Archifau Categori: Agora 32

Apêl yr Hen Gapel

Hen Gapel John Hughes, Pontrobert

Clywsom eitem ar Radio Cymru’n ddiweddar yn rhoi sylw i’r argyfwng sy’n wynebu’r Hen Gapel ym Mhontrobert, a chyhoeddwyd manylion apêl newydd a lansiwyd drwy’r papurau bro i geisio codi arian.  Cawsom ninnau neges gan Nia Rhosier yn egluro beth yw natur y broblem bresennol:

Sefyllfa Hen Gapel John Hughes Pontrobert (Gradd II*) a adferwyd gennym ni yma yn Sir Drefaldwyn gyda chefnogaeth Cymru gyfan ym 1995 a’i droi yn Ganolfan Undod ac Adnewyddiad Cristnogol yw bod y to yn gollwng ers blynyddoedd a’r adeiledd yn dioddef o’r herwydd. 

Gyda’r Pwyllgor Llywio yn heneiddio a’r Trysorydd a minnau (Ysgrifennydd) wedi dioddef salwch yn 2017 a diffyg cael pobl iau i ymuno â’r Pwyllgor, mae’n amser pryderus am fod angen codi £80,000 ar gyfer to newydd. Mae “Apêl y Llechen” ar i bobl brynu llechen am £10 wedi ymddangos ym mhapurau bro Cymru yn ddiweddar fel ein hymdrech ddiweddaraf i godi arian. Buom mewn cysylltiad â “ADDOLDAI CYMRU” (Welsh Religious Buildings Trust) i ofyn a fyddai’n barod i gymryd cyfrifoldeb dros ddyfodol yr adeilad gan fod ein Hymddiriedolwyr yn barod i’w drosglwyddo iddynt am ddim, ond hyd yma ni fu hyn yn bosibl oherwydd eu bod hwythau hefyd yn brin o arian!

Mae modd cyfrannu at yr apêl drwy ddilyn y ddolen hon.

Gweddiwn am arweiniad Duw.

Nia Rhosier

Yr Ysbryd Glân

Yr Ysbryd Glân
gan John Gwilym Jones

Ni chofiaf imi erioed wneud yr Ysbryd Glân na’r Drindod yn destun pregeth. Roeddwn wedi llunio darnau byrion ar ddatblygiad athrawiaeth y Drindod ar gyfer darlithoedd, a hynny’n cynnwys syniadau’r diwinyddion a’r athronwyr am yr Ysbryd Glân, eithr mwy anodd o lawer fyddai ceisio cyflwyno syniadau am y Drindod a’r Ysbryd dwyfol i gynulleidfa o’m cyd-aelodau ar y Sul. Ond dyma ni nawr yn sŵn y Pentecost, felly efallai y dylem roi cynnig eto ar ddeall lle’r Ysbryd Glân ym mywyd ein heglwysi.

I mi, rhaid dechrau gydag Iesu, gan mai hwnnw yw’r person canolog ym mhob ystyr. Ond pa Iesu? Yn y Testament Newydd fe roddir iddo amrywiaeth helaeth o deitlau: Iesu, Iesu o Nasareth, ac i’r rhai agosaf ato, yr Athro, neu yr Arglwydd. Yna gan awduron yr Efengylau, genhedlaeth yn ddiweddarach, Mab Duw, Meseia, Bara’r Bywyd, Oen Duw … mae’r rhestr yn faith. Yr hyn fu’n anffodus i ddatblygiad Cristnogaeth gynnar oedd mai’r diwinyddion dylanwadol oedd yr athronwyr, wedi eu trwytho yn athroniaeth Groeg a Rhufain. Felly, pan gafodd y rhain afael yn y traddodiadau Cristnogol, roedden nhw am roi trefn fetaffisegol ac athronyddol ar y syniadau am Dduw ac Iesu. Wedyn, yng Nghredo Nicaea, er mwyn cadarnhau’r syniad am Iesu yn Fab Duw, mae Iesu yn cael ei ddiffinio fel Duw o wir Dduw ac o’r un sylwedd â Duw. I ddiwinyddion y 4edd a’r 5ed ganrif daeth yn ail berson y Drindod ac yn un â Duw. A daeth Cristnogion yn gyffredinol felly i ystyried fod Iesu yn ymgorffori’r hyn y gellir ei wybod am Dduw gan y meddwl dynol.

Ond mae yna agweddau ar Dduw na all unrhyw fod dynol eu mynegi na’u harddangos, megis y Duw hollalluog neu’r Duw hollwybodol. Bydd rhai Cristnogion yn honni fod Iesu yn ystod ei fywyd ar y ddaear yn hollwybodol ac yn hollalluog. Eto, y gwir amdani yw fod y fath syniad wedyn yn gwadu dyndod Iesu. Felly, fe ddatblygodd cytundeb barn a dderbyniai mai’r hyn a wnâi Iesu yn ei ddyndod oedd datguddio hanfodion cymeriad Duw.

