Y Pethau Sacramentaidd

Y Pethau Sacramentaidd

Rocet Arwel

Pâr o sanau. Y peth mwya annhebygol o godi hiraeth ar unrhyw ddyn call, meddech chi.

Ond mae’r rhain yn bar o sana arbennig. Saith mlynedd i rŵan cafodd fy mam driniaeth go fawr yn Ysbyty Gwynedd. Tra oedd Mam yn yr ysbyty byddwn yn aros efo fy ewyrth a’m modryb ym Mhorthaethwy. Ar un o’r troeon i’r gogledd yng nghanol yr argyfwng hwnnw o’n i wedi cyrraedd heb bâr o sana glân. A benthycais bâr gan Yncl Bryn. Chafodd o erioed mohonyn nhw yn ôl.

Yn y cyfamser fe gollon ni Yncl Bryn, ac fe fagodd y sanau arwyddocâd. Er bod ei draed o fymryn yn fwy na fy rhai i – dydyn nhw ddim mo’r ffit gorau – fe wisgais y sanau yn dwll.

Dach chi’n gweld, Yncl Bryn oedd fy hoff yncl. Roedd o’n ddoeth ac yn wirion ac yn glên, ac i ddyn ifanc oedd wedi colli ei dad yn gymharol ifanc fel fi roedd o’n golygu llawer iawn. Mae’r arwyddocâd hwnnw wedi ei glymu’n dynnach wrth fod fy mab Iago yr un sbit â fo – ei bryd golau a’i wên barod a’i olwg heulog ar y byd. O dro i dro fe fydda i’n rhyfeddu at y tebygrwydd.

A dyna pam bod y pâr yma o sana mor bwysig. Mae eu gweld nhw, eu trin a’u trafod nhw – ac fe wna’ i fentro deud, eu hogleuo nhw – i gyd yn tynnu’n galed ar dannau’r galon.

A be sydd gan hen bâr o sanau i’w wneud â ni, meddech chi? Be sydd a wnelo fo â dechrau blwyddyn? A be sydd a wnelo nhw â nesu at fwrdd y Cymun?

Bydd rhai ohonoch chi wedi cael hen ddigon o nghlywed i’n sôn am yr Esgob Spong a’i ddehongliad o o’r Beibl a’r Testament Newydd. Mae ei ddehongliad o o’r Pasg, ac o’r atgyfodiad, yn troi o gwmpas hiraeth, a hiraeth Pedr yn benodol.

Dyw’r Esgob Spong ddim yn credu yn y gwyrthiau, yn llythrennol. ’Di o ddim yn credu yn yr atgyfodiad yn llythrennol. Felly fe dreuliodd o flynyddoedd yn ymrafael â’r broblem o beth yn union oedd natur digwyddiadau’r Pasg a achosodd y fath chwyldro yn y byd Iddewig nes arwain at greu eglwys newydd, eglwys y mae o bellach yn esgob ynddi. Ac fe gyrhaeddodd at lan llyn Galilea ac at hiraeth un dyn a drodd yn argyhoeddiad ei fod o wedi byw ym mhresenoldeb rhywun oedd yn ymgorfforiad o’r duwdod, yn ffynhonnell bywyd, yn ffynhonnell cariad ac yn sylfaen bod.

Dach chi’n gweld, mae’r Esgob Spong yn credu’n angerddol yn y storïau mae’r gwyrthiau’n eu dweud am Iesu. Mae o’n credu’n angerddol yn yr atgyfodiad. Mae o’n credu’n angerddol fod Pedr ac eraill trwy Pedr wedi profi’r atgyfodiad hwnnw. Ac wedi dod i sylweddoli a chyhoeddi Iesu fel ymgorfforiad o ffynhonnell bywyd, o ffynhonnell cariad ac o sylfaen bod.

Gair bendigedig o amwys a chyfoethog ydy ‘profi’. Mae ei amwysedd yn mynd at wraidd amwysedd ein ffydd ni a’i phroblemau hi y dyddiau hyn. Am y tro, a dyma lle dwi’n gofyn i Menai faddau i mi am fenthyg un o fygiau’r Cyngor Llyfrau; mi wna’ i eu galw nhw’n Profi (efo P fawr) a profi (efo p fach).

