E-fwletin 3 Chwefror 2019

Anghredadwy

 “’Sa ti’n dal i gredu’r pethe ‘na?!” Faint o’r darllenwyr sydd wedi cael eu cyfarch yn y modd yna gan gyfeillion a chydnabod pan y daw hi’n amlwg eu bod nhw’n parhau i fynychu oedfa, i arwain gwasanaethau neu eu bod yn ddigon parod i arddel y label ‘Cristion’? Mae anghrediniaeth yn gyffredin iawn yng Nghymru yn ein dyddiau ni, fel y mae yn niwylliant y Gorllewin drwyddi draw, fel y gwyddom. Mae’r cefnu a’r trai yn amlwg i ni.

Ond dydy’r awdur amlwg, yr Esgob John Shelby Spong, ddim yn synnu llawer at hynny. Dydy pobl yr unfed ganrif ar hugain ddim yn credu athrawiaethau a chredoau traddodiadol Cristnogaeth erbyn hyn, meddai, gan eu bod, yn syml iawn, yn anghredadwy.

Cyhoeddodd yr Esgob Spong ei lyfr diweddaraf a’i olaf, mae’n siŵr, llynedd. ‘Unbelievable’ yw ei deitl, gyda’r is-deitl heriol, ‘Why neither Ancient Creeds nor the Reformation can produce a Living Faith for Today’. Dadleua bod y cynnydd a fu yn nealltwriaeth dyn o’r byd, bywydeg a’r bydysawd, ynghyd â datblygiadau diweddar ym maes seicoleg, wedi tanseilio llawer o‘r rhagdybiaethau diwylliannol a fu’n sail i’r credoau a’r athrawiaethau sydd mor gyfarwydd i ni. Mae ein canfyddiad ni o’r byd ffisegol a rhan dyn yn y greadigaeth wedi newid yn llwyr dros y canrifoedd, meddai, ond yn anffodus dydy ein diwinyddiaeth ddim wedi medru llwyddo i gerdded ar yr un cyflymdra. 

Yn y gyfrol mae Spong yn cyflwyno deuddeg gosodiad i’r darllenydd eu hystyried. Mae’n holi cwestiynau sylfaenol am ein dealltwriaeth o natur Duw ac am bwy a beth oedd y Crist Iesu. Mae’n herio athrawiaethau megis y pechod gwreiddiol, y geni gwyrthiol a’r Iawn. Try ei sylw at y gwyrthiau, yr Atgyfodiad a’r Esgyniad, gan geisio eu dehongli mewn ffyrdd sy’n gredadwy i’r meddwl modern. Cyniga sylwadau ar foeseg, natur gweddi a’r bywyd tragwyddol, cyn trafod cyffredinoliaeth Cristnogol fel llwybr i’w ystyried i’r dyfodol.

Mae llawer iawn o’r testun yn nodi’r hyn nad yw e’n ei gredu na’i dderbyn bellach o ran cred ac athrawiaeth, gan esbonio ei resymu yn groyw a chryno, yn ddifyr a darllenadwy, yn ôl ei arfer. Ond, wrth ddod i gasgliad, mae e hefyd yn cynnig amlinelliad o’r hyn y mae e yn ei gredu, a’r hyn y mae’n credu y byddai ceiswyr doethineb yn yr unfed ganrif ar hugain hefyd, efallai, yn fwy parod i’w gredu.

Yn syml, mae’n hongian ei fantra (Spong biau’r term) ar dri bachyn: Duw fel tarddle bywyd; Duw fel ffynhonnell cariad; a Duw fel sail bodolaeth. Ein dyletswydd ni, meddai, yw ceisio byw bywyd i’w lawnder, caru’n wastrafflyd a chael gafael ar y dewrder i fod yr hyn y gallwn ni fod hyd eithaf ein gallu. I hyn mae Iesu o Nasareth – y Crist – yn ein galw, meddai.

Ond peidiwch fy nghredu i, darllenwch y llyfr.

 

Spong, J. S., 2018. Unbelievable: why neither Ancient Creeds nor the Reformation can produce a Living Faith for Today’, San Francisco: HarperOne.

 

(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan http://cristnogaeth21.cymru/newyddion/)