Archif Tag: gethin rhys

Johnson, Lloyd George a Downing Street, 1922–2022

Johnson, Lloyd George a Downing Street, 1922–2022

Roeddwn yn sgwrsio â Nhad (fu’n was sifil am flynyddoedd) am helyntion diweddar Downing Street, ac yn tybied pa fath o barti gaiff Boris Johnson pan ddaw’r diwedd ar ei yrfa yno. Wrth drafod, fe sylweddolom mai eleni yw canmlwyddiant diwedd cyfnod yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sef Lloyd George. Ac fe ddechreuodd wawrio arnom hefyd fod mwy na chyd-ddigwyddiad dyddiadau yma.

Wrth gwrs, ar yr olwg gyntaf mae’r ddau Brif Weinidog hyn yn hollol wahanol. Y naill yn Gymro Cymraeg Anghydffurfiol wedi’i fagu mewn bwthyn a’i addysgu mewn ysgol bentref; a’r llall yn Sais o uchel radd wedi ei addysgu yn Eton a Rhydychen. Y naill yn Rhyddfrydwr a’r llall yn Geidwadwr. Ond edrychwch yn agosach ac mae’r rhestr o bethau tebyg yn sylweddol.

  • Bu’r ddau yn ceisio ehangu grym 10 Stryd Downing yn nhrefn lywodraethol gwledydd Prydain. O leiaf yng nghyfnod Dominic Cummings, gwelwyd canoli grym yn y swyddfa honno ar draul adrannau’r llywodraeth. Ganrif yn ôl, Lloyd George oedd un o’r cyntaf i fynnu cael ei gynghorwyr ei hun yn annibynnol ar y gwasanaeth sifil a’i blaid wleidyddol – a bu raid adeiladu swyddfeydd dros dro a lysenwyd yn ‘Garden Suburb’ yng ngardd rhif 10 (yr ardd y gwyddom gymaint erbyn hyn am ei photensial i gynnal partïon).
  • Bu’r ddau yn awyddus i gyflogi yn eu swyddfa bobl yr oeddynt yn gallu ymddiried â nhw o’r tu allan i swigen draddodiadol Whitehall. Gyda Boris fe ddaeth Dominic Cummings ac eraill o ymgyrch Vote Leave; a Munira Mirza a bellach Guto Harri o’i ddyddiau yn Faer Llundain. Roedd Lloyd George yn awyddus i gyflogi Cymry y gallai ymddiried ynddynt (a sgwrsio yn Gymraeg â nhw), megis Sarah Jones a gadwai’r tŷ, Thomas Jones, dirprwy bennaeth y ‘Garden Suburb’, a David Davies, Llandinam.
  • Fe ddaeth y ddau i’r swydd ar draul undod eu pleidiau. Fe gofiwn i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog yn 2019 yn dilyn ymgyrch filain yn erbyn Theresa May, a welwyd yn Brif Weinidog aneffeithiol yn amgylchiadau Brexit, ac iddo wedyn ddiarddel sawl Aelod Seneddol blaenllaw o’r blaid am fethu â’i gefnogi ar faterion Ewropeaidd. Daeth Lloyd George i’r swydd yn 2016 yn dilyn ymgyrch filain yn erbyn Herbert Asquith, a welwyd yn Brif Weinidog aneffeithiol yn amgylchiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Rhannodd y Blaid Ryddfrydol yn ddwy o ganlyniad, gyda chefnogwyr Asquith yn eistedd ar feinciau’r Wrthblaid. Wedi etholiad 1918 roedd Lloyd George y Rhyddfrydwr yn Brif Weinidog ar lywodraeth fwyafrifol Geidwadol.
  • Bu’r ddau yn llawn addewidion a brofodd yn anodd i’w cyflawni. “Homes fit for heroes” oedd addewid Lloyd George yn etholiad cyffredinol 1918, ond fe fu’n anodd iawn trefnu adeiladu’r cartrefi yr oedd eu hangen ar y milwyr oedd yn dychwelyd adref o’r rhyfel. “Codi’r gwastad” yw addewid Boris Johnson, ond er gwaethaf y Papur Gwyn diweddar am y pwnc, mae’n ymddangos yn annhebyg y bydd lleihau’r bwlch rhwng ardaloedd cyfoethog ac ardaloedd tlawd gwledydd Prydain yn bosibl, yn sicr yn ei gyfnod ef yn y gwaith.
  • Enillodd y ddau fwyafrif anferth mewn Etholiad Cyffredinol ychydig cyn y Nadolig, ond wedyn llethwyd y ddau yn eu hymdrechion gan bandemig byd-eang. Yn fuan ar ôl ennill mwyafrif o 80 yn etholiad Rhagfyr 2019, fe ddaeth Covid ar warthaf Boris Johnson, wrth gwrs. Ac fe ddaeth yr Etholiad yn Rhagfyr 1918 a’i fwyafrif ysgubol o 333 i Lloyd George, ynghanol pandemig y “ffliw Sbaenaidd”. Fe gafodd y ddau Brif Weinidog eu taro â’r aflwydd, ond fe oroesodd y ddau – yn wahanol i ddegau o filoedd o’u cyd-drigolion. Bu farw 228,000 yng ngwledydd Prydain ym mhandemig 1918–19; bu farw 178,488 yn y Deyrnas Unedig o Covid rhwng 2019 ac Ionawr 2022, ac mae cannoedd o hyd yn marw bob wythnos, gan awgrymu y gall y cyfanswm yn y diwedd fod yn ddigon tebyg i eiddo’r ffliw Sbaenaidd (yn enwedig o gofio fod ffigurau 1918–19 yn cynnwys marwolaethau yn yr hyn sydd heddiw yn Weriniaeth Iwerddon, lle bu farw 6,228 o Covid hyd ddiwedd Ionawr 2022). Gellir priodoli methu cyrraedd uchelgais eu polisïau cymdeithasol yn rhannol o leiaf i effaith andwyol y ddau bandemig.
  • Fe wnaeth y ddau gamgymeriadau difrifol ynghylch Iwerddon. Mae’r lluniau ar furiau ardaloedd Unoliaethol Gogledd Iwerddon heddiw yn dangos y dirmyg llwyr sydd gan ymlynwyr y Deyrnas Unedig yno tuag at Mr Johnson am iddo fethu deall goblygiadau Protocol Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae enw Lloyd George hyd heddiw yn faw yn ardaloedd Cenedlaetholgar Iwerddon oherwydd ei ddefnydd gwrth-gynhyrchiol o drais yn eu herbyn ganrif yn ôl. Wedi dweud hynny, fe lwyddodd Lloyd George i negodi Cytundeb ag Iwerddon a sefydlodd y Weriniaeth newydd a sefydlu Gogledd Iwerddon yn dalaith o fewn y Deyrnas Unedig. Er nad oedd rhannu Iwerddon fel hyn yn boblogaidd gan y naill garfan na’r llall ar y pryd, mae’r Weriniaeth a’r Dalaith fel ei gilydd yn cyfrif Lloyd George yn un o’u sylfaenwyr. Roedd y ffaith ei fod (oherwydd ei gefndir Cymreig) yn cydymdeimlo â’r cenedlaetholwyr, er ei fod hefyd yn unoliaethwr, yn gymorth iddo weld sut y gellid dod i ryw fath o gyfaddawd.
  • Bu gan y ddau fywyd personol digon cythryblus, ond fe gafodd y ddau hapusrwydd yn Rhif 10 ei hun – Boris Johnson gyda’i drydedd wraig, Carrie, a’u plant, a Lloyd George gyda’i ysgrifenyddes, Frances Stevenson, a ddaeth yn nes ymlaen yn ail wraig iddo wedi marwolaeth ei wraig gyntaf, Margaret. Roedd a wnelo’r trafferthion personol o leiaf rywfaint ag uchelgais personol yn y ddau achos – ysgrifennodd Lloyd George at ei wraig gyntaf (cyn iddo ei phriodi): “My supreme idea is to get on. I am prepared to thrust even love itself under the wheels of my Juggernaut if it obstructs the way.” Mae chwaer Boris Johnson wedi datgan mai ei uchelgais ef yn blentyn oedd bod yn “world king”.
  • Perthynas ddigon cymhleth fu gan y ddau â chrefydd hefyd. Adeiladodd Lloyd George ei yrfa gyfreithiol ac yna ei yrfa wleidyddol ar fod yn lladmerydd i Anghydffurfwyr Cymraeg – ennill iddynt yr hawl i gladdu mewn mynwentydd eglwysig, ac ymladd o blaid datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru (pasiwyd y Ddeddf ar drothwy’r rhyfel yn 1914 a daeth y datgysylltu yn ei gyfnod fel Prif Weinidog yn 1920). Mae ei gofiannau yn awgrymu iddo golli ei ffydd bersonol pan oedd yn ifanc, ond fe barhaodd i fynychu oedfaon (Eglwys y Bedyddwyr, Castle Street, yn Llundain pan oedd yn Brif Weinidog) ac fe sefydlodd Gymanfa Ganu’r Eisteddfod yn 1916 i godi calonnau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bedyddiwyd Boris Johnson gan yr Eglwys Gatholig, ond – fel y rhan fwyaf o ddisgyblion Eton – cafodd fedydd esgob gan Eglwys Loegr. Ond pan briododd â Carrie yn 2021 fe wnaeth hynny yn Eglwys Gadeiriol Gatholig Westminster, a oedd yn bosibl gan nad oedd yr Eglwys honno yn cydnabod ei ddwy briodas gyntaf.
  • Fe newidiodd y ddau eu barn am faterion mawr eu dydd o ddyddiau eu magwraeth i ddyddiau eu grym. Roedd Lloyd George wedi ei fagu yn nhraddodiad heddychol Anghydffurfiaeth Gymraeg, a roedd yn wrthwynebus iawn i Ryfel y Boeriaid. Ond pan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf fe newidiodd ei farn a’i gefnogi – ac, yn ôl y sôn, bu’n ddylanwadol iawn yn cael eraill megis John Williams, Brynsiencyn, i newid eu barn hwythau a mynd ati i recriwtio. Fe ddechreuodd Boris Johnson ei addysg nid yn Eton ond yn yr Ysgol Ewropeaidd ym Mrwsel – gan mai ym Mrwsel y gweithiai ei dad – a chafodd ei fagu mewn teulu o anian Ewropeaidd. Does dim angen adrodd iddo newid ei farn, gan wawdio’r Undeb Ewropeaidd fel colofnydd yn y Daily Telegraph a’r Spectator, ac wedyn arwain ymgyrch Vote Leave (ar ôl tipyn o bendroni, gan gynnwys llunio dwy golofn, y naill yn dadlau o blaid yr Undeb Ewropeaidd a’r llall yn erbyn).
  • Cafwyd cyhuddiadau yn erbyn y ddau ynghylch sicrhau lleoedd yn Nhŷ’r Arglwyddi trwy roi arian i’w hymgyrchoedd neu eu pleidiau (nid oedd gan Lloyd George blaid yn yr ystyr arferol gan iddo chwalu ei blaid ei hun wrth ddod yn Brif Weinidog). Bu Lloyd George yn “gwerthu” seddi yn y Tŷ mewn modd lled agored, ac fe arweiniodd hyn yn 1925 at ddeddfwriaeth i geisio atal yr arfer. Ond cafwyd cyhuddiadau tebyg ers hynny, yng nghyfnod Tony Blair ac eto o dan Boris Johnson.

