Yr Ysbryd Glân

Yr Ysbryd Glân
gan John Gwilym Jones

Ni chofiaf imi erioed wneud yr Ysbryd Glân na’r Drindod yn destun pregeth. Roeddwn wedi llunio darnau byrion ar ddatblygiad athrawiaeth y Drindod ar gyfer darlithoedd, a hynny’n cynnwys syniadau’r diwinyddion a’r athronwyr am yr Ysbryd Glân, eithr mwy anodd o lawer fyddai ceisio cyflwyno syniadau am y Drindod a’r Ysbryd dwyfol i gynulleidfa o’m cyd-aelodau ar y Sul. Ond dyma ni nawr yn sŵn y Pentecost, felly efallai y dylem roi cynnig eto ar ddeall lle’r Ysbryd Glân ym mywyd ein heglwysi.

I mi, rhaid dechrau gydag Iesu, gan mai hwnnw yw’r person canolog ym mhob ystyr. Ond pa Iesu? Yn y Testament Newydd fe roddir iddo amrywiaeth helaeth o deitlau: Iesu, Iesu o Nasareth, ac i’r rhai agosaf ato, yr Athro, neu yr Arglwydd. Yna gan awduron yr Efengylau, genhedlaeth yn ddiweddarach, Mab Duw, Meseia, Bara’r Bywyd, Oen Duw … mae’r rhestr yn faith. Yr hyn fu’n anffodus i ddatblygiad Cristnogaeth gynnar oedd mai’r diwinyddion dylanwadol oedd yr athronwyr, wedi eu trwytho yn athroniaeth Groeg a Rhufain. Felly, pan gafodd y rhain afael yn y traddodiadau Cristnogol, roedden nhw am roi trefn fetaffisegol ac athronyddol ar y syniadau am Dduw ac Iesu. Wedyn, yng Nghredo Nicaea, er mwyn cadarnhau’r syniad am Iesu yn Fab Duw, mae Iesu yn cael ei ddiffinio fel Duw o wir Dduw ac o’r un sylwedd â Duw. I ddiwinyddion y 4edd a’r 5ed ganrif daeth yn ail berson y Drindod ac yn un â Duw. A daeth Cristnogion yn gyffredinol felly i ystyried fod Iesu yn ymgorffori’r hyn y gellir ei wybod am Dduw gan y meddwl dynol.

Ond mae yna agweddau ar Dduw na all unrhyw fod dynol eu mynegi na’u harddangos, megis y Duw hollalluog neu’r Duw hollwybodol. Bydd rhai Cristnogion yn honni fod Iesu yn ystod ei fywyd ar y ddaear yn hollwybodol ac yn hollalluog. Eto, y gwir amdani yw fod y fath syniad wedyn yn gwadu dyndod Iesu. Felly, fe ddatblygodd cytundeb barn a dderbyniai mai’r hyn a wnâi Iesu yn ei ddyndod oedd datguddio hanfodion cymeriad Duw.

Felly, beth am yr Ysbryd Glân? Yn y Testament Newydd ceir cyfeiriadau amwys at Ysbryd Duw ac Ysbryd Crist, gan awgrymu’r syniad fod Duw ac Iesu yn parhau eu gwaith drwy ddylanwadau ysbrydol. Ond ni fodlonai’r eglwysi cynnar ar arddel y syniadau hynny. Ceir llu o gyfeiriadau at yr Ysbryd Glân fel nerth mewnol a anfonir gan Dduw ac a all drigo ynom. Gwelai’r meddylwyr athronyddol fod yna gyfeiriadau yn y Testament Newydd at Ysbryd fel rhyw endid ar wahân i Dduw ac ar wahân i Iesu, er enghraifft y cyfeiriad yng ngenau Iesu am “y Diddanydd Arall” (Ioan 14:16), a hwnnw’n cael ei anfon gan y Tad wedi ymadawiad Iesu. Cam bach iawn wedyn oedd diffinio’r Ysbryd Glân fel person dwyfol, yn un o dri yn y Duwdod, ac o’r un sylwedd â Duw’r Tad a Duw’r Mab. Yn fuan iawn lluniwyd credoau yn cynnwys y syniadau hyn fel fformwlâu sylfaenol, a’r credoau yn wirioneddau y disgwylid i bob Cristion eu hategu. Wedyn, os caed unrhyw greadur druan a ddywedai na allai gredu hyn, yna ni ellid ei ystyried yn Gristion cyflawn ac uniongred.