Felly, beth am yr Ysbryd Glân? Yn y Testament Newydd ceir cyfeiriadau amwys at Ysbryd Duw ac Ysbryd Crist, gan awgrymu’r syniad fod Duw ac Iesu yn parhau eu gwaith drwy ddylanwadau ysbrydol. Ond ni fodlonai’r eglwysi cynnar ar arddel y syniadau hynny. Ceir llu o gyfeiriadau at yr Ysbryd Glân fel nerth mewnol a anfonir gan Dduw ac a all drigo ynom. Gwelai’r meddylwyr athronyddol fod yna gyfeiriadau yn y Testament Newydd at Ysbryd fel rhyw endid ar wahân i Dduw ac ar wahân i Iesu, er enghraifft y cyfeiriad yng ngenau Iesu am “y Diddanydd Arall” (Ioan 14:16), a hwnnw’n cael ei anfon gan y Tad wedi ymadawiad Iesu. Cam bach iawn wedyn oedd diffinio’r Ysbryd Glân fel person dwyfol, yn un o dri yn y Duwdod, ac o’r un sylwedd â Duw’r Tad a Duw’r Mab. Yn fuan iawn lluniwyd credoau yn cynnwys y syniadau hyn fel fformwlâu sylfaenol, a’r credoau yn wirioneddau y disgwylid i bob Cristion eu hategu. Wedyn, os caed unrhyw greadur druan a ddywedai na allai gredu hyn, yna ni ellid ei ystyried yn Gristion cyflawn ac uniongred.

Y mae’r pwyslais mawr ar lynu at gredo ac athrawiaeth yn tarddu o gamddehongli’r gair “credu”. O’r blynyddoedd cynnar aeth Cristnogion i feddwl mai ystyr y gair “credu” yw ystyried fod rhyw ffeithiau yn wir. Credu FOD Iesu yn Fab Duw; credu FOD yr Ysbryd Glân yn un o’r Drindod; credu AM Iesu, ei fod wedi marw dros ein pechodau. Ond gwir ystyr “credu” yw credu YN Iesu; mentro ein bywyd ar Iesu, ymddiried yn llwyr ynddo; credu YNDDO, nid credu amdano. Mewn geiriau eraill, nid proses yn y meddwl yw credu, ond gweithredu mewn ymddiriedaeth mewn person. A phan ddown i fentro ein bywyd ar Iesu, yna gwelwn ddechrau gweithredu gwaith ei Deyrnas.

Ond roedd y syniad am yr Ysbryd fel un o dri pherson y Drindod dragwyddol wedi cydio, ac fe aethom ati i olrhain gweithgarwch yr Ysbryd drwy bob man a thrwy bob oes, yn arbennig mewn cyfeiriadau Beiblaidd. Cawsom hi’n hawdd uniaethu’r syniad am Ysbryd Glân â’r “ysbryd” a oedd yn ysbrydoli’r hen broffwydi, neu “ysbryd Duw” yn Genesis, lle dywedir fod “y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ‘ysbryd Duw’ yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd”. Gellid dweud wedyn fod yr Ysbryd Glân, yn y creu, fel anadl Duw yn anadlu bywyd i mewn i greadigaeth oedd yn afluniaidd a gwag, rhoi cusan bywyd i’r greadigaeth. Yn yr un modd gellid meddwl am yr Ysbryd yn anadlu bywyd i mewn i berson yr oedd ei fywyd yn afluniaidd a gwag, neu gwmni neu gynulleidfa oedd yn afluniaidd a gwag, ond wedi ymweliad yr Ysbryd yn rymus a llawn.

Y gair a ddefnyddir mewn Hebraeg am “anadl Duw” yw “ruach Elohim”. Enghraifft arall yn yr Hen Destament lle defnyddir ffurf sy’n perthyn i’r un enw, “ruach”, ond ar ffurf berf, yw’r hanes am Dduw yn galw’r genedl allan o’r Aifft. Yn Deuteronomiwm 31 defnyddir delwedd gofiadwy iawn am Dduw fel eryr yn chwalu ei nyth er mwyn gorfodi’r cywion i hedfan ac i fentro ar fywyd tu hwnt i’r nyth. Ond dywedir wedyn fod yr eryr yn dal i “hofran” uwchben i warchod fföedigaeth ei phlant. Yr oedd Ysbryd Duw felly nid yn unig wedi bod yn hofran uwch y dyfroedd yn y creu ond yn hofran dros daith y genedl i ryddid, gan ofalu hefyd dros y genedl yn ei gwaredigaeth o gaethiwed. Duw drwy’r Ysbryd Glân yn creu ac yn achub. Ac fe allaf ddychmygu pregethwyr heddiw yn defnyddio delwedd chwalu’r nyth fel yr Ysbryd Glân yn ysbrydoli diwygwyr yr oesau ar wahanol adegau i symbylu cywion rhyw hen gredoau i adael cysur cyfarwydd nyth eu hen gred ac i fentro ar weledigaeth newydd. Fel Martin Luther yn chwalu nyth Pabyddion Erfurt a pheri iddynt fentro ar awel rydd Protestaniaeth.

Yr oedd i’r gair “ruach” mewn Hebraeg amrywiaeth o ystyron, weithiau’n dyner fel ochenaid, weithiau megis gwynt nerthol. Mewn mannau yn yr Hen Destament sonnir am Ysbryd Duw yn rhwygo’n nerthol drwy’r cread, fel yn 1 Brenhinoedd 19, neu yn Eseia 40:7 yn chwythu dros laswellt nes ei fod yn crino. Ond mae’r darn yn 1 Brenhinoedd yn arwyddocaol iawn, lle gwrandawai Elias am neges Duw: “A dyma’r Arglwydd yn dod heibio.” Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias hwnnw, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau’r ogof. A daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?” “Distawrwydd llethol” yw’r ymadrodd sy’n cyfateb i “lef ddistaw fain” yr ymadrodd llythrennol yn Hebraeg. A chyda llaw, fel gydag ambell ymadrodd arall yn y BCN, y mae’r awydd i ddehongli wrth gyfieithu wedi peri colli grym ambell ddelwedd. I mi, y mae yna bwynt arwyddocaol i’r ymadrodd “llef ddistaw fain”. Oherwydd cwestiwn Duw wedyn i Eleias, ar ôl iddo glywed y llef ddistaw fain, oedd “beth wyt ti’n ei WNEUD, Elias?”. Nid beth wyt ti’n ei feddwl, nid beth wyt ti’n ei gredu. Ac wedi iddo glywed Duw yn y llef ddistaw fain y dangoswyd i Elias i ble y dylai fynd, a beth ddylai ei wneud.

