Tröedigaeth a democratiaeth

Tröedigaeth a democratiaeth

Yn Agora Ionawr/Chwefror 2019, fe fûm yn sôn am fy nhröedigaeth o ran newid hinsawdd. Addewais geisio peidio â diflasu fy narllenwyr a’m cydnabod drwy sôn am y peth yn rhy aml. Ond un o nodweddion y sawl gafodd dröedigaeth yw eu bod yn closio at ei gilydd, ac yn porthi gweledigaeth ei gilydd.

Dyma dderbyn drwy’r post, felly, gan un cyfaill gafodd brofiad tebyg (ac sydd, yn wahanol i mi, yn wyddonydd), gyfrol arall i’w darllen. The Uninhabitable Earth: A Story of the Future gan David Wallace-Wells yw hon (cyhoeddwyd gan Allen Lane, 2019). Fe ddarllenais y gyfrol yn yr ardd dros y penwythnos Pasg poethaf mewn hanes, wrth i Extinction Rebellion gau strydoedd Llundain, a’i gwpla yn y tŷ wrth lochesu rhag Storm Hannah, y cyfan yn darlunio cynnwys y llyfr yn berffaith.

Nid af ati i grynhoi cynnwys y llyfr yn fanwl fan hyn – mae’n ddigon tebyg i gyfrol Naomi Klein y bûm yn ei thrafod yn yr erthygl flaenorol, ond bod y pedair blynedd rhwng cyhoeddi’r ddau lyfr wedi gweld gwaethygu’r sefyllfa yn sylweddol. Yr hyn a’m trawodd o’r newydd oedd nid yn gymaint y ffeithiau a’r rhagolygon brawychus, ond anobaith yr awdur tuag at wleidyddion nid yn unig yr asgell dde (mae’n ysgrifennu yng ngwlad Trump) ond hefyd yr asgell chwith (‘chwith’ mewn termau Americanaidd, o leiaf).

Y drafferth yw i’r asgell chwith, fel yr asgell dde, dderbyn yn ddigwestiwn oruchafiaeth yr economi neo-ryddfrydol gyfalafol. Ers cwymp Wal Berlin ym 1989 nid ymddangosai fod yna ffordd arall o gynnal economi fodern. Yn y blynyddoedd yn dilyn 1989, fe drefnwyd yr economi fyd-eang yn barthau masnach rydd enfawr ac fe hybwyd masnach ym mhob ffordd bosibl. Wrth galon y datblygiad hwn, wrth gwrs, yr oedd y Farchnad Sengl Ewropeaidd – yr Undeb Ewropeaidd yn ehangu i gynnwys llawer o gyn-wledydd comiwnyddol Dwyrain Ewrop, ac yn sicrhau masnach rydd â gwledydd EFTA (megis Norwy) hefyd. Dros yr un cyfnod fe welwyd ffurfio NAFTA yng Ngogledd America (sy’n cael ei ailnegodi ar hyn o bryd oherwydd canfyddiad Donald Trump i’r cytundeb fod yn andwyol i hen ddiwydiannau’r Unol Daleithiau), Partneriaeth y Môr Tawel (TPP) ac ati. Mae Trump wedi tynnu allan o’r TPP, ond mae’r Deyrnas Unedig yn awyddus i ymuno (er nad oes gan Brydain, wrth reswm, unrhyw arfordir yn ffinio â’r Môr Tawel – ffaith ddaearyddol anghyfleus y bu Awstralia yn awyddus i dynnu sylw ati yn ddiweddar).

