E-fwletin 19 Mehefin 2022

Cristnogaeth 21

e-fwletin 19 Mehefin 2022

 

Annwyl gyfeillion,

Dyna neges arall, gyda’n cyfarchion.

 Y Jiwbilî

‘Digwyddodd, darfu, megis seren wib’, meddai’r bardd, a phrofiad tebyg fu dathliadau Jiwbilî Blatinwm y Frenhines Elizabeth II yn ddiweddar. Bu cryn hwyl am wythnosau a thrwy gydol un penwythnos, gyda gorymdeithiau, partïon stryd, gigiau cerddorol, a byntings coch, glas a gwyn rif y gwlith yn gorchuddio amryw fannau ar hyd a lled y Deyrnas Unedig. Bu’n achlysur o lawenydd, yn gyfle i fynegi balchder cenedlaethol, i rai, ond i eraill, roedd yn destun beirniadaeth, yn dân Prydeinllyd ar groen, ac yn ysgogiad i nifer wneud rhywbeth an-Jibilïaidd mewn protest. Waeth ein bod ni’n frenhinwyr ai peidio, wedi ffoli ar y pomp a’r seremoni neu wedi sefyll mewn protest, nid oes amheuaeth nad oedd y digwyddiad yma wedi tanlinellu pwysigrwydd blwyddyn benodol, a chysyniad y Jiwbilî.

A ninnau’n byw mewn gwlad gynyddol seciwlar ac yn rhan o gasgliad o wledydd sy’n ymddangosiadol Gristnogol ond sydd, mewn difri, yn fwy aml-grefyddol na dim, teg fyddai dweud fod y Jiwbilî Blatinwm wedi bod yn sbardun i amryw ystyried yr hyn yw ‘Jiwbilî’ ac i amryw ganfod bod i’r cysyniad gynseiliau Beiblaidd.

O droi at Lefiticus 25, gwelir y cofnod am Flwyddyn y Jiwbilî yr oedd disgwyl i’r Hebreaid ei chadw unwaith iddynt gyrraedd Gwlad yr Addewid. Y flwyddyn honno, byddai ‘rhyddid’ yn teyrnasu; rhyddheid y caethion yn y wlad; dychwelid yr holl dir a gollwyd drwy dlodi neu dwyll; a dileid holl ddyledion pobloedd Israel. Delfryd o flwyddyn yn ddi-os. Ond ai blwyddyn anymarferol o iwtopaidd ydoedd? Mae ysgolheigion Beiblaidd ar hyd y canrifoedd wedi trin a thrafod y Jiwbilî Feiblaidd, gydag amryw’n pwysleisio pa mor unigryw ydoedd o’i chymharu efo’r hyn oedd i’w weld yn yr Hen Ddwyrain Agos. Ond, ac yn enwedig yn ddiweddar, gwelwyd barn gadarnach a ddywedai na ddigwyddodd y Jiwbilî mewn difri, ac mai’r cyfan ydoedd oedd blwyddyn ddelfrydol, freuddwydiol, ddymunol.

Ond a yw hynny’n golygu ei bod yn ddi-werth? A oes diben troi ati o gwbl? A oes pwrpas ei chadw yn y Beibl?

Dadleuodd amryw ar hyd y canrifoedd fod diben troi ati a phwrpas i’w chadw yn y Beibl. Enghraifft ddiddorol yn hyn o beth oedd cyfnod y 19eg ganrif, pan oedd yr ymgyrchoedd yn erbyn caethwasiaeth mewn bri. Ceid amryw’n defnyddio’r Beibl i gefnogi caethwasiaeth, drwy gyfeirio at ddeddfau sut i drin caethion yn Exodus a llythyr Paul at Philemon. Fodd bynnag, ceid eraill yn dadlau i’r gwrthwyneb, ac un o’r testunau a ddefnydddid fynychaf oedd Lefiticus 25. Roedd Blwyddyn y Jiwbilî yn ddelfryd yr ymlafniai’r gwrth-gaethiwyr a’r diddymwyr tuag ati. Dyma flwyddyn a fyddai’n rhyddhau’r caethion, yn sicrhau hawliau dynol, yn gofalu am chwarae teg, a daeth y Jiwbilî yn arwyddair yr ymgyrch gwrth-gaethwasiaeth yn fuan iawn.

A beth amdanom ni heddiw? A allem ni gadw’r Jiwbilî? Diau y byddai’n anodd ei rhoi ar waith, ond gallem ni oll gofio egwyddorion Blwyddyn y Jiwbilî: rhyddid, tegwch a chyfiawnder, a’u harddel i’r eithaf. Gofalwn am ein cyd-ddyn, gofalwn am ryddid, gofalwn am yfory.

Ein cofion atoch. 

Cristnogaeth 21