Fe glywodd Cymru wynt nerthol yn rhwygo ddechrau’r ganrif ddiwethaf yn y Diwygiad, ond y cwestiwn yw a oedd Duw wedi arwain Cymru wedyn at ei gwaith yng ngwasanaeth y Deyrnas. Yr ateb yw naddo. Fe aeth Cymru yn hytrach i ladd mewn dau ryfel byd. Ar hyd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif cilio wnaeth tystiolaeth yr eglwys. Bu’n rhaid aros tan ganol y ganrif cyn i Gymru ddangos ei bod yn gwrando ar lef ddistaw fain y trueiniaid a dagrau distaw y dioddefwyr mewn llawer gwlad. Dyna pryd y gwelwyd twf Cymorth Cristnogol ac Oxfam a mudiad Achub y Plant, a thwf ymwybyddiaeth aelodau am anghenion dybryd gwledydd y byd.

Ond yn ôl eto at hanes yr Ysbryd Glân yn y Beibl. Un nodwedd amlwg yn yr adroddiadau am ymweliadau’r Ysbryd Glân yw grym y pregethu a’r effeithau torfol ar bobol. Ar ddydd y Pentecost dyma ddywedir yn Llyfr yr Actau: “bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau.” Hyd yn oed yn ein cyfnod ni, pan sonnir am ymweliadau’r Ysbryd mewn cyfarfodydd megis yr eglwysi Pentecostaidd, yr un nodweddion a welir, sef grym y teimladau a niferoedd y rhai sy’n cael eu hargyhoeddi. A’r hyn sy’n eironig yw fod yr elfennau hynny mor wahanol i’r hyn a welwn yn hanes Iesu yn yr Efengylau. Yr oedd yn gas gan Iesu dyrfa: “Pan welodd Iesu y tyrfaoedd aeth i fyny’r mynydd …” Pan welodd dyrfa yn dod at lan y môr, meddai Iesu wrth ei ddisgyblion, “Chwiliwch am gwch,” er mwyn ffoi. Hyd yn oed yn hanes porthi’r pum mil, roedd wedi ceisio eu hanfon i ffwrdd i ddechrau. Deuddeg oedd nifer delfrydol cynulleidfa i Iesu. Ac ambell waith dim ond tri: Pedr ac Iago ac Ioan. Dyna paham y mae pregethu am ddigwyddiadau’r Pentecost ac achub y tyrfaoedd mor chwithig ac anodd i bawb sydd am gymryd Iesu’r Efengylau o ddifri.  

Peth arall sydd o ddiddordeb arbennig i Gymro Cymraeg yw’r enw “Ysbryd Glân”. Ni wn i am unrhyw iaith arall sydd wedi mabwysiadu’r fath enw am y Lladin “Spiritus Sanctus”. Yr enghraifft gynharaf y gwn i amdani yn Gymraeg yw’r linell yng ngwaith Meilyr Brydydd tua diwedd y 12fed ganrif. Yn y drydedd ganrif ar ddeg mae Bleddyn Fardd yn defnyddio’r un ymadrodd, yn dangos fod y term wedi cydio. Ac oherwydd bod Salesbury, mae’n siŵr, yn gyfarwydd â chlywed a darllen yr ymadrodd “Ysbryd Glân”, dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd ganddo yn ei gyfieithiadau. Yr ymadrodd cyfatebol mewn Groeg yw πνεύματος ἁγίου, a gair yn cyfateb i “santaidd” a sanctus ac ἁγίου, yn hytrach na gair yn cyfateb i “glân” yw’r ansoddair drwy hen “wledydd cred”. Gyda llaw, efallai mai o dan ddylanwad yr ymadrodd yna y mabwysiadwyd yr ymadrodd “glân briodas” am “holy wedlock”.

Mae’n bosib fod y ffurf “Ysbryd Glân” wedi ei gynnig ei hun mewn gwrthgyferbyniad â’r ymadrodd “ysbryd aflan” sy’n digwydd yn aml yn yr Efengylau. Byddent yn credu fod ysbryd aflan yn medru meddiannu person. A’r hyn y medrai Iesu ei wneud oedd gyrru’r ysbryd aflan allan ohono, er mwyn i’r Ysbryd Glân ei feddiannu. Byddai Cristnogion Cymru felly yn medru sôn am lendid yr Ysbryd mewn gwrthgyferbyniad â llygredigaeth ac aflendid llawer o agweddau ar fywyd y byd, gan gyfeirio at lendid bywyd a dysgeidiaeth Iesu mewn gwrthgyferbyniad ag elfennau o fewn ein bywydau ninnau.

