Y Pethau Olaf

Y Pethau Olaf

Rocet Arwel

Llyfr Glas Nebo. Llyfr am ddiwedd y byd. Llyfr am ddechrau byd newydd. Llyfr am ddewis rhwng dau fyd. Rhwng dau fywyd. A llyfr am fyrdd o bethau eraill y bydd beirniaid a myfyrwyr yn eu trafod am flynyddoedd i ddod. Ond ymysg y myrdd o focsys y mae hi’n haeddu cael ei gosod ynddyn nhw, hi heb os yw un o’r nofelau mwyaf ysbrydol i’w chyhoeddi ers blynyddoedd.

Does dim osgoi’r mynegbyst ysbrydol sy’n britho’r gyfrol na’r cwestiynau mawr a godir ganddynt.

Yn gynnar yn y nofel mae Siôn, bachgen 8 oed ar y pryd, yn chwarae bod yn awyren: ‘Ei freichiau allan bob ochr iddo, fel tasa fo ar groes’ [t. 22].

Ac eithrio’i dau gymydog, Gwion, y saer, yw’r unig berson o’r gymuned ehangach mae Rowenna’n ei gyfarfod yn y nofel. Maen nhw’n datblygu’n gariadon a dyna sut y cenhedlir Dwynwen ar ôl Y Terfyn. Fe’i disgrifir o fel Iesu Grist yr A487. Meddai Rowenna:

‘Ac er ’mod i wedi caledu ers blynyddoedd a ’mod i’n oeraidd ac yn amheus, fedrwn i ddim peidio gwenu ar Gwion. Iesu Grist yr A487.’ [t. 120]

Er gwaethaf popeth mae Rowenna ‘yn dewis coelio yn Gwion’. [t. 124]

‘Ac efallai nad Gwion oedd ei enw go iawn o, ac efallai nad saer oedd o cyn Y Terfyn, […] Ond mi wnes i, ac mi ydw i, yn dewis cadw’r ffydd. Pe gallai Gwion fod yma, dwi’n dewis coelio y byddai o wedi dychwelyd ataf i, ac wedi adnabod ei ferch fach a’i charu.’ [tt. 123–4]

Yn rhifyn 211 o Cristion mae Manon yn dweud: ‘Dwn i ddim ydw i’n Grisition, gan fy mod i’n anfodlon â phob diffiniad a welais o’r gair, ond rydw i’n hapus gyda’m diffiniad fy un o’r Gair.’ [t. 3]

O’r dechrau’n deg mae Llyfr Glas Nebo yn trafod natur stori. Ac o ystyried y mynegbyst ysbrydol hyn gellid dadlau bod y drafodaeth yr un mor berthnasol i natur y stori Iddewig/Gristnogol ag i unrhyw stori arall: ‘dim ond geiriau ydy pob llyfr yn y dechrau ac yn y diwedd.’ [t. 6]

Trafod natur y Testament Newydd mae Siôn pan mae’n myfyrio ar y ffaith fod ‘pob stori ychydig yn wahanol yn dibynnu ar pwy sy’n ei dweud hi. […] achos mae Mam a finna’n deud y gwir mewn gwahanol ffyrdd, mae’n siŵr, am yr un petha.’ [t. 39]

Mae’n holi eto: ‘Pam fod pobol yn coelio rhai llyfra, ond ddim yn coelio rhai eraill?’ [t. 64]

Mae’r rhain i gyd yn bennau i drafodaethau ynglŷn â’r Beibl, y Testament Newydd, ein dealltwriaeth ni ohonyn nhw a sut yr arweinir ni i’w deall nhw.

Wrth i Rowenna ddisgrifio’r byd cyn Y Terfyn i’w mab, mae o’n ymddangos yn gwbl wallgo. Byd masnachol, cyfalafol, gormodol, prysur, poblog, unig. Byd llawn hunanoldeb a phobl yn pasio’i gilydd ar y stryd heb aros i ddweud dim, yn archebu bwyd [afiach] i’w ddanfon i’n cartrefi, plant unig o flaen sgriniau.

Mae hyn yn ymddangos hyd yn oed yn fwy absẃrd wrth i Rowenna’i ddisgrifio i’w mab sydd â’i draed ar y ddaear [wenwynig] yn crafu byw o ddydd i ddydd ond sy’n brysur yn adeiladu ac yn mentro plannu coed i’w cynaeafu ymhen pymtheng mlynedd. Arwr o ŵr ifanc 14 oed, sydd wedi dysgu byw y tu hwnt i’r Terfyn, oherwydd Y Terfyn.

