefodau crefyddol oedden nhw’. Roedd yn fy atgoffa i o’r hyn ddarllenais i yn rhywle flynyddoedd yn ôl:

‘Religion is a bad form of theatre.’

Mewn oes pan fo trafod crefydd yn tabŵ yn ein cymdeithas, mae defnyddio llenyddiaeth a chelfyddyd weledol yn ffordd agored a chyfeillgar o estyn at bobl heddiw a’u gwahodd i fod yn rhan o ryw ymwneud â phethau sydd wedi bod o bwys i bobl ym mhob oes. Ac wrth wneud hynny, dim ond yn mynd yn ôl ry’n ni at un o arferion cynharaf dyn yn ei ymchwil am ystyr bywyd.

Rwy’n ei theimlo hi’n fraint ac yn bleser o fod wedi cael y rhyddid yn fy swydd i ollwng gafael ar y cyfarwydd a’r cyfforddus o fewn y drefn grefyddol, a chael mentro arbrofi gyda’r niwlog a’r ansicr, a rhyfeddu o weld beth sy’n dod ohonynt.

 

At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd

Dathlu’r Wythnos Fawr yn Nyffryn Aeron a’r Fro

At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd  

gan  Eileen Davies

Eileen

Eileen Davies gyda’r asyn

Yr Wythnos Fawr, yn sicr yr wythnos fwyaf yng nghalendar pob Cristion. Dyma’r wythnos lle mae yna gwestiynau mawr yn cael eu holi, o beth yn union ry’n ni’n credu ynddo, i bwysigrwydd y Groes a Sul y Pasg. Beth mae Gwener y Groglith a’r Atgyfodiad yn ei olygu i Gristnogion heddiw? Beth mae’n ei olygu i fyd seciwlar sydd am fwynhau gwyliau o’r gwaith beunyddiol heb ystyried y pris a dalwyd ar groesbren drosom ni? Dyna yn union sy’n cael ei drin a’i drafod rhwng pobl o bob oedran ac o bob enwad yn Nyffryn Aeron yn yr wythnos sydd yn ein harwain at Sul y Pasg. Cychwyn y daith ar Sul y Blodau, lle y daw torf i ymgynnull drwy weddi a chân tu allan i Neuadd y Pentref yn Nihewyd a cherdded mewn heddwch wrth olrhain taith yr Iesu i Jerwsalem, gan ddilyn asyn, sy’n cario’r groes er ein mwyn ar ei gefn.  Wrth gyd-deithio, rhannu’r croesau’r palmwydd gan bawb ar yr heol, ac ar ddiwedd y daith tu allan i Eglwys Sant Mihangel, Ciliau Aeron, unwn mewn mawl a bloeddio, ‘Hosanna i Fab Dafydd’.

Nos Lun, cafwyd darlith gan Parchedig R. Alun Evans, a ymdriniodd â chwestiwn heddwch: a oes yna heddwch yng nghalon Cristnogion heddiw, lle mae crefyddau eraill yn fwy amlwg na Christnogaeth, hyd yn oed yma yn ein gwlad fach ni?  Beth yw ein safbwynt ni wrth glywed am erledigaeth Cristnogion ar hyd a lled y byd, lle mae eithafiaeth yn llethu a gormesu Cristnogion? Y cwestiwn mawr yw ‘A oes heddwch?’, pan rydym yn gweld, yn clywed ac yn tystio i’r hyn sy’n digwydd yn ein byd ni heddiw. Nid oes yna ateb rhwydd, meddai R. Alun, gan fod angen gwell dealltwriaeth o holl grefyddau ein byd ni, angen maddau ac edifeirwch. A pha bryd y gwelwn fyd heddychlon? Wel, daliwn i weddïo ar i Grist a ddaeth i fyd cythryblus mewn heddwch roi arweiniad i ni, Gristnogion heddi.   

Rhagor o gwestiynau nos Fercher, ond y tro yma mewn cwis, a tybed faint o atebion cywir y medrwn eu cael wrth i’r ymennydd ddihuno i wirionedd yr ysgrythurau.