Dros yr un cyfnod, fe gynyddodd maint y carbon yn yr amgylchedd o draean, a’r tu hwnt i unrhyw beth a welwyd cyn hyn yn hanes y blaned. Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn: y naill achosodd y llall. Mae’r holl fasnach rydd sy’n cael ei brolio cymaint gan y ddwy ochr yn nhrafodaethau Prymadael (Brexit) yn dibynnu ar gludiant drwy lorïau sy’n llosgi tanwydd ffosil. Mae’r nwyddau y maent yn eu cario yn gofyn am brosesau carbon-ddwys i’w cynhyrchu. Mae proses Prymadael wedi tynnu ein sylw at aruthredd y broses hon. Mae’r diwydiant ceir yn unig yn hawlio 1,100 o lorïau yn ddyddiol i groesi o gyfandir Ewrop i wledydd Prydain, gyda llu o deithiau ychwanegol o fewn Prydain hefyd rhwng gwneuthurwyr cydrannau ac ati. Mae 5,000 o deithiau lorri y flwyddyn yn croesi’r ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon ar gyfer gwneud Bailey’s Irish Cream yn unig – heb sôn am yr allforio sy’n dilyn. Mae gwledydd y Gorllewin wedi gwthio modelau tebyg ar wledydd llai datblygiedig, ac mae llawer o wariant cymorth rhyngwladol y Deyrnas Unedig wedi mynd i hybu’r math yma o rwydweithiau cyfalafol cymhleth a difrodus ar y gwledydd hynny. (Gweler yr erthygl yma o’r Daily Express – sydd yn annog seilio cymorth Prydeinig ar fasnach rydd ac ar hybu’r diwydiant olew – hynny yw, polisi bwriadol o ddinistrio’r blaned er elw.)

Ond, dywed David Wallace-Wells, prin iawn yw’r gwleidyddion sy’n fodlon tynnu sylw at y cysylltiad hwn. Mae cynifer o bobl yn elwa o’r dull yma o fasnachu fel y byddai ei amau yn hunanladdiad etholiadol. Mae tröedigaeth y Blaid Werdd o alw am newid y strwythur economaidd i fod “o blaid yr Undeb Ewropeaidd, yn erbyn newid hinsawdd”, er gwaethaf effaith andwyol y naill ar y llall, yn arbennig o drawiadol. Roedd Caroline Lucas, unig Aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Cyffredin, ar un adeg yn wrthwynebus i’r syniad o dwf economaidd, ond bellach mae’n credu y gall yr economi barhau i dyfu ond mewn ffordd “werdd”. Y Farwnes Jenny Jones, unig aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Arglwyddi (ac felly heb fod angen ei hailethol), yw’r unig ffigwr cyhoeddus yn y blaid sydd bellach yn cadw at yr hen ffydd.

Am ychydig, fe feddyliai rhai y byddai esgyniad Jeremy Corbyn, dyn nad yw’n bleidiol i gyfalafiaeth na neo-ryddfrydiaeth, i arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn agor llygedyn o obaith yno. Ond, fel y gwyddom, ar ôl oes o’i wrthwynebu, fe ddewisodd ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe fu’n gymharol dawedog am newid hinsawdd. Pan ymhelaethodd am y pwnc yn ei araith ddiweddar i Gynhadledd Plaid Lafur Cymru, yr un polisi o “dwf gwyrdd” oedd ganddo ef ag sydd gan y Blaid Werdd.

Mae’r gwagle meddyliol hwn yn creu cryn anhawster i ymgyrchwyr yn erbyn newid hinsawdd. Nid oes model amgen ganddynt i’w gynnig, ac mae hyn yn eu hagor i feirniadaeth a gwawd. Mae Extinction Rebellion yn ceisio pontio’r bwlch drwy alw am ‘Gynulliad y Dinasyddion’ i drafod beth i’w wneud. Efallai fod gwerth i’r syniad, ond byddai angen arweiniad ar gynulliad o’r fath i allu dod i gasgliadau rhesymol.

A dyna ferch 16 oed o Sweden yn camu i’r adwy. Nid theori economaidd y mae Greta Thunberg yn ei defnyddio i annog newid ond profiad tröedigaeth, wedi’i gyflyru gan ei chyflwr Asperger. Er gwaethaf dyfal chwilio ar y we, nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod i Greta gred grefyddol bersonol na chefndir Cristnogol. Ond mae ei disgrifiad o ddarganfod y gwir am newid hinsawdd yn ferch fach, mynd i ddwy flynedd o iselder, ac wedyn darganfod ystyr newydd i fywyd mewn ymgyrchu, yn ddisgrifiad o dröedigaeth, os darllenais un erioed.

