Archif Tag: gwleidyddiaeth

Johnson, Lloyd George a Downing Street, 1922–2022

Johnson, Lloyd George a Downing Street, 1922–2022

Roeddwn yn sgwrsio â Nhad (fu’n was sifil am flynyddoedd) am helyntion diweddar Downing Street, ac yn tybied pa fath o barti gaiff Boris Johnson pan ddaw’r diwedd ar ei yrfa yno. Wrth drafod, fe sylweddolom mai eleni yw canmlwyddiant diwedd cyfnod yr unig Gymro i fod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, sef Lloyd George. Ac fe ddechreuodd wawrio arnom hefyd fod mwy na chyd-ddigwyddiad dyddiadau yma.

Wrth gwrs, ar yr olwg gyntaf mae’r ddau Brif Weinidog hyn yn hollol wahanol. Y naill yn Gymro Cymraeg Anghydffurfiol wedi’i fagu mewn bwthyn a’i addysgu mewn ysgol bentref; a’r llall yn Sais o uchel radd wedi ei addysgu yn Eton a Rhydychen. Y naill yn Rhyddfrydwr a’r llall yn Geidwadwr. Ond edrychwch yn agosach ac mae’r rhestr o bethau tebyg yn sylweddol.

  • Bu’r ddau yn ceisio ehangu grym 10 Stryd Downing yn nhrefn lywodraethol gwledydd Prydain. O leiaf yng nghyfnod Dominic Cummings, gwelwyd canoli grym yn y swyddfa honno ar draul adrannau’r llywodraeth. Ganrif yn ôl, Lloyd George oedd un o’r cyntaf i fynnu cael ei gynghorwyr ei hun yn annibynnol ar y gwasanaeth sifil a’i blaid wleidyddol – a bu raid adeiladu swyddfeydd dros dro a lysenwyd yn ‘Garden Suburb’ yng ngardd rhif 10 (yr ardd y gwyddom gymaint erbyn hyn am ei photensial i gynnal partïon).
  • Bu’r ddau yn awyddus i gyflogi yn eu swyddfa bobl yr oeddynt yn gallu ymddiried â nhw o’r tu allan i swigen draddodiadol Whitehall. Gyda Boris fe ddaeth Dominic Cummings ac eraill o ymgyrch Vote Leave; a Munira Mirza a bellach Guto Harri o’i ddyddiau yn Faer Llundain. Roedd Lloyd George yn awyddus i gyflogi Cymry y gallai ymddiried ynddynt (a sgwrsio yn Gymraeg â nhw), megis Sarah Jones a gadwai’r tŷ, Thomas Jones, dirprwy bennaeth y ‘Garden Suburb’, a David Davies, Llandinam.
  • Fe ddaeth y ddau i’r swydd ar draul undod eu pleidiau. Fe gofiwn i Boris Johnson ddod yn Brif Weinidog yn 2019 yn dilyn ymgyrch filain yn erbyn Theresa May, a welwyd yn Brif Weinidog aneffeithiol yn amgylchiadau Brexit, ac iddo wedyn ddiarddel sawl Aelod Seneddol blaenllaw o’r blaid am fethu â’i gefnogi ar faterion Ewropeaidd. Daeth Lloyd George i’r swydd yn 2016 yn dilyn ymgyrch filain yn erbyn Herbert Asquith, a welwyd yn Brif Weinidog aneffeithiol yn amgylchiadau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Rhannodd y Blaid Ryddfrydol yn ddwy o ganlyniad, gyda chefnogwyr Asquith yn eistedd ar feinciau’r Wrthblaid. Wedi etholiad 1918 roedd Lloyd George y Rhyddfrydwr yn Brif Weinidog ar lywodraeth fwyafrifol Geidwadol.
  • Bu’r ddau yn llawn addewidion a brofodd yn anodd i’w cyflawni. “Homes fit for heroes” oedd addewid Lloyd George yn etholiad cyffredinol 1918, ond fe fu’n anodd iawn trefnu adeiladu’r cartrefi yr oedd eu hangen ar y milwyr oedd yn dychwelyd adref o’r rhyfel. “Codi’r gwastad” yw addewid Boris Johnson, ond er gwaethaf y Papur Gwyn diweddar am y pwnc, mae’n ymddangos yn annhebyg y bydd lleihau’r bwlch rhwng ardaloedd cyfoethog ac ardaloedd tlawd gwledydd Prydain yn bosibl, yn sicr yn ei gyfnod ef yn y gwaith.
  • Enillodd y ddau fwyafrif anferth mewn Etholiad Cyffredinol ychydig cyn y Nadolig, ond wedyn llethwyd y ddau yn eu hymdrechion gan bandemig byd-eang. Yn fuan ar ôl ennill mwyafrif o 80 yn etholiad Rhagfyr 2019, fe ddaeth Covid ar warthaf Boris Johnson, wrth gwrs. Ac fe ddaeth yr Etholiad yn Rhagfyr 1918 a’i fwyafrif ysgubol o 333 i Lloyd George, ynghanol pandemig y “ffliw Sbaenaidd”. Fe gafodd y ddau Brif Weinidog eu taro â’r aflwydd, ond fe oroesodd y ddau – yn wahanol i ddegau o filoedd o’u cyd-drigolion. Bu farw 228,000 yng ngwledydd Prydain ym mhandemig 1918–19; bu farw 178,488 yn y Deyrnas Unedig o Covid rhwng 2019 ac Ionawr 2022, ac mae cannoedd o hyd yn marw bob wythnos, gan awgrymu y gall y cyfanswm yn y diwedd fod yn ddigon tebyg i eiddo’r ffliw Sbaenaidd (yn enwedig o gofio fod ffigurau 1918–19 yn cynnwys marwolaethau yn yr hyn sydd heddiw yn Weriniaeth Iwerddon, lle bu farw 6,228 o Covid hyd ddiwedd Ionawr 2022). Gellir priodoli methu cyrraedd uchelgais eu polisïau cymdeithasol yn rhannol o leiaf i effaith andwyol y ddau bandemig.