Fe ysgrifennodd Boris Johnson gofiant i Winston Churchill, ond mae ei edmygedd o’i ragflaenydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi arwain at gryn dipyn o wawd. Nid wyf yn amau nad oes yna gymariaethau rhwng y ddau (wedi’r cyfan, does ond angen holi pobl Tonypandy i wybod fod Churchill yntau yn ddyn hynod ddadleuol). Ond, tybed, onid y gymhariaeth fwyaf addas yw honno â Phrif Weinidog y Rhyfel Byd Cyntaf? Ni wyddom ddiwedd hanes Boris Johnson eto. Os yw’n dilyn patrwm Lloyd George, yna mae gan y stori flynyddoedd i fynd – roedd yn Aelod Seneddol o hyd pan fu farw yn 1945, 23 blynedd wedi colli’r swydd uchaf yn y wlad. Tybed beth fydd hanes Boris?

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 6 Chwefror 2022.

Wynebu Yfory yn yr Ewrop newydd

Beth sydd i mi mwy a wnelwyf ag eilunod gwael y llawr?: Yr eilunod fydd angen eu dymchwel yng Nghymru wedi Brexit

Crynhoad o gyflwyniad Gethin Rhys i Gynhadledd Flynyddol Cristnogaeth 21 ar y thema ‘Wynebu yfory yn yr Ewrop newydd’ yn gynharach eleni.

Diolch am y gwahoddiad i siarad yn y gynhadledd hon. Fel y gwyddoch, rwy’n gyflogedig gan Cytûn ac mae’n bwysig dweud ar y cychwyn mai siarad yn bersonol ydw i heddiw – ni ddylid casglu bod unrhyw beth rwy’n ei ddweud heddiw yn mynegi barn Cytûn na’i aelodau.

Yn fy ngwaith rwy wedi bod yn ymwneud llawer â helynt a helbul y Deyrnas Unedig yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd, ac fe wyddom oll fod y drafodaeth yn y cyd-destun hwnnw wedi pegynnu’n aruthrol ers Mehefin 2016. Un o beryglon y fath begynnu yw bod arddel safbwynt cwbl resymol yn gallu dod yn fater o wneud eilun o’r safbwynt hwnnw – delw na ellir ei gwestiynu ac y mae’n rhaid ei addoli. Mae cwestiynu’r eilunod yn troi’n gabledd, a sgwrs am faterion gwleidyddol ac economaidd ymarferol yn troi’n ddadl lle mae’r naill yn cwestiynu hunaniaeth a hyd yn oed gyflwr enaid y llall.

Fel y gwyddai cenhadon yr oes o’r blaen, y cam cyntaf at drafodaeth resymol yw dymchwel yr eilunod, a dyma felly sôn am dri eilun y mae mawr angen erbyn hyn eu dymchwel.

