Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones

Symud ymlaen: cyfrol newydd Vivian Jones

Gwerthfawrogiad Pryderi Llwyd Jones

I aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru, mae’r geiriau ‘Symud ymlaen’ yn gyfarwydd fel enw ar gynllun i ‘ailstrwythuro’r gyfundrefn’. Dyna hefyd oedd teitl y ddogfen i hyrwyddo undod rhwng yr enwadau Anghydffurfiol ddiwedd y 90au – gobaith sydd yn fwriadaol yn cael ei anghofio erbyn hyn.   Yn y gyfrol hon mae i’r geiriau ystyr lawer pwysicach. Dyma ddau ddyfyniad:

Vivian“Pan ddechreuais fy mhererindod, yn naturiol i rhywun ifanc, ceisiais hoelio popeth i lawr, diffinio’r efengyl yn glir a manwl. Yn y cyfnod anaeddfed hwnnw, gadawn i’r hyn a ddywedai eraill wrthyf oedd fy mhrif anghenion personol – a phawb arall – lywio fy nghred … ond ymestyn a wnaeth gorwelion fy ffydd a dyfnhau a wnaeth ei hanfod. Mae’n dal i wneud ac mae’r rhyfeddod, wrth ymwybod â hyd a lled y datguddiadau sy’n parhau i ddod, yn feddwol. Gobeithio y bydd y meddylfryd hwnnw ynof yn parhau fel y gall fy ysbryd ymdebygu fwyfwy i’r hyn a dybiaf oedd ysbryd Iesu, a ddaeth i’r byd yn gryf ond yn dyner a gwylaidd a chyfeillgar. (Rhagair)

 

Ni bu symud ymlaen mewn ffydd yn thema bwysig ymhlith Protestaniaid. Yr achos, meddai Paul Holmer … yw i bregethwyr Protestannaidd fod mor daer i sôn am ras Duw iddynt esgeuluso sôn am symud Cristion ymlaen mewn ffydd. O ganlyniad mae addoli Protestannaidd wedi anelu at greu credinwyr a ffyddloniaid, ond nid pererinion. Bu mwyafrif Protestaniaid fyw heb ymdeimlad o fywyd fel pererindod. Nid awgrymodd teithi meddwl eu heglwysi hynny iddynt, na chynnig disgyblaethau i’w helpu yn hynny.” (tud. 90 )

Mae angen craffu’n fanwl ar y ddau ddyfyniad, ac ni fyddai’n anodd cynnwys nifer fawr o ddyfyniadau y byddai’n talu i bawb sy’n ymwneud â’r dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru graffu arnynt. Mae adlais hunangofiannol yn y dyfyniad cyntaf, ac mae hynny’n wir am y gyfrol drwyddi draw. Mae dylanwad y traddodiad efengylaidd (‘efengylaidd-ceidwadol’ yw disgrifiad Vivian Jones yn y gyfrol hon) arno yn y blynyddoedd cynnar, ddwy filltir o Gasllwchwr, a dyddiau’r cyfarfodydd efengylaidd yn Llanelli ac yna gyfarfodydd efengylaidd CIFCU yng Nghaerdydd. Roedd yn y cyfarfod yn y Borth, Aberystwyth, yn 1949 pan lansiwyd mudiad efengylaidd i fyfyrwyr Cymru, a Martyn Lloyd-Jones ei hun yno.

Mae’n hunangofiannol hefyd oherwydd mae popeth sy’n cael ei drafod yn y gyfrol wedi tarddu, nid o hir fyfyrdod, darllen eang a meddwl treiddgar yn unig, ond, yn bwysicach, o weinidogaeth Vivian. ‘Hoffwn wneud yn glir,’ meddai yn y Rhagair,  ‘nad ysgolhaig mohonof, yn ceisio ysgrifennu yn gynhwysfawr ac awdurdodol ar bob pwnc y cyffyrddaf ag ef. Fy amcan yw ceisio mynegi meddyliau a symudodd fy neall i o’m ffydd a’i goblygiadau ymlaen, a’m deall o’m gwaith fel gweinidog.

 Mae’n bwysig ein hatgoffa, gyda llaw, nad gweinidog ‘sydd wedi bod yn America’ yw Vivian, ond un a dreuliodd lawer mwy o’i amser fel gweinidog yma yng Nghymru. Bu’n weinidog am 15 mlynedd ar eglwys fawr Plymouth yn Minneapolis ac mae ei gyfrolau yn adlewyrchu ei weinidogaeth gyfoethog yno. Ers iddo ymddeol yn 1995 mae wedi llafurio i gyhoeddi pedair cyfrol, a phob un yn gyfraniad clodwiw i geisio adeiladu unigolion ac eglwysi yn y ffydd. Mae teitl cofiadwy’r gyfrol gyntaf o’r pedair, Helaetha dy Deyrnas (2004), yn gyflwyniad i’r gweddill: Y Nadolig Cyntaf (2006), Menter Ffydd (2009), yn ogystal â’i addasiad i Cristnogaeth21 o gyfrol Saseneg, Byw’r Cwestiynau (2012).

I eglwysi ac unigolion sy’n barod i symud ymlaen, i ddysgu ac i drafod, does neb arall yn cynnig deunydd mor gyfoethog a diddorol sy’n cyflwyno cymaint o faterion yn ymwneud â’r bywyd Cristnogol.

Yr ofn mwyaf, wrth gwrs, yw bod cymaint o eglwysi wedi peidio â dysgu, meddwl na thrafod.