  • Fe wnaeth y ddau gamgymeriadau difrifol ynghylch Iwerddon. Mae’r lluniau ar furiau ardaloedd Unoliaethol Gogledd Iwerddon heddiw yn dangos y dirmyg llwyr sydd gan ymlynwyr y Deyrnas Unedig yno tuag at Mr Johnson am iddo fethu deall goblygiadau Protocol Gogledd Iwerddon yn y cytundeb ymadael â’r Undeb Ewropeaidd. Mae enw Lloyd George hyd heddiw yn faw yn ardaloedd Cenedlaetholgar Iwerddon oherwydd ei ddefnydd gwrth-gynhyrchiol o drais yn eu herbyn ganrif yn ôl. Wedi dweud hynny, fe lwyddodd Lloyd George i negodi Cytundeb ag Iwerddon a sefydlodd y Weriniaeth newydd a sefydlu Gogledd Iwerddon yn dalaith o fewn y Deyrnas Unedig. Er nad oedd rhannu Iwerddon fel hyn yn boblogaidd gan y naill garfan na’r llall ar y pryd, mae’r Weriniaeth a’r Dalaith fel ei gilydd yn cyfrif Lloyd George yn un o’u sylfaenwyr. Roedd y ffaith ei fod (oherwydd ei gefndir Cymreig) yn cydymdeimlo â’r cenedlaetholwyr, er ei fod hefyd yn unoliaethwr, yn gymorth iddo weld sut y gellid dod i ryw fath o gyfaddawd.
  • Bu gan y ddau fywyd personol digon cythryblus, ond fe gafodd y ddau hapusrwydd yn Rhif 10 ei hun – Boris Johnson gyda’i drydedd wraig, Carrie, a’u plant, a Lloyd George gyda’i ysgrifenyddes, Frances Stevenson, a ddaeth yn nes ymlaen yn ail wraig iddo wedi marwolaeth ei wraig gyntaf, Margaret. Roedd a wnelo’r trafferthion personol o leiaf rywfaint ag uchelgais personol yn y ddau achos – ysgrifennodd Lloyd George at ei wraig gyntaf (cyn iddo ei phriodi): “My supreme idea is to get on. I am prepared to thrust even love itself under the wheels of my Juggernaut if it obstructs the way.” Mae chwaer Boris Johnson wedi datgan mai ei uchelgais ef yn blentyn oedd bod yn “world king”.
  • Perthynas ddigon cymhleth fu gan y ddau â chrefydd hefyd. Adeiladodd Lloyd George ei yrfa gyfreithiol ac yna ei yrfa wleidyddol ar fod yn lladmerydd i Anghydffurfwyr Cymraeg – ennill iddynt yr hawl i gladdu mewn mynwentydd eglwysig, ac ymladd o blaid datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru (pasiwyd y Ddeddf ar drothwy’r rhyfel yn 1914 a daeth y datgysylltu yn ei gyfnod fel Prif Weinidog yn 1920). Mae ei gofiannau yn awgrymu iddo golli ei ffydd bersonol pan oedd yn ifanc, ond fe barhaodd i fynychu oedfaon (Eglwys y Bedyddwyr, Castle Street, yn Llundain pan oedd yn Brif Weinidog) ac fe sefydlodd Gymanfa Ganu’r Eisteddfod yn 1916 i godi calonnau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bedyddiwyd Boris Johnson gan yr Eglwys Gatholig, ond – fel y rhan fwyaf o ddisgyblion Eton – cafodd fedydd esgob gan Eglwys Loegr. Ond pan briododd â Carrie yn 2021 fe wnaeth hynny yn Eglwys Gadeiriol Gatholig Westminster, a oedd yn bosibl gan nad oedd yr Eglwys honno yn cydnabod ei ddwy briodas gyntaf.
  • Fe newidiodd y ddau eu barn am faterion mawr eu dydd o ddyddiau eu magwraeth i ddyddiau eu grym. Roedd Lloyd George wedi ei fagu yn nhraddodiad heddychol Anghydffurfiaeth Gymraeg, a roedd yn wrthwynebus iawn i Ryfel y Boeriaid. Ond pan ddaeth y Rhyfel Byd Cyntaf fe newidiodd ei farn a’i gefnogi – ac, yn ôl y sôn, bu’n ddylanwadol iawn yn cael eraill megis John Williams, Brynsiencyn, i newid eu barn hwythau a mynd ati i recriwtio. Fe ddechreuodd Boris Johnson ei addysg nid yn Eton ond yn yr Ysgol Ewropeaidd ym Mrwsel – gan mai ym Mrwsel y gweithiai ei dad – a chafodd ei fagu mewn teulu o anian Ewropeaidd. Does dim angen adrodd iddo newid ei farn, gan wawdio’r Undeb Ewropeaidd fel colofnydd yn y Daily Telegraph a’r Spectator, ac wedyn arwain ymgyrch Vote Leave (ar ôl tipyn o bendroni, gan gynnwys llunio dwy golofn, y naill yn dadlau o blaid yr Undeb Ewropeaidd a’r llall yn erbyn).
  • Cafwyd cyhuddiadau yn erbyn y ddau ynghylch sicrhau lleoedd yn Nhŷ’r Arglwyddi trwy roi arian i’w hymgyrchoedd neu eu pleidiau (nid oedd gan Lloyd George blaid yn yr ystyr arferol gan iddo chwalu ei blaid ei hun wrth ddod yn Brif Weinidog). Bu Lloyd George yn “gwerthu” seddi yn y Tŷ mewn modd lled agored, ac fe arweiniodd hyn yn 1925 at ddeddfwriaeth i geisio atal yr arfer. Ond cafwyd cyhuddiadau tebyg ers hynny, yng nghyfnod Tony Blair ac eto o dan Boris Johnson.