Y peth dychrynllyd i ni sy’n byw yr ochr hon i’r Terfyn ydy fod cariad, yn ôl Rowenna, yn perthyn yn well i’r byd newydd, ôl-apocalyptaidd hwnnw.

Mae Siôn yn dod o hyd i gopi bychan o’r Testament Newydd yn handbag rhyw wraig, ochr yn ochr â’i phwrs a’i sbectol haul a’i ffôn bach. Yn wahanol i’w copi nhw o’r Beibl Cymraeg Newydd, mae hwn yn amlwg yn eitem at iws bob dydd y wraig hon ac yn yr un modd mae o’n ffitio’n daclus i boced tin jîns Siôn. [t. 38]

Dyma fo, yn ŵr ifanc, yn darganfod llyfr o lyfrau, sydd, cofiwch yn ‘ddim byd ond geiriau yn y dechrau ac yn y diwedd’, ac yn ei ddarllen am y tro cyntaf, a hynny ar ôl Y Terfyn. Mae ei fam, oedd yn fwy cyfarwydd â’r Beibl o’i bywyd cynt, yn fwy amheus. Ond dyma fo yn ei ddarganfod am y tro cyntaf ac yn cymryd ato. Mae o’n eithaf hoff o’r Iesu yma, un sy’n ‘annwyl ac yn glên ac yn caru pawb, ond ei fod o’n gwylltio weithia’. Ac wrth gwrs, yn y diwedd mae Crist yn amau Duw, ac ‘mae amau a cholli ffydd yn golygu bod Iesu Grist wedi bod yn foi reit normal, er ei fod o’n gwneud gwyrthia a ballu’. [t. 39]

Er gwaethaf hyn, nid yw Rowenna yn gyfforddus bob amser â ffydd ei mab. Profedigaeth sy’n dod â’r anghytundeb i’r berw, eu profedigaeth o golli Dwynwen, y ferch fach. ‘Mae hi’n poeri, yn isel a llawn gwenwyn. “A lle mae dy Dduw di rŵan?”’ [t. 112] Profiad cyffredin i lawer. Ond wrth wynebu’r Terfyn, o’r holl ganeuon y gellid eu canu, yr un mae hi’n dewis ei chanu yw’r unig emyn roedd hi’n ei wybod sef ‘Calon Lân’.

Ar ddiwedd y nofel, wrth weld bod bywyd i’w gael, rywle y tu hwnt i Nebo, a bod yr hen fyd yn dod i chwilio amdanyn nhw ‘fel cwmwl o wenwyn’ [t. 140], mae Rowenna’n myfyrio ar y newid sydd wedi bod ynddi. Mynna nad ‘fi oeddwn i o’r blaen wsti’ [t. 142]; wedi’r cwbl, dydy hi ddim wedi gwisgo colur ers wyth mlynedd. Mynna nad ydyn nhw ‘angen cael eu hachub siŵr Dduw’ [t. 142]. Ar hynny ‘crechwenodd goleuadau Môn […] fel hen ddiafol’ [t. 143].

Dyma i ni stori am ddiwedd y byd, sy’n ddrych i’n byd ni. Stori am fynd drwy uffern i ddechrau eto. Am greu byd newydd, ac am wynebu gorfod dychwelyd i’r hen fyd. Dameg. Stori syml. Stori i’r rhai sy’n gadael oedfa wedi cael mwy o stori’r plant nag o’r bregeth. Sy’n addas gan mai stori ar gyfer plant hŷn a phobl ifanc yw hon (a dylai hynny ynddo’i hun fod yn ddameg i awduron, cyhoeddwyr, beirniaid llenyddol a phregethwyr 2018).

Ond mae hon hefyd yn stori sy’n ein herio ni i werthfawrogi ac i ddehongli’n straeon, ein herio ni i chwalu pob dehongliad a fu. I edrych ar ein traddodiad crefyddol fel petai o wedi bod trwy Y Terfyn niwclear, a gweld Crist o’r newydd, fel Siôn. Straeon sy’n ddim ond geiriau, pob un ychydig yn wahanol, yn dibynnu ar pwy sy’n eu dweud nhw, ond yn dweud y gwir, mewn gwahanol ffyrdd, am yr un pethau.

Neu, mewn ffrâm apocalyptaidd, efallai na allwn ni wneud hynny nes y byddwn ni wedi mynd heibio i’n Terfyn fel eglwysi a chychwyn eto, efo llechen lân a dim ond copi o destament newydd poced din wedi ei gymryd o handbag rhywun, i’n hysbrydoli.

 

(Cyhoeddir gyda chaniatâd Golygydd y Goleuad)