Gwyddoniaeth a’r ysbrydol

Gwyddoniaeth a’r ysbrydol

Mewn erthygl ar wefan Cristnogaeth 21 ychydig wythnosau’n ôl, mae’r awdur yn cyfeirio at faint anhygoel y bydysawd – amcangyfrif o filiwn triliwn o sêr yn y bydysawd gweladwy, pellteroedd na allwn yn wir eu hamgyffred – ac felly safle hollol ddinod y ddaear yn hyn i gyd. O ganlyniad, dywed yr awdur na all dderbyn bodolaeth unrhyw Ddeallusrwydd Dwyfol consyrnol tu ôl i’r byd naturiol. Ond mae’n pwysleisio fod y byd yn llawn cariad ac yn awgrymu mai ansawdd ein bywydau sy’n cyfrif.

*****

Mae’r awdur yn cyfeirio’n gynnar yn ei ysgrif at waith Edwin Hubble, a gasglodd dystiolaeth, yn nauddegau’r ugeinfed ganrif, o fodolaeth galaethau tu allan (yn bell tu allan) i’n galaeth ni, y Llwybr Llaethog.

Pan wnes i ddarllen hyn, daeth dau beth penodol i’m cof. Y cyntaf oedd yr argraff a wnaeth cyfrol enwog Hubble, The Realm of the Nebulae, arnaf pan wnes ei darllen pan oeddwn yn yr ysgol. Yr ail oedd ein hymweliad fel teulu â Flagstaff yn Arizona. Cofiwn y ffurfafen glir heb lygredd golau a thelesgop y Lowell Observatory enwog gerllaw.

****

Y cysylltiad yw mai dyma lle gwnaeth gŵr o’r enw Vesto Slipher fesuriadau hynod gywrain o sbectra’r hyn a elwid yn nebulae, yn 1912–1914, a darganfod fod tonfedd y golau oddi wrthynt yn symud i’r coch (y red shift), gan ddangos fod y rhan fwyaf ohonynt yn rhuthro i ffwrdd oddi wrthym. Ar y pryd roedd dadl fawr a oedd y nebulae (e.e. Andromeda) yn rhan o’r Llwybr Llaethog neu’r tu hwnt. Yna fe ddefnyddiodd Hubble y telesgop newydd ar Fynydd Wilson, ger Los Angeles, y mwyaf treiddgar yn y byd bryd hynny ac am ddegawdau wedi hynny, i amcangyfrif y pellter i’r nebulae. Daeth yn hollol glir fod y nebulae yn bell tu allan i’n galaeth. Wrth gyfuno’i ganlyniadau ef yn ddiweddarach, mewn cydweithrediad â Milton Humason, â rhai Slipher, awgrymodd ‘ddeddf Hubble’, sef fod cyflymder y pellhau yn gyfrannol â phellter.

Roedd Hubble heb amheuaeth yn un o wyddonwyr mwyaf dylanwadol y cyfnod. Roedd yn berson uchelgeisiol. Ar ôl treulio ychydig flynyddoedd yn Rhydychen fel myfyriwr, mae’n debyg iddo fabwysiadu arferion, gwisg, acen a ffordd o siarad Saeson uchel-ael. Rhyfedd!

****

Yr un pryd roedd y ffisegwyr damcaniaethol yn ceisio darganfod beth oedd oblygiadau hafaliadau Einstein yn namcaniaeth Perthnasedd Cyffredinol am ffurf y bydysawd. Roedd Einstein ei hun yn ffafrio bydysawd nad oedd yn newid, ac yn y dechrau addasodd ei hafaliadau i sicrhau hynny. Ond fe wnaeth dau wyddonydd mathemategol eu greddf ddangos fod hafaliadau gwreiddiol Einstein yn rhag-ddweud bydysawd oedd yn ehangu. Y ddau oedd Alexander Friedmann yn Rwsia (a fu farw’n ifanc iawn) a George Lemaître yng ngwlad Belg – y naill heb wybod am waith y llall. Roedd Einstein yn feirniadol ohonynt ar y dechrau, ond nhw a orfu mewn byr o dro.

