Tröedigaeth

Tröedigaeth

Dyna yw’r pennawd ar un o fyrddau arddangos Amgueddfa Howell Harris yng Ngholeg Trefeca, a’r panel sy’n aml yn denu’r sylw mwyaf gan ymwelwyr sydd am wybod mwy am hanes y Methodist cyntaf. Yn y cyd-destun hwnnw, maent yn cymryd yn ganiataol mai tro ar fyd ysbrydol oedd y profiad hwn iddo ef, ac maent yn awchu am ddarllen yr hanes.

Wrth dywys yr ymwelwyr o gwmpas, roedd ambell un yn gofyn a ges i dröedigaeth; fy ateb (er siom i rai) oedd: naddo – cefais fy magu yn Gristion, ac er i mi obeithio i mi dyfu yn fy ffydd, ni allwn hawlio tröedigaeth fel y cafodd Harris.

Ond bellach rwyf yn gallu dweud i mi gael tröedigaeth, er bod y cyd-destun yn wahanol i eiddo Howell Harris. Mae darllenwyr selog Agora wedi bod yn dyst i ran o’r broses honno (a phroses oedd tröedigaeth Howell Harris hefyd). Yn yr erthygl Ydy newid hinsawdd yn newid popeth? fis Tachwedd fe soniais am ddarllen cyfrol Naomi Klein, This Changes Everything. Hanner ffordd drwy’r gyfrol oeddwn i ar y pryd, ond roeddwn eisoes yn argyhoeddedig fod yn rhaid i lawer o bethau newid os ydym am achub y blaned.

Erbyn hyn, fe orffennais y gyfrol. Nid wyf yn cynhesu at sylwadau gwrthwynebus Klein am grefydd – ond rhaid cofio ei bod hi’n byw ymysg y math ar grefydd sydd yn cadw cefn Donald Trump, felly rhaid deall ei hamheuaeth. Ar y llaw arall, mae cydymdeimlad dwys Klein â phobl frodorol America, a’i hymdeimlad mai eu gwareiddiad nhw sy’n cynnig gobaith i’r byd, ac nid gwareiddiad y gorllewin, yn un y gall Cymry Cymraeg – er gwaethaf ein rhan ganolog yn yr Ymerodraeth Brydeinig ac yng ngwladychu Canada a’r Unol Daleithiau – gynhesu ato.

Yn digwydd bod, wrth i mi orffen y gyfrol fe gafwyd cyfres o straeon newyddion ynghylch pa mor argyfyngus yw ein sefyllfa. Fe fu straeon tebyg yn y wasg ers blynyddoedd, ond fe lwyddais cyn hyn i beidio â chymryd cymaint â hynny o sylw. Nawr roedd pob un yn gweiddi arnaf fel utgorn o’r nef – gymaint ag y gwaeddodd llais Howell Harris yn ei dro ar William Williams, Pantycelyn ar sgwâr Talgarth ym 1737.

  • Mae iâ Greenland yn toddi yn gynt nag ers 350 mlynedd, ac yn yr haf bron â diflannu’n llwyr.
  • Mae moroedd y byd wedi amsugno 60% yn fwy o wres yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf nag oedd gwyddonwyr yn credu o’r blaen, gan daflu cryn amheuaeth ar dargedau presennol atal newid hinsawdd.
  • Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun ymaddasu newid hinsawdd i Gymru sy’n sôn am lefelau’r moroedd yn codi 22cm erbyn 2050 a 36cm erbyn 2080 – a hynny cyn gwybod am y ddau ddarn uchod o newyddion.

Eto, yr un pryd, dyma Lywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar lan y môr yn Ynys Môn, er gwaethaf eu darogan eu hunain am lefelau’r môr yn codi gan beryglu Wylfa Newydd a Môn fel y collwyd Fukushima. Er i’r cynllun hwnnw bellach gael ei atal (am resymau gwahanol), mae yna bosibilrwydd o hyd y bydd y Llywodraeth yn cefnogi adeiladu ffordd osgoi newydd i’r M4 ar hyd Gwastatir Gwent – tir a adferwyd o’r môr yn y gorffennol ac sy’n sicr o fod dan y môr eto cyn bo hir.

Ond nid diffyg cyd-gysylltu’r hyn a wyddom eisoes yw ein prif fai. Rydym fel petaem yn benderfynol o wthio’n hunain oddi ar y dibyn mor gyflym ag y bo modd.

Mae’r trafodaethau am oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn datgelu maint ein caethiwed i garbon. Mae trefniadau’r Farchnad Sengl, sy’n cael cymaint o sylw ar hyn o bryd, yn golygu bod 2,600,000 o lorïau yn croesi o’r Cyfandir i wledydd Prydain bob blwyddyn trwy borthladd Dover yn unig. Mae hynny’n llawer mwy na phroblem ynghylch Prymadael (Brexit) – mae’r ffordd yma o drefnu ein heconomi yn peryglu dyfodol ein byd.

Mae’r holl weithgarwch hwn yn gwthio mwy a mwy o garbon i’r hinsawdd. Nid cynhesu a chodi lefel y môr yn unig a wneir o ganlyniad – er bod hynny’n ddigon arswydus – ond troi’r dŵr yn asidig, gan ladd y bywyd ynddo, yn enwedig felly’r plancton sy’n fwyd i forfilod a chreaduriaid tebyg, ond sydd hefyd yn hynod bwysig o ran amsugno carbon o’r amgylchedd. Mae’r tir hefyd yn cynhesu ac yn sychu; mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r perygl y bydd corsydd mawn Cymru yn sychu ac yn hytrach nag amsugno carbon fel y maent ar hyn o bryd yn ei allyrru i’r hinsawdd, gan gyflymu’r broses.