Byddai Cristnogion hefyd yn cael eu hysbrydoli gan rai o’r delweddau eraill am yr Ysbryd Glân yn y Beibl: cysur y diddanydd, bywyd yr anadl, tynerwch a heddwch y golomen, a hyd yn oed buredigaeth y tafodau tân. Yr Ysbryd fel tân yn difa. Mae yna stori am hen ddirwestwr o weinidog, pan welodd un o dafarnau Aberystwyth ar dân, meddai, “Cer ymlaen, nefol dân, cymer yma feddiant glân”. Ond beth petai wedi clywed am y tafodau tân yn Notre-Dame yn llosgi’r adeilad, a’r galar am y trysorau a oedd wedi eu difa. Mae’n siŵr i rai ohonoch gofio am eiriau Iesu yn Efengyl Ioan wrth y wraig o Samaria: “Y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli’r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem … y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”

Roedd yn arswyd i Iddewon glywed Iesu yn dibrisio’r deml, fel y byddai’n arswyd i Gristion yn Ffrainc glywed rhywun yn honni mai colled i gelfyddyd a hanes yn unig oedd llosgi rhan o’r Eglwys Gadeiriol ym Mharis, ac nid colled i addolwyr. Byddai bod heb hyd yn oed adfeilion teml yn fendith fawr i Jerwsalem a’r Dwyrain Canol, oherwydd mae’r adfeilion a’u hanes yn fwy o rwystr nag o gymorth ers canrifoedd i dangnefedd a chymod.

Un cyfeiriad arall cysylltiedig â’r Ysbryd Glân y bydd rhai Cristnogion yn mynd iddo yw’r “llefaru â thafodau”. Fel y gwyddoch, mae yna wrtheb fawr yn y syniad, sy’n cyfleu dau beth cwbl wahanol. Ar un ochr, fel yn Llyfr yr Actau, ceir yr Ysbryd yn ysbrydoli’r apostolion i lefaru nes bod pawb o bob iaith yn deall y neges. Ond yn y cyfeiriadau eraill y sonnir amdanynt yn digwydd yn yr eglwysi cynnar, roedd y lleferydd yn annealladwy i weddill y gynulleidfa. Mae’r math yma o ddigwyddiad i’w gael mewn crefyddau eraill, ac yn y rheini hefyd dywedir mai siarad â Duw yn unig y mae’r addolwr.

Ond wrth gyflwyno pregeth am ddigwyddiad Sul y Pentecost, mae’n siŵr mai’r syniad cyntaf fyddai’n thema dderbyniol i rai fel ni: sef fod yr Ysbryd yn ein hysbrydoli i lefaru, nid yn ôl iaith hen athrawiaethau, nid yn iaith Iddewiaeth, nid yn iaith ein gwahanol enwadau, na hyd yn oed iaith y Gristnogaeth ormesol sy’n hawlio mai hi yw’r unig grefydd ddilys, ond yn iaith Iesu ei hun fel y’i clywir yn yr Efengylau, iaith y byddai pawb yn ei deall: Câr dy gymydog fel ti dy hun. Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt. Dyna iaith fyd-eang, ac iaith Pentecost yr Ysbryd Glân yn y dyfodol.

 

 

Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth

Yn ein hemynau y mae ein diwinyddiaeth

gan Neville Evans

Rwyn credu mod i’n cofio’n gywir mai Pennar Davies a gynigiodd y sylw, ‘Os ydych am wybod beth yw diwinyddiaeth y Cymry Cymraeg, ewch at eu hemynau’. Gyda hynny’n gyfarwyddyd, rhoddais amser yn ddiweddar i chwilota yn Caneuon Ffydd (lle ceir 873 o emynau yn yr iaith Gymraeg) am gyfeiriadau at ddigwyddiadau Gwener y Groglith a Dydd y Pasg, hynny yw, am gyfeiriadau at y Croeshoeliad a’r Atgyfodiad.

Y cam cyntaf a symlaf oedd troi at dudalen Cynnwys y llyfr emynau a chael bod un pennawd, ‘Y Groes’, gyda 61 o emynau (482–542) a phennawd arall, ‘Yr Atgyfodiad a’r Esgyniad’, gyda 24 o emynau (543–566). Fy ymateb cyntaf i’r wybodaeth hon oedd un o syndod bod cyn lleied ag 85 o emynau (oddeutu 10%) ar y ddau ddigwyddiad pwysig hyn yn ein Ffydd. Fy ail syndod oedd nodi bod tipyn mwy o’r 85 emyn yn ymwneud â’r Croesholiad na’r rhai sy’n cyfeirio at yr Atgyfodiad a’r Esgyniad. Onid yw’r Atgyfodiad yn ‘bwysicach’ (creiddiol) na’r Croeshoeliad yn ein Ffydd? Wedi’r cyfan, nid oedd croeshoelio yn anghyffredin fel dull o gosbi ac felly’n gyfarwydd i’r cyhoedd. Ond nid felly atgyfodi. Neu, a ydyw gwewyr y Croeshoeliad yn haws i’w gyflwyno gan emynwyr a beirdd na syfrdan yr Atgyfodiad?

Os yw’r ateb yn gadarnhaol, pam mae ein capeli, yn wahanol i eglwysi Anglicanaidd a Phabyddol, mor brin o arwyddion/lluniau/cerfluniau/iconau am arwyddocâd ac erchylltra’r Croeshoeliad o’u cymharu â nifer y delweddau o’r groes wag? Oni fyddai dyn yn disgwyl rhywbeth tebyg i’r emynau penodol – mwy o emynau’r Groglith nag emynau’r Trydydd Dydd. Mae’n siŵr bod ymgyrch y Piwritaniaid yn erbyn y traddodiad Anglicanaidd a Phabyddol yn haws i’w weithredu mewn actau o ddifrodi delweddau gweladwy na chwynnu emynau.

