E-fwletin 27 Ionawr, 2019

 Gweithredoedd heb ffydd

Mae  ymateb gwahanol eglwysi i’r argyfwng sy’n ein hwynebu yng Nghymru yn amrywiol: yr addasu ar batrwm oedfaon y Sul, y cyfaddawdu gyda’r iaith, a chyplysu eglwysi yn gylchoedd gweinidogaethol eang. Ond soniaf am un eglwys sydd wedi mentro ar lwybr ychydig yn wahanol, gan ofyn y cwestiwn a yw eu gweledigaeth hwy yr un mor dderbyniol â’r hyn a welwn ar hyd a lled ein gwlad.

Dros y blynyddoedd fe welent yr Ysgol Sul yn ymddatod a’r gynulleidfa mewn oedfa yn lleihau. Ond fe ymatebodd nifer o’r aelodau i apêl Operation Christmas Child gan wneud ymdrech arbennig hefyd i ddenu cydweithwyr o’r gymdogaeth i ymuno â hwy. Rai blynyddoedd yn ôl, gan fod cynulliadau’r oedfaon wedi edwino bron i’r dim, penderfynwyd na fyddent yn cynnal gwasanaethau o Sul i Sul, ond yn trefnu ambell oedfa ar wyliau megis Diolchgarwch neu Nadolig. Bydd y capel yn cael ei gadw’n lanwaith at wasanaeth y pentre ar gyfer angladdau a rhai achlysuron eraill. Ond er mwyn cadw cymdeithas aelodau’r eglwys ac eraill yn y gymuned penderfynwyd agor yr ysgoldy bob bore Llun i gyfarfod “Drws Agored”, pan geir aelodau a thrigolion y pentref yn cwmïa uwchben paned o de neu goffi.

Aeth y gwaith elusennol o nerth i nerth, bellach mewn cysylltiad â Teams4U. Bydd nifer o chwiorydd, o oedran ysgol gynradd i henoed hynaf yr ardal, yn bwrw iddi ar adegau yn ôl eu cyfleustra i hel deunydd a llenwi’r bocsys. Bydd eglwysi eraill ac ysgolion yr ardaloedd cyfagos yn cyfri’r capel bron fel warws i dderbyn y bocsys y byddan nhw wedi eu hel a’u paratoi. Yna tua mis Tachwedd bydd lori yn cael ei threfnu gan elusen i ddod i lwytho’r cyfan o’r capel a’i gludo i ganolfan yn barod i’w gario dramor. Bellach ers blynyddoedd, yn gyfochrog ag ymdrech y bocsys Nadolig, bydd nwyddau a dillad o bob math yn cyrraedd y capel o bob cyfeiriad, ar gyfer ffoaduriaid a phobl gyffelyb eu hanghenion. Pa le bynnag y bydd angen neu argyfwng ar draws y byd, bydd gwirfoddolwyr caredig yn cludo’r nwyddau hynny wedyn i ganolfan Share yn yr Wyddgrug ar gyfer eu hanfon dramor.

Mae parodrwydd ac ymroddiad cwbl anhunanol y rhai sy’n rhan o’r holl weithgaredd hwn yn syfrdanol, yn prynu’r deunydd heb gydnabyddiaeth ac yn aberthu wythnosau o’u hamser. Ond symbylir y gwaith gan Gristnogion sydd heb addoliad cyson yn eu bywydau. Ac mae’n codi cwestiwn dyrys a fyddai’n bwnc trafod ysol mewn seiat. Gallaf ddychmygu un o hen ddosbarthiadau Ysgol Sul y capel yna, flynyddoedd yn ôl, yn trafod ail bennod Iago, adnodau 14 i 26. A dychmygaf yr athro yn dyfynnu’r adnod “ …y mae ffydd heb weithredoedd yn farw.” Ond ar gefn hynny yn gofyn cwestiwn arall, “Beth yw gwerth gweithredoedd heb ffydd?”   

Edrycher ar y fforwm sy’n rhan o’r wefan hon gan Ars Technica am syniadau diddorol ar y pwnc. Mae’n rhy ddyrys i mi ei drafod.

Ein cofion atoch – a chofiwch am Facebook, ac am ein gwefan a’r cyfle i ymateb ac i drafod. Cofiwch hefyd am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan: http://cristnogaeth21.cymru/newyddion