Holi a Gwrando

Holi a Gwrando

Tecwyn Ifan yn disgrifio ffordd newydd o fod yn fugail

TecsAeth bron i bum mlynedd heibio ers i mi gael fy lleoli ym Mlaenau Ffestiniog gan Gymanfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion fel Ysgogwr. Cynllun arbrofol oedd hwn, gyda’r bwriad o geisio cwrdd â phobl yn y man lle roedden nhw ar eu taith ysbrydol. Dechreuwyd trwy gomisiynu arolwg ar agweddau pobl yr ardal tuag at bethau crefyddol ac ysbrydol.

Cafwyd bod y rhan fwyaf o’r rhai a holwyd naill ai heb fod wedi perthyn i gapel neu eglwys erioed, neu wedi arfer mynd ond bod yr arfer hwnnw wedi peidio erbyn hyn.

 

Er hynny gwyddai’r rhan fwyaf a holwyd pa un oedd ‘capel ni’ eu teuluoedd yn arfer bod! Dangosai’r arolwg hefyd fod materion ysbrydol yn dal yn bwysig i 63% o’r bobl, ond roedd dros 90% yn teimlo bod enwadaeth a sefydliadau crefyddol yn amherthnasol iddynt.

Codi pontydd at bobl fel yna yw un o’r pethau rwy wedi bod yn ceisio’i wneud. Nid y nod oedd dod â phobl yn ôl i rengoedd ein capeli ni, ond gwneud cyswllt â phobl yn y gymuned gyda golwg ar arbrofi gyda ffurfiau gwahanol o ymwneud â’r ysbrydol.

Gwrando ar bobl; holi beth oedd y rheswm oedd gan rai ohonynt dros adael eu capel a’u crefydd; ystyried sut allem wneud pethau’n wahanol; treialu ac arbrofi gyda ffyrdd gwahanol.

I’r diben hwnnw cynhaliwyd gwahanol gyfarfodydd a digwyddiadau mewn gwahanol leoliadau, yn festrïoedd capeli, mewn tafarndai ac yn y llyfrgell. Ystyriwyd i ba raddau roedd agweddau ysbrydol, ffydd neu gred yn berthnasol i fywydau pobl yn gyffredinol. O ran y rhai a oedd yn perthyn i gapel neu eglwys yn y grwpiau hyn, cwynai nifer nad oeddent yn deall llawer o’r geiriau oedd yn cael eu defnyddio yn y pulpud, eraill yn dweud nad o’n nhw’n cytuno â llawer o’r hyn oedd yn cael ei ddweud o’r pulpud. Cwyn fynych arall oedd y ffaith fod yna ddim cyfle i drafod yr hyn oedd yn cael ei ddweud o’r pulpud. Ac er bod y rhain yn dal i berthyn i eglwys ac yn mynychu oedfaon, roedd hi’n amlwg eu bod wedi’u dadrithio ac yn dyheu am weld newidiadau mawr o fewn y gyfundrefn. 

Y drefn fel arfer yn y grwpiau oedd dechrau trwy ddarllen cerdd neu bwt o erthygl neu eitem o newyddion y dydd, rhywbeth fase ddim o reidrwydd ar destun crefyddol, ond a oedd yn rhoi lle i drafodaeth. Roedd cyfle i bawb i ddweud eu dweud, heb fod yna bwysau ar neb i gyfrannu yn erbyn eu hewyllys. Roedd cael rhannu profiadau a chwestiynu safbwyntiau mewn awyrgylch saff ac anfeirniadol yn rhywbeth oedd cael ei werthfawrogi’n fawr.

Mae un grŵp rwy’n ymwneud ag ef am fynd ychydig yn bellach na’r lleill. Yn hytrach na dim ond trafod, maent am weithredu ar yr hyn sy’n cael ei ddweud. I’r diben hwnnw maent wedi llunio rhestr o amcanion iddynt eu hunain sy’n cynnwys hybu a datblygu ymwybyddiaeth am agweddau ‘ysbrydol’ bywyd yn ei ystyr ehangaf o fewn y diwylliant Cymraeg, gan ddefnyddio celf i ddyfnhau dealltwriaeth pobl o natur ysbrydol bywyd.

Mewn cyfnod pan mae hen draddodiadau crefyddol yn cael eu herio gan agweddau a syniadau oes ‘ôl-Gristnogol’, mae’r tensiwn a’r tyndra yna’n gallu bod yn beth cyffrous a chreadigol iawn.

Poster

Dyna a esgorodd ar gyflwyniad o ‘Gymanfa’ gan Cai a Meilir Tomos yng Nghapel Calfaria yn y Blaenau llynedd. Cyflwyniad ar ffurf symud a meim i sŵn nodau cerddorol oedd hwn, gan ddefnyddio bedyddfan agored (bedydd trochiad) Calfaria fel gorweddfan i Cai ar ddechrau a diwedd y perfformiad.

Mae’r ddau frawd yn gweithio ar brosiect newydd i ni ar hyn o bryd yn seiliedig ar hanes Huw Llwyd, y dewin a’r ‘dyn hysbys’ a oedd hefyd yn bregethwr ’nôl yn y 18fed ganrif. Maent eisoes wedi bod yn ffilmio ger ‘Pulpud Huw Llwyd’ yng Nghwm Cynfal, ac yn recordio dyheadau, dymuniadau, ofnau a gobeithion pobl Blaenau ar ffurf sain a fideo, gyda golwg ar baratoi cyflwyniad cyhoeddus cyn hir.

Mae cyllid o Gronfa Bedyddwyr Dinbych, Fflint a Meirion hefyd wedi’i gwneud hi’n bosib noddi gweithdai therapi creadigol i ferched sy’n cael help gan Trais yn y Cartref De Gwynedd dros y flwyddyn ddiwethaf. Datblygiad diweddaraf y cynllun hwn yw comisiynu Mair Tomos Ifans i baratoi cyflwyniad theatrig yn cyfuno hanes y santes Gwenffrewi (a dreisiwyd gan filwr ifanc o’r enw Caradog) â phrofiadau rhai o’r merched sydd wedi bod yn mynychu’r gweithdai therapi.

Rwy’n cofio Gareth Miles yn dweud ar raglen radio dro’n ôl fod  ‘pob celfyddyd yn dechrau gyda chrefydd – y ddrama, cerddoriaeth, arlunio: rhan o ddefodau crefyddol oedden nhw’. Roedd yn fy atgoffa i o’r hyn ddarllenais i yn rhywle flynyddoedd yn ôl:

‘Religion is a bad form of theatre.’

Mewn oes pan fo trafod crefydd yn tabŵ yn ein cymdeithas, mae defnyddio llenyddiaeth a chelfyddyd weledol yn ffordd agored a chyfeillgar o estyn at bobl heddiw a’u gwahodd i fod yn rhan o ryw ymwneud â phethau sydd wedi bod o bwys i bobl ym mhob oes. Ac wrth wneud hynny, dim ond yn mynd yn ôl ry’n ni at un o arferion cynharaf dyn yn ei ymchwil am ystyr bywyd.

Rwy’n ei theimlo hi’n fraint ac yn bleser o fod wedi cael y rhyddid yn fy swydd i ollwng gafael ar y cyfarwydd a’r cyfforddus o fewn y drefn grefyddol, a chael mentro arbrofi gyda’r niwlog a’r ansicr, a rhyfeddu o weld beth sy’n dod ohonynt.