Y mae’r pwyslais mawr ar lynu at gredo ac athrawiaeth yn tarddu o gamddehongli’r gair “credu”. O’r blynyddoedd cynnar aeth Cristnogion i feddwl mai ystyr y gair “credu” yw ystyried fod rhyw ffeithiau yn wir. Credu FOD Iesu yn Fab Duw; credu FOD yr Ysbryd Glân yn un o’r Drindod; credu AM Iesu, ei fod wedi marw dros ein pechodau. Ond gwir ystyr “credu” yw credu YN Iesu; mentro ein bywyd ar Iesu, ymddiried yn llwyr ynddo; credu YNDDO, nid credu amdano. Mewn geiriau eraill, nid proses yn y meddwl yw credu, ond gweithredu mewn ymddiriedaeth mewn person. A phan ddown i fentro ein bywyd ar Iesu, yna gwelwn ddechrau gweithredu gwaith ei Deyrnas.

Ond roedd y syniad am yr Ysbryd fel un o dri pherson y Drindod dragwyddol wedi cydio, ac fe aethom ati i olrhain gweithgarwch yr Ysbryd drwy bob man a thrwy bob oes, yn arbennig mewn cyfeiriadau Beiblaidd. Cawsom hi’n hawdd uniaethu’r syniad am Ysbryd Glân â’r “ysbryd” a oedd yn ysbrydoli’r hen broffwydi, neu “ysbryd Duw” yn Genesis, lle dywedir fod “y ddaear yn afluniaidd a gwag, ac yr oedd tywyllwch ar wyneb y dyfnder, ac ‘ysbryd Duw’ yn ymsymud ar wyneb y dyfroedd”. Gellid dweud wedyn fod yr Ysbryd Glân, yn y creu, fel anadl Duw yn anadlu bywyd i mewn i greadigaeth oedd yn afluniaidd a gwag, rhoi cusan bywyd i’r greadigaeth. Yn yr un modd gellid meddwl am yr Ysbryd yn anadlu bywyd i mewn i berson yr oedd ei fywyd yn afluniaidd a gwag, neu gwmni neu gynulleidfa oedd yn afluniaidd a gwag, ond wedi ymweliad yr Ysbryd yn rymus a llawn.

Y gair a ddefnyddir mewn Hebraeg am “anadl Duw” yw “ruach Elohim”. Enghraifft arall yn yr Hen Destament lle defnyddir ffurf sy’n perthyn i’r un enw, “ruach”, ond ar ffurf berf, yw’r hanes am Dduw yn galw’r genedl allan o’r Aifft. Yn Deuteronomiwm 31 defnyddir delwedd gofiadwy iawn am Dduw fel eryr yn chwalu ei nyth er mwyn gorfodi’r cywion i hedfan ac i fentro ar fywyd tu hwnt i’r nyth. Ond dywedir wedyn fod yr eryr yn dal i “hofran” uwchben i warchod fföedigaeth ei phlant. Yr oedd Ysbryd Duw felly nid yn unig wedi bod yn hofran uwch y dyfroedd yn y creu ond yn hofran dros daith y genedl i ryddid, gan ofalu hefyd dros y genedl yn ei gwaredigaeth o gaethiwed. Duw drwy’r Ysbryd Glân yn creu ac yn achub. Ac fe allaf ddychmygu pregethwyr heddiw yn defnyddio delwedd chwalu’r nyth fel yr Ysbryd Glân yn ysbrydoli diwygwyr yr oesau ar wahanol adegau i symbylu cywion rhyw hen gredoau i adael cysur cyfarwydd nyth eu hen gred ac i fentro ar weledigaeth newydd. Fel Martin Luther yn chwalu nyth Pabyddion Erfurt a pheri iddynt fentro ar awel rydd Protestaniaeth.

Yr oedd i’r gair “ruach” mewn Hebraeg amrywiaeth o ystyron, weithiau’n dyner fel ochenaid, weithiau megis gwynt nerthol. Mewn mannau yn yr Hen Destament sonnir am Ysbryd Duw yn rhwygo’n nerthol drwy’r cread, fel yn 1 Brenhinoedd 19, neu yn Eseia 40:7 yn chwythu dros laswellt nes ei fod yn crino. Ond mae’r darn yn 1 Brenhinoedd yn arwyddocaol iawn, lle gwrandawai Elias am neges Duw: “A dyma’r Arglwydd yn dod heibio.” Bu gwynt cryf nerthol, yn rhwygo mynyddoedd a dryllio creigiau, o flaen yr Arglwydd; ond nid oedd yr Arglwydd yn y gwynt. Ar ôl y gwynt bu daeargryn; ond nid oedd yr Arglwydd yn y ddaeargryn. Ar ôl y ddaeargryn bu tân; ond nid oedd yr Arglwydd yn y tân. Ar ôl y tân, distawrwydd llethol. Pan glywodd Elias hwnnw, lapiodd ei wyneb yn ei fantell a mynd i sefyll yng ngenau’r ogof. A daeth llais yn gofyn iddo, “Beth a wnei di yma, Elias?” “Distawrwydd llethol” yw’r ymadrodd sy’n cyfateb i “lef ddistaw fain” yr ymadrodd llythrennol yn Hebraeg. A chyda llaw, fel gydag ambell ymadrodd arall yn y BCN, y mae’r awydd i ddehongli wrth gyfieithu wedi peri colli grym ambell ddelwedd. I mi, y mae yna bwynt arwyddocaol i’r ymadrodd “llef ddistaw fain”. Oherwydd cwestiwn Duw wedyn i Eleias, ar ôl iddo glywed y llef ddistaw fain, oedd “beth wyt ti’n ei WNEUD, Elias?”. Nid beth wyt ti’n ei feddwl, nid beth wyt ti’n ei gredu. Ac wedi iddo glywed Duw yn y llef ddistaw fain y dangoswyd i Elias i ble y dylai fynd, a beth ddylai ei wneud.

Fe glywodd Cymru wynt nerthol yn rhwygo ddechrau’r ganrif ddiwethaf yn y Diwygiad, ond y cwestiwn yw a oedd Duw wedi arwain Cymru wedyn at ei gwaith yng ngwasanaeth y Deyrnas. Yr ateb yw naddo. Fe aeth Cymru yn hytrach i ladd mewn dau ryfel byd. Ar hyd hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif cilio wnaeth tystiolaeth yr eglwys. Bu’n rhaid aros tan ganol y ganrif cyn i Gymru ddangos ei bod yn gwrando ar lef ddistaw fain y trueiniaid a dagrau distaw y dioddefwyr mewn llawer gwlad. Dyna pryd y gwelwyd twf Cymorth Cristnogol ac Oxfam a mudiad Achub y Plant, a thwf ymwybyddiaeth aelodau am anghenion dybryd gwledydd y byd.

Ond yn ôl eto at hanes yr Ysbryd Glân yn y Beibl. Un nodwedd amlwg yn yr adroddiadau am ymweliadau’r Ysbryd Glân yw grym y pregethu a’r effeithau torfol ar bobol. Ar ddydd y Pentecost dyma ddywedir yn Llyfr yr Actau: “bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air, ac ychwanegwyd atynt y diwrnod hwnnw tua thair mil o bersonau.” Hyd yn oed yn ein cyfnod ni, pan sonnir am ymweliadau’r Ysbryd mewn cyfarfodydd megis yr eglwysi Pentecostaidd, yr un nodweddion a welir, sef grym y teimladau a niferoedd y rhai sy’n cael eu hargyhoeddi. A’r hyn sy’n eironig yw fod yr elfennau hynny mor wahanol i’r hyn a welwn yn hanes Iesu yn yr Efengylau. Yr oedd yn gas gan Iesu dyrfa: “Pan welodd Iesu y tyrfaoedd aeth i fyny’r mynydd …” Pan welodd dyrfa yn dod at lan y môr, meddai Iesu wrth ei ddisgyblion, “Chwiliwch am gwch,” er mwyn ffoi. Hyd yn oed yn hanes porthi’r pum mil, roedd wedi ceisio eu hanfon i ffwrdd i ddechrau. Deuddeg oedd nifer delfrydol cynulleidfa i Iesu. Ac ambell waith dim ond tri: Pedr ac Iago ac Ioan. Dyna paham y mae pregethu am ddigwyddiadau’r Pentecost ac achub y tyrfaoedd mor chwithig ac anodd i bawb sydd am gymryd Iesu’r Efengylau o ddifri.  

Peth arall sydd o ddiddordeb arbennig i Gymro Cymraeg yw’r enw “Ysbryd Glân”. Ni wn i am unrhyw iaith arall sydd wedi mabwysiadu’r fath enw am y Lladin “Spiritus Sanctus”. Yr enghraifft gynharaf y gwn i amdani yn Gymraeg yw’r linell yng ngwaith Meilyr Brydydd tua diwedd y 12fed ganrif. Yn y drydedd ganrif ar ddeg mae Bleddyn Fardd yn defnyddio’r un ymadrodd, yn dangos fod y term wedi cydio. Ac oherwydd bod Salesbury, mae’n siŵr, yn gyfarwydd â chlywed a darllen yr ymadrodd “Ysbryd Glân”, dyna’r ffurf a ddefnyddiwyd ganddo yn ei gyfieithiadau. Yr ymadrodd cyfatebol mewn Groeg yw πνεύματος ἁγίου, a gair yn cyfateb i “santaidd” a sanctus ac ἁγίου, yn hytrach na gair yn cyfateb i “glân” yw’r ansoddair drwy hen “wledydd cred”. Gyda llaw, efallai mai o dan ddylanwad yr ymadrodd yna y mabwysiadwyd yr ymadrodd “glân briodas” am “holy wedlock”.