Ac, ys dywedodd Iesu, o enau plant bychain y clywn y gwirionedd yn aml iawn (nid bod Greta mor fach â hynny erbyn hyn). Yn y byd Cristnogol rhyddfrydol fe aethom i amau gwerth tröedigaeth. Rydym wedi cyfarfod â gormod o bobl sydd efallai’n camddefnyddio eu tröedigaeth hwy i fychanu profiad llai cyffrous pobl eraill. Rydym ni, ryddfrydwyr, hefyd yn amau profiad sydd heb resymeg y tu cefn iddo a chynllun yn ei ddilyn. Mae rhyddfrydwyr pwyllog, gofalus, deallusol yn ofni grym emosiwn tröedigaeth grefyddol neu seciwlar, yn credu mai drwy berswâd rhesymegol yn unig y daw newid o werth. Y drafferth yw i’r dacteg honno fethu’n llwyr dros y genhedlaeth ddiwethaf. Methodd fy nghenhedlaeth anchwyldroadol i’n llwyr â newid dim er gwell. Ond fe lwyddom i eistedd ’nôl yn dawel wrth i faint y carbon yn yr hinsawdd gynyddu ymhell dros draean mewn cwta 30 mlynedd. Fe droes problem fyd-eang adeg Cynhadledd Rio 1992 yn argyfwng byd-eang heddiw, a’n pwyll rhyddfrydol ni sy’n gyfrifol am hynny.

Mae David Wallace-Wells, felly, yn mentro ystyried posibiliadau yr unig fodel economaidd gweithredol arall yn y byd heddiw, sef model cyfalafol unbenaethol Tsieina. Nid yw record y model hwnnw ar newid hinsawdd fawr gwell na’n model ni, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae’r wlad – yn bennaf oherwydd argyfwng ansawdd aer ei dinasoedd – wedi dechrau newid. Oherwydd y llywodraeth unbenaethol gwbl annemocrataidd sydd ganddi, fe all gael ‘tröedigaeth’ fel hyn a gweithredu arni fwy neu lai yn ddirwystr o ran ei phoblogaeth. Ar yr un pryd, mae’n dod yn rym byd-eang go iawn, yn enwedig drwy ei rhaglen Parth a Ffordd (Belt and Road), sy’n gyfuniad unigryw o gymorth tramor a chynnydd economaidd.

Mae yna lawer i’w ofni am dwf Tsieina, o ran rhyddid gwleidyddol ac o ran ei effaith ar yr hinsawdd. Ond o leiaf mae Tsieina yn gallu newid pethau, lle rydym ni’n methu. Fe allai wneud pethau’n llawer iawn gwaeth a’n gyrru oll i ddifodiant. Neu fe allai gynnig ateb, dim ond i ni blygu i’w hawdurdod. Mae’n anodd iawn gweld hynny’n digwydd ar hyn o bryd ond, o’r ddwy ffordd arall a gynigir, ansicr iawn yw’r broses ‘Cynulliad y Bobl’ ar y naill law, ac andwyol fyddai parhau fel ag yr ydym, ar y llall.

Yng ngwledydd Prydain, mae canlyniad refferendwm 2016 wedi peri i lawer amau gwerth democratiaeth. Mae arolwg blynyddol Cymdeithas Hansard ar gyfer 2019 yn awgrymu y byddai cymaint â hanner poblogaeth gwledydd Prydain yn croesawu rhyw fath o unben i ddod â’r busnes Prymadael i fwcwl. Mae llwyddiannau Donald Trump a Jair Bolsonaro hefyd wedi codi cwestiynau am grebwyll etholwyr. Beth bynnag eich barn am hynny, mae methiant unrhyw blaid wleidyddol ddemocrataidd yn y Gorllewin i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn codi cwestiynau dwys am systemau democrataidd. Yn wyneb y posibilrwydd o ddifodiant bywyd ar y ddaear, a fyddai cael gwared ar ddemocratiaeth yn dröedigaeth werth chweil? Dim ond gofyn!

Mae Gethin Rhys yn gweithio fel Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 28 Ebrill 2019.