Ysbrydolrwydd tawel Lleuwen

Ysbrydolrwydd tawel Lleuwen

Wn i ddim faint o ‘bobl capel’ oedd yno, a doedd ddim gwahaniaeth beth bynnag, ond yn y capel bach llawn (18 Chwefror, Capel y Groes, Pen-y-groes, Arfon, 120 o bobl) roedd y mwyafrif rhwng 30 a 60 oed. Roedd yno gerddor, cantores a gitarydd yn rhannu ei hathrylith a’i hysbrydolrwydd â chynulleidfa Gymraeg. A hyd yn oed os nad oedd geiriau Pantycelyn ac Ann Griffiths yn gyfarwydd i rai ohonynt, roedden nhw’n gwybod eu bod yn gyfarwydd i’r lleill. Os oedd geiriau fel ‘Beibl’, ‘adnod’, ‘pregethwr’, ‘Ysgol Sul’ yn perthyn i oes arall i nifer, trwy enau Lleuwen, ei chân a’i cherddoriaeth, roedd cyfoeth ein hetifeddiaeth Gristnogol yn dod yn nes yn ‘ysbrydolrwydd tawel’ ond angerddol Lleuwen Steffan. Mae rhai yn y cylchoedd crefyddol sydd yn amheus o’r gair ‘ysbrydolrwydd’ oherwydd mai gair amwys, poblogaidd ydyw ac yn dweud fawr ddim. Roedd bod ym Mhen-y-groes yn profi’n wahanol.

Dyma ein Cymru gyfoes, ac os yw ystadegau’n dweud ei bod yn Gymru ddi-Dduw, ddi-gapel, ddi-grefydd, nid yw’n anodd ymdeimlo ag ‘ysbrydolrwydd’ sy’n nes at Deyrnas Dduw na sawl agwedd o grefydda hyderus yn ei gafael a’i hawl ar y ‘gwirionedd’. Mae’n wahanol iawn i anffyddiaeth ymosodol hefyd. Mae’n ysbrydolrwydd tawel a gostyngedig, fel y gwelsom yn Lleuwen. Dyna un o nodweddion cyfoethog ei chân.

Ar ei CD Gwn glân, Beibl budr – a dyma’r caneuon a glywsom ym Mhen-y-groes fel rhan o’i thaith fer i bedwar capel – mae’r emyn-dôn ‘Cwm Rhondda’, clasur y cymanfaoedd canu, a’r geiriau ‘Wele’n sefyll’ a ‘Rhosyn Saron yw ei enw’. Ond gan Lleuwen mae dwy linell olaf y ddau bennill yn llais tawel merch ifanc a wyddai na fwriadwyd erioed i’r meddyliau a’r teimladau mawr hyn gael eu canu gan gynulleidfa na chôr. Yn dawel, ostyngedig iawn mae Lleuwen yn canu ‘O am aros yn ei gariad’ a ‘Ffrind pechadur’. Waeth pa mor wych yw canu cynulldeidfa DCDC, mae llais Lleuwen yn nes ati.

Er cymaint yw beirniadaeth rhai Cristnogion o’n diwylliant ‘This is my truth, tell me yours’ â’r anfodlonrwydd i dderbyn ‘y gwirionedd’ gwrthrychol ar sail ‘awdudrod y Gair’, mae arnom fel Cymry angen Lleuwen i gadw’r stori – neu’r gân – yn fyw. Mae’n stori ac yn etifeddiaeth i ni. Ond nid yw’n eiddo i ni, oherwydd rhodd Duw yw ysbrydolrwydd. Mae’n rhodd bywyd i bawb.

Gyda llaw, fel pont rhwng ddoe ac yfory, mae teulu Lleuwen – ei thad, Steve Eaves, ei chwaer, Manon Steffan, y mae adolygiad o’i chyfrol Llyfr Glas Nebo i’w gweld ar y wefan hon, a dylanwad mawr eu diweddar fam, Siân – yn rhan obeithiol a chreadigol o’n cyfnod bregus. Mewn un ystyr maent yn wahanol ac ar y cyrion, ond eto maent yng nghanol symudiadau’r Ysbryd sy’n cadw fflam wan rhag diffodd yn llwyr.