  1. Yr Ymerodraeth Brydeinig a’r Ail Ryfel Byd

Ar un adeg fe liwiwyd llawer o’r map yn binc. Ym meddyliau rhai nid yw hynny wedi newid – neu ni ddylai fod wedi newid. Fe glywir sôn am atgyfodi hen berthynas â’r Ymerodraeth a’i throin berthynas fasnachol o’r newydd – er budd Prydain Fawr, wrth gwrs.

Ynghlwm wrth hyn mae yna agwedd tuag at gyfandir Ewrop – na fu erioed (tu hwnt i Calais) yn rhan o’r Ymerodraeth Brydeinig – sy’n seiliedig ar Ymerodraeth Prydain yn ‘achub’ Ewrop yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae ambell drydarwr yn mynegi’r peth yn groyw (llun):

Ond un o’r pethau annwyl am y Saeson yw sut y maent yn brolio nid yn unig eu llwyddiannau ond eu methiannau, ac mae ‘ysbryd Dunquerque’ yn ysbryd a goleddir llawer heddiw i’n helpu ni i wynebu ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn sydyn ac yn ddigytundeb.

Nid 1918 na 1940 na 1945 yw 2019 – gwell fyddai disodli’r eilun hwn a dod â’r drafodaeth ‘nôl at y presennol a’i realiti.

  1. Y werin groesawgar Gymreig

Os mai Saeson ar y cyfan sy’n codi’r eilun cyntaf, ni’r Cymry sydd wrthi’n codi’r ail. Fel gyda phob eilun, mae yna rywbeth gwir y tu cefn i’r eilun. Mae hi’n gwbl briodol ein bod yn brolio’r mudiad tuag at greu Cenedl Noddfa yng Nghymru. Mae’r ymdrech gydlynus gan Lywodraeth Cymru, Cytûn, Citizens Cymru, eglwysi lleol a llawer o fudiadau eraill i greu dinasoedd noddfa yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Bangor, a sicrhau polisïau cyhoeddus mwy gwâr na’r rhai yr ochr arall i’r ffin yn rhywbeth y dylem fod yn falch ohono. Mae ymatebion cadarnhaol rhai teuluoedd o ffoaduriaid, megis y teulu hwn yn Aberystwyth, yn llonni’n calonnau, ac felly y dylai fod.

 

Yr eilun sy’n cael ei godi ar y sylfeini hyn yw bod pawb yn y genedl yn groesawus – mae hon yn broblem gynhenid mewn enw fel “Cenedl Noddfa” (mae “Cenedl Masnach Deg” yn agored i’r un perygl). Nid felly mae mewn gwirionedd. Cofier am Darren Osborne yn llogi cerbyd ym Mhont-y-clun ac yn ei yrru i Lundain i ladd Mwslimiaid yno, neu’r graffiti hiliol a welir ar hyd a lled Cymru, neu’r dinasyddion Ewropeaidd sydd wedi eu hel o’u tai gan gymdogion a fu cyn Mehefin 2016 yn ddigon ffeind. A noder ar y map hwn mai’r Gymru wledig oedd un o’r mannau lle y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn troseddau casineb yn dilyn y refferendwm. Purion i ni anelu at fod yn genedl noddfa, ond peidied neb â meddwl i ni lwyddo hyd yma.

Mae rhai yn ei chael hi’n anodd cofio’r gwahaniaeth hwn rhwng dyhead a realiti’r sefyllfa. Weithiau pan ddeuir ar draws pobl nad ydynt yn cyflawni’r ddelfryd, fe ddywedir nad ydynt yn Gymry go iawn (dyna ddywedodd nifer am Darren Osborne, er enghraifft). Neu fe awgrymir i’w meddyliau gael eu gwyrdroi gan ddylanwadu allanol dieflig, nad oeddent – megis – yn eu hiawn bwyll. Dyma’r esboniad a ddefnyddiwyd gan Gomiwnyddion ganrif yn ôl i esbonio’r gweithwyr hynny oedd yn amharod i godi mewn chwyldro ac am gadw at yr hen drefn er ei bod yn andwyol iddynt – yr hyn a elwid yn ffug ymwybyddiaeth (false consciousness).

Ond ymhle y mae’r ymwybyddiaeth ffug mewn gwirionedd? Yn y 1980au roeddwn yn astudio ymwneud Cristnogaeth â Marcsaeth, ac yn mynychu cyfarfodydd cangen y Blaid Gomiwnyddol yn Rhydychen. Un tro roedd gŵr anhysbys i’r swyddogion wedi ymuno â’r cyfarfod, ac fe gododd ar ei draed i gyfrannu i’r drafodaeth. “Rydw i’n shop steward yn Cowley...” meddai. Ni chafodd fynd ymhellach gan i’r Cadeirydd dorri ar ei draws. “Ddywedaist ti dy fod yn gweithio yn Cowley?” gofynnodd. “Do,” meddai’r dyn, yn edrych braidd yn syn. “Edrychwch! Edrychwch!” gwaeddodd y cadeirydd, gan bwyntio at y dyn (a oedd yn cochi braidd erbyn hyn) a bron â gwlychu’i hun yn ei gyffro, “Mae’r dyn hwn yn aelod o’r proletariat! Dyma un o’r bobl rydym ni’n ymladd drostyn nhw!” Mae’n amlwg fod dyfodiad aelod go iawn o’r proletariat i blith comiwnyddion Rhydychen yn ddigwyddiad pur anghyffredin, er mai buddiannau’r cyfryw bobl oedd (i fod) wrth wraidd holl fodolaeth y blaid yn y lle cyntaf. Tybed pwy yno oedd yn dioddef gan y ffug ymwybyddiaeth?

I ddod ‘nôl at Gymru, fe welwyd rhywbeth tebyg dros ganrif yn ôl ym myth Gwlad y Menyg Gwynion – yr eilun hwnnw o Gymru a godwyd yn frwd gan Anghydffurfwyr ein gwlad. Caradoc Evans aeth ati i ddymchwel yr eilun yn ei gasgliad deifiol o straeon byrion, My People, sy’n darlunio’n gignoeth sut y cadwyd y ddelwedd trwy gloi i ffwrdd bobl anabl, pobl â dementia, pobl â moesau “diffygiol” yn ôl safonau’r oes, ac unrhyw un arall oedd yn peryglu’r ddelwedd. Bu Caradoc yn ddigon doeth i symud i Lundain cyn mentro cyhoeddi, oherwydd ffyrnig fu’r adwaith iddo ar y pryd a byth oddi ar hynny – nid yw’r Cymry, fwy na neb arall, yn hoffi gweld dryllio’u heilunod.

Roedd y Gymru ddinesig hithau ymhell o fod yn wlad y menyg gwynion. Pan gynyddwyd poblogaeth croenddu Bae Caerdydd yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan bobl a fu’n ymladd dros yr Ymerodraeth, ymateb poblogaeth Caerdydd oedd cynnal terfysgoedd yn eu herbyn. Mae’n beth da i ni gofio canmlwyddiant y digwyddiad hwnnw eleni. A rhag i ni feddwl mai rhywbeth pell yn ôl oedd y werin Gymreig anghroesawgar hon, yn ystod fy magwraeth mewn teulu Cristnogol Cymraeg yng ngogledd Caerdydd yn y 1960au a’r 1970au, pan awn i’r ddinas fawr ar fy mhen fy hun y rhybudd mwyaf i mi oedd “peidiwch â mynd o dan y bont”, hynny yw, y bont ar bwys gorsaf Caerdydd Canolog oedd yn arwain at Tiger Bay. Roedd y lle yn beryglus, a’r islais (na fynegwyd ar lafar erioed) oedd mai yno roedd y bobl groenddu yn byw – yn sicr doedd neb felly yn byw yn Rhiwbeina ar y pryd. Rwy’n falch iawn o allu cerdded i lawr Bute Street yn rheolaidd yn fy ngwaith heddiw a mwynhau’r gymdeithas fywiog, gymhleth, sydd o hyd yn byw yn y strydoedd hynny.

  1. Y trydydd eilun

Rwy’n synhwyro efallai y bydda i’n colli cydymdeimlad ambell un yn y gynulleidfa wrth droi at y trydydd eilun. Mae’r danbaid fendigaid Ann Griffiths, y benthycais un o’i phenillion ar gyfer teitl y ddarlith hon, wedi rhag-weld yn union pwy fyddai’n codi’r trydydd eilun hwn:

Beth sy imi mwy a wnelwyf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio’r wyf nad yw eu cwmni
I’w cystadlu â Iesu mawr:
O! am aros, O! am aros
[Yn yr Undeb ddyddiau f’oes].

Oherwydd y trydydd eilun yw’r Undeb Ewropeaidd ei hun. Cyn 24 Mehefin 2016 bach iawn fu’r eilun-addoli ar yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Roedd hyd yn oed ei gefnogwyr pennaf yn deall ei fod yn sefydliad dynol amherffaith, bod angen ei wella mewn amryw ffyrdd, er cymaint ei ddelfrydau a’i gyfraniad at heddwch Ewrop oddi ar yr Ail Ryfel Byd.

Ers y refferendwm, wrth ymateb i rym yr eilun cyntaf yn enwedig, fe ddechreuodd y dyfarnu pwyllog hyn newid, a bellach mae’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddyrchafu yn eilun mewn llawer man. Mae yna sawl agwedd ar hyn, ond byddaf yn canolbwyntio ar dri heddiw:

i. Mae angen yr Undeb Ewropeaidd i ymdrin â’r argyfwng ffoaduriaid

Does dim amheuaeth nad yw dewrder gwleidyddol Angela Merkel yn croesawu miliwn o ffoaduriaid i’r Almaen, a’r gefnogaeth i hynny ar y pryd gan yr Undeb Ewropeaidd, yn un o hanesion gorau Ewrop yn ddiweddar. Ond erbyn hyn, os ewch chi i wefan y Cyngor Ewropeaidd a chwilio am yr argyfwng ffoaduriaid, fe gewch chi dudalen â’r pennawd Strengthening the EU’s external borders, yn brolio nid y croeso a gynigir i ffoaduriaid ond yr holl ddulliau a ddefnyddir i’w cadw draw.

Cyn Mehefin 2016, roedd llif trydar llawer o fudiadau dyngarol Cymru – gan gynnwys Cytûn – yn tynnu sylw rheolaidd at yr argyfwng, ac at y ffordd yr oedd rhai llywodraethau Ewropeaidd yn llai croesawus na’i gilydd. Bellach, mae’n anodd dod o hyd i’r straeon hyn, gan fod polisïau’r Undeb Ewropeaidd yn symud i’r un cyfeiriad, ond nid yw’r mudiadau hyn am dynnu sylw at fethiannau’r Undeb – arwydd eglur o droi sefydliad yn eilun.

ii. Mae’r Undeb Ewropeaidd yn gwarchod ein hawliau dynol

Mae llawer iawn o fudiadau yn dweud y bydd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn peryglu hawliau dynol, a bod yr Undeb yn gadarn o blaid hawliau dynol ymysg ei aelodau. I ni yng Nghymru, dylai un gair fod yn ddigon i wrthbrofi’r gosodiad hwn, sef Catalunya.

Pan gafwyd y refferendwm ‘anghyfreithlon’ ar annibyniaeth Catalunya yn Hydref 2017, bu Prif Ddirprwy Gomisiynydd y Comisiwn Ewropeaidd, Frans Timmermans, yn amddiffyn y defnydd o drais gan heddlu Sbaen. Y mis canlynol, bu Jean-Claude Juncker yntau’n pwysleisio mai aelod wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd, Sbaen, oedd yn derbyn cefnogaeth y Comisiwn.

Mae’r gefnogaeth honno wedi parhau wrth i rai aelodau o lywodraeth Catalunya gael eu carcharu a’u rhoi ar brawf – er bod y Cenhedloedd Unedig bellach yn galw am eu rhyddhau. Tawedog hefyd fu’r Senedd Ewropeaidd wrth i Sbaen wrthod cydnabod i dri chenedlaetholwr Catalanaidd gael eu hethol yn Aelodau Seneddol Ewropeaidd ym Mai 2019.

Peidied neb yng Nghymru â meddwl y byddai’n wahanol pe bai Cymru mewn rhyw ddadl gyfansoddiadol â’r Deyrnas Unedig: tra mae’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig gâi gefnogaeth yr Undeb Ewropeaidd bob tro, faint bynnag o eilun ydyw i rai Cymry ar hyn o bryd.

iii. Mae’r Undeb Ewropeaidd ar flaen y gad gydag ymladd newid hinsawdd

Mae newid hinsawdd yn fater trawsffiniol, a dweud y lleiaf, ac felly mae’n naturiol meddwl mai sefydliadau trawsffiniol, megis yr Undeb Ewropeaidd, fydd orau i fynd i’r afael â’r sefyllfa. Ond cyn ymddiried yn yr Undeb Ewropeaidd i wneud hynny, mae’n rhaid i ni ddeall pam y mae newid hinsawdd wedi carlamu yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a beth fu rôl yr Undeb Ewropeaidd yn hynny.

Ym 1986 fe gytunodd aelodau’r Undeb Ewropeaidd i sefydlu’r Farchnad Sengl yr ydym yn clywed cymaint amdani ar hyn o bryd. Fe gymerodd hynny rai blynyddoedd, ac ar 1 Ionawr 1993 y daeth i fodolaeth yn llawn. Yn y cyfamser, roedd tri pheth arall hynod arwyddocaol wedi digwydd:

  • Ar 23 Mehefin (noder y dyddiad!) 1988 – diwrnod eithriadol o boeth – fe roddodd James Hansen o NASA dystiolaeth ffrwydrol i Senedd yr Unol Daleithiau, a ddaeth â’r gwirionedd am newid hinsawdd i sylw llawn y cyhoedd am y tro cyntaf. Gweithgarwch dynol ac yn enwedig ein defnydd o danwydd ffosil oedd ar fai, meddai.
  • Ym 1989 fe syrthiodd Wal Berlin a chwalwyd y Llen Haearn ar draws Ewrop. Newydd da yn sicr – rwy’n cofio gwylio’r peth ar y teledu yn Llundain, yn meddwl am ein ffrindiau yn Nwyrain yr Almaen, ac yn llawenhau drostynt a chyda hwy. Y canlyniad fyddai cynnwys y gwledydd hynny yn y Farchnad Sengl Ewropeaidd newydd – rhywbeth nad oedd neb wedi’i rag-weld ym 1986.
  • Ym 1992 fe gynhaliwyd cynhadledd y Cenhedloedd Unedig am yr amgylchedd a datblygu yn Rio de Janeiro, lle’r ymrwymodd gwledydd y byd – gan gynnwys gwledydd yr Undeb Ewropeaidd – i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Yn fuan wedi sefydlu’r Farchnad Sengl Ewropeaidd, yn Ebrill 1994, fe sefydlwyd Sefydliad Masnach y Byd (WTO) – y sefydliad a gyflwynir i ni erbyn hyn fel ein hachubiaeth rhag peryglon economaidd ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Naomi Klein yn ei chyfrol ddirdynnol, This Changes Everything: Capitalism vs the Climate (gyda llaw, tynnwyd yr is-deitl o’r argraffiad Prydeinig!!), yn crynhoi’n fachog gyd-weu’r digwyddiadau hyn yn nheitl un o’r penodau – “Mur yn dymchwel, allyriadau yn codi”. Oherwydd canlyniad sefydlu masnach rydd, yn Ewrop yn gyntaf ac yn gynyddol wedyn ar draws y byd, oedd symud o economïau cenedlaethol lle’r oedd cydrannau yn cael eu gwneud gerllaw’r ffatrïoedd oedd yn gosod y cynnyrch at ei gilydd, a lle mae’r bwyd yn cael ei dyfu yn y wlad yr oedd yn mynd i’w bwydo, i economïau – fel y gwelsom yn ddiweddar – lle mae 2.6 miliwn o lorïau nwyddau yn defnyddio porthladd Dover yn flynyddol. Mae cyrchu’r llaeth sy’n gynhwysyn anhepgor o Bailey’s Irish Cream yn golygu bod 5,000 o lorïau yn croesi’r ffin yn  Iwerddon bob blwyddyn, ac mae cyflogeion Airbus ym Mrychdyn yn gwneud 80,000 o deithiau yn ôl ac ymlaen i’r Cyfandir bob blwyddyn, y cyfan, bron, ar awyrennau.

O sefyll yn ôl, mae hyn yn ymddangos yn ffordd ryfeddol o wastraffus o redeg pethau, ond dyma resymeg y Farchnad Sengl – gwneud pob dim lle bynnag y mae rataf ac yna’i anfon o gwmpas y byd – yr holl broses yn cynyddu’n aruthrol y defnydd o danwydd ffosil. Y Farchnad Sengl Ewropeaidd ddechreuodd yr holl broses, ac a droes newid hinsawdd o fod yn broblem enfawr i fod yn argyfwng dirfodol i’r ddynoliaeth. Nid ymladd newid hinsawdd y mae’r Undeb Ewropeaidd, ond ei ddwysáu yn arw.

Hyd yn oed pan fo eraill yn ceisio lliniaru rhywfaint ar newid hinsawdd, nid eu cefnogi y mae’r Undeb Ewropeaidd. Mae Naomi Klein yn ei llyfr yn adrodd hanes bwriad y llywodraeth daleithiol yn Ontario, Canada, i sefydlu diwydiant ynni adnewyddol yno, gyda chyfran deg o’r incwm yn mynd i’r bobl frodorol.

Japan and then the European Union let it be known that they considered Ontario’s local-content requirement to be a violation of World Trade Organization rules. … The WTO ruled against Canada … From a climate perspective, the WTO ruling was an outrage … And yet from a strictly legal standpoint, Japan and the EU were perfectly correct. One of the key provisions in almost all free trade agreements involves something called “national treatment”, which requires governments to make no distinction between goods produced by local companies and goods produced by foreign firms outside their borders. Indeed, favoring local industry constitutes illegal “discrimination”. (This Changes Everything, tt 68-69, fy mhwyslais i)

Pam y mae’r Undeb Ewropeaidd yn gweithio yn y modd andwyol yma? Mae Naomi Klein yn dweud: “climate change is … the greatest single free-market failure. This is what happens when you don’t regulate corporations and you allow them to treat the atmosphere as an open sewer.” A dyna’r eilun mawr y tu cefn i’r eilunod bach – eilun cyfalafiaeth a’r farchnad rydd. Mae Simon Brooks yn ei lyfr Adra yn dweud am gyflogaeth ansicr, cyflog isel, Gwynedd, “Afiechyd cyfalafiaeth hwyr ydi hwn, ac nid yw’n fwy afiach yn unman nag yn economi ymylol, dymhorol drefedigaethol Gwynedd.” (O’r Pedwar Gwynt, Gorff. 2018).

Ond dyna gychwyn darlith arall am yr eilun hwnnw. Efallai yr hoffai Cristnogaeth 21 wneud eilun cyfalafiaeth yn bwnc ar gyfer cynhadledd y flwyddyn nesaf?

Diolch.

Gethin Rhys 06.07.2019

Tröedigaeth a democratiaeth

Tröedigaeth a democratiaeth

Yn Agora Ionawr/Chwefror 2019, fe fûm yn sôn am fy nhröedigaeth o ran newid hinsawdd. Addewais geisio peidio â diflasu fy narllenwyr a’m cydnabod drwy sôn am y peth yn rhy aml. Ond un o nodweddion y sawl gafodd dröedigaeth yw eu bod yn closio at ei gilydd, ac yn porthi gweledigaeth ei gilydd.

Dyma dderbyn drwy’r post, felly, gan un cyfaill gafodd brofiad tebyg (ac sydd, yn wahanol i mi, yn wyddonydd), gyfrol arall i’w darllen. The Uninhabitable Earth: A Story of the Future gan David Wallace-Wells yw hon (cyhoeddwyd gan Allen Lane, 2019). Fe ddarllenais y gyfrol yn yr ardd dros y penwythnos Pasg poethaf mewn hanes, wrth i Extinction Rebellion gau strydoedd Llundain, a’i gwpla yn y tŷ wrth lochesu rhag Storm Hannah, y cyfan yn darlunio cynnwys y llyfr yn berffaith.

Nid af ati i grynhoi cynnwys y llyfr yn fanwl fan hyn – mae’n ddigon tebyg i gyfrol Naomi Klein y bûm yn ei thrafod yn yr erthygl flaenorol, ond bod y pedair blynedd rhwng cyhoeddi’r ddau lyfr wedi gweld gwaethygu’r sefyllfa yn sylweddol. Yr hyn a’m trawodd o’r newydd oedd nid yn gymaint y ffeithiau a’r rhagolygon brawychus, ond anobaith yr awdur tuag at wleidyddion nid yn unig yr asgell dde (mae’n ysgrifennu yng ngwlad Trump) ond hefyd yr asgell chwith (‘chwith’ mewn termau Americanaidd, o leiaf).