 Mae’r awdur yn tynnu sylw at y ffaith, gan wybod mai ychydig sy’n darllen bellach, ei bod yn ymddangos bod cyfraniadau byr yn fwy addas i’r cyfnod hwn. Er mor drist yw cydnabod hynny, mae’n rhaid derbyn mai diwylliant y tri munud yw ein diwylliant bellach. (Mae’n werth nodi un sylw sydd gan Vivian – ac mae ganddo lawer o rai diddorol tebyg – am Heinrich Ott, olynydd Karl Barth yn Basel, ar ôl i Vivian ofyn iddo a oedd myfyrwyr heddiw yn darllen y pedair cyfrol ar ddeg o Church Dogmatics Karl Barth, iddo gael yr ateb, ’Fawr neb, a’r rheini yn y nos, o dan y dillad gwely.’)

Mae’n werth nodi hefyd, er bod cynnwys y gyfrol hon yn addas ar gyfer pob traddodiad Cristnogol, ei bod yn amlwg mai traddodiad Cymraeg Protestannaidd ac Anghydffurfiol Cymru sydd fwyaf ym meddwl Vivian Jones. Mae dyled y traddodiad hwnnw yn fawr iawn iddo am ei gyfraniadau. Maent wedi bod yn unigryw.

……………………………….

Symud YmlaenCyfrol fer ydyw ( 96 tudalen ) ac i’r rhai sydd yn gyfarwydd â’i gyfrolau, mae’n anorfod bod ychydig ail adrodd. Does dim gobaith i gyfeirio at gynnwys y 12 pennod yn yr erthygl hon, felly dyma fodloni ar rai dyfyniadau.

Nid llyn yw Cristnogaeth i bysgota ynddo am osodiadau y gellid eu tynnu allan a’u troi’n ddatganiadau ynysig, anffaeledig … dylai’r stori gadw Cristnogion rhag dweud mai rhan o’r stori sy’n cael ei harddel ganddynt hwy yw’r stori i gyd … caiff negeseuon rhannol fel y rheiny eu pregethu o Sul i Sul, fel pe baent yn gyfystyr â Christnogaeth. (‘Cristnogaeth fel stori’, tud. 11)

 

Nid un ystyr sydd i’r gair ‘pechod’ yn y Beibl, ac nid pechod yw’r unig bwyslais sylfaenol yn y Beibl … byddai’n ddisgyblaeth dda i bob pregethwr osgoi’r gair pechod o bryd i’w gilydd a defnyddio’r gwahanol ystyron a roir iddo yn y Beibl. (‘Gweddau ar bechod’, tud. 24 )

Gwn am weinidog sydd byth a hefyd, meddai tad yn y gynulleidfa sy’n ffrind i mi, yn dweud wrth blant ei eglwys eu bod yn bechaduriaid. Gallaf feddwl am negeseuon mwy dyrchafol a Beiblaidd na hynny i blant. (‘Plant a’r eglwys’, tud. 54 )

Tuedda efengylwyr-ceidwadol i ddisgrifio pob syniad Cristnogol newydd â’r label ‘rhyddfrydol’ … tueddant i feio pob trai ar grefydd ar ryddfrydiaeth … Ymddengys bod rhai Cristnogion yn credu nad yw rhyddfrydiaeth fawr mwy na gwrthod y gred bod y beibl yn anffaeledig … un o anghenion Rhyddfrydwyr … yw disgrifiadau mor llawn ag y gellir o’u cred a’u hysbryd.  (‘Diwinydda yng Nghymru’, tud. 86 )

Mae’n galw’r traddodiad rhyddfrydol i gyfrif oherwydd iddo fynd yn llugoer, os nad yn ddiog, o fewn Anghydffurfiaeth sydd wedi colli ei radicaliaeth.

Mae digon o faeth i’r meddwl, ysgogiad i gred a chwestiynau tyngedfennol yn y ddwy bennod olaf, ‘Diwinyddiaeth yng Nghymru’ a ‘Symud ymlaen’ (yn ogystal â’r bennod ‘Cenhadaeth yng Nghymru’) i gadw eglwys yn effro’n ysbrydol drwy addoli ac astudiaethau Beiblaidd. Mae’r penodau ‘Gwaddol Cystennin’, ‘Ffydd ac Arian’, a ‘Plant a’r eglwys’ yn gofyn cwestiynau ynglŷn â beth yw eglwys a bywyd ymarferol yr eglwys. Mae ‘Y weinidogaeth’ yn ymwneud â hen gwestiwn sydd angen ei godi’n barhaus am weinidogaeth yng Nghymru. Ac mae ‘Teitlau i Iesu?’ yn uno â’r alwad o wahanol gyfeiriadau yn yr 21ain ganrif i fynegi ein Cristoleg mewn iaith ystyrlon, iaith fydd yn sôn am y dystiolaeth gyfan a’r Iesu cyfan. Mae dau o’r dyfyniadau uchod yn ein cyfeirio at ddwy bennod, ‘Gweddau ar bechod’ a ‘Troeon Maddeuant’, sy’n ymwneud â maes y mae angen gwirioneddol ei ystyried ar lefel bersonol ac eglwysig – ac Anghydffurfiol!

Cariad ac ymrwymiad oes i’r Efengyl – a’r Efengyl sydd wedi’i gadw yn ifanc ac effro ei ysbryd – sydd tu ôl i’r gyfrol hon, fel ei gyfrolau eraill. A’i obaith yn y weinidogaeth sydd wedi parhau drwy ei gyfrolau, yw rhannu y bywyd a dardd wrth ‘ehangu dy babell’ a ‘symud ymlaen’ gyda Duw.

Vivian Jones yw Llywydd Anrhydeddus Cristnogaeth21