Mae yna bedwar diffiniad yng Ngeiriadur y Brifysgol:

  1. Testio rhywbeth, rhoi rhywun ar ei brawf
  2. Cael profiad o, gwybod trwy brofiad, dioddef, teimlo, synhwyro, canfod, gweld, cyffwrdd
  3. Blasu, bwyta, yfed
  4. Dangos gwirionedd rhywbeth. 

Mi ddywedwn i mai dim ond yr olaf o’r pedwar sy’n Profi ‘P fawr’ a thri ohonyn nhw yn profi ‘p fach’.

Profwch o, profwch o, profwch o – ydy cri yr oes fodern, ac o’i brofi mae rhywbeth yn wir, nes ei fod yn cael ei wrthbrofi. Trefn resymol a rhesymegol na fyddwn i am ei newid. Profi efo P fawr.

Ein problem ni fel eglwys ers canrifoedd ydy cael ein hunain i sefyllfa lle mae’r Profi ‘P fawr’ yn cael ei weld yn mynd benben â profi ‘p fach’. Dyw’r ddau ddim yn mynd benben. Maen nhw’n fathau gwahanol o gyrraedd at yr un nod.

Yr hyn mae Spong yn ddweud ydy, na wnaeth ac na wneith neb arall byth brofi efo P fawr atgyfodiad corfforol Iesu. Ond fod Pedr wedi cael profiad o atgyfodiad Iesu: fe ddaeth i wybod trwy brofiad, fe ddioddefodd, fe deimlodd, fe synhwyrodd yr atgyfodiad, fe wnaeth o ganfod, a gweld yr atgyfodiad.

Er na all neb Brofi atgyfodiad corfforol Crist, gallwn gasglu o dystiolaeth y fytholeg fod Pedr wedi cael profiad o atgyfodiad barodd iddo gyhoeddi i’r byd fod Iesu yn Grist, yn ffenest ar y dwyfol, yn ffynhonnell bywyd, yn ffynhonnell cariad ac yn sylfaen bod. Ac i dystiolaeth y dyn cyffredin hwn a’i gyfeillion cyffredin annysgedig newid hanes ffydd yr Iddewon a hanes y byd.

Tros ddegawdau a chanrifoedd ffosileiddiwyd y fytholeg fyw yn ddogma caled a brau. Aeth profiad ‘p fach’ Pedr yn gais am y Prawf ‘P fawr’ nad oedd modd ei brofi. Nes bod yr union beth ddylai fod yn sail i’n ffydd ni wedi mynd yn fodd i’w thanseilio. Dydy’r eglurhad ddim yn sanctaidd; yr hyn sydd yn sanctaidd ydy’r digwyddiad a barodd yr angen i egluro …

Dyma – yn syml ac yn simplistig – y stori, yn ôl Spong.

Croeshoeliwyd Iesu. Fe’i crogwyd ar bren – y farwolaeth fwyaf felltigedig yn nhraddodiad yr Iddewon. Chwalodd y disgyblion. A gadael eu Iesu’n crogi ar bren i’w gladdu mewn bedd cyffredin. Pa fath o Feseia oedd hwn nad oedd y dwyfol yn ymyrryd i’w arbed? Aeth pawb yn ôl i’w filltir sgwâr. Ffodd Pedr fel pawb arall a’i frad yn drwm ar ei gefn a’i enaid. A hiraeth a galar yn gafael.

  • Mae hiraeth yn gysgod i gariad,
  • wyneb arall y geiniog i gariad;
  • po fwyaf y cariad, po fwyaf y galar,
  • po fwyaf y presenoldeb, po fwyaf yr absenoldeb,
  • po fwyaf yw angerdd y byw a’r bod, po fwyaf yw angerdd y peidio â bod.

 Ffodd Pedr. Ffodd Pedr. Ffodd yn ôl i Galilea. Yn ôl at ei waith. “Dwi’n mynd i bysgota …” medda fo yn nhrydedd adnod y darlleniad. Back to the grind.

A dros y dyddiau nesaf, dros yr wythnosau nesaf, dros y misoedd nesaf, er iddo fo ffoi o Jerwsalem, lwyddodd o ddim i ffoi rhag Iesu.

Roedd y galar yn ei gnoi, yr hiraeth yn ei fwyta’n fyw a’r benbleth yn ei ddrysu.