Fe ysgrifennodd Boris Johnson gofiant i Winston Churchill, ond mae ei edmygedd o’i ragflaenydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd wedi arwain at gryn dipyn o wawd. Nid wyf yn amau nad oes yna gymariaethau rhwng y ddau (wedi’r cyfan, does ond angen holi pobl Tonypandy i wybod fod Churchill yntau yn ddyn hynod ddadleuol). Ond, tybed, onid y gymhariaeth fwyaf addas yw honno â Phrif Weinidog y Rhyfel Byd Cyntaf? Ni wyddom ddiwedd hanes Boris Johnson eto. Os yw’n dilyn patrwm Lloyd George, yna mae gan y stori flynyddoedd i fynd – roedd yn Aelod Seneddol o hyd pan fu farw yn 1945, 23 blynedd wedi colli’r swydd uchaf yn y wlad. Tybed beth fydd hanes Boris?

Mae Gethin Rhys yn Swyddog Polisi i Cytûn (Eglwysi ynghyd yng Nghymru). Barn bersonol a fynegir yn yr ysgrif hon, a luniwyd ar 6 Chwefror 2022.

Adeiladu’n well – adferiad gwyrdd i Gymru

Ailadeiladu’n well: adferiad gwyrdd i Gymru

Daeth y byd oddi wrth Dduw – neu o rywle o leiaf – ac mae ein rhywogaeth ni wedi canfod y gallwn wneud fel y mynnwn ag o. Ond rydyn ni bellach yn cyfrif y gost. Rydyn ni wedi llygru’r awyr, wedi ysbeilio’r ddaear, a chreu anghyfartaledd dwys sy’n arwain at fudo mawr. Rydyn ni wedi gormesu rhywogaethau eraill a gwenwyno’r moroedd. Mae ein chwant a’n hawydd am ryddid dilyffethair wedi achosi difrod byd-eang.

