Tir Neb: Ysbrydoledd a Chreadigrwydd gan Aled Jones Williams

Tir Neb: Ysbrydoledd a Chreadigrwydd gan Aled Jones Williams

(Fy ‘rhagarweiniad’ i sgwrs a roddais ar fy ngweithiau fy hun yn Encil C21 yn Nhrefeca,  Medi 2015, yw’r llith ganlynol.)

aled-jones-williams2

Aled Jones Williams

Mae ‘ysbrydoledd’ a ‘chreadigrwydd’ yn drybeilig o anodd i’w diffinio. Y mae yna rywbeth yn gyfleus niwlog amdanyn nhw, yn enwedig felly ‘ysbrydoledd’.

Mae hi’n weddol hawdd diffinio ‘crefydd’. Ar un wedd, medrir dweud mai diben y crefyddol yw eich amddiffyn rhag yr ysbrydol. Trwy systemau, credoau, ffurf-wasanaethau, offeiriadaeth a mathau eraill o weinidogaeth – paraffernalia’r ‘crefyddol’ – fe’n diogelir rhag anarchiaeth yr ‘ysbrydol’, y mae ei ‘hanfod’ i’w ganfod yn y gwynt na ŵyr neb o ba le y daw nac i ba le yr â. Gwneud ‘Duw’ yn saff yw prif swyddogaeth ‘crefydd’: ‘ei’ gaethiwo mewn dogmâu a ‘gwisgoedd’ derbyniol eraill. Mae ‘ysbrydoledd’ yn llawer rhy beryglus i ni. Oherwydd hynny, mae’n debyg, y croeshoeliwyd Iesu. Fe ddewiswn y ‘crefyddol’ yn wastad ar draul yr ‘ysbrydol’. Mae ‘enwadau’ – er eu truenused, erbyn hyn – yn llawer saffach lle nag ‘anialwch’: cartref yr ‘ysbrydol’ tryblithgar. Yn y bôn, wnaeth yr eglwys erioed licio ‘yr ysbryd glân’.

Blerwch Meddyliol

Ond am yr ‘ysbrydol’ ei hun, mae’r gair yn gyfleus niwlog. Mae pawb yn meddwl eu bod nhw’n meddwl eu bod nhw’n gwybod be’ mae o’n ei feddwl. Brawddeg flêr iawn oedd honna, wrth gwrs, i ddarlunio’r blerwch meddyliol sydd ymhlyg yn y gair ‘ysbrydoledd’. Mae hynny’n gyfoes gyfleus. Mewn gwlad – Cymru – sydd ar y cyfan yn wrth-grefyddol bellach, ddywedwn i, mae’r ‘ysbrydoledd’ niwlog yn bownd o ddod fwyfwy i’r amlwg ac yn fwy derbyniol. Mae hi’n haws dweud, ac yn well dweud erbyn hyn: ‘Tydw i ddim yn grefyddol ond mi rydw i’n ysbrydol.’ Beth yw gwir ystyr hynny, sy’n fater arall, wrth gwrs! Ond mi rydan ni rywsut neu’i gilydd yn rhyw lun ar ddeall hynny hefyd. Mae yna ryw siapiau yn y niwl: ‘Duw’ ydy hwnna, d’wch, ’ta coeden ydy o?

Amwysedd

Mae cael yr amwysedd a’r amhendantrwydd yna yn siwtio llawer iawn ohonom ni. Dyna lle mae niferoedd bellach: myfi yn eu plith. A does yna ’run

blwch ar ein cyfer ar ffurflen censws. Tir neb ydy o, rhwng rhyw ‘uniongrededd’ – gair niwlog arall: a fu yna’r ffasiwn beth erioed? – rhwng rhyw ‘uniongrededd’ honedig a’r anffyddiaeth gyfoes, ddosbarth canol, snobyddlyd bron, a smyg sy’n hydreiddio ein gwlad, yn arbennig felly ymysg y ‘deallusion’ – honedig eto. Peth digon derbyniol bellach yw dweud eich bod yn ‘anffyddwraig’, fel roedd hi ers talwm yn beth eitha da dweud fod ganddoch Kyffin ar eich wal.

Mae’r ‘uniongrededd’ yma a’r anffyddiaeth sy’n cyfateb iddo yn gwbl ddiddychymyg. Mae’r ddeubeth fel ei gilydd wedi cau’r drws yn glep ar y dychymyg. Nid oes gan y naill na’r llall ddim byd mwy i’w ddweud. Mae’r cwbl wedi ei ddweud eisoes.

Tir Neb

Dim ond yn y tir neb y mae’r dychymyg yn bosibl. Lle’r dychymyg ydyw’r tir neb: rhywbeth yn debyg i ddalen wen o flaen awdur, neu gynfas wag o flaen artist. Fe all y dychymyg fynd â chi i leoedd o greadigrwydd enfawr. Fe all y dychymyg fynd â chi ar gyfeiliorn llwyr hefyd, pan mae o’n gweddnewid ei hun i’r llai nag ef ei hun, sef ffantasi. Ac y mae yna wahaniaeth dybryd rhwng ‘dychymyg’ a ‘ffantasi’ – trafodwch! Ffantasïol yw’r hyn sy’n weddill o grefydda yng Nghymru heddiw.

Lle Tramps

Lle o ddigartrefydd ‘ysbrydol’ yw’r tir neb. Nid pererinion sydd yma, ond tramps. Fe ŵyr pererin i ble y mae hi’n mynd. Tin-droi mae tramp. Dwi’n siŵr fod yna lawer o bethau ym mhoced tramp, ond yn sicr i chi, does yna ’run map yna.

Nid yw’r tir neb yn lle cyfforddus, yn enwedig pan mae hi’n stido bwrw. Ond i nifer ohonom ni sydd wedi cerdded allan o’r eglwysi, fyth i ddychwelyd, ac o bethau sy’n edrych yn debyg i grefydd gonfensiynol, fan hyn ydy’r unig le dilys. A dilysrwydd yw’r peth. 

(Gweler ymatebion i  gyfrol ddiweddaraf Aled Jones Williams a Cynog Dafis mewn adran ