Agora rhif 30 mis Ionawr a Chwefror 2019
Fe fydd erthyglau newydd yn cael eu hychwanegu at y dudalen hon yn ystod y mis neu ddau nesaf.
Byddwch yn siwr o ail-ymweld o bryd i’w gilydd i weld beth sy’n newydd!
Cynnwys
Tröedigaeth Gethin Rhys
Y Pethau Sacramentaidd Arwel Rocet Jones
Gwyddoniaeth a’r Ysbrydol Yr Athro Noel Lloyd
Y Pethau Olaf Arwel Rocet Jones
(adolygiad o ‘Llyfr Glas Nebo’)
Cynhadledd Dechrau o’r Newydd (rhaglen lawn – wedi’i ddiweddaru)
Ysbrydolrwydd tawel Lleuwen (Gwn Glân, Beibl Budr)
Ysbrydolrwydd tawel Lleuwen
RhagorYsbrydolrwydd tawel Lleuwen
Wn i ddim faint o ‘bobl capel’ oedd yno, a doedd ddim gwahaniaeth beth bynnag, ond yn y capel bach llawn (18 Chwefror, Capel y Groes, Pen-y-groes, Arfon, 120 o bobl) roedd y mwyafrif rhwng 30 a 60 oed. Roedd yno gerddor, cantores a gitarydd yn rhannu ei hathrylith a’i hysbrydolrwydd â chynulleidfa Gymraeg. A hyd yn oed os nad oedd geiriau Pantycelyn ac Ann Griffiths yn gyfarwydd i rai ohonynt, roedden nhw’n gwybod eu bod yn gyfarwydd i’r lleill. Os oedd geiriau fel ‘Beibl’, ‘adnod’, ‘pregethwr’, ‘Ysgol Sul’ yn perthyn i oes arall i nifer, trwy enau Lleuwen, ei chân a’i cherddoriaeth, roedd cyfoeth ein ...
Cynhadledd Dechrau o’r Newydd
RhagorCRISTNOGAETH 21
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
URDD GRADDEDIGION PRIFYSGOL CYMRUCynhadledd Dechrau o’r Newydd
29-30 Mawrth 2019
Festri Capel Seion a Chanolfan Merched y Wawr Aberystwyth
Beth yw ystyr bod yn Gristion yng Nghymru’r 21fed ganrif? Sut mae cysoni credo grefyddol â byd-olwg gwyddonol? Ai yn nhermau myth y mae deall crefydd, a’r stori Gristnogol yn benodol? Beth o’n treftadaeth a’n defodau cyfarwydd y mae’n bwysig ei gadw ac i ba raddau mae’n rhaid dechrau o’r newydd?
Dyma rai o’r cwestiynau a ysgogodd gynnull y Gynhadledd hon
Rhaglen Ddrafft
Nos Wener (yn festri Capel Seion, Stryd y Popty)
6.30 Bregus, sef cyflwyniad/perfformiad am fenywod yn y capel yng ngofal Rhiannon Williams a Lowri Davies
Sadwrn ...
Y Pethau Olaf
RhagorY Pethau Olaf
Rocet Arwel
Llyfr Glas Nebo. Llyfr am ddiwedd y byd. Llyfr am ddechrau byd newydd. Llyfr am ddewis rhwng dau fyd. Rhwng dau fywyd. A llyfr am fyrdd o bethau eraill y bydd beirniaid a myfyrwyr yn eu trafod am flynyddoedd i ddod. Ond ymysg y myrdd o focsys y mae hi’n haeddu cael ei gosod ynddyn nhw, hi heb os yw un o’r nofelau mwyaf ysbrydol i’w chyhoeddi ers blynyddoedd.
Does dim osgoi’r mynegbyst ysbrydol sy’n britho’r gyfrol na’r cwestiynau mawr a godir ganddynt.
Yn gynnar yn y ...
Tröedigaeth
RhagorTröedigaeth
Dyna yw’r pennawd ar un o fyrddau arddangos Amgueddfa Howell Harris yng Ngholeg Trefeca, a’r panel sy’n aml yn denu’r sylw mwyaf gan ymwelwyr sydd am wybod mwy am hanes y Methodist cyntaf. Yn y cyd-destun hwnnw, maent yn cymryd yn ganiataol mai tro ar fyd ysbrydol oedd y profiad hwn iddo ef, ac maent yn awchu am ddarllen yr hanes.
Wrth dywys yr ymwelwyr o gwmpas, roedd ambell un yn gofyn a ges i dröedigaeth; fy ateb (er siom i rai) oedd: naddo – cefais fy magu yn Gristion, ac er i mi obeithio i mi dyfu yn fy ffydd, ni allwn hawlio tröedigaeth fel y cafodd Harris.
Ond ...
Cynhadledd Dechrau o’r Newydd
RhagorCRISTNOGAETH 21
Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL
URDD GRADDEDIGION PRIFYSGOL CYMRUCynhadledd Dechrau o’r Newydd
29–30 Mawrth 2019
Festri Capel Seion a Chanolfan Merched y Wawr, Aberystwyth
A’r capeli a’r eglwysi ar drai, a llawer yn wynebu difancoll, mae angen ailystyried cyfraniad Cristnogaeth i’n cymdeithas mewn ffordd sylfaenol. Dyna farn y rhai sydd wedi trefnu cynhadledd arbennig, Cynhadledd Dechrau o’r Newydd, i’w chynnal yn Aberystwyth 29–30 Mawrth. Mae’r gynhadledd yn cael ei noddi gan Cristnogaeth 21, Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Rhai o’r cwestiynau sydd wedi ysgogi’r gynhadledd yw:
- Beth yw ...
Gwyddoniaeth a’r ysbrydol
RhagorGwyddoniaeth a’r ysbrydol
Mewn erthygl ar wefan Cristnogaeth 21 ychydig wythnosau’n ôl, mae’r awdur yn cyfeirio at faint anhygoel y bydysawd – amcangyfrif o filiwn triliwn o sêr yn y bydysawd gweladwy, pellteroedd na allwn yn wir eu hamgyffred – ac felly safle hollol ddinod y ddaear yn hyn i gyd. O ganlyniad, dywed yr awdur na all dderbyn bodolaeth unrhyw Ddeallusrwydd Dwyfol consyrnol tu ôl i’r byd naturiol. Ond mae’n pwysleisio fod y byd yn llawn cariad ac yn awgrymu mai ansawdd ein bywydau sy’n cyfrif.
*****
Mae’r awdur yn cyfeirio’n gynnar yn ei ysgrif at waith Edwin Hubble, a gasglodd dystiolaeth, yn nauddegau’r ugeinfed ganrif, o fodolaeth galaethau tu ...
Y Pethau Sacramentaidd
RhagorY Pethau Sacramentaidd
Rocet Arwel
Pâr o sanau. Y peth mwya annhebygol o godi hiraeth ar unrhyw ddyn call, meddech chi.
Ond mae’r rhain yn bar o sana arbennig. Saith mlynedd i rŵan cafodd fy mam driniaeth go fawr yn Ysbyty Gwynedd. Tra oedd Mam yn yr ysbyty byddwn yn aros efo fy ewyrth a’m modryb ym Mhorthaethwy. Ar un o’r troeon i’r gogledd yng nghanol yr argyfwng hwnnw o’n i wedi cyrraedd heb bâr o sana glân. A benthycais bâr gan Yncl Bryn. Chafodd o erioed mohonyn nhw yn ôl.
Yn y cyfamser fe gollon ni Yncl Bryn, ac fe fagodd y sanau arwyddocâd. Er bod ei draed o ...