Roedd o wedi treulio tair blynedd ym mhresenoldeb un oedd wedi rhoi cip iddo ar y dwyfol. Roedd yn argyhoeddedig fod Iesu wedi dangos ffynhonnell bywyd, ffynhonnell cariad a sylfaen bod iddo.

Sut allai blynyddoedd mor angerddol o gyffro criw o ddynion ifanc ar y lôn, yn byw’r freuddwyd, yn gweld breuddwyd yn byw ym mherson dyn yr oeddan nhw, a maddeuwch yr amwysedd, ym mherson dyn yr oeddan nhw’n ei addoli, fod yn wastraff? Sut y gallai blynyddoedd o’r fath fod wedi dod i ddiwedd mor pathetic?

Roedd o’n gwrthod derbyn hyn. Doedd hyn ddim yn bosib. Os mai hwn oedd y cariad mwyaf, y presenoldeb mwyaf, y bod mwyaf – hwn oedd yr hiraeth mwyaf, hiraeth oedd yn gwrthod cilio.

Roedd o’n ôl wrth ei waith. Yn ôl wrth ei waith gyda rhai o’r disgyblion eraill. Dyna oeddan nhw’n ei drin a’i drafod ddydd a nos. Drwy’r nos wrth bysgota. Drwy’r dydd wrth drwsio’r rhwydi. Yn hwyr y prynhawn wrth fân siarad a ben bora wrth fwyta’u brecwast o bysgod a bara.

Ar ôl noson hir o bysgota, y peth cyntaf fydden nhw’n wneud ar lan y llyn fyddai bwyta brecwast o bysgod a bara. Ac wrth fod pob pryd yn y traddodiad Iddewig yn seremonïol roedd bendithio a thorri’r bara yn rhan bwysig o’r ddefod. Wrth fendithio’r pryd a thorri’r bara roedd y pryd olaf hwnnw yng nghwmni Iesu, oedd mor drwm o ddrama a thensiwn, yn dod i’r cof. Bob tro roedden nhw’n bwyta, bob tro roedden nhw’n cymryd bara, yn bendithio’r bara, yn torri’r bara, roedden nhw’n cofio. Yn cofio’r swper olaf hwnnw ac yn cofio’r Iesu adawon nhw ar bren, i’w gladdu mewn bedd cyffredin.

Yno ar lan y llyn. Yn niwl y bore bach. Roedden nhw’n galaru. Yn hiraethu. Yn trafod ac yn hel meddyliau.

Wrth i’r wythnosau fynd heibio roedd Jerwsalem yn galw eto. Y tro hwn roedd Gŵyl y Pebyll, un o wyliau mwyaf poblogaidd y flwyddyn, os nad y fwyaf poblogaidd, yn galw, a geiriau’r wyl, Salm 118 a’r Proffwyd Sechareia, yn rhan o’u haddoliad o ddydd i ddydd:

  • “Y maen a wrthododd yr adeiladwyr a ddaeth yn brif gonglfaen”
  • “Taro’r bugail a’r praidd a wasgerir”
  • “Daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol … a’r Arglwydd a fydd Frenin ar yr holl ddaear”
  • “Gwaith yr Arglwydd yw hyn, ac y mae’n rhyfeddod yn ein golwg”.

Tybed nad oedd hyn oll yn cyfuno? Y galar, yr hiraeth, y benbleth, y geiriau yn y Synagog, y cofio, y bwyta, y bara, bendithio’r bara, torri’r bara a’r cofio. Yr hiraeth, y galar a’r cofio. Cofio Iesu, cofio’r swper olaf, cofio’i fywyd, a gwrthod derbyn nes eu bod nhw’n gweld.

A dyna i chi air arall sy’n gyfoethog o amwys. Does dim rhaid gweld efo G fawr er mwyn gweld. Sdim rhaid bod yn llythrennol yn ddall i gael agor eich llygaid. Mae’r sawl sy’n gweld yn gallu gweld o’r newydd. Daeth Pedr i weld a thrwyddo fo daeth eraill i weld.

Rhyw fore, ar ôl dalfa arbennig o dda, fe welodd Pedr drwy ei alar, drwy ei hiraeth, drwy ei benbleth; fe wawriodd arno drwy niwloedd y bore bach ar lan llyn Tiberias mai Iesu oedd y Crist, eu bod wedi bod yn mhresenoldeb un roddodd gip iddynt ar y dwyfol.

