E-fwletin 24 Gorffennaf 2022

Mae’n Twymo!

‘Mae’n twymo. Sdim un gwelltyn glas yn y parc ‘co. Ma’ hwn yn imbed o wael.’

Dyna oedd sylw un ffermwr ar ddechrau’r cwrdd Sul diwethaf. Halodd e’ fi i bwslo.

Dydw i ddim yn cofio rhyw lawer am neges y pregethwr gwadd. Wrth fyfyrio, pendroni a drychid mas trwy’r ffenest yr hyn a welwn oedd porfa crin a llwyni’n gwywo. Roedd hi’n 28 gradd yn y cyhudd am ddeg y bore.

Yn ystod yr wythnos diwethaf mae effeithiau cynhesu byd eang i’w gweld yn glir yma yng Nghymru. Gobeithio bod y gwres eithafol yn ’wake up call’ i’r rai hynny sy’n amharod i wynebu realiti’r argyfwng sy’n ein hwynebu.

Mae’n effeithio ar bawb ond yn effaith anghymesur ar y tlotaf yn ein cymdeithas. O ganiatáu i hyn ddigwydd mae ein difaterwch yn groes i orchymyn Duw i ni ofalu am yr hyn y mae wedi ei roi i’r ddynoliaeth.

Mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom i wneud ein rhan i sicrhau nad ydym yn gadael i’r genhedlaeth nesaf etifeddu planed sy’n gwywo ac yn marw oherwydd ffolineb a hunanoldeb ein cenhedlaeth ni. Ac mae angen i’n capeli wneud mwy. Mae angen i fi wneud mwy. Ond, sut?

Felly, yng nghefn Caneuon Ffydd, yn hytrach na gwrando ar y bregeth, dyma lunio rhestr o awgrymiadau ymarferol gallwn eu mabwysiadu er mwyn gwneud ein rhan i helpu yn y frwydr yn erbyn cynhesu byd-eang.

  • Ewch ati i drefnu cyfarfod ymhlith aelodau eich capel, gan osod un cwestiwn yn unig ar yr agenda. Beth allwn ni ei wneud i leihau ein hôl troed carbon?
  • Yn hytrach na chynnal oedfa draddodiadol, gwahoddwch arbenigwyr yn y maes a chynrychiolwyr elusennau i siarad gyda’ch aelodau er mwyn codi ymwybyddiaeth o beryglon amlwg cynhesu byd eang. Penderfynwch ar newidiadau y gellid eu mabwysiadu er mwyn mynd i’r afael â’r broblem.
  • Os oes Ysgol Sul, trafodwch gynhesu byd-eang – mynnwch farn y plant.
  • Peidiwch â thorri’r borfa yn y fynwent, gadewch i’r holl blanhigion dyfu er mwyn annog mwy o fioamrywiaeth.
  • Plannwch goed yn y fynwent neu ger eich addoldy.
  • Mewn ardaloedd amaethyddol, anogwch yr amaethwyr yn eich plith i adael i’r cloddiau dyfu a pheidio â’u blingo yn ystod mis Awst.
  • Unwch oedfaon – ystyriwch sawl capel sy’n defnyddio ynni yn ddiangen ar gyfer y ‘dau neu dri’ pan allai pawb ddod ynghyd mewn un adeilad.
  • Yn yr hydref symudwch i’r festri i gynnal oedfa i arbed ynni.
  • Holwch os oes grantiau ar gael i osod paneli solar ar eich adeilad.
  • Cynigiwch rannu ceir. Ewch ati i greu rota sy’n cynnig lifft i gymydog neu gymdogion.
  • Cynorthwywch eich gweinidog i brynu neu logi car trydan i leihau ei ôl/hôl troed carbon wrth fugeilio a mynychu cyfarfodydd.
  • Byddwch yn radical! Caewch yr hen gapel sy’n mynd a’i ben iddo, sy’n ddrafftlyd ac yn damp ac yn oer ac yn costio ffortiwn i’w gynhesu am awr bob Sul. Symudwch i neuadd y pentref neu’r ysgol leol i gynnal eich eglwys.

Salm 65 9

 ‘Rwyt yn gofalu am y ddaear ac yn ei dyfrhau, gwnaethost hi’n doreithiog iawn ; y mae afon Duw’n llawn o ddŵr.’