E-fwletin 5 Mehefin 2022

Cristnogaeth 21 E-fwletin 5 Mehefin 2022                                                     

Halen y ddaear.

Fe allaf ddychmygu rhai ohonoch, wrth weld y pennawd hwn, yn disgwyl imi sôn am ragorolion y byd, yn union fel rhestr anrhydeddau’r Frenhines. Yn wir y mae’r ymadrodd wedi cael ei ddefnyddio gennym yn Gymraeg dros y blynyddoedd gyda’r dehongliad hwnnw iddo. Fe welsom rai o’n cyd-Gymry yn cael eu henwi a’u anrhydeddu, a hynny yn hollol haeddiannol. Arwyr oeddent, yn helaeth eu cyfraniad i fywyd eu bro ac i fywyd y genedl, ac yn haeddu cydnabyddiaetth. A’r ffordd i wneud hynny oedd rhoi’r teitl anrhydeddus iddynt, “halen y ddaear”.

O weld Iesu’n galw’i ddisgyblion yn halen y ddaear fe aethom ni bregethwyr ati gydag arddeliad i ymhelaethu ar arwyddocâd halen yn nghyfraniad y disgyblion. Rhoi blas ar ymborth oedd yr elfen gyntaf gan lawer ohonom yn ein pregeth mae’n siwr. Dilynwyr Iesu yn rhai a roddai flas hyd yn oed ar fywyd diflas, gan dynnu allan ohono wedyn fendithion a roddai arbenigrwydd i fodolaeth ddiddim.  

Byddai ambell un ohonom a gawsai ei fagu ar fferm yn cofio’r cig moch yn cael ei halltu cyn dyddiau’r oergell, heb sôn am rewgell. Yr halen a ddefnyddid i gadw’r daioni rhag ei ddirywio a’i lygru. Cadw’r hyn sy’n werthfawr ar gyfer ein hyfory: hynny eto’n rhan o wasanaeth halen.

Yna byddem yn sôn am halen yn difa. A chyfrifoldeb dilynwyr Iesu fyddai difa’r elfennau drwg mewn cymdeithas. Efallai y mentrem awgrymu’r cyfrifoldeb i fod yn halen er mwyn difa’r drygioni yn ein calonnau ni ein hunain.

Byddem yn cofio wedyn mai siarad y mae Iesu â chynulleidfa’r ganrif gyntaf, ac wrth fentro pedwerydd pen i’r bregeth fe soniem am halen yn gwrteithio’r tir. Mae dilynwyr Iesu yn cael y fraint i fynd i’r mannau diffaith, lle mae bywyd yn galed. Maent yn cyfoethogi daear cymuned a fu’n ddiffrwyth a phridd cymdeithas na welsai dyfiant.

O glywed hyn i gyd byddem yn ymchwyddo gan falchder wrth feddwl fod gennym ni wasanaeth gwirioneddol werthfawr i fyd mor dlawd a gwag. Tybed a fyddai Pedr neu Iago neu Tomos wedi ymchwyddo wrth glywed Iesu yn eu galw hwy yn halen y ddaear. Go brin. Yr oeddent hwy mae’n siwr yn nabod eu hathro yn well na hynny. Mae fy mhregeth ffansïol bedwar-pen yn amherthnasol.

Oherwydd nid rhannu anrhydeddau a wnâi Iesu yn yr adnodau hyn. Gresyn inni ddwyn un o’i ymadroddion gan roi iddo ystyr hollol gamarweiniol. Nid gwobrwyo’r disgyblion a wnâi Iesu yn y cyd-destun hwn ond eu herio. Yn wir y mae’r “bregeth ar y mynydd” drwyddi yn ddifrifol o heriol. Her sydd yn yr adnod, “Chwi yw goleuni’r byd.” Nid canmoliaeth a welaf yn yr adndod honno eto, ond Iesu yn gosod y gofynion a’r disgwyliadau yn eithriadol o uchel.

Yn yr un bregeth down at ymadrodd caled arall sy’n drallodus o heriol y dyddiau hyn: “Gwyn eu byd y  tangnefeddwyr.” Rwy’n cofio meddwl flynyddoedd lawer yn ôl fod yna ryw naws neis i’r adnod hon. Druain ohonom heddiw. Beth yw eich ymateb chi i’r gwrandawr newyddion sy’n teimlo ton fach o ryddhad  pan glyw am awyren o Rwsia wedi ei saethu i’r llawr ?

Gyda’n cofion a’n bendith ar Ŵyl Y Pentecost.

Cofiwch mai heddiw yw’r diwrnod olaf i gofrestru ar gyfer Encil y Pentecost,Sadwrn Mehefin 18ed. yng nghwmni Archesgob Cymru, Sara Roberts,Aled Lewis Evans,Manon Llwyd,Cefyn Burgess ac Anna Jane Evans. Cysylltwch â

catrin.evans@phonecoop.coop   01248 680858

www.cristnogaeth21.cymru