Roedd o wedi gweld Duw fel ffynhonnell bywyd oedd wedi ehangu ei allu i fyw, i fyw i’r eithaf. Roedd o wedi gweld Duw fel ffynhonnell cariad oedd yn ei ryddhau i garu y tu hwnt i unrhyw rwystr, i garu’n afrad. Roedd o wedi gweld Duw fel sylfaen bod oedd yn rhoi’r dewrder iddo fod y cyfan allai fod.

Ac o weld hynny, o brofi hynny, profodd dawelwch ecstatig ac angerdd tragwyddoldeb. Gwelodd fod Iesu yn un â’r dwyfol. Gwelodd nad cosb oedd y groes ond y ddameg eithaf o gariad y dwyfol. Nid cariad oedd yn cydymffurfio â llythyren y ddeddf, ond â chariad diamod y dwyfol, cariad nad oedd yn mynnu unrhyw ad-daliad. Cariad sy’n dangos mai drwy roi ein bywyd yr ydym yn ennill ein bywyd, drwy garu yr ydym yn cael ei caru, drwy garu’r annerbyniol y cawn ninnau ein derbyn. Deallodd ystyr marwolaeth Iesu. Teimlodd gariad Iesu a’i faddeuant, a phrofodd atgyfodiad. Teimlodd y niwl yn codi, y galar a’r hiraeth yn cilio, y benbleth yn cael ei datrys, a gwyddai fod Iesu yn un â’r dwyfol. Profodd Iesu byw a deallodd mai’r prawf o hynny fyddai ei fod yn porthi ei ŵyn – yn caru’r alltudion, yn cynnal y gwan, yn croesawu’r esgymun.

Profodd hyn. Nid Profi â ‘P fawr’. Fe welodd o hyn. Nid gweld â ‘G fawr’. Fe gafodd o brofiad o atgyfodiad Iesu, fe ddaeth i wybod drwy brofiad, fe ddioddefodd, fe deimlodd, fe synhwyrodd yr atgyfodiad, fe wnaeth o ganfod, a gweld yr atgyfodiad. Gellid dadlau ei fod hyd yn oed wedi ei roi ar brawf ac wrth ddynesu at fwrdd y Cymun mi fyddwn i’n dadlau ei fod wedi blasu, bwyta ac yfed yr atgyfodiad.

Roedd canlyniadau i’r gweld a’r profi, cyn wired â bod tonnau’n cyrraedd y lan o daflu carreg i’r llyn llonydd.

A heno, rydyn ninnau’n ddiferion yn un o’r tonnau bychain hynny. Ac wrth gymryd bara, wrth fendithio’r bara, wrth dorri’r bara, rydyn ninnau’n hiraethu, yn galaru, yn gweld ac yn profi, ac yn gobeithio o’r newydd ein bod ni drwy Grist yn gallu gweld y dwyfol, o ddyfynnu Spong:

fel ffynhonnell bywyd sy’n ehangu ein gallu i fyw i’r eithaf; fel ffynhonnell cariad sy’n ein rhyddhau i garu’n afrad, y tu hwnt i unrhyw rwystr, ac i weld y dwyfol fel sylfaen bod sy’n rhoi’r dewrder i ni i fod y cyfan a allwn ni fod. Trwy fyw i’r eithaf rydym yn gwneud y dwyfol sy’n fywyd yn weladwy. Trwy garu’n afrad rydym yn gwneud y dwyfol sy’n gariad yn weladwy. A thrwy fod y cyfan allwn ni fod rydym yn gwneud y dwyfol sy’n sylfaen bod yn weladwy.

Ar ddechrau blwyddyn, wrth edrych yn ôl ac wrth edrych ymlaen, gadewch i ni droi at fwrdd y Cymun, gwneud fel ’dan ni wedi gwneud ers bron i ddau fileniwn ym mhedwar ban byd, gwneud fel y gwaeth Pedr yn ei hiraeth: cymryd bara, bendithio’r bara, torri’r bara, a chofio’n llawn hiraeth a gobaith, a chwilio eto am y tawelwch ecstatig a’r angerdd tragwyddol fydd yn ein tanio o’r newydd i borthi ei ŵyn.