Y drafferth yw i’r asgell chwith, fel yr asgell dde, dderbyn yn ddigwestiwn oruchafiaeth yr economi neo-ryddfrydol gyfalafol. Ers cwymp Wal Berlin ym 1989 nid ymddangosai fod yna ffordd arall o gynnal economi fodern. Yn y blynyddoedd yn dilyn 1989, fe drefnwyd yr economi fyd-eang yn barthau masnach rydd enfawr ac fe hybwyd masnach ym mhob ffordd bosibl. Wrth galon y datblygiad hwn, wrth gwrs, yr oedd y Farchnad Sengl Ewropeaidd – yr Undeb Ewropeaidd yn ehangu i gynnwys llawer o gyn-wledydd comiwnyddol Dwyrain Ewrop, ac yn sicrhau masnach rydd â gwledydd EFTA (megis Norwy) hefyd. Dros yr un cyfnod fe welwyd ffurfio NAFTA yng Ngogledd America (sy’n cael ei ailnegodi ar hyn o bryd oherwydd canfyddiad Donald Trump i’r cytundeb fod yn andwyol i hen ddiwydiannau’r Unol Daleithiau), Partneriaeth y Môr Tawel (TPP) ac ati. Mae Trump wedi tynnu allan o’r TPP, ond mae’r Deyrnas Unedig yn awyddus i ymuno (er nad oes gan Brydain, wrth reswm, unrhyw arfordir yn ffinio â’r Môr Tawel – ffaith ddaearyddol anghyfleus y bu Awstralia yn awyddus i dynnu sylw ati yn ddiweddar).

Dros yr un cyfnod, fe gynyddodd maint y carbon yn yr amgylchedd o draean, a’r tu hwnt i unrhyw beth a welwyd cyn hyn yn hanes y blaned. Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn: y naill achosodd y llall. Mae’r holl fasnach rydd sy’n cael ei brolio cymaint gan y ddwy ochr yn nhrafodaethau Prymadael (Brexit) yn dibynnu ar gludiant drwy lorïau sy’n llosgi tanwydd ffosil. Mae’r nwyddau y maent yn eu cario yn gofyn am brosesau carbon-ddwys i’w cynhyrchu. Mae proses Prymadael wedi tynnu ein sylw at aruthredd y broses hon. Mae’r diwydiant ceir yn unig yn hawlio 1,100 o lorïau yn ddyddiol i groesi o gyfandir Ewrop i wledydd Prydain, gyda llu o deithiau ychwanegol o fewn Prydain hefyd rhwng gwneuthurwyr cydrannau ac ati. Mae 5,000 o deithiau lorri y flwyddyn yn croesi’r ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon ar gyfer gwneud Bailey’s Irish Cream yn unig – heb sôn am yr allforio sy’n dilyn. Mae gwledydd y Gorllewin wedi gwthio modelau tebyg ar wledydd llai datblygiedig, ac mae llawer o wariant cymorth rhyngwladol y Deyrnas Unedig wedi mynd i hybu’r math yma o rwydweithiau cyfalafol cymhleth a difrodus ar y gwledydd hynny. (Gweler yr erthygl yma o’r Daily Express – sydd yn annog seilio cymorth Prydeinig ar fasnach rydd ac ar hybu’r diwydiant olew – hynny yw, polisi bwriadol o ddinistrio’r blaned er elw.)

Ond, dywed David Wallace-Wells, prin iawn yw’r gwleidyddion sy’n fodlon tynnu sylw at y cysylltiad hwn. Mae cynifer o bobl yn elwa o’r dull yma o fasnachu fel y byddai ei amau yn hunanladdiad etholiadol. Mae tröedigaeth y Blaid Werdd o alw am newid y strwythur economaidd i fod “o blaid yr Undeb Ewropeaidd, yn erbyn newid hinsawdd”, er gwaethaf effaith andwyol y naill ar y llall, yn arbennig o drawiadol. Roedd Caroline Lucas, unig Aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Cyffredin, ar un adeg yn wrthwynebus i’r syniad o dwf economaidd, ond bellach mae’n credu y gall yr economi barhau i dyfu ond mewn ffordd “werdd”. Y Farwnes Jenny Jones, unig aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Arglwyddi (ac felly heb fod angen ei hailethol), yw’r unig ffigwr cyhoeddus yn y blaid sydd bellach yn cadw at yr hen ffydd.

Am ychydig, fe feddyliai rhai y byddai esgyniad Jeremy Corbyn, dyn nad yw’n bleidiol i gyfalafiaeth na neo-ryddfrydiaeth, i arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn agor llygedyn o obaith yno. Ond, fel y gwyddom, ar ôl oes o’i wrthwynebu, fe ddewisodd ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe fu’n gymharol dawedog am newid hinsawdd. Pan ymhelaethodd am y pwnc yn ei araith ddiweddar i Gynhadledd Plaid Lafur Cymru, yr un polisi o “dwf gwyrdd” oedd ganddo ef ag sydd gan y Blaid Werdd.

Mae’r gwagle meddyliol hwn yn creu cryn anhawster i ymgyrchwyr yn erbyn newid hinsawdd. Nid oes model amgen ganddynt i’w gynnig, ac mae hyn yn eu hagor i feirniadaeth a gwawd. Mae Extinction Rebellion yn ceisio pontio’r bwlch drwy alw am ‘Gynulliad y Dinasyddion’ i drafod beth i’w wneud. Efallai fod gwerth i’r syniad, ond byddai angen arweiniad ar gynulliad o’r fath i allu dod i gasgliadau rhesymol.

A dyna ferch 16 oed o Sweden yn camu i’r adwy. Nid theori economaidd y mae Greta Thunberg yn ei defnyddio i annog newid ond profiad tröedigaeth, wedi’i gyflyru gan ei chyflwr Asperger. Er gwaethaf dyfal chwilio ar y we, nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod i Greta gred grefyddol bersonol na chefndir Cristnogol. Ond mae ei disgrifiad o ddarganfod y gwir am newid hinsawdd yn ferch fach, mynd i ddwy flynedd o iselder, ac wedyn darganfod ystyr newydd i fywyd mewn ymgyrchu, yn ddisgrifiad o dröedigaeth, os darllenais un erioed.

Ac, ys dywedodd Iesu, o enau plant bychain y clywn y gwirionedd yn aml iawn (nid bod Greta mor fach â hynny erbyn hyn). Yn y byd Cristnogol rhyddfrydol fe aethom i amau gwerth tröedigaeth. Rydym wedi cyfarfod â gormod o bobl sydd efallai’n camddefnyddio eu tröedigaeth hwy i fychanu profiad llai cyffrous pobl eraill. Rydym ni, ryddfrydwyr, hefyd yn amau profiad sydd heb resymeg y tu cefn iddo a chynllun yn ei ddilyn. Mae rhyddfrydwyr pwyllog, gofalus, deallusol yn ofni grym emosiwn tröedigaeth grefyddol neu seciwlar, yn credu mai drwy berswâd rhesymegol yn unig y daw newid o werth. Y drafferth yw i’r dacteg honno fethu’n llwyr dros y genhedlaeth ddiwethaf. Methodd fy nghenhedlaeth anchwyldroadol i’n llwyr â newid dim er gwell. Ond fe lwyddom i eistedd ’nôl yn dawel wrth i faint y carbon yn yr hinsawdd gynyddu ymhell dros draean mewn cwta 30 mlynedd. Fe droes problem fyd-eang adeg Cynhadledd Rio 1992 yn argyfwng byd-eang heddiw, a’n pwyll rhyddfrydol ni sy’n gyfrifol am hynny.