Ond mae natur bellach yn talu ’nôl. Nid cosb yw Covid – mae’n ganlyniad ein teithio direol, ein triniaeth dreisgar o anifeiliaid gwyllt, ein bod mor farus, chwalfa amgylcheddol a’r pwyslais ar brynu pethau’n diddiwedd ac mewn ffordd anghynaliadwy. Mae’n alwad am edifeirwch. Nid rhyw ymddiheuriad hunanfodlon ydi edifeirwch. Mae edifarhau yn golygu ailfeddwl a gwneud pethau mewn ffordd wahanol, troi rownd. Os ydym yn parhau ar yr un trywydd, bydd ein plant yn syrthio dros y dibyn – mae hi mor syml ac mor eglur â hynny.

Nid rhyw diriogaeth y tu hwnt i’r byd hwn ydi teyrnas neu diriogaeth Duw. Byd arall o fewn y byd yma ydi o, posibilrwydd i’r presennol os ydyn ni’n troi’r lle ben i waered, ochr arall yr un geiniog.

Roedd y cyfnod clo yn ddiflas i rai ond daeth â buddion hefyd. Am unwaith roedd yr awyr uwchben dinasoedd llygredig yn las, ac yn dawel; doedd fawr o draffig. Tynnwyd ein sylw at bethau eraill. Clywodd pobl gân yr adar a sylwi ar agosatrwydd byd natur yn eu iard gefn. Canfu llawer nad oedd rhaid mynd i unman i ganfod pleser neu gyfoeth; daeth ystyr ‘mae teyrnas Dduw o’ch mewn’ yn eglur. Dyrchafwyd y rhai a alwyd yn ‘ddi-grefft’ i fod yn weithwyr ‘allweddol’, y lleiaf yn fwy na’r blaenaf (er nad yw eu cyflog, yn anffodus, yn adlewyrchu hynny).

Rydyn ni’n dychmygu byd gwahanol: mae mudiad Ailadeiladu’n Well  yn tyfu, ac mae’r mudiad adferiad gwyrdd yn rym hanfodol yng Nghymru.

Mae yma benderfyniad yng Nghymru ac mewn llefydd eraill i wneud pethau’n wahanol, i greu byd gwell, tecach, hapusach, mwy diogel, heddychlon a chynaliadwy.

Mae grŵp bychan o Grynwyr yng ngogledd Cymru wedi cyflwyno syniadau am ddyfodol gwyrddach a gwell i arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville-Roberts, ac ymgeisydd y Blaid dros Ddwyfor/Meirionydd i’r Senedd, Mabon ap Gwynfor. Mewn sawl maes mae troi rownd yn fater o frys.

  • Yn gyntaf amaeth: mae’r dull presennol o amaethu yn un o’r gweithgareddau mwyaf dinistriol ar y blaned, ac mae iddo ôl troed carbon mawr. Mae yna ddibyniaeth ar danwydd ffosil a chemegau, draenio a gwasgu’r tir, tyfu un cnwd o borfa gan leihau’r bioamrywiaeth a gwenwyno’r peillwyr â phlaladdwyr. Ar ben hyn, mae afonydd a nentydd yn cael eu llygru gan wastraff o gytiau anifeiliaid mawr. Mae’r pethau hyn i gyd yn gwthio bywyd gwyllt o gefn gwlad.
  • Mae’r gefnogaeth yn cynyddu i ‘ffermio adfywiol’  a thwristiaeth eco yng Nghymru, ochr yn ochr a chynhyrchu bwyd organig. Gallai’r ddau beth elwa o ddatblygu ffermydd cydweithredol yng Nghymru – yn gwerthu bwyd o safon ar-lein i farchnad arbenigol.
  • Yn ail, mae Cymru mewn perygl o ddatblygu’n faes chwarae milwrol. Mae pobl ifanc fregus mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu recriwtio i’r lluoedd arfog, a phlant hyd yn oed yn cael eu difyrru mewn digwyddiadau Diwrnod y Lluoedd Arfog gydag arfau lladd. Yn RAF Fali mae peilotiaid o Saudi Arabia sy’n peri’r fath ddioddefaint yn Yemen yn cael eu hyfforddi.
  • Yn drydydd, addysg. Dylai’r pwyslais mewn ysgolion fod ar Astudiaethau Heddwch a dulliau di-drais o ddatrys gwrthdaro, gan baratoi plant i fyw bywydau hapus a chyflawn. Dangosodd adroddiad diweddar gan Gymdeithas y Plant fod plant 15 oed y Deyrnas Gyfunol ymysg y tristaf a’r lleiaf bodlon eu byd yn Ewrop. Mae’r obsesiwn efo profion a thargedau, a’r pwyslais ar fuddion economaidd addysg sy’n eithrio popeth arall, bron, yn arwain at bryder yn ystod plentyndod, diffyg hunan-werth, ofn methiant ac yn atal creadigrwydd a dychymyg.