Rhannu mewn Swper Olaf nos Iau, wrth dorri’r bara a rhannu’r gwin. Cerdded fore Gwener y Groglith drwy bentref Felin-fach, a chael ein harwain gan y Groes, oedd yn weladwy i bawb oedd yn mynd heibio, gan aros bob hyn a hyn a gwrando ar Orsafoedd y Groes. Nos Sadwrn, gwylnos y Pasg, yng Nghapel Tynygwndwn, yn ddisgwylgar yn aros am wawrddydd bore’r Pasg, mewn trafodaeth, cân a gweddi.

Ar doriad y wawr fore Sul y Pasg mewn mawl croesawyd y Crist Atgyfodedig yn Eglwys Ystrad Aeron, Felin-fach, cyn rhannu brecwast yn y Ficerdy. Pawb yn dychwelyd i’w heglwysi a’u capeli i’w gwasanethau ar hyd ddydd y Pasg, cyn ymuno unwaith yn rhagor mewn Cymanfa Ganu i glodfori a chloi’r Wythnos Fawr yn Eglwys Trefilan gyda’n gilydd.

Ar ddiwedd yr Wythnos Fawr, faint sydd wedi cael cyfle i ateb y cwestiwn: rwy’n credu fy mod i’n credu, ond beth rwy’n ei gredu?

Gyda’n Gilydd ar hyd y flwyddyn down At ein Gilydd yn achlysurol i rannu ein traddodiadau a’r hyn ry’n ni’n ei gredu: mi fyddwn yn cydgerdded ddiwedd mis Mai, yn cyfarfod y Tad Deiniol o’r Eglwys Uniongred ym mis Mehefin, ac yna’n cyd-ddiolch ym mis Hydref yn Nhynygwndwn, a thrwy ddysgu oddi wrth ein gilydd cawn ein nerthu yng nghariad y Crist Atgyfodedig. 

 

Gwerthfawrogiad o gyfraniad Y Tad Daniel Berrigan

“Don’t just do something, stand there!”

Geiriau rhyfedd y Tad Daniel Berrigan, a fu farw ar 30 Ebrill yn 94 oed yn Efrog Newydd.

Ym mhle y gwelir y geiriau isod o eiddo Berrigan?

Fe aethom â’n morthwylion bychan (a’n dewrder llai) gyda ni ac ar 9 Medi 1980 fe aethom i mewn i safle General Electrics ym Mhensylfania. Yno, mewn safle eang o siediau anferth roedd y taflegryn Mark A (‘a first strike nuclear horror’) yn barod i’w gludo i Amarillo, Texas. A chyda’n morthwylion bychan buom yn gwneud tolc ar drwyn tri thaflegryn. Fe garcharwyd y naw ohonom am weithred fechan yn erbyn drygioni llawer iawn mwy.

Berrigan

Y Tad Daniel Berrigan © Thomas Good

 

Mae’n gwestiwn anodd am fod Berrigan wedi ysgrifennu dros 50 o lyfrau, yn farddoniaeth, ysgrifau, erthyglau ac esboniadau. Yr olaf yw’r cliw i’r dyfyniad. Go brin bod unrhyw esboniad arall ar lyfr y proffwyd Eseia wedi cynnwys geiriau o’r fath gan yr awdur. Y digwyddiad y cyfeirir ato oedd dechrau’r mudiad Plowshare yn America, wedi’i ysbrydoli gan eiriau Eseia am droi ‘cleddyfau yn geibiau a’u gwaywffyn yn grymanau’ (Eseia 2; Meica 4).

 

 

Ond roedd Berrigan wedi dod i sylw’r wlad cyn hynny pan losgodd ef ac wyth arall (gan gynnwys ei frawd, Phylip) bapurau consgriptio 300 o ieuenctid America i’r rhyfel yn Fietnam.  Fe’i carcharwyd am dair blynedd am ddinistrio eiddo’r Llywodraeth (y papur). ‘Maddewch i ni,’ meddai Berrigan wrth y llys, ‘am siglo’r drefn a llosgi papur yn hytrach na phlant. Ni allwn, Duw a’n helpo, wneud yn wahanol.’ Bu’r ymgyrch honno yn hir a chostus, ond, yn y diwedd, bu raid i America ddod o Fietnam. Meddai yn ei hunangofiant, To dwell in peace:Roedd y weithred honno yn bitw – tân a fflamau bychain o’i gymharu â choelcerth ddinistriol y rhyfel. Ond o edrych yn ôl roedd y tân bychan hwnnw wedi goleuo mannau tywyll y galon, lle mae dewrder a gobaith yn disgwyl am wawr.’