Bid a fo am hynny, a minnau’n cydnabod bod rhesymeg wallus a gorsyml yn britho’r uchod, fe ddes i’r casgliad yn fuan mai annoeth oedd dibynnu ar ddadansoddiad tudalen Cynnwys Caneuon Ffydd mewn ymgais i ymateb i sylw Pennar Davies. Doedd dim dewis i mi ond chwilota ym mhob un o’r 873 emyn Cymraeg yn ein llyfr emynau. Penderfynais ar y pedwar dosbarth hyn: 1. Emynau’n cynnwys cyfeiriadau penodol at y Croeshoeliad, 2. Emynau’n cynnwys cyfeiriadau penodol at yr Atgyfodiad, 3. Emynau’n cynnwys cyfeiriadau at y DDAU ddigwyddiad, 4. Emynau heb gyfeiriad o gwbl at y naill na’r llall. Unwaith yn unig y cynhwyswyd emyn mewn dosbarth; nid oedd nifer y penillion mewn emyn perthnasol yn cyfrif, gallai fod yn 1, 2, 3, 4.

Yn fuan ar ôl dechrau ar y dosbarthiad daeth yn glir i mi y byddai angen pwyso a mesur yn ofalus a chyson, gan fod llawer o emynau yn defnyddio geiriau clir, megis, ‘y groes’ (ond dim ond ‘Croes Crist’ oedd yn cyfrif, nid ‘croes’ pererin ar daith bywyd) tra bod eraill yn sôn am ‘yr oen’ neu ‘y pren’. Byddai pob un o’r rhai cymwys hyn yn mynd i Ddosbarth 1. Felly gyda phob dosbarth.

Mae’r tabl isod yn crynhoi canlyniadau’r broses ddosbarthu.

 

Rhifau’r emynau mewn grŵp

Nifer yr emynau ym mhob grŵp

Sawl emyn yn sôn am y Croeshoeliad

Sawl emyn yn sôn am yr Atgyfodiad

Sawl emyn sôn am y DDAU

Sawl emyn heb gyfeiriad at y naill na’r llall

1–160

160

25

2

2

131

161–269

109

32

2

0

75

270–360

91

26

4

3

58

361–446

86

21

2

10

53

447–513

67

29

0

4

34

514–545

32

24

3

5

0

546–578

33

1

12

12

8

579–611

33

7

2

2

22

612–644

33

13

1

0

19

645–677

33

19

0

3

11

678–710

33

8

0

1

24

711–743

33

13

0

0

20

744–776

33

9

2

4

18

777–808

32

9

0

3

20

809–841

33

11

1

0

21

842–873

32

9

0

2

21

Y cyfan

873

256 – 29.3%

31 – 3.6%

51 – 5.8%

535 – 61.3%

SYLWADAU

  1. Nid oes unrhyw arwyddocâd i’r data yn y ddwy golofn gyntaf; hwylustod personol sydd yma. Serch hynny gallai’r fformat fod yn ddefnyddiol i’r sawl a hoffai roi cynnig ar yr un dadansoddiad.
  2. Mae’r drydedd a’r bedwaredd golofn yn dangos bod oddeutu deg gwaith yn fwy o gyfeiriadau at y Croeshoeliad nag sydd at yr Atgyfodiad.
  3. Mae’r golofn olaf yn dangos bod mwy o lawer o gyfeiriadau lle nad oes sôn am na Chroeshoeliad nac Atgyfodiad. Oddi mewn i’r emynau hyn ceir amrywiaeth mawr o themâu, megis Duw’r Creawdwr, priodas, derbyn aelodau, Cymru, carolau.
  4. Cefais flas ar y chwilio, er bod agweddau llafurus yn perthyn iddo. Darllenais nifer o emynau cwbl ddieithr i mi, gan sylweddoli fy ngholled dros y blynyddoedd. Gwelais enghreifftiau o farddoniaeth gain. Canfyddais wendid y fformat pedair llinell er mwyn amlygu’r odl, yn ddigon i mi awgrymu y dylid ailargraffu er mwyn pwysleisio sut y dylid canu a dweud ambell linell, megis:

Gwaith hyfryd iawn a melys yw moliannu d’enw di, O Dduw (Rhif 18).

  1. Un gwendid amlwg yn y math hwn o ddadansoddiad yw cyfrif pob emyn yn gydradd â’i gilydd o ran dwyster diwinyddol. Ystyrier Rhif 500 – ‘Cof am y cyfiawn Iesu’ a Rhif 1 – ‘Cydganwn foliant rhwydd i’n Harglwydd, gweddus yw’.
  2. Os oedd Pennar yn iawn (nid yn ysgafn y dylid amau’r athrylith hwnnw), beth yw ein diwinyddiaeth?

Tröedigaeth a democratiaeth

Tröedigaeth a democratiaeth

Yn Agora Ionawr/Chwefror 2019, fe fûm yn sôn am fy nhröedigaeth o ran newid hinsawdd. Addewais geisio peidio â diflasu fy narllenwyr a’m cydnabod drwy sôn am y peth yn rhy aml. Ond un o nodweddion y sawl gafodd dröedigaeth yw eu bod yn closio at ei gilydd, ac yn porthi gweledigaeth ei gilydd.