Cydio pethau ynghyd a gweld popeth mewn perthynas, fel cwlwm Celtaidd, y mae caneuon Lleuwen Steffan. Cyflwyniad acwstig oedd ym Mhen-y-groes, a chyfathrebu byw, deinamig nas ceir ar CD. Bychan oedd y capel a’r noson yn anffurfiol a chartrefol – trafferthion tiwnio tair gitâr, dechrau’n hwyr, plentyn yn torri gwynt, a.y.b. – ond mae gwrando ar y CD yn ehangu’r gorwelion â’r cyfoeth o gerddoriaeth offerynnol yn gyfuniad o ganu gwerin, jazz, gospel, emynau Cymraeg a mwy, yn rhoi ysbrydolrwydd y noson yng nghanol ysbrydolrwydd y ddynoliaeth. Fel y dywedodd Angharad Penrhyn, ‘mae “teimlad oesol, elfennol” yn y caneuon’. ‘Llafnau o oleuni’ oedd y pennawd a roddwyd i’r adolygiad yn y cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt.

Soniais am yr ‘ysbrydolrwydd tawel’ ond nid yw hynny’n golygu nad oes gwrthgyferbyniadau a gwrthdaro yng nghaneuon Lleuwen. Wedi’r cyfan, mae yna baradocsau sylfaenol yn y ffydd Gristnogol, sy’n gweddu i’r dim i’n cyfnod ni. Mae angerdd, cwestiynau, dicter a phrotest yn y caneuon, ond ysbryd tyner, edifeiriol – a gweddi’r Arglwydd yn cael ei sibrwd – yw geiriau olaf ‘Hwyr’, cân olaf Lleuwen ym Mhen-y-groes a’r gân olaf ar y CD. Roedd yn arwyddocaol iawn fod Lleuwen wedi gofyn i Karen Owen roi cyfraniad defosiynol i’r noson (nid fel egwyl) ym Mhen-y-groes, ac fe gawsom fel cynulleidfa rannu yn ysbrydorwydd y salmau. Yr un mor arwyddocaol oedd na wnaeth Lleuwen unrhyw ymdrech i hyrwyddo na gwerthu ei CD chwaith. Arall oedd ei bwriad, sef rhannu ei chân am fod ganddi rhywbeth pwysig i’w rannu drwy’r doniau a roddwyd iddi.

I Lleuwen, cefndir cadarn, fel y mynyddoedd, yw’r emynau neu’n hytrach ‘yr hen emynau’ sydd yn gefndir i’w chaneuon newydd i gyd. Mae’r CD yn dechrau gyda dehongliad grymus, cadarn, hyderus o un o’n hemynau hynaf, ‘Myn Mair’, ac yn arwydd fod Lleuwen am ddechrau gyda’r cadernid hwnnw, cyn dweud dim arall. Y cadernid sy’n aros, fel y mynyddoedd. Mae dylanwad yr emynau yn fawr arni (fel y gwelsom yn ei CD cyntaf, Duw a ŵyr, sef dehongliadau jazz o emynau’r Diwygiad) ond nid ‘emynau newydd’ yn yr ystyr arferol o fod yn gyfoes a glywsom ym Mhen-y-groes ond ‘salmau’, ac nid yn gymaint ‘salmau newydd’, ond salmau ‘oesol gyfoes’. Y salmau yw’r ‘hen emynau’ gwreiddiol ac maent yn llawn gwrthgyferbyniadau, cymysgwch o deimladau, cwestiynau, ofnau, dicter, protest, colli ac ennill ac awgrym cyson o ddychwelyd. Ond bob tro mae llais tawel, fel y llais wrth afonydd Babilon, heb na thelyn na dathliadau na theml.

Dyna yw ‘Y Garddwr’, sy’n cynnwys y geiriau am ‘ganu hen gân y griddfan’. Ond

Mae’r Garddwr yn ôl
i sgubo fy llwybr,

a’r gân olaf, ‘Hwyr’:

Mi ddaw y dydd
Rhyw ddydd, un dydd
Cawn deithio ymhellach na phen draw’r byd,
Tu hwnt pob ffin
Y gwledydd blin …
Mae’n hwyr
       Hwyr
          Hwyr, Hwyr.
Cymaint o chwarae soldiwrs, hogia bach,
Cymaint o bontydd yn llosgi,
Cymaint o hanes
wedi mynd o’n cof

(allai fod yn eiriau gan Eseia, Jeremeia neu MLK ).