Mae David Wallace-Wells, felly, yn mentro ystyried posibiliadau yr unig fodel economaidd gweithredol arall yn y byd heddiw, sef model cyfalafol unbenaethol Tsieina. Nid yw record y model hwnnw ar newid hinsawdd fawr gwell na’n model ni, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae’r wlad – yn bennaf oherwydd argyfwng ansawdd aer ei dinasoedd – wedi dechrau newid. Oherwydd y llywodraeth unbenaethol gwbl annemocrataidd sydd ganddi, fe all gael ‘tröedigaeth’ fel hyn a gweithredu arni fwy neu lai yn ddirwystr o ran ei phoblogaeth. Ar yr un pryd, mae’n dod yn rym byd-eang go iawn, yn enwedig drwy ei rhaglen Parth a Ffordd (Belt and Road), sy’n gyfuniad unigryw o gymorth tramor a chynnydd economaidd.

Mae yna lawer i’w ofni am dwf Tsieina, o ran rhyddid gwleidyddol ac o ran ei effaith ar yr hinsawdd. Ond o leiaf mae Tsieina yn gallu newid pethau, lle rydym ni’n methu. Fe allai wneud pethau’n llawer iawn gwaeth a’n gyrru oll i ddifodiant. Neu fe allai gynnig ateb, dim ond i ni blygu i’w hawdurdod. Mae’n anodd iawn gweld hynny’n digwydd ar hyn o bryd ond, o’r ddwy ffordd arall a gynigir, ansicr iawn yw’r broses ‘Cynulliad y Bobl’ ar y naill law, ac andwyol fyddai parhau fel ag yr ydym, ar y llall.

Yng ngwledydd Prydain, mae canlyniad refferendwm 2016 wedi peri i lawer amau gwerth democratiaeth. Mae arolwg blynyddol Cymdeithas Hansard ar gyfer 2019 yn awgrymu y byddai cymaint â hanner poblogaeth gwledydd Prydain yn croesawu rhyw fath o unben i ddod â’r busnes Prymadael i fwcwl. Mae llwyddiannau Donald Trump a Jair Bolsonaro hefyd wedi codi cwestiynau am grebwyll etholwyr. Beth bynnag eich barn am hynny, mae methiant unrhyw blaid wleidyddol ddemocrataidd yn y Gorllewin i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn codi cwestiynau dwys am systemau democrataidd. Yn wyneb y posibilrwydd o ddifodiant bywyd ar y ddaear, a fyddai cael gwared ar ddemocratiaeth yn dröedigaeth werth chweil? Dim ond gofyn!

Mae Gethin Rhys yn gweithio fel Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 28 Ebrill 2019.

Tröedigaeth

Tröedigaeth

Dyna yw’r pennawd ar un o fyrddau arddangos Amgueddfa Howell Harris yng Ngholeg Trefeca, a’r panel sy’n aml yn denu’r sylw mwyaf gan ymwelwyr sydd am wybod mwy am hanes y Methodist cyntaf. Yn y cyd-destun hwnnw, maent yn cymryd yn ganiataol mai tro ar fyd ysbrydol oedd y profiad hwn iddo ef, ac maent yn awchu am ddarllen yr hanes.

Wrth dywys yr ymwelwyr o gwmpas, roedd ambell un yn gofyn a ges i dröedigaeth; fy ateb (er siom i rai) oedd: naddo – cefais fy magu yn Gristion, ac er i mi obeithio i mi dyfu yn fy ffydd, ni allwn hawlio tröedigaeth fel y cafodd Harris.

Ond bellach rwyf yn gallu dweud i mi gael tröedigaeth, er bod y cyd-destun yn wahanol i eiddo Howell Harris. Mae darllenwyr selog Agora wedi bod yn dyst i ran o’r broses honno (a phroses oedd tröedigaeth Howell Harris hefyd). Yn yr erthygl Ydy newid hinsawdd yn newid popeth? fis Tachwedd fe soniais am ddarllen cyfrol Naomi Klein, This Changes Everything. Hanner ffordd drwy’r gyfrol oeddwn i ar y pryd, ond roeddwn eisoes yn argyhoeddedig fod yn rhaid i lawer o bethau newid os ydym am achub y blaned.

Erbyn hyn, fe orffennais y gyfrol. Nid wyf yn cynhesu at sylwadau gwrthwynebus Klein am grefydd – ond rhaid cofio ei bod hi’n byw ymysg y math ar grefydd sydd yn cadw cefn Donald Trump, felly rhaid deall ei hamheuaeth. Ar y llaw arall, mae cydymdeimlad dwys Klein â phobl frodorol America, a’i hymdeimlad mai eu gwareiddiad nhw sy’n cynnig gobaith i’r byd, ac nid gwareiddiad y gorllewin, yn un y gall Cymry Cymraeg – er gwaethaf ein rhan ganolog yn yr Ymerodraeth Brydeinig ac yng ngwladychu Canada a’r Unol Daleithiau – gynhesu ato.

Yn digwydd bod, wrth i mi orffen y gyfrol fe gafwyd cyfres o straeon newyddion ynghylch pa mor argyfyngus yw ein sefyllfa. Fe fu straeon tebyg yn y wasg ers blynyddoedd, ond fe lwyddais cyn hyn i beidio â chymryd cymaint â hynny o sylw. Nawr roedd pob un yn gweiddi arnaf fel utgorn o’r nef – gymaint ag y gwaeddodd llais Howell Harris yn ei dro ar William Williams, Pantycelyn ar sgwâr Talgarth ym 1737.

  • Mae iâ Greenland yn toddi yn gynt nag ers 350 mlynedd, ac yn yr haf bron â diflannu’n llwyr.
  • Mae moroedd y byd wedi amsugno 60% yn fwy o wres yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf nag oedd gwyddonwyr yn credu o’r blaen, gan daflu cryn amheuaeth ar dargedau presennol atal newid hinsawdd.
  • Fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun ymaddasu newid hinsawdd i Gymru sy’n sôn am lefelau’r moroedd yn codi 22cm erbyn 2050 a 36cm erbyn 2080 – a hynny cyn gwybod am y ddau ddarn uchod o newyddion.

Eto, yr un pryd, dyma Lywodraeth Cymru yn cefnogi adeiladu gorsaf niwclear Wylfa Newydd ar lan y môr yn Ynys Môn, er gwaethaf eu darogan eu hunain am lefelau’r môr yn codi gan beryglu Wylfa Newydd a Môn fel y collwyd Fukushima. Er i’r cynllun hwnnw bellach gael ei atal (am resymau gwahanol), mae yna bosibilrwydd o hyd y bydd y Llywodraeth yn cefnogi adeiladu ffordd osgoi newydd i’r M4 ar hyd Gwastatir Gwent – tir a adferwyd o’r môr yn y gorffennol ac sy’n sicr o fod dan y môr eto cyn bo hir.