Dyma dderbyn drwy’r post, felly, gan un cyfaill gafodd brofiad tebyg (ac sydd, yn wahanol i mi, yn wyddonydd), gyfrol arall i’w darllen. The Uninhabitable Earth: A Story of the Future gan David Wallace-Wells yw hon (cyhoeddwyd gan Allen Lane, 2019). Fe ddarllenais y gyfrol yn yr ardd dros y penwythnos Pasg poethaf mewn hanes, wrth i Extinction Rebellion gau strydoedd Llundain, a’i gwpla yn y tŷ wrth lochesu rhag Storm Hannah, y cyfan yn darlunio cynnwys y llyfr yn berffaith.

Nid af ati i grynhoi cynnwys y llyfr yn fanwl fan hyn – mae’n ddigon tebyg i gyfrol Naomi Klein y bûm yn ei thrafod yn yr erthygl flaenorol, ond bod y pedair blynedd rhwng cyhoeddi’r ddau lyfr wedi gweld gwaethygu’r sefyllfa yn sylweddol. Yr hyn a’m trawodd o’r newydd oedd nid yn gymaint y ffeithiau a’r rhagolygon brawychus, ond anobaith yr awdur tuag at wleidyddion nid yn unig yr asgell dde (mae’n ysgrifennu yng ngwlad Trump) ond hefyd yr asgell chwith (‘chwith’ mewn termau Americanaidd, o leiaf).

Y drafferth yw i’r asgell chwith, fel yr asgell dde, dderbyn yn ddigwestiwn oruchafiaeth yr economi neo-ryddfrydol gyfalafol. Ers cwymp Wal Berlin ym 1989 nid ymddangosai fod yna ffordd arall o gynnal economi fodern. Yn y blynyddoedd yn dilyn 1989, fe drefnwyd yr economi fyd-eang yn barthau masnach rydd enfawr ac fe hybwyd masnach ym mhob ffordd bosibl. Wrth galon y datblygiad hwn, wrth gwrs, yr oedd y Farchnad Sengl Ewropeaidd – yr Undeb Ewropeaidd yn ehangu i gynnwys llawer o gyn-wledydd comiwnyddol Dwyrain Ewrop, ac yn sicrhau masnach rydd â gwledydd EFTA (megis Norwy) hefyd. Dros yr un cyfnod fe welwyd ffurfio NAFTA yng Ngogledd America (sy’n cael ei ailnegodi ar hyn o bryd oherwydd canfyddiad Donald Trump i’r cytundeb fod yn andwyol i hen ddiwydiannau’r Unol Daleithiau), Partneriaeth y Môr Tawel (TPP) ac ati. Mae Trump wedi tynnu allan o’r TPP, ond mae’r Deyrnas Unedig yn awyddus i ymuno (er nad oes gan Brydain, wrth reswm, unrhyw arfordir yn ffinio â’r Môr Tawel – ffaith ddaearyddol anghyfleus y bu Awstralia yn awyddus i dynnu sylw ati yn ddiweddar).

Dros yr un cyfnod, fe gynyddodd maint y carbon yn yr amgylchedd o draean, a’r tu hwnt i unrhyw beth a welwyd cyn hyn yn hanes y blaned. Nid cyd-ddigwyddiad yw hyn: y naill achosodd y llall. Mae’r holl fasnach rydd sy’n cael ei brolio cymaint gan y ddwy ochr yn nhrafodaethau Prymadael (Brexit) yn dibynnu ar gludiant drwy lorïau sy’n llosgi tanwydd ffosil. Mae’r nwyddau y maent yn eu cario yn gofyn am brosesau carbon-ddwys i’w cynhyrchu. Mae proses Prymadael wedi tynnu ein sylw at aruthredd y broses hon. Mae’r diwydiant ceir yn unig yn hawlio 1,100 o lorïau yn ddyddiol i groesi o gyfandir Ewrop i wledydd Prydain, gyda llu o deithiau ychwanegol o fewn Prydain hefyd rhwng gwneuthurwyr cydrannau ac ati. Mae 5,000 o deithiau lorri y flwyddyn yn croesi’r ffin rhwng Gogledd a Gweriniaeth Iwerddon ar gyfer gwneud Bailey’s Irish Cream yn unig – heb sôn am yr allforio sy’n dilyn. Mae gwledydd y Gorllewin wedi gwthio modelau tebyg ar wledydd llai datblygiedig, ac mae llawer o wariant cymorth rhyngwladol y Deyrnas Unedig wedi mynd i hybu’r math yma o rwydweithiau cyfalafol cymhleth a difrodus ar y gwledydd hynny. (Gweler yr erthygl yma o’r Daily Express – sydd yn annog seilio cymorth Prydeinig ar fasnach rydd ac ar hybu’r diwydiant olew – hynny yw, polisi bwriadol o ddinistrio’r blaned er elw.)

Ond, dywed David Wallace-Wells, prin iawn yw’r gwleidyddion sy’n fodlon tynnu sylw at y cysylltiad hwn. Mae cynifer o bobl yn elwa o’r dull yma o fasnachu fel y byddai ei amau yn hunanladdiad etholiadol. Mae tröedigaeth y Blaid Werdd o alw am newid y strwythur economaidd i fod “o blaid yr Undeb Ewropeaidd, yn erbyn newid hinsawdd”, er gwaethaf effaith andwyol y naill ar y llall, yn arbennig o drawiadol. Roedd Caroline Lucas, unig Aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Cyffredin, ar un adeg yn wrthwynebus i’r syniad o dwf economaidd, ond bellach mae’n credu y gall yr economi barhau i dyfu ond mewn ffordd “werdd”. Y Farwnes Jenny Jones, unig aelod y Blaid Werdd yn Nhŷ’r Arglwyddi (ac felly heb fod angen ei hailethol), yw’r unig ffigwr cyhoeddus yn y blaid sydd bellach yn cadw at yr hen ffydd.

