E-fwletin 10 Chwefror 2019

Tryweryn

Mae’r drafodaeth ddiweddar ar ‘Furlun Tryweryn’ wedi bod yn un ddifyr ac wedi codi nifer o gwestiynau diddorol.

Mae’r murlun yn un byw, dyna’i ogoniant. Mae’n arwydd pendant fod y cof yn fyw.

Newidiodd liw. Fel pawb a phopeth arall fe fu trwy gyfnod du a gwyn ac yn y cyfnod hwnnw fe roddodd yr artistiaid lythrennau eu henwau wrth eu gwaith a’r neges ‘Sori Miss’ am fod eu hathrawes Gymraeg wedi amau pwy fu wrthi ac wedi tynnu eu sylw mai nid i-dot oedd ar ddiwedd Tryweryn. Aethpwyd yn ôl i gywiro ac ymddiheuro. Ac felly yr ychwanegwyd pennod arall at yr hanes.

Wedyn fe fu cyfnodau mwy lliwgar. Coch (sy’n troi’n binc ar adegau) ac ychydig bach o ychwanegiadau. Fuodd ‘Jules a Jockey!’ yno am flynyddoedd ac hyd yn oed ‘Ancofiwch Tryweryn’. Ac fe gawsant lonydd am nad oedden nhw’n fygythiad, oherwydd bod y cof yn gadarn.

Yn ddiweddar iawn ychwanegwyd ‘Cofiwch Aberfan’ ac fe’i parchwyd. Wedi’r cyfan onid ydy’r ddau ddigwyddiad yn adleisio’i gilydd a llif cyfalafiaeth estron a di-hid yn chwalu cymunedau Cymru? Ychwanegiad. Datblygiad. Bywyd.

Wedyn fe ddaeth Elvis i geisio mygu’r cof yn gyfan gwbl ac fe fu ymateb chwyrn ac fe ymatebodd y cof cenedlaethol ar unwaith a dweud ‘Na!’. Am y tro cyntaf mae ‘cynddaredd y cyfryngau cymdeithasol’ wedi cyfrannu at y broses. Ac yn unol ag amserlen y cyfryngau hynny, roedd rhaid ymateb ar unwaith. Nid yn unig hynny cawsom gofnod o’r broses ac am y tro cyntaf yr artistiaid.

Fe fu sawl ymateb. Un yn dweud yn huawdl iawn bod yr ymateb yn ormodol ac mai’r dysteb orau i Dryweryn fyddai gwneud rhywbeth heddiw, heblaw colli dagrau dros baent ar wal, i rwystro mewnlifiad ac all-lifiad o’n cymunedau Cymreiciaf.

Un arall yn clodfori’r ‘werin’ am gynnal murlun y bobl ac mai hwn sy’n bwysig ac nid sicrhau cofeb swyddogol fyddai’n cael ei agor gan gôr o siwtiau gwleidyddol.

Ymddangosodd llun o’r bwthyn yn ei ogoniant. Bwthyn cyfan adawodd un adfail o wal yn gofeb genedlaethol. Wal, beth bynnag am y paent, sy’n parhau i ddadfeilio’n araf.

Un arall am roi rhywbeth drosto i’w amddiffyn rhag graffiti. Roedd fy ymateb i i hwn bron cyn gryfed a fy ymateb i ‘Elvis’. Na! Mae o’n beth byw. Mae’r ateb a’r ymateb yn rhan o’r cof. A beth bynnag, pa fersiwn fyddech chi’n amddiffyn? Y diweddaraf, tra mae o’n dal yn lân a thaclus? Neu ail-baentio’r gwreiddiol? Neu un Aberfan? Neu’r un du a gwyn? Neu’r un ‘Sori Miss’? Gwnewch a fynnoch â’r wal, ond peidiwch a’i rhewi.

Roedd yna furlun ar un o strydoedd cefn Aberystwyth oedd yn dweud ‘Cofiwch Ferthyron Abergele’. Fe fu yno am ddegawdau. Cafodd lonydd. Wnaeth neb ei anharddu, nac ychwanegu ato. Efallai ei fod yn dal yno. Allwn i ddim dweud. Oherwydd mae’n farw. Er gwell, neu er gwaeth, mae’r cof yn pylu.

Felly beth yw neges esblygiad y murlun? Mae yna gyfnodau du a gwyn, cyfnodau o ail-ddehongli, o gamddehongli, o ychwanegu at y stori ac o geisio’i dileu. Dyw’r gogoniant gwreiddiol ddim yn berthnasol. Y neges i’r presennol a’r dyfodol sy’n bwysig. Mae’n bwysig bod yn weledol ar y briffordd nid yn angof ar y strydoedd cefn. Peidiwn â rhewi’r traddodiad. Anweswn newid. Safwn yn gadarn rhag gorthrwm. Cofiwn a gyrrwn ymlaen.

 

(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan http://cristnogaeth21.cymru/newyddion/)