****

Ein diddordeb yma yw George Lemaître. Offeiriad pabyddol ydoedd, a dilynodd ddwy yrfa: fel offeiriad ac fel gwyddonydd mathemategol a ddaeth yn un o brif ddylanwadau’r cyfnod ar gosmoleg. Mae lluniau diddorol ohono yng nghanol enwogion gwyddonol y cyfnod (yn y cynadleddau Solvay, er enghraifft) yn ei goler gron. Arweiniodd ei ddatrysiad o hafaliadau Einstein yn uniongyrchol at fodel o’r bydysawd oedd yn newid ac yn esblygu. Rhagfynegodd deddf Hubble a soniodd fod y cread wedi dechrau yn yr hyn a alwodd yn ‘primeval atom’ ac wedi ehangu oddi yno. Dyma, wrth gwrs, beth ddaeth i gael ei alw yn ddamcaniaeth y ‘Glec Fawr’. Bathwyd y term Big Bang gan Fred Hoyle mewn sgwrs radio yn 1949. Mae’n ymadrodd hyll a hynod anffodus, a dweud y gwir, ond fe wnaeth sticio!

Yn y pumdegau roedd dadleuon a oedd ar brydiau yn ffiaidd rhwng dwy garfan: Martin Ryle a’i ddilynwyr oedd o blaid y model esblygiadol, a Fred Hoyle ac eraill a oedd yn dadlau dros fodel a elwid yn Steady State neu Greu Parhaus. Roedd cwympo mas yng Nghaergrawnt! Ond erbyn diwedd y chwedegau, yn dilyn cadarnhad arbrofol fod ymbelydredd cefndirol yn llanw’r bydysawd ac yn adlais o’r ffrwydrad cychwynnol, daeth y rhan fwyaf i dderbyn y model o Glec Fawr. Dyna farn bron pawb heddi, ond mae ’na broblemau o hyd, a dealltwriaeth anghyflawn yw – ac efallai dros dro yn unig. Pwy a ŵyr beth wnaiff ddatblygu o syniadau fel bydysawd cylchol a multiverses (wna i ddim ymhelaethu yma!).

****

Lemaître felly oedd prif arloeswr model y Glec Fawr. Roedd yn hollol bendant yn cadw materion ffydd ar wahân i faterion gwyddonol. Dywedodd fod gwyddoniaeth yn ceisio deall y byd naturiol a ffydd yn agor drysau’r byd ysbrydol: ‘Mae dwy ffordd o geisio’r gwirionedd, ac rwyf wedi penderfynu dilyn y ddwy.’ Mae damcaniaeth y Glec Fawr yn golygu dechrau i’r cread, a gwelodd rhai o wyddonwyr y cyfnod, a phobl fel Hoyle yn nes ymlaen, hyn yn rhyw fath o ddrws cefn i gyfiawnhau Genesis. Yn bendant, nid dyna oedd agwedd Lemaître. Ar un achlysur, roedd yn gandryll, mae’n debyg, pan awgrymodd y Pab Pius XII hyn mewn araith yn 1951. Ni wastraffodd unrhyw amser yn darbwyllo’r Pab rhag defnyddio’r ddadl eilwaith!

Mae’n rhyfedd sut mae’r rhod wedi troi – gwelir cosmoleg gyfoes yn cael ei defnyddio gan rai fel ffordd o danseilio ffydd. Serch hynny, mae’r rhan fwyaf o wyddonwyr o’r un farn â Lemaître gynt: y byd naturiol ar y naill law, y byd ysbrydol ar y llall, dwy ffordd o geisio deall natur ein bodolaeth.

****

Dylwn bwysleisio i bobl ifanc realiti a phwysigrwydd y bywyd ysbrydol. Fel mae awdur yr erthygl ar wefan Cristnogaeth 21 yn crybwyll, mae cariad yn y byd. Hanfod ein ffydd yw ceisio’r bywyd newydd yng Nghrist; Ef sydd yn ein cynnal ac Ef sydd yn ein harwain drwy amlygu cariad diamod. Peidiwn â gwanhau’r neges drwy gyplysu hyn ag ymgais i gyflwyno disgrifiad lled-wyddonol o’r byd.

Yr Athro Noel Lloyd (Aberystwyth)

(Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn Perthyn, cylchythyr misol Capel y Morfa, Aberystwyth )