Am ychydig, fe feddyliai rhai y byddai esgyniad Jeremy Corbyn, dyn nad yw’n bleidiol i gyfalafiaeth na neo-ryddfrydiaeth, i arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn agor llygedyn o obaith yno. Ond, fel y gwyddom, ar ôl oes o’i wrthwynebu, fe ddewisodd ymgyrchu o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac fe fu’n gymharol dawedog am newid hinsawdd. Pan ymhelaethodd am y pwnc yn ei araith ddiweddar i Gynhadledd Plaid Lafur Cymru, yr un polisi o “dwf gwyrdd” oedd ganddo ef ag sydd gan y Blaid Werdd.

Mae’r gwagle meddyliol hwn yn creu cryn anhawster i ymgyrchwyr yn erbyn newid hinsawdd. Nid oes model amgen ganddynt i’w gynnig, ac mae hyn yn eu hagor i feirniadaeth a gwawd. Mae Extinction Rebellion yn ceisio pontio’r bwlch drwy alw am ‘Gynulliad y Dinasyddion’ i drafod beth i’w wneud. Efallai fod gwerth i’r syniad, ond byddai angen arweiniad ar gynulliad o’r fath i allu dod i gasgliadau rhesymol.

A dyna ferch 16 oed o Sweden yn camu i’r adwy. Nid theori economaidd y mae Greta Thunberg yn ei defnyddio i annog newid ond profiad tröedigaeth, wedi’i gyflyru gan ei chyflwr Asperger. Er gwaethaf dyfal chwilio ar y we, nid wyf wedi llwyddo i ddod o hyd i unrhyw dystiolaeth fod i Greta gred grefyddol bersonol na chefndir Cristnogol. Ond mae ei disgrifiad o ddarganfod y gwir am newid hinsawdd yn ferch fach, mynd i ddwy flynedd o iselder, ac wedyn darganfod ystyr newydd i fywyd mewn ymgyrchu, yn ddisgrifiad o dröedigaeth, os darllenais un erioed.

Ac, ys dywedodd Iesu, o enau plant bychain y clywn y gwirionedd yn aml iawn (nid bod Greta mor fach â hynny erbyn hyn). Yn y byd Cristnogol rhyddfrydol fe aethom i amau gwerth tröedigaeth. Rydym wedi cyfarfod â gormod o bobl sydd efallai’n camddefnyddio eu tröedigaeth hwy i fychanu profiad llai cyffrous pobl eraill. Rydym ni, ryddfrydwyr, hefyd yn amau profiad sydd heb resymeg y tu cefn iddo a chynllun yn ei ddilyn. Mae rhyddfrydwyr pwyllog, gofalus, deallusol yn ofni grym emosiwn tröedigaeth grefyddol neu seciwlar, yn credu mai drwy berswâd rhesymegol yn unig y daw newid o werth. Y drafferth yw i’r dacteg honno fethu’n llwyr dros y genhedlaeth ddiwethaf. Methodd fy nghenhedlaeth anchwyldroadol i’n llwyr â newid dim er gwell. Ond fe lwyddom i eistedd ’nôl yn dawel wrth i faint y carbon yn yr hinsawdd gynyddu ymhell dros draean mewn cwta 30 mlynedd. Fe droes problem fyd-eang adeg Cynhadledd Rio 1992 yn argyfwng byd-eang heddiw, a’n pwyll rhyddfrydol ni sy’n gyfrifol am hynny.

Mae David Wallace-Wells, felly, yn mentro ystyried posibiliadau yr unig fodel economaidd gweithredol arall yn y byd heddiw, sef model cyfalafol unbenaethol Tsieina. Nid yw record y model hwnnw ar newid hinsawdd fawr gwell na’n model ni, ond yn y blynyddoedd diwethaf mae’r wlad – yn bennaf oherwydd argyfwng ansawdd aer ei dinasoedd – wedi dechrau newid. Oherwydd y llywodraeth unbenaethol gwbl annemocrataidd sydd ganddi, fe all gael ‘tröedigaeth’ fel hyn a gweithredu arni fwy neu lai yn ddirwystr o ran ei phoblogaeth. Ar yr un pryd, mae’n dod yn rym byd-eang go iawn, yn enwedig drwy ei rhaglen Parth a Ffordd (Belt and Road), sy’n gyfuniad unigryw o gymorth tramor a chynnydd economaidd.

Mae yna lawer i’w ofni am dwf Tsieina, o ran rhyddid gwleidyddol ac o ran ei effaith ar yr hinsawdd. Ond o leiaf mae Tsieina yn gallu newid pethau, lle rydym ni’n methu. Fe allai wneud pethau’n llawer iawn gwaeth a’n gyrru oll i ddifodiant. Neu fe allai gynnig ateb, dim ond i ni blygu i’w hawdurdod. Mae’n anodd iawn gweld hynny’n digwydd ar hyn o bryd ond, o’r ddwy ffordd arall a gynigir, ansicr iawn yw’r broses ‘Cynulliad y Bobl’ ar y naill law, ac andwyol fyddai parhau fel ag yr ydym, ar y llall.

