MOESOLDEB 21?
Ers i mi ddod i gysylltiad â Cristnogaeth 21 rwy wedi bod yn fwyfwy ymwybodol o’r awydd i gydaddoli gyda’r rhai sy’n chwilio am ffordd newydd i fynegi ein ffydd yn yr 21ain ganrif. Rwy’n meddwl fod mwyafrif helaeth y rhai sy’n ymwneud â Cristnogaeth 21 hefyd yn credu fod addoliad yn hanfodol i’w bywydau. Rydym yn chwilio am ddulliau i fynegi ein ffydd sy’n ddealladwy a pherthnasol. Dylai cydaddoli gael rhan sylfaenol yn y gwaith, ond teimlaf fod addoli wedi mynd yn fwy ymylol i weithgaredd Cristnogaeth 21.
Sylfaen hanfodol addoliad yw’r gred ym mhresenoldeb yr anfeidrol a’r tragwyddol sydd tu hwnt i ni; y gallu sy’n sail ein bodolaeth sy’n dymuno cael cysylltiad â ni a’n cymell i barchu Ei chreadigaeth a charu ein chwiorydd a’n brodyr, y ddynoliaeth. Dyma’r gallu yr ydym wedi arfer ei alw yn ‘Dduw’. Ar yr un pryd mae Cristnogaeth 21 wedi bod (mewn enw) yn agored i rai o gredoau eraill a’r rhai sy’n amau bodolaeth “Duw”, ond hefyd i’r rhai sy ddim yn credu mewn unrhyw fath o “Dduw”.
Yr anhawster sy’n codi wedyn yw sut gallem ni hyd yn oed drafod addoliad mewn ‘cymuned‘ ar wefan os yw’n cynnwys rhai sydd ddim yn dymuno ceisio cynnal perthynas â “Duw” o gwbl . Rwy’n teimlo fod rhywbeth mawr ar goll o’n trafodaethau a’n perthynas â’n gilydd.
Rwy’n fodlon iawn, wrth gwrs, i groesawu’r rhai nad ydynt yn credu mewn “Duw” i ymuno mewn trafodaeth, ond yn anesmwyth os yw cyfeiriad Cristnogaeth 21 yn cael ei lywio ganddynt. Buaswn yn fodlon, wrth gwrs, iddynt fod yn rhan (sylwebyddion?) o addoliad, ond ni ddylem deimlo fod rhaid osgoi cyfeirio ein haddoliad tuag at “Duw.” Mater gwahanol yw os ydynt yn dewis peidio bod yn rhan o addoli Cristnogaeth 21.
Mae nifer o fewn C21 yn trafod ‘arbrofi’ mewn addoliad. Mae’n faes eang a ddylai fod yn rhan hanfodol o’n trafodaethau. Buasai’n gysur ac yn gynhaliaeth i’r rhai ohonom sy’n teimlo fod addoliad yn y Gymraeg yn dilyn hen batrymau marwaidd sydd bellach yn ddiflas a dibwrpas. Fe fyddai hynny yn ein cryfhau ni i wynebu’r her o gyflwyno’r ffydd Gristnogol o’r newydd i wlad a byd sydd yn gweld crefydd fel rhywbeth diflas ar y gorau, a rhywbeth sy’n creu gwahaniaethau ac anghydfod.
Efallai fy mod yn anghywir. Efallai nid yw’r mwyafrif ohonom yn credu mewn “Duw”. Efallai y dylem ni hepgor unrhyw ymgais i addoli? Ond wedyn beth yw diben cyfeirio at ein gilydd fel ‘Cristnogaeth 21’, enw sy’n cyfeirio at ffydd mewn “Duw”? Os dilynwn y llwybr hwn oni ddylem newid yr enw i rywbeth arall? Moesoldeb 21 efallai?