At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd

Dathlu’r Wythnos Fawr yn Nyffryn Aeron a’r Fro

At Ein Gilydd, Gyda’n Gilydd  

gan  Eileen Davies

Eileen

Eileen Davies gyda’r asyn

Yr Wythnos Fawr, yn sicr yr wythnos fwyaf yng nghalendar pob Cristion. Dyma’r wythnos lle mae yna gwestiynau mawr yn cael eu holi, o beth yn union ry’n ni’n credu ynddo, i bwysigrwydd y Groes a Sul y Pasg. Beth mae Gwener y Groglith a’r Atgyfodiad yn ei olygu i Gristnogion heddiw? Beth mae’n ei olygu i fyd seciwlar sydd am fwynhau gwyliau o’r gwaith beunyddiol heb ystyried y pris a dalwyd ar groesbren drosom ni? Dyna yn union sy’n cael ei drin a’i drafod rhwng pobl o bob oedran ac o bob enwad yn Nyffryn Aeron yn yr wythnos sydd yn ein harwain at Sul y Pasg. Cychwyn y daith ar Sul y Blodau, lle y daw torf i ymgynnull drwy weddi a chân tu allan i Neuadd y Pentref yn Nihewyd a cherdded mewn heddwch wrth olrhain taith yr Iesu i Jerwsalem, gan ddilyn asyn, sy’n cario’r groes er ein mwyn ar ei gefn.  Wrth gyd-deithio, rhannu’r croesau’r palmwydd gan bawb ar yr heol, ac ar ddiwedd y daith tu allan i Eglwys Sant Mihangel, Ciliau Aeron, unwn mewn mawl a bloeddio, ‘Hosanna i Fab Dafydd’.

Nos Lun, cafwyd darlith gan Parchedig R. Alun Evans, a ymdriniodd â chwestiwn heddwch: a oes yna heddwch yng nghalon Cristnogion heddiw, lle mae crefyddau eraill yn fwy amlwg na Christnogaeth, hyd yn oed yma yn ein gwlad fach ni?  Beth yw ein safbwynt ni wrth glywed am erledigaeth Cristnogion ar hyd a lled y byd, lle mae eithafiaeth yn llethu a gormesu Cristnogion? Y cwestiwn mawr yw ‘A oes heddwch?’, pan rydym yn gweld, yn clywed ac yn tystio i’r hyn sy’n digwydd yn ein byd ni heddiw. Nid oes yna ateb rhwydd, meddai R. Alun, gan fod angen gwell dealltwriaeth o holl grefyddau ein byd ni, angen maddau ac edifeirwch. A pha bryd y gwelwn fyd heddychlon? Wel, daliwn i weddïo ar i Grist a ddaeth i fyd cythryblus mewn heddwch roi arweiniad i ni, Gristnogion heddi.   

Rhagor o gwestiynau nos Fercher, ond y tro yma mewn cwis, a tybed faint o atebion cywir y medrwn eu cael wrth i’r ymennydd ddihuno i wirionedd yr ysgrythurau.

Rhannu mewn Swper Olaf nos Iau, wrth dorri’r bara a rhannu’r gwin. Cerdded fore Gwener y Groglith drwy bentref Felin-fach, a chael ein harwain gan y Groes, oedd yn weladwy i bawb oedd yn mynd heibio, gan aros bob hyn a hyn a gwrando ar Orsafoedd y Groes. Nos Sadwrn, gwylnos y Pasg, yng Nghapel Tynygwndwn, yn ddisgwylgar yn aros am wawrddydd bore’r Pasg, mewn trafodaeth, cân a gweddi.

Ar doriad y wawr fore Sul y Pasg mewn mawl croesawyd y Crist Atgyfodedig yn Eglwys Ystrad Aeron, Felin-fach, cyn rhannu brecwast yn y Ficerdy. Pawb yn dychwelyd i’w heglwysi a’u capeli i’w gwasanethau ar hyd ddydd y Pasg, cyn ymuno unwaith yn rhagor mewn Cymanfa Ganu i glodfori a chloi’r Wythnos Fawr yn Eglwys Trefilan gyda’n gilydd.

Ar ddiwedd yr Wythnos Fawr, faint sydd wedi cael cyfle i ateb y cwestiwn: rwy’n credu fy mod i’n credu, ond beth rwy’n ei gredu?

Gyda’n Gilydd ar hyd y flwyddyn down At ein Gilydd yn achlysurol i rannu ein traddodiadau a’r hyn ry’n ni’n ei gredu: mi fyddwn yn cydgerdded ddiwedd mis Mai, yn cyfarfod y Tad Deiniol o’r Eglwys Uniongred ym mis Mehefin, ac yna’n cyd-ddiolch ym mis Hydref yn Nhynygwndwn, a thrwy ddysgu oddi wrth ein gilydd cawn ein nerthu yng nghariad y Crist Atgyfodedig.