Yng ngwledydd Prydain, mae canlyniad refferendwm 2016 wedi peri i lawer amau gwerth democratiaeth. Mae arolwg blynyddol Cymdeithas Hansard ar gyfer 2019 yn awgrymu y byddai cymaint â hanner poblogaeth gwledydd Prydain yn croesawu rhyw fath o unben i ddod â’r busnes Prymadael i fwcwl. Mae llwyddiannau Donald Trump a Jair Bolsonaro hefyd wedi codi cwestiynau am grebwyll etholwyr. Beth bynnag eich barn am hynny, mae methiant unrhyw blaid wleidyddol ddemocrataidd yn y Gorllewin i fynd i’r afael â newid hinsawdd yn codi cwestiynau dwys am systemau democrataidd. Yn wyneb y posibilrwydd o ddifodiant bywyd ar y ddaear, a fyddai cael gwared ar ddemocratiaeth yn dröedigaeth werth chweil? Dim ond gofyn!

Mae Gethin Rhys yn gweithio fel Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 28 Ebrill 2019.

Llyfrau i herio a chynnal

LLYFRAU I HERIO A CHYNNAL – Gwahoddiad i gyfrannu

Dyma gyfres o lyfrau sydd wedi bod yn gymorth a sialens i rai o bobl Cristnogaeth 21. Maen nhw’n cynrychioli rhychwant eang o safbwyntiau. Ond os ydych am estyn eich adenydd ysbrydol a deallusol, porwch yn y rhestrau isod.

Os carech chi ychwanegu teitlau, gyrrwch air at y golygydd: enid.morgan (at) gmail.com

Duw yn Broblem

Armstrong, Karen               A Short History of Myth (Canongate, 2005)

Soelle, Dorothy                   Theology for Sceptics (Mowbray, 1993)

Spong, John Shelby            Eternal Life: A New Vision (Harper, 2009)

Tomlinson, Dave                 Re-enchanting Christianity (Canterbury Press, 2008)

Ward, Keith                          God – A Guide for the Perplexed (One World, Oxford, 2002)

Webb, Val                             In Defence of Doubt (Morning Starm, Australia, 2012)

Ymysgwyd o Gadwyni Llythrenoldeb

Brueggemann, Walter        The Bible Makes Sense (John Knox Press, 2001)

Dale, Alan T.                         Winding Quest: Heart of the Old Testament in Plain English (Oxford University Press, 1972)

Dale, Alan T.                         New World: The Heart of the New Testament in Plain English (Oxford University Press, 1974)

(Mae’r testun Beiblaidd yn y ddwy gyfrol wedi’i gyhoeddi mewn cyfrol clawr papur o’r enw The Alan Dale Bible. Ond mae peth o werth y gwreiddiol wedi’i golli trwy hepgor y lluniau a pheth o’r esboniad, felly byddwn yn argymell chwilio ar-lein neu mewn siopau llyfrau ail law am y ddwy gyfrol wreiddiol.)

Mclaren, Brian                     We Make the Road by Walking (Hodder & Stoughton, 2014)

Mclaren, Brian                     The Great Spiritual Migration (Hodder & Stoughton, 2016)

‘Bu’r Iesu Farw Trosom’ (Yr Iawn)

Borg, Marcus & John Dominic Crossan     The Last Week (SPCK, 2008)

Girard, Rene                         The Scapegoat (John Hopkins University Press, 1986)

 Anthropolegol

Antonello, Pierpaolo & Gifford, Paul (gol.) (Rhagair: Rowan Williams) Can We Survive Our Origins – Readings in Rene Girard’s Theory of Violence and the Sacred (Michigan State University Press, 2015)

Harari, Yuval Noah                       Sapiens: a brief history of humankind (Random House, 2015) 

Warren, James (Rhagair: Brian McLaren) Compassion or Apocalypse? A Comprehensible Guide to the Thought of Rene Girard (Christian Alternative Press 2013)

 Ffeminyddol

Fiorenza, Elizabeth Schussler       In Memory of Her (SCM Press 1983/1994)

Grey, Mary                             Introducing Feminist Images of God (Sheffield University Press, 2001)

Monda, Barbara J.                Rejoice, Beloved Woman! The Psalms Revisioned (Sorin Books, Notre Dame, Indiana, 2004)

Walton, Heather & Susan Durber (gol.) Silence in Heaven: a Book of Women’s Preaching (SCM, 1994)

Ward, Hannah, Jennifer Wild & Janet Morley (gol.)      Celebrating Women (SPCK, 1995)

Wootton, Janet H.                 Introducing a Practical Feminist Theology of Worship (Sheffield Academic Press, 2000)

Zimmer, Mary                        Sister Images (Abingdon Press, 1993)

Dehongli’r Beibl

 Alison, James                        The Joy of being Wrong: Original Sin through Easter Eyes (Crossroad Herder, NY, 1998)

Alison, James                         Living in the End Times: the Last Things Re-imagined (SPCK, 1997)

Brueggemann, Walter         The Bible Makes Sense (Westminster, John Knox Press, 2001)

Swartley, Willard M.            Slavery, Sabbath, War and Women: Case Studies in Biblical Interpretation (Herald Press, Pennsylvania & Ontario, 1983)

Wink, Walter                         Naming the Powers, Unmasking the Powers, Engaging the Powers (3 cyfrol; Fortress Press, 1984–6)

Defosiwn a Myfyrdod

Brueggemann, Walter          Prayers for a Privileged People (Abingdon, Nashville, 2008)

Brueggemann, Walter          Awed to Heaven, Rooted in Earth (Augsburg Fortress Press, 2003)

 Pynciau LGBT

Alison, James                         Faith beyond Resentment: Fragments Catholic and Gay (Darton, Longman & Todd, 2001)

Iesu

Alison, James                         Knowing Jesus (SPCK, 1993)