Ond nid diffyg cyd-gysylltu’r hyn a wyddom eisoes yw ein prif fai. Rydym fel petaem yn benderfynol o wthio’n hunain oddi ar y dibyn mor gyflym ag y bo modd.

Mae’r trafodaethau am oblygiadau ymadael â’r Undeb Ewropeaidd hefyd yn datgelu maint ein caethiwed i garbon. Mae trefniadau’r Farchnad Sengl, sy’n cael cymaint o sylw ar hyn o bryd, yn golygu bod 2,600,000 o lorïau yn croesi o’r Cyfandir i wledydd Prydain bob blwyddyn trwy borthladd Dover yn unig. Mae hynny’n llawer mwy na phroblem ynghylch Prymadael (Brexit) – mae’r ffordd yma o drefnu ein heconomi yn peryglu dyfodol ein byd.

Mae’r holl weithgarwch hwn yn gwthio mwy a mwy o garbon i’r hinsawdd. Nid cynhesu a chodi lefel y môr yn unig a wneir o ganlyniad – er bod hynny’n ddigon arswydus – ond troi’r dŵr yn asidig, gan ladd y bywyd ynddo, yn enwedig felly’r plancton sy’n fwyd i forfilod a chreaduriaid tebyg, ond sydd hefyd yn hynod bwysig o ran amsugno carbon o’r amgylchedd. Mae’r tir hefyd yn cynhesu ac yn sychu; mae Llywodraeth Cymru yn nodi’r perygl y bydd corsydd mawn Cymru yn sychu ac yn hytrach nag amsugno carbon fel y maent ar hyn o bryd yn ei allyrru i’r hinsawdd, gan gyflymu’r broses.

Roeddwn eisoes yn gwybod llawer o’r ffeithiau hyn cyn y dröedigaeth – ac rwy’n sicr fod llawer o ddarllenwyr Agora hefyd yn gyfarwydd â nhw. Un gair wnaeth beri i mi sylweddoli nad trafodaeth ymenyddol ac ymgyrch arall oedd hyn, ond rhywbeth gwahanol. Y gair hwnnw oedd “uninhabitable”. Mae Naomi Klein yn dweud, os na fyddwn yn newid ein ffordd o fyw yn llwyr, y bydd y byd yn anghyfannedd o fewn rhyw gan mlynedd. Gyda’r newyddion diweddaraf yn 2018, fe all fod yn gynt na hynny.

A dyna’r dröedigaeth. Os mai cwta ganrif sydd gennym ar ôl, mae llawer o’r ymgyrchoedd eraill y bûm eu cefnogi yn hollol amherthnasol. Ychydig cyn y Nadolig, a finnau newydd gwpla cyfrol Klein, roeddwn yn eistedd mewn cynhadledd yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm am Cymraeg 2050 – achos yr wyf yn ymrwymedig iddo. Ond roedd hi’n anodd canolbwyntio ar y cyflwyniadau ynghylch sut i ddeddfu am yr iaith a’i hybu, pan wyddwn ei bod yn ddigon posibl y bydd Canolfan y Mileniwm dan ddŵr erbyn hynny, ac y bydd Cymru yn cael ei boddi nid yn unig gan y môr ond gan filiynau o ffoaduriaid yn ymadael â’r rhannau o’r byd fydd yn cael eu boddi neu a fydd yn rhy grasboeth i fyw ynddynt erbyn hynny.

Fe wn o ddyddiau Trefeca pa mor anodd y gall fod i siarad â phobl sydd wedi cael tröedigaeth. I ni, mae’r byd wedi newid yn llwyr – ond i chi, mae’n aros yr un fath. Fe allwn swnio’n obsesiynol ac yn hunan-gyfiawn yn ein sicrwydd newydd. Fe allwn ddibrisio gofidiau a helyntion bywyd pobl eraill, sydd erbyn hyn yn ymddangos mor bitw a dibwys i ni. Gobeithio y bydd bod ar ochr arall y profiad hwnnw yn y gorffennol yn help i mi beidio â bod yn ormod o boen.

Hedfan (h Iestyn Hughes)

Rwyf hefyd yn deall o’r newydd y loes y gall pobl sydd yn gweld y byd mewn ffordd newydd ei deimlo wrth siarad â’u ffrindiau a’u teuluoedd. Un o mhenderfyniadau cyntaf – adduned blwyddyn newydd, ond am weddill fy oes – yw na wnaf hedfan mewn awyren eto (heblaw, efallai, mewn argyfwng go iawn). Mae’r difrod a wneir gan bob ehediad yn ddigon i danseilio ein holl ymdrechion eraill i ddefnyddio ynni adnewyddadwy, plannu coed a llysiau, osgoi defnyddio’r car, ac yn y blaen. Ac fe wneir y difrod gan yr hedfan – er bod prynu “carbon offset” yn golygu rhodd ddefnyddiol i ryw elusen, fe allyrrwyd y carbon i’r hinsawdd, a dyna yw’r broblem. Rhaid cyfaddef i hyn arwain at sgyrsiau anodd o fewn y teulu – mae yna siom a diffyg dealltwriaeth. Rydw i’n gwbl hapus – fe fyddwn yn mynd ar y trên i Ghent ac i Ferlin eleni, ac yn gael gwyliau yng ngwledydd Prydain. Ond mae’n anodd i’r gweddill ildio’r holl deithiau hedegog o’r “rhestr fwced” deuluol yr oeddem yn edrych ymlaen atynt. O’m safbwynt i, aberth bach yw hynny – rwyf am i fy nisgynyddion gael byw; y tebygrwydd yw na wnânt os yw’r ddynoliaeth yn parhau i hedfan.

Rhaid dweud mod i’n ymwybodol hefyd o gyfraniad arbennig Cymru at ladd y blaned drwy’r diwydiant glo. Doedd y glowyr ddim yn sylweddoli, wrth gwrs, ond mae yna gyfrifoldeb arbennig arnom fel cenedl i wneud iawn am y difrod a achoswyd gennym.

Fel yn achos y Methodistaid cynnar, pan oedd pobl yn eu hamau, rhaid seiadu â phobl eraill sy’n credu’r un fath. Argymhellaf Operation Noah, er enghraifft, ac ymgyrch Grawys 2019 Cymorth Cristnogol. Rwyf wedi mynd gam ymhellach a dilyn esiampl Rowan Williams, a chefnogi Christian Climate Action o fewn Extinction Rebellion – sy’n credu (fel yr wyf i) fod angen i ni newid ein ffordd o fyw ar garlam, a sicrhau dileu ein hallyriadau carbon erbyn 2025. Maent yn dilyn tactegau sy’n gyfarwydd iawn i ni yng Nghymru oherwydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Pobl eithafol, yn ôl llawer yn y wasg. Tipyn llai eithafol, meddwn i, na gwthio ein teuluoedd ein hunain i geisio byw ar blaned anghyfannedd.

Ydy newid hinsawdd yn newid popeth? Ydy. Ein hymateb ni sy’n cyfri bellach.

Mae’r Parch. Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn, ac yn gyn Warden ar Goleg Trefeca. Barn bersonol a fynegir yn yr erthygl hon, a ysgrifennwyd ar 21 Ionawr 2019.