Mae’n bosib fod y ffurf “Ysbryd Glân” wedi ei gynnig ei hun mewn gwrthgyferbyniad â’r ymadrodd “ysbryd aflan” sy’n digwydd yn aml yn yr Efengylau. Byddent yn credu fod ysbryd aflan yn medru meddiannu person. A’r hyn y medrai Iesu ei wneud oedd gyrru’r ysbryd aflan allan ohono, er mwyn i’r Ysbryd Glân ei feddiannu. Byddai Cristnogion Cymru felly yn medru sôn am lendid yr Ysbryd mewn gwrthgyferbyniad â llygredigaeth ac aflendid llawer o agweddau ar fywyd y byd, gan gyfeirio at lendid bywyd a dysgeidiaeth Iesu mewn gwrthgyferbyniad ag elfennau o fewn ein bywydau ninnau.

Byddai Cristnogion hefyd yn cael eu hysbrydoli gan rai o’r delweddau eraill am yr Ysbryd Glân yn y Beibl: cysur y diddanydd, bywyd yr anadl, tynerwch a heddwch y golomen, a hyd yn oed buredigaeth y tafodau tân. Yr Ysbryd fel tân yn difa. Mae yna stori am hen ddirwestwr o weinidog, pan welodd un o dafarnau Aberystwyth ar dân, meddai, “Cer ymlaen, nefol dân, cymer yma feddiant glân”. Ond beth petai wedi clywed am y tafodau tân yn Notre-Dame yn llosgi’r adeilad, a’r galar am y trysorau a oedd wedi eu difa. Mae’n siŵr i rai ohonoch gofio am eiriau Iesu yn Efengyl Ioan wrth y wraig o Samaria: “Y mae amser yn dod pan na fyddwch yn addoli’r Tad nac ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem … y mae amser yn dod, yn wir y mae yma eisoes, pan fydd y gwir addolwyr yn addoli’r Tad mewn ysbryd a gwirionedd, oherwydd rhai felly y mae’r Tad yn eu ceisio i fod yn addolwyr iddo. Ysbryd yw Duw, a rhaid i’w addolwyr ef addoli mewn ysbryd a gwirionedd.”

Roedd yn arswyd i Iddewon glywed Iesu yn dibrisio’r deml, fel y byddai’n arswyd i Gristion yn Ffrainc glywed rhywun yn honni mai colled i gelfyddyd a hanes yn unig oedd llosgi rhan o’r Eglwys Gadeiriol ym Mharis, ac nid colled i addolwyr. Byddai bod heb hyd yn oed adfeilion teml yn fendith fawr i Jerwsalem a’r Dwyrain Canol, oherwydd mae’r adfeilion a’u hanes yn fwy o rwystr nag o gymorth ers canrifoedd i dangnefedd a chymod.

Un cyfeiriad arall cysylltiedig â’r Ysbryd Glân y bydd rhai Cristnogion yn mynd iddo yw’r “llefaru â thafodau”. Fel y gwyddoch, mae yna wrtheb fawr yn y syniad, sy’n cyfleu dau beth cwbl wahanol. Ar un ochr, fel yn Llyfr yr Actau, ceir yr Ysbryd yn ysbrydoli’r apostolion i lefaru nes bod pawb o bob iaith yn deall y neges. Ond yn y cyfeiriadau eraill y sonnir amdanynt yn digwydd yn yr eglwysi cynnar, roedd y lleferydd yn annealladwy i weddill y gynulleidfa. Mae’r math yma o ddigwyddiad i’w gael mewn crefyddau eraill, ac yn y rheini hefyd dywedir mai siarad â Duw yn unig y mae’r addolwr.

Ond wrth gyflwyno pregeth am ddigwyddiad Sul y Pentecost, mae’n siŵr mai’r syniad cyntaf fyddai’n thema dderbyniol i rai fel ni: sef fod yr Ysbryd yn ein hysbrydoli i lefaru, nid yn ôl iaith hen athrawiaethau, nid yn iaith Iddewiaeth, nid yn iaith ein gwahanol enwadau, na hyd yn oed iaith y Gristnogaeth ormesol sy’n hawlio mai hi yw’r unig grefydd ddilys, ond yn iaith Iesu ei hun fel y’i clywir yn yr Efengylau, iaith y byddai pawb yn ei deall: Câr dy gymydog fel ti dy hun. Cerwch eich gelynion, gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt. Dyna iaith fyd-eang, ac iaith Pentecost yr Ysbryd Glân yn y dyfodol.