Caneuon ein Ffydd?
Ar ôl hir ddisgwyl fe ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i Geredigion ac i Dregaron, gyda phawb yn edrych ymlaen at fwynhau wythnos wych o uchel ŵyl ar ôl y cyfnod blin diweddar. Bydd rhai’n teithio i Dregaron i letya yno am yr wythnos, mewn gwesty neu garafán neu babell. Bydd eraill yn mwynhau’r arlwy ar y teledu ac ar amrywiol gyfryngau eraill ein hoes.
Heddiw, ar Ddydd Sul y Steddfod, mi fydd y Maes a’r cyfryngau, fel ei gilydd, yn atseinio i sŵn a sain ein hemynau enwog. Yn y gwasanaeth boreol ac yn y gymanfa ganu draddodiadol fin nos fe fydd y gynulleidfa yn morio canu’r hen alawon a miloedd adref ar y soffa yn ategu’r mawl.
Mae ein traddodiad emynyddol yn rhan gyfoethog iawn o’n treftadaeth ddiwylliannol, wrth gwrs. Bu canu emynau, y tu fewn a thu allan i fannau addoliad, yn nodwedd amlwg o’n hunaniaeth ddiwylliannol fel Cymry yn y canrifoedd diweddar. O ddyddiau Salmau Cân Edmwnd Prys hyd heddiw mae canu emynau’n fodd i gyfoethogi ein haddoliad a goleuo ein crefydda.
Ers dros 20 mlynedd bellach, Caneuon Ffydd (2001) yw’r casgliad a ddefnyddir gan bump o’n henwadau crefyddol i ganu mawl. Mae Emynau Catholig (2006) a Pherlau Moliant yr Undodiaid (1979) ynghyd â’r Perlau Moliant Newydd (1997) yn llai cyfarwydd i nifer ohonom efallai. Gyda’i gilydd maen nhw’n cynrychioli ystod go helaeth o arddulliau a mesurau, beirdd ac awduron. Maen nhw hefyd, wrth gwrs, yn cynrychioli rhychwant go eang o safbwyntiau athrawiaethol a diwinyddol.
Er i Ganeuon Ffydd gael ei gyhoeddi ar doriad yr unfed ganrif ar hugain, cynnyrch y 18fed a 19eg ganrif yw trwch emynau’r gyfrol. Cynnyrch diwygiadau efengylaidd y cyfnodau hynny ydyn nhw gan mwyaf. O’r herwydd mae’r emynau’n gyforiog o gyfeiriadaeth Feiblaidd sy’n ddieithr iawn i glustiau’n hoes ni. Maen nhw hefyd yn diferu o drosiadau Calfinaidd dramatig ac yn drymlwythog â chysyniadau athrawiaethol a ystyrir yn geidwadol, a hyd yn oed yn ormesol, yn ein dyddiau ni. Ond eto, eu canu a wnawn – a hynny heb fawr o gŵyn, sylw na beirniadaeth.
Na, dydyn ni ddim yn canu am ‘gannu’r Ethiop’ erbyn heddiw. Bu golygu ar ieithwedd hiliol y gorffennol. Bu rhywfaint o feddalu hefyd ar afael y batriarchaeth ar ein hemynyddiaeth, er mai prin iawn yw lleisiau menywod yng Nghaneuon Ffydd. Ond i ba raddau mae’r emynau a gennir gennym yn rheolaidd yn adlewyrchu ethos ein cyfnod a’r pynciau sydd o ddiddordeb byw i ni heddiw – yr amgylchedd, cadwraeth a llygredd, cyfiawnder cymdeithasol ac anghydraddoldeb economaidd byd-eang, cydraddoldeb yn nhermau rhywioldeb a rhywedd, amrywiaeth ieithyddol a diwylliannol? Mae gwir angen modd i gyfleu consyrn y Crist byw ynghylch y materion hyn. A pha fodd gwell na thrwy emyn.
Felly, wrth i ni ryfeddu at ddawn ac awen ein beirdd a’n llenorion yn Nhregaron yr wythnos hon a gwerthfawrogi eu cynnyrch yn y Cyfansoddiadau weddill Awst, beth am i ni geisio cael ein hysbrydoli ganddyn nhw (neu brocio eraill) i droi llaw at gynhyrchu ambell bennill ac emyn sy’n adlewyrchu pryderon, gobeithion a daliadau Cristnogion ein dydd ni, Cristnogion yr unfed ganrif ar hugain? Beth am lunio caneuon ar gyfer ein ffydd ni heddiw?