Eseia: ysbryd dewrder, rhodd o ddagrau yw teitl esboniad grymus Berrigan ar Eseia. A dyma gyfraniad mawr Daniel Berrigan i’r dystiolaeth Gristnogol. Fe fydd llawer yn ei gysylltu â’r hyn a’i gwnaeth i fod yr offeiriad Catholig cyntaf i’w garcharu. ‘For the first time,’ meddai yn ei ddyddiadur yn ystod y carchariad hwnnw, ‘I put on the prison blue jeans and denim shirt; a clerical attire I highly recommend for a new church.’ Treuliodd ddeng mlynedd yng ngharchar yn ystod ei fywyd. Bu ei ddylanwad yn fawr ar yr ymgyrchoedd yn America’r 60au a’r 90au. Neilltuwyd clawr rhifyn o’r Time iddo – rhywbeth a ystyrir yn ‘anrhydedd’ yn America, a does dim amheuaeth na fu Berrigan yn bennaf cyfrifol am arwain ymgyrchoedd grymus yn erbyn arfau niwclear ac iddo gario’i argyhoeddiad o Gristnogaeth radical i bob rhan o’r byd.

Ond nid dyna gyfrinach ei ddylanwad. Fe ysgrifennodd dros ugain o esboniadau.

Bu’n Athro Diwinyddiaeth ac Astudiaethau Ysgrythurol. Fe fu’n byw mewn mwy nag un gymuned o’r Jesiwitiaid, â’u pwyslais ganolog ar fyfyrdod a gweddi. Bu hefyd yn gaplan mewn cartref i dlodion ac yn gaplan i bobl oedd yn marw o ganser ac Aids. Ar sail y profiadau hynny yr ysgrifennodd y cyfrolau cyfoethog Yr ydym yn marw cyn byw a Galar a gododd y bont. Mae’n werth cyfeirio at ddwy gyfrol arall hefyd, sef Minor prophets, major themes a Whereon to stand (Acts of the Apostles).

TimeA dyna ddod at deitl yr erthygl hon: Don’t just do something, stand there! Gŵr o weddïo dwfn oedd Daniel Berrigan – yn edrych, fel y Daniel arall, bob amser â’i ffenestri yn agored i gyfeiriad ei Dduw. Mewn geiriau eraill, gweddi a myfyrio ar y Beibl oedd sylfaen y radicaliaeth a’i gwnaeth yn ddraenen yn ystlys byd ac eglwys.

Arhoswch, oedd ei alwad; myfyriwch, ystyriwch, plygwch, os ydych am newid y byd a’i werthoedd ac am wynebu teyrnasoedd daear gyda theyrnas Dduw. Dyma oedd Eseia a Jeremeia, Amos a Hosea – gwŷr a blygodd yn ostyngedig o flaen Duw ac a heriodd frenhinoedd a llywodraethau gyda’u geiriau a’u gweithredoedd eithafol a oedd yn golygu mai eithafwyr, clowns a gwrthryfelwyr oeddynt.

Yn 1964 aeth Berrigan ac eraill ar encil dan arweiniad Thomas Merton i Abaty Gethsemani. Bu’r encil honno’n un bwysig i Berrigan a Merton. Roedd Merton yn cael ei ystyried yn un a gyfunodd neu a gyfannodd ysbrydolrwydd dwfn â gweithredu radical, a daeth yn ddylanwad mawr ar eraill. Ond fe gafodd Berrigan ddylanwad mawr arno yntau hefyd, ac meddai am Berrigan: ‘zeal, compassion, understanding and uninhibited religious freedom. Just seeing him restores one’s hope in the church.’

Credai Daniel Berrigan fod Duw yn trawsnewid ei eglwys yn ei fyd ac yn trawsnewid ei fyd drwy ei eglwys. Diolchwn i Dduw amdano a’i gyfraniad golau yn y trawsnewid hwnnw.