E-fwletin 10 Gorffennaf 2022

Bwrdd y Wledd

Codi fyny, gollwng gafael a pharatoi bwrdd i’r wledd oedd thema cyfarfod eglwysi CWM Ewrop yn Great Missenden yr wythnos ddiwethaf. Yno, cawsom gyfle i rannu’n profiadau personol o bobl yn codi i fyny drwy ddod ag eitemau efo ni o’n heglwysi, ein gwledydd a’n diwylliannau gwahanol. Roedd hynny’n ffordd dda o gyflwyno a dod i adnabod ein gilydd.

Roedd y drafodaeth am yr hyn sydd angen i ni eu gollwng yn ddiddorol ac un o’r pethau wnaeth fy nharo oedd y sylw ein bod ni, yn rhy aml o lawer, yn credu mai ein gwaith ni oedd cynnig a rhoi i bobl eraill. At hynny, y perygl sydd ynghlwm â hynny o gredu mai gennym ni y mae’r adnoddau a’r atebion i gyd. Mae gollwng gafael ar rym yn fwy o her nag unrhyw beth!

Wrth drafod ‘bwrdd y wledd’ a’n gwahoddiad ni i bobl ymuno, nodwyd nad ydym yn ddigon aml yn ymuno wrth fyrddau pobl eraill i ddysgu a derbyn ganddyn nhw. Nododd un bod bwrdd yn beth dieithr iawn mewn cynifer o ddiwylliannau – bwrdd y dyn gwyn, bwrdd bos y ffatri neu fwrdd y meistr ydy e ym meddyliau llawer. Dyma gofio hefyd nad ydy bwrdd bwyd yn beth cyffredin mewn nifer o gartrefi yng Nghymru bellach chwaith. Tybed sut mae hynny’n effeithio ar ein syniadaeth?

Ar y dydd Iau cafwyd cyfle i fynd i Luton – y tro cyntaf i nifer ohonom fod yno. Mae Luton yn dref lle mae yno 140 o ieithoedd yn cael eu siarad (gwych ynde!) a phobl o bob lliw a chred yn cyd-fyw. Cawsom ymweld â mudiad Grassroots, mudiad Cristnogol sydd wedi gweithio’n agos efo arweinwyr ffydd eraill yn lleol nes sefydlu’r Luton Council of Faiths. Roedd gwaith y cyngor hwnnw i adeiladu heddwch a chyd-ddeall rhwng pobl ar draws ffiniau cred a diwylliant yn ysbrydoliaeth. Roedd y cyfeillgarwch a’r tynnu coes naturiol a oedd yn digwydd rhwng yr arweinwyr o wahanol grefyddau yn hyfryd dros ben. Ond coron y dydd oedd ymweliad â’r Gurdwara – teml y Sîc (Sikh).

Mae’r ffydd yn 500 oed ac roedd y sylfaenydd, Guru Nanak, yn dysgu neges cariad. Mae’r grefydd Sikh yn edrych ar fywyd, nid fel cwymp oddi wrth ras, ond fel cyfle unigryw i ddarganfod a datblygu’r dwyfol ymhob un ohonom. Ystyr y gair Sikh yw disgybl – a’r Guru yw’r athro. 

Y degfed Guru oedd Guru Gobind Singh. Fe oedd yr un a gyflwynodd y 5 erthygl ffydd sy’n rhoi hunaniaeth glir i’r Siciaid. Ers 300 mlynedd mae’r dilynwyr yn cael eu hadnabod yn hawdd oherwydd eu gwallt hir a’r twrban.  Yng nghymdeithas draddodiadol India, dim ond rheolwyr a’r dynion o’r caste uchaf oedd yn gwisgo twrban ond wrth fynnu bod pob Sikh yn gwisgo un roedd Guru Gobind Singh yn mynegi pwysigrwydd pawb. Mynnodd hefyd fod y dynion i gyd yn defnyddio’r cyfenw Singh – a’r merched yn defnyddio’r cyfenw Kaur. Trwy hynny roedd yn tanseilio’r system caste lle mae cyfenw’n arwydd o safle dynion yn y gymdeithas.

Guru Gobind Singh oedd y guru dynol olaf. Gorchmynnodd gasglu dysgeidiaeth ysgrifenedig y Gurus cynharach, ynghyd ag ysgrifeniadau arweinwyr ysbrydol Mwslimaidd a Hindŵ oedd wedi dysgu syniadau tebyg.  Mae’r casgliad hwn o waith ysgrifenedig yn cael ei alw’n Guru Granth Sahib. Mae’n gasgliad ecwmenaidd unigryw o ysgrifau ysbrydol ac i’r Siciaid hwn yw ffynhonnell pob gwybodaeth ysbrydol ac awdurdod. Maent yn trin y llyfr fel bod dynol cwbl gysegredig ac roedd gweld y ffordd yr oeddynt yn ei barchu’n brofiad rhyfeddol!

Roedd y Gurdwara welsom ni’n Luton yn adeilad newydd sbon ar dri llawr – maes parcio yn y gwaelod, ystafell fawr i fwyta ar y llawr cyntaf a’r deml i addoli ar y llawr uchaf.  Roedd yr arweinydd yn ddyn tawel, hyfryd dros ben, a ddywedodd bod tua mil o bobl yn addoli yno ar fore Sul.

Cred Siciaid bod bwyd i fod i bawb ac roedd y Gurdwara’n bwydo tua 800 o bobl bob dydd o’r flwyddyn. Roedd yn agored drwy’r dydd ac roedd unrhyw un fyddai’n galw i mewn yn cael bwyd heb unrhyw gwestiwn nac amod – na phlât casglu! Aelodau’r Gurdwara sy’n darparu’r gwasanaeth, yn ferched a dynion, ac roedd y bwyd yn faethlon ac yn flasus.  Profiad anhygoel ac ymateb cyffredinol ein grŵp oedd rhwystredigaeth ein bod ni’n gwneud popeth mor gymhleth – ac mai’r cwestiwn cyntaf gennym bron bob tro ydi ‘faint neith o gostio’! 

Da oedd cael cyfle i eistedd wrth fwrdd rhywun arall a dysgu!

Gallwch gael mwy o wybodaeth am grefydd y Siciaid ar wefan www.SikhNet.com