E-fwletin 3 Mawrth 2019

Amser i ryfel?

‘Amser i ryfel’, medd yr wythfed adnod yn nhrydedd bennod Llyfr y Pregethwr yn yr Hen Destament, gan ddal bod gweithgarwch dinistriol yn rhan anochel o fywyd; yn gymaint rhan ag ydyw gweithgarwch adeiladol. Gwyddom o’r gorau fod rhyfeloedd yn rhan amlwg o hanes y ddynoliaeth, ond a ydynt yn anochel? Gwyddom fod rhyw reddf yn natur dyn – rhyw dynfa gynhenid – i ymladd a cheisio trechu ei gyd-ddyn, a hynny am amryfal resymau. Gwyddom hefyd fod rhaid dysgu plant o’r crud i rannu a thrin ei gilydd yn deg a gwâr. Cythru am wrthych deniadol a’i hawlio’n feddiant yw’r tueddiad. A gwyddom felly fod disgyblaeth a hunan-ddisgyblaeth yn anochel er mwyn gwrthweithio hunanoldeb a thrachwant a thrais.

Ond pwy mewn gwirionedd a fyddai’n credu mewn gwaed oer fod rhyfel yn ddymunol – fod angen rhyfel ar gymdeithas? Derbynnir mai estyniad o bolisi gwleidyddol yw rhyfel ond bod y gwleidyddion yn dirprwyo’r gorchwyl o ryfela i luoedd arfog – ‘Rhoi’r cyllyll yn llaw’r baban’, chwedl Waldo Williams. Ac nid oes amheuaeth nad oes rhai pobl y mae rhyfel naill ai’n fantais iddynt neu’n rhan o ‘realiti’ eu byd-olwg gwleidyddol. Sôn yr ydym am garfannau sydd o fewn a thu allan i wladwriaethau ac yn meddu ar rym a dylanwad.

Yn eu plith mae’r cwmnїau arfau sy’n cyflogi llu o arbenigwyr mewn sawl maes ac yn gwario symiau enfawr o arian yn y gwaith o ddyfeisio dulliau mwy effeithiol o ladd. Cynhelir arbrofion ganddynt er mwyn mesur effeithiolrwydd eu cynnyrch, ond mae’r peirianwyr a’r dylunwyr yn cydnabod na allant fod yn gwbl sicr sut y bydd eu harfau newydd yn gweithredu wrth ddibynnu’n unig ar amgylchiadau ffug. O’u safbwynt hwy, rhaid wrth ryfel a sefyllfaoedd go iawn i allu mesur gweithrediad ac effaith yr arfau, yn hytrach nag o dan amodau gwneud. A phan fo gwledydd sy’n rhyfela yn defnyddio’r arfau, mae’n gyfle i’r cwmnїau weld eu heffaith fel y gallant wella eu ‘perfformiad’. Ynghanol y dioddefaint, bydd arbenigwyr cyflogedig y cwmniau hyn wrth eu gwaith yn mesur y gyflafan; yn cofnodi a dadansoddi’r galanas mewn manylder oer.

Hefyd ymhlith hyrwyddwyr rhyfel y mae dosbarth o feddylwyr gwleidyddol a gwleidyddion wrth eu gwaith. Cred y garfan hon fod rhaid cael rhyfel bob hyn a hyn er mwyn datrys yr hyn a ddisgrifir ganddynt fel ‘tyndra a bygythiad anghydbwysedd’ mewn gwleidyddiaeth ryngwladol. Maent yn barod i gefnogi rhyfel er mwyn diogelu neu adfer yr hyn y maent yn ei alw’n ‘World Order’, gan feirniadu’r wleidyddiaeth sy’n argymell atebion moesol heb roi sylw i gydbwysedd. Ni fyddent yn debygol o gynhesu at gwestiwn rhethregol Waldo Williams,                                         

                                                           Pa werth na thry yn wawd

                                                           Pan laddo dyn ei frawd?

(Cofiwch am y gynhadledd sydd i’w chynnal ar 29 a 30 Mawrth yn Aberystwyth ar y thema ‘Dechrau o’r Newydd’. Bydd cyflwyniad theatrig ar y nos Wener, a darlithoedd ar y Sadwrn gyda Cynog Dafis, Arwel Jones, Catrin Williams, Huw Williams a Gareth Wyn Jones. Mae’r manylion llawn ar ein gwefan http://ctistnogaeth21.cymru/newyddion/)