Rhaid i ni bellach ehangu’r drafodaeth gan fod llawer o bynciau eraill pwysig i’w hystyried: iechyd a lles, budd-daliadau ac incwm cenedlaethol, bod yn gynhwysol, hamdden a mynediad i gefn gwlad, ailgoedwigo, gwasanaethau ieuenctid a chyflogaeth, tai a thrafnidiaeth gynaliadwy. Yn ogystal â hynny, mae angen rhoi sylw i iaith a diwylliant, cysylltiadau rhyngwladol a bywyd cynaliadwy i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb newid hinsawdd, yr her fwyaf sy’n wynebu’r byd. Mae angen i fwy ohonom ymuno yn ymgyrch y Crynwyr. Mae trafodaethau’n parhau ond gallai sicrhau cynulliad ar gyfer pobl gogledd a gorllewin Cymru fod yn un nod tymor hir. Os hoffech ymuno, plis anfonwch ebost at Frances Voelcker: francesvoelcker@gmail.com.

Mae dilynwyr Iesu’n cael eu hannog i newid y cwestiwn ‘Pwy yw fy nghymydog?’ i fod yn un gwell – ‘I bwy fedra i fod yn gymydog?’ Does dim ffin. Un hil ydym, yr hil ddynol. Rydyn ni’n dysgu nad ni yw pinacl y creu ond ein bod yn ddibynnol arno. Rhaid troi’r pyramid ar ei ben, fel nad ydym yn tra-arglwyddiaethu ond yn gofalu am y blaned ac yn ei thrin fel petai’n ardd Duw. Er mwyn i hynny ddigwydd, rhaid i’n dychymyg gael ei chwyldroi, rhaid i’r mab afradlon ddod adref. Mae ffydd yn mynnu’r gobaith fod hyn yn bosibl.

Mae Adferiad Gwyrdd i Gymru yn un ffordd o ailadeiladu’n well. Nid yw dychwelyd i’r ‘normal’ yn ddengar nac yn bosibl. Nid yr argyfwng presennol fydd yr olaf gan fod gwyddonwyr eisoes yn rhybuddio bod eraill i ddod. Mae Covid wedi ysbrydoli mudiad byd-eang i weld y byd yn wahanol ac wedi rhoi cyfle i ni droi pethau rownd. Mae’n gwneud synnwyr economaidd, synnwyr moesol a synnwyr ysbrydol.

John P Butler

Grym a Gwleidyddiaeth

Grym a Gwleidyddiaeth: Duw ar y Ffin
Enid R Morgan

Maen nhw’n dweud nad oes unrhyw werth ‘hanesyddol’ yn y casgliad o straeon a elwir yn ‘Bucheddau’r Saint’. Dydyn nhw ddim o werth i neb, yn ddim ond propaganda eglwysig yn y frwydr o hawlio tir, awdurdod neu ddysgu gwersi moesol. Ond, am y tro, gadewch i ni’n syml fwynhau stori o’n gorffennol pell. Awn yn ôl i’r cyfnod cythryblus hwnnw a ddilynodd ymadawiad y Rhufeiniaid pan oedd trefn cyfraith wedi darfod a mân lwythi a gangiau treisgar yn ymladd ei gilydd fel gangiau rhyfel yn Afghanistan neu ddinasoedd Ewropeaidd.

Dywedir bod Gwynllyw Farfog yn ‘dywysog’. Yr oedd yn arweinydd gosgordd o wylliaid, yn archryfelwr, yn gadlywydd, yn derfysgwr ac yn sicr yn lleidr gwartheg. Rheolai’r ardal sydd heddiw’n cynnwys dwyrain Morgannwg a gorllewin Mynwy, ardal a gofid wrth ei enw: Gwynllwg. Dywedid amdano na pharchai nac arfer na deddf. Os oedd yn chwennych rhywbeth, fe’i cymerai. Fel arweinwyr tebyg o’i gwmpas, defnydddiai ei allu treisiol i ymladd ac i reoli ffiniau ei diriogaeth, a’i gyfrwystra i gael beth oedd y tu hwnt i’w dir ar dir rhywun arall.