Roeddwn eisoes yn gwybod llawer o’r ffeithiau hyn cyn y dröedigaeth – ac rwy’n sicr fod llawer o ddarllenwyr Agora hefyd yn gyfarwydd â nhw. Un gair wnaeth beri i mi sylweddoli nad trafodaeth ymenyddol ac ymgyrch arall oedd hyn, ond rhywbeth gwahanol. Y gair hwnnw oedd “uninhabitable”. Mae Naomi Klein yn dweud, os na fyddwn yn newid ein ffordd o fyw yn llwyr, y bydd y byd yn anghyfannedd o fewn rhyw gan mlynedd. Gyda’r newyddion diweddaraf yn 2018, fe all fod yn gynt na hynny.

A dyna’r dröedigaeth. Os mai cwta ganrif sydd gennym ar ôl, mae llawer o’r ymgyrchoedd eraill y bûm eu cefnogi yn hollol amherthnasol. Ychydig cyn y Nadolig, a finnau newydd gwpla cyfrol Klein, roeddwn yn eistedd mewn cynhadledd yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm am Cymraeg 2050 – achos yr wyf yn ymrwymedig iddo. Ond roedd hi’n anodd canolbwyntio ar y cyflwyniadau ynghylch sut i ddeddfu am yr iaith a’i hybu, pan wyddwn ei bod yn ddigon posibl y bydd Canolfan y Mileniwm dan ddŵr erbyn hynny, ac y bydd Cymru yn cael ei boddi nid yn unig gan y môr ond gan filiynau o ffoaduriaid yn ymadael â’r rhannau o’r byd fydd yn cael eu boddi neu a fydd yn rhy grasboeth i fyw ynddynt erbyn hynny.

Fe wn o ddyddiau Trefeca pa mor anodd y gall fod i siarad â phobl sydd wedi cael tröedigaeth. I ni, mae’r byd wedi newid yn llwyr – ond i chi, mae’n aros yr un fath. Fe allwn swnio’n obsesiynol ac yn hunan-gyfiawn yn ein sicrwydd newydd. Fe allwn ddibrisio gofidiau a helyntion bywyd pobl eraill, sydd erbyn hyn yn ymddangos mor bitw a dibwys i ni. Gobeithio y bydd bod ar ochr arall y profiad hwnnw yn y gorffennol yn help i mi beidio â bod yn ormod o boen.

Hedfan (h Iestyn Hughes)

Rwyf hefyd yn deall o’r newydd y loes y gall pobl sydd yn gweld y byd mewn ffordd newydd ei deimlo wrth siarad â’u ffrindiau a’u teuluoedd. Un o mhenderfyniadau cyntaf – adduned blwyddyn newydd, ond am weddill fy oes – yw na wnaf hedfan mewn awyren eto (heblaw, efallai, mewn argyfwng go iawn). Mae’r difrod a wneir gan bob ehediad yn ddigon i danseilio ein holl ymdrechion eraill i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, plannu coed a llysiau, osgoi defnyddio’r car, ac yn y blaen. Ac fe wneir y difrod gan yr hedfan – er bod prynu “carbon offset” yn golygu rhodd ddefnyddiol i ryw elusen, fe allyrrwyd y carbon i’r hinsawdd, a dyna yw’r broblem. Rhaid cyfaddef i hyn arwain at sgyrsiau anodd o fewn y teulu – mae yna siom a diffyg dealltwriaeth. Rydw i’n gwbl hapus – fe fyddwn yn mynd ar y trên i Ghent ac i Ferlin eleni, ac yn gael gwyliau yng ngwledydd Prydain. Ond mae’n anodd i’r gweddill ildio’r holl deithiau hedegog o’r “rhestr fwced” deuluol yr oeddem yn edrych ymlaen atynt. O’m safbwynt i, aberth bach yw hynny – rwyf am i fy nisgynyddion gael byw; y tebygrwydd yw na wnânt os yw’r ddynoliaeth yn parhau i hedfan.

Rhaid dweud mod i’n ymwybodol hefyd o gyfraniad arbennig Cymru at ladd y blaned drwy’r diwydiant glo. Doedd y glowyr ddim yn sylweddoli, wrth gwrs, ond mae yna gyfrifoldeb arbennig arnom fel cenedl i wneud iawn am y difrod a achoswyd gennym.

Fel yn achos y Methodistaid cynnar, pan oedd pobl yn eu hamau, rhaid seiadu â phobl eraill sy’n credu’r un fath. Argymhellaf Operation Noah, er enghraifft, ac ymgyrch Grawys 2019 Cymorth Cristnogol. Rwyf wedi mynd gam ymhellach a dilyn esiampl Rowan Williams, a chefnogi Christian Climate Action o fewn Extinction Rebellion – sy’n credu (fel yr wyf i) fod angen i ni newid ein ffordd o fyw ar garlam, a sicrhau dileu ein hallyriadau carbon erbyn 2025. Maent yn dilyn tactegau sy’n gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru oherwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Pobl eithafol, yn ôl llawer yn y wasg. Tipyn llai eithafol, meddwn i, na gwthio ein teuluoedd ein hunain i geisio byw ar blaned anghyfannedd.

Ydy newid hinsawdd yn newid popeth? Ydy. Ein hymateb ni sy’n cyfri bellach.

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn, ac yn gyn Warden ar Goleg Trefeca. Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 21 Ionawr 2019.