Ac yna’r weddi sy’n cydio’r ddynoliaeth, yn dawel dawel:

Ein Tad yr hwn wyt …

Cân o wrthgyferbyniad yw ‘Pam?’ Geiriau Pantycelyn yw ‘Rwy’n edrych dros y bryniau pell’ a ‘Pererin wyf’ sy’n cael eu canu’n uchel fel cân brotest egnïol, ond yna, mewn gwrthgyferbyniad, yn gytgan tawel, tawel, mae Lleuwen yn canu ‘Pam y caiff bwystfilod rheibus, dorri’r egin mân i lawr? … Pam caiff blodau peraidd ieuanc fethu gan y sychder mawr?’ Salmau oesol fyddai’r disgrifiad gorau o ‘Mynyddoedd’ ac ‘Y Don Olaf’ hefyd. Mae’r naill yn sôn am:

Mynydd mawr Dyhead,
Mynydd yr Ofn Du,
Mynydd gofidiau,
Mynydd Gobeithion …
Pan ei di i grwydro’r mynyddoedd hyn
Paid ag anghofio dy hen ffrind …
Tu hwnt i’r mynyddoedd
Yn aros i ddal yn dy law.

Mae yna draddodiad Celtaidd, gyda llaw, sy’n sôn am ‘y mynydd tu hwnt i’r mynydd’. Rhaid dringo mynydd i weld mynydd y dringo cyn dringo.

Yn ‘Y Don Olaf’ mae’r pwyslais ar ‘ddyddiau dyn sydd fel glaswelltyn’ neu, a dyfynnu’r gân, ‘Popeth yn dechrau i ddarfod’ a’r ‘edau sy’n frau ac yn darfod’:

Mi fydd yna garu, mi fydd ’na alaru
A gweddi mewn wisgi
I drwsio dros dro

Dros dro yn wir, fel llun ar Facebook, a’r argyfwng mewnol yn y llinell ‘ond Iesu, ble ddiawl mae’r emoji?’

Mor hawdd ydi anghofio fod ‘y ddaear yn cyrraedd ei therfyn’:

Ai dyma’r don olaf
Yn y môr mawr?
Cadwn rywbeth at fory,
Cadwn lygaid am y wawr.

Mae ‘Bendigeidfran’ a ‘Caerdydd’ hefyd yn oesol gyfoes. Rhag cael ein cyfyngu gan unigolyddiaeth fewnblyg (seciwlar a Christnogol) mae’r ddwy gân yn cydnabod cri ac argyfwng ein gwareiddiad. Mewn byd o chwalu pontydd, byd Brexitaidd, mae’r gair ‘Bendigeidfran’ ynddo’i hun yn weddi ingol.

Yn ‘Caerdydd’ wedyn – dinas o 346,000 o bobl, yn ôl Lleuwen, dinas, fel pob dinas, y llwch a’r llanast, y gerddi tlws a’r llwybrau cul, meithrinfa unigrwydd y bywyd preifat, lle o ddiffeithwch a dieithrwch – darlun ystrydebol, efallai (mae’r un peth yn wir am sawl pentref erbyn hyn hefyd), ond darlun (fel y cynnydd mewn digartrefedd a chysgu ar y stryd yng Nghaerdydd a phob dinas arall) gwir o bobl heb enw a chyrff heb ysbryd.

Gwerthfawrogi, nid cyflwyno dadansoddiad manwl o ganeuon Lleuwen, oedd bwriad y nodiadau hyn. Mae llawer mwy i’w ddweud am y caneuon a’r gerddoriaeth wrth gwrs ac fe fydd mwy yn cael ei ddweud a’i werthfawrogi. Nid wyf wedi sôn am gân ‘Taid’, a gyfansoddodd ac a ganodd Lleuwen yn angladd ei thaid:

Mae’r gwreiddiau yn dal gafael
Fel dwylo yn y pridd

na chyfeirio at y gân hudolus ‘Tir na Nog’:

Rhaid i ti fynd, fy ffrind,
Rhaid i ti fynd.

Ond mae’r gair olaf yn mynd i’r gwrthgyferbyniad rhwng ‘Hen Rebel’ a ‘Cofia Fi’. Cân y Diwygiad yw ‘Hen Rebel’, wrth gwrs, wedi’i hanfarwoli’n hiraethus, yn araf a dwys gan Richie Thomas. Ond mae Lleuwen yn ei chyflwyno yn gyflym, ysgafnfryd ac yn arwain, yn offerynnol, i ddawns swnllyd a gwyllt. Mae’r trefniant yn brin iawn o deimladau ac emosiwn a dyheadau Lleuwen. Mae rywsut yn ddiarth iddi. Ond mae hon hefyd yn gefndir iddi.

Gwahanol iawn, ond yn tarddu o’r un man, yw ‘Cofia Fi’. ‘Cofia fi at Iesu Grist’ yw’r teitl llawn. Mae’n gais trawiadol. Mae rhywun yma sydd naill ai ddim yn adnabod Iesu Grist, neu wedi colli cysyslltiad ag o, neu’n ei nabod o bell, efallai. Wedi clywed amdano yn yr ysgol Sul ers talwm , ond achlysurol iawn yw’r berthynas bellach, drwy’r plant, efallai. Cais gan Lleuwen ei hun i Ann Griffiths, efallai? Fe all ganu:

Dim ond pechadures

Fedr ddallt emynau’r tyner lais,
Does ’na’r un angyles wedi gweld y golau,
Wedi gorfod gweld y golau ar y groesffordd.

Golau ar groesffordd felly, neu ar ffin, neu’n ysbeidiol. Nid golau parhaol sydd yn aros yn llonydd, ond ‘llafnau o olau’ o bob cyfeiriad. Mae dynoliaeth syfrdanol yn ‘Cofia fi at Iesu Grist’, fel cofia fi at ‘hon a hon’ neu ‘hwn a hwn’ sy’n cadw traed Iesu ar y ddaear yn hytrach na’i fod yn Dduw yn y nefoedd ac allan o gyrraedd llawer. Mae’n ymgnawdoliad gwefreiddiol ac mae ei ddynoliaeth yn fwy tebygol o wefreiddio a herio’r genhedlaeth ddi-grefydd hon:

Dos â fi i’r capel,
Dos â fi yn ôl i’r pedwar llais.
Dwi’n ista yn y dafarn
Yn disgwyl am ryw denor
i roi harmoni ar fy hen haleliwia

ac y mae llais Rhys Meirion i’w glywed yn y cefndir – sylwer – yn canu ‘Mwy trysorau sy’n dy enw’.

A’r pennill olaf:

Cofia fi fel o’n i.
Dyro i mi fendith ar fy nhaith.
Cofia fi fel emyn –
Yn dy galon.

‘Fel o’n i’ yw ‘fel ydw i’, mae’n siŵr. Ar daith mae hi ac mae ganddi gân tu ôl i’r gân a chân dawel, dyner ydyw. Ond mae’n cyd-deithio â’i chenhedlaeth sydd ag ysgol Sul ddoe a chapel wedi cau a Beibl glân yn gefndir pell i’w bywydau.

‘Beibl budr’ yn nheitl y CD, sef geiriau tad John Williams, Brynisencyn, yw Beibl sydd wedi’i ddarllen a’i fodio’n fudr ac yn fler, fel llyfr taith teithiwr go iawn. I’r mwyafrif llethol, Beibl glân ydyw.

Mae’r rhain yn ganeuon i’n dydd ac i genhedlaeth Lleuwen Steffan. Ac maent yn dweud mwy wrthynt hwy na’r dystiolaeth draddodiadol ac ystrydebol o’r ffydd Gristnogol, o leiaf yn dweud digon rhag anghofio’n llwyr. Mae Lleuwen yn cadw’r chwedl a’r gân yn fyw mewn cyfnod aml-ddiwylliant, aml-grefydd,aml-ddewisiadau, ond go brin fod ei chenhedlaeth o Gymry Cymraeg yn sylweddoli hynny yn iawn eto.

Lleuwen ar Spotify