Yr oedd arno eisiau gwraig, a gwyddai fod Gwladys, merch hynaf un o’i gymdogion mwyaf parchus, yn ferch arbennig o hardd. Aeth ati i ofyn i’w thad, Brychan Brycheiniog, am gael ei phriodi. Ond mae’n debygol nad oedd Brychan yn rhy hoff o’r syniad o gael mab yng nghyfraith oedd yn ffansïo’i dir yn ogystal â’i ferch. Ar ben hynny, dyn gwyllt a threisgar oedd Gwynllyw – pagan, anaddas i briodi â’i ferch, oedd fel ei thad yn Gristion. Felly, dyma Gwynllyw’n casglu ciwed o’i wŷr meirch ynghyd er mwyn ymosod ar Frycheiniog a dwyn Gwladys ymaith. Gwylltiodd Brychan gymaint nes arwain rhyfelgyrch i gael Gwladys yn ei hôl. Buasai’r cwbl wedi arwain at dywallt gwaed difrifol oni bai, yn ôl y stori, i’r Brenin Arthur ymyrryd a chymedroli. Does dim sôn bod neb wedi holi barn Gwladys ei hun. Ac mi briodwyd y ddau.

Efallai fod angen dweud gair am Brychan. Dywed y traddodiad mai Cristion o Iwerddon ydoedd yn wreiddiol a bu’n briod dair gwaith. Mae nifer ei blant yn amrywio o lawysgrif i lawysgrif, ond y rhif mwyaf cyson (sydd braidd yn rhy dwt i fod yn gywir) yw dau ddwsin o feibion a dau ddwsin o ferched, a phob un ohonyn nhw, meddir, wedi eu cydnabod yn ‘saint’. Am y tro, wnawn ni ddim poeni’n ormodol am fân ffeithiau a rhifau, ond nodi mai dyma gyfnod ymwreiddio’r ffydd Gristnogol yng Nghymru, ymwreiddio wnaeth effeithio ar y gymdeithas ac ar y ffordd o reoli cymdeithas. Roedd angen, siŵr o fod, i Gwladys fod yn sant i ddygymod â Gwynllyw. Pan aned eu mab cyntaf yr oedd Gwynllwg wedi ei gynhyrfu cymaint nes carlamu gyda’i haid o wylliaid ar gyrch i ddathlu’r achlysur trwy ddwyn gwartheg yng Ngwent. Dychwelodd adref gyda gyr o wartheg amrywiol, rhai ohonynt yn perthyn i gymuned fach Gristnogol a arweinid gan un Tathyw o Gaer-went. (Yr oedd ef, fel Brychan, yn Gristion o Wyddel.) Daeth Tathyw, y creadur dewr, i bencadlys Gwynllyw gan ofyn iddo ddychwelyd ei eiddo. Doedd ganddo ddim gwŷr arfog na llys brenhinol yn gefn iddo, ond mae’n ymddangos fod Gwladys wedi ei berswadio i dderbyn dwy fuwch yn ôl, yn arwydd o ewyllys da. Fe gytunodd Tathwy hefyd i fedyddio’r baban newydd, gan ei enwi’n Cadog. Felly y cyflwynwyd y plentyn i ffydd ei fam a’i dad-cu; ymhen blynyddoedd fe’i cydnabyddid, fel ei fam, yn sant. Yn wir, yr oedd holl blant Gwladys, yn ôl pob sôn, yn saint, fel eu hewythrod a’u modrybedd i gyd! Gan i’w henwau gael eu rhoi i fannau cysegredig, ymddengys fod y gair ‘sant’ yn y cyd-destun Cymreig yn disgrifio gwŷr a gwragedd a luniodd o’u cwmpas gymunedau bach Cristnogol oedd yn byw yn ôl safonau gwahanol i’r bobl o’u cwmpas, ffordd o fyw oedd yn ddiau yn denu, ond hefyd yn her.

A Gwynllyw? Parhaodd yn bagan am gyfnod cyn iddo, yn ddiweddarach yn ei oes, gael breuddwyd. Yn y freuddwyd ymddangosodd Duw, y Duw Cristnogol, iddo gan addo y byddai, ar fryncyn uwchlaw aber afon Wysg, yn dod o hyd i fustach gwyn, braf a chanddo smotyn du ar ei dalcen. Dyna freuddwyd hynod ddeniadol i leidr gwartheg fel Gwynllyw. Drannoeth, darganfu Gwynllyw’r bustach, ac fe’i lloriwyd cymaint gan y cyd-ddigwyddiad nes iddo fodloni troi’n Gristion. Nid yw Gwladys yn rhannu dim o’r clod am hyn, er y bu ei dyfalbarhad a’i hamynedd hi’n help i baratoi’r ffordd i’w dröedigaeth at Grist, mae’n siŵr. Pwy a ŵyr! Efallai fod cydnabod dylanwad ei wraig yn ormod i ryfelwr, ond y mae arweinwyr gangiau, rhyfelwyr a brenhinoedd hyd yn oed weithiau yn barod i gydnabod dylanwad eu gwragedd.

Dyna, yn ôl y stori, sut y daeth y lleidr gwartheg, yr arweinydd llwyth a’r rhyfelwr gwaedlyd yn Gristion. Dengys ei yrfa wedi hyn nad peth hawdd oedd hynny. Sut mae bod yn frenin mewn byd o drais a bod yn driw i werthoedd newydd, heddychol a gwrth-awdurdodol y ffydd newydd? Dim mwy o ladd na mynnu ei ffordd; dim dwyn gwragedd na dwyn eiddo pobl eraill. Ceisiodd Gwynllyw deyrnasu mewn ffordd newydd gan ddilyn yr egwyddorion newydd. Gwnaeth hyn gryn argraff ar ei ddeiliaid a’u disgynyddion. Sonient amdano fel ‘y Brenin a roes y gorau i ladrata’. Dyna i chi ryfeddod, os nad gwyrth.

Yn y pen draw, aeth y tyndra rhwng ffydd a bod yn arweinydd rhyfelgyrchoedd yn drech nag ef, ac aeth Gwynllyw a Gwladys i fyw bywyd mynachaidd. Pan fu farw Gwynllyw, aeth Gwladys yn ei gweddwdod yn ancr a byw bywyd o weddi ar ei phen ei hun. Mae’r stori’n mynnu bod y ddau’n ymolchi yn nŵr oer afon Wysg drwy’r flwyddyn a’u bod yn byw’n gwbl ddiwair. Mae’n adlais o’r Gristnogaeth fynachaidd gynnar a gredai fod ymdrochi mewn dŵr oer yn fodd i reoli chwantau’r corff.

Adeiladodd Gwynllyw eglwys wedi ei chysegru i Fair ar y bryn ger afon Wysg lle y cafodd hyd i’r bustach gwyn a smotyn du ar ei dalcen. Dyma’r fangre ar riw Stowe yng Nghasnewydd sy’n safle cadeirlan Gwynllwg heddiw. Llurguniad hyll o’r enw Cymraeg yw’r Saesneg St Woolloos. Yno (yn bendant a diamheuol, wrth gwrs!) y claddwyd Gwynllyw ar 29 Mawrth yn 523OC. Fe’i perchid fel sant. O leidr gwartheg i nawddsant.

Mae’r stori ddeniadol ond annhebygol hon am fywyd Gwynllwg Sant wedi ei llunio ganrifoedd yn ddiweddarach ar batrwm safonol bucheddau’r saint. Seiliwyd y rhain ar fuchedd St Martin o Tours. Rhoddodd Martin y gorau i’w yrfa lwyddiannus fel swyddog ym myddin Rhufain er mwyn bod yn fynach. Wrth weld tlotyn diymgeledd yn rhynnu yn yr eira, rhwygodd ei glogyn cynnes, milwrol, yn ddau, a rhoi un hanner i’r tlotyn. Roedd y tlodi a fabwysiadodd Martin yn her ryfeddol i eglwys ei gyfnod ac i urddasolion eglwysig. Mae straeon n seintiau’n her i safonau bydol, ond gallant gael eu llurgunio i gyfiawnhau brwydrau eglwysig dros dir a dylanwad. Digon hawdd felly yw i hanesydd drwgdybus ddilorni’r storïau am y saint fel pethau wedi’u dyfeisio ar gyfer gwleidyddiaeth eglwysig. Mae lle i fod yn amheus gan fod amryw o’r bucheddau wedi eu hysgrifennu i roi hwb i statws ac enw da i gyrchfan pererinion a’u creirfeydd. Serch hynny, mae stori Gwynllyw yn ein hatgoffa am anawsterau cyson a brofodd arweinyddion Cristnogol wrth geisio byw yn ôl y ffydd, ond wedi eu clymu gan amgylchiadau hanes grym a gwleidyddiaeth. Mae’r traddodiad paganaidd arwrol yn mynnu bod ymladd gelynion yn hanfodol i arweinydd da. Trigai’r arweinwyr hyn mewn cymunedau a oedd wedi etifeddu’r un rheolau am anrhydedd, gwerthoedd arwrol a rhyfelgar. Yr oeddent yn byw ar y ffin rhwng cyfrifoldebau bydol a ffydd oedd yn eu galw i fyw gan ofalu am y tlawd a’r gwael. Nid oedd byw yn syml a thlawd yn gweddu i arweinydd oedd yn deyrngar i rym, statws, cyfoeth, a thir.

Yn gynharach fyth yn hanes yr Eglwys, cyn amser Gwynllyw, yr oedd pobl yn amheus o’r gredo newydd, ffyniannus hon. Erlidid Cristnogion am beidio â phlygu glin i hawliau gwladwriaeth ac ymerawdwr ar eu teyrngarwch. Heddiw, mae gwleidyddion yn swil o siarad am eu ffydd rhag cael eu cyhuddo o dybio bod Duw yn gwarantu barn gywir ym mhob peth iddynt. Yr oedd meddwl am George Bush a Tony Blair yn gweddïo gyda’i gilydd yn denu gwawd digon gwenwynllyd ar weddi, heb sôn am yr unigolion dan sylw. Mae anghredinwyr yn deimladwy iawn i unrhyw awgrym y gall teyrngarwch i rywbeth trosgynnol fod yn drech na hawliau hunan-les. Mae hawlio bod yn grediniwr yn wahoddiad i’r byd fwrw golwg fanwl iawn i chwilio am unrhyw fethiant moesol neu ragrith.

Yn yr ail ganrif gwnaeth nifer o Gristnogion gryn ymdrech i egluro beth oedd hanfod eu ffydd. Mewn llythyr at un Diognetus, pagan ymchwilgar oedd eisiau gwybod pam yr oedd Cristnogion yn gwneud merthyron mor ddewr, pam nad oedden nhw’n barod i gydnabod duwiau paganaidd na chadw defodau Iddewig, pam oedden nhw mor ofalus o’i gilydd, a phaham yr oedd Duw wedi ei gadael mor hwyr cyn datguddio’r gwirionedd, os gwirionedd ydoedd, mae’r awdur anadnabyddus yn nodi na allwch chi adnabod Cristnogion wrth eu gweld mewn cymunedau. Dydyn nhw ddim yn edrych yn wahanol nac yn gwisgo’n gwahanol i ddinasyddion eraill o’u cwmpas ond mae eu syniadau am ddinasyddion yn rhyfedd.

Maen nhw’n byw yn eu mamwlad, ond yn byw fel pererinion. Maen nhw’n rhannu popeth fel dinasyddion, yn dioddef popeth fel dieithriaid. Gwlad bellennig yw eu priod famwlad Maen nhw’n byw ar y ddaear ond mae eu dinasyddiaeth yn y nefoedd. Ufuddhânt i’r deddfau ond yn eu bucheddau y maen nhw’n mynd ymhellach na’r deddfau. Maen nhw’n caru pawb ond yn cael eu herlid gan bawb … Mewn gair, yr hyn yw’r enaid i’r corff – dyna beth yw Cristnogion i’r byd … Mae’r enaid yn trigo mewn corff, ond eto nid o’r corff: felly y mae Cristnogion yn trigo yn y byd ac eto nid o’r byd. Eto hwy sydd yn dal y byd ynghyd.

Dywedodd Iesu’n symlach a mwy bachog bod y rhai sy’n credu ynddo ef yn halen y ddaear, yn oleuni mewn llusern, yn furum yn y toes. Sut, heddiw, mae modd meithrin dinasyddiaeth o’r fath yn wyneb coegni’r cyfryngau, a chasineb y cyhoedd at grefydd yn gyffredinol? Y mae llawer o’r cyhuddiadau sy’n cael eu lluchio at Gristngoion yn enbyd o gywir. Ond sut mae Cristnogion i ddechrau byw fel ‘rhai bychain’ yn ôl gwerthoedd y Gwynfydau?

Ymddengys bod llawer o’r seintiau ‘Celtaidd’, amryw ohonyn nhw o dras fonheddig  neu frenhinol, wedi ymwadu â grym bydol. Yr oedd hyn yn arbennig o wir am blant Brychan. Mae amryw o’r bucheddau’n awgrymu bod llawer o frodyr a chwiorydd Gwladys wedi ystyried bod eu ffydd yn mynnu eu bod yn troi eu cefnau ar lysoedd ac yn gollwng gafael ar deyrnwialen. Efallai mai dylanwad Cristnogaeth diffeithwch yr Aifft oedd hyn, pan ddechreuodd pobl ffoi i’r anialwch gan chwilio am burdeb uwch nag oedd yn bosibl mewn grwpiau bydol. Gallai fod yn ffordd o ffoi rhag y tyndra. Sut mae byw yn ôl safonau teyrnas Crist os ydych chi mewn lleiafrif bychan? Sut orau y mae tystio i wirionedd yr efengyl?

Mewn cyfrol swmpus a hynod ddarllenadwy – Dominion – y mae Tom Holland yn gweld y tyndra hwn rhwng cyfoeth, grym, a chasineb ar y naill law, a gwyleidd-dra, symlder buchedd a maddeuant ar y llaw arall yn thema sydd wedi baglu Cristnogion dros y canrifoedd i gyd. Y mae Buchedd Gwynllyw yn un ymdrech i ddweud stori fechan ond arwrol am fyw ar y ffin rhwng teyrnas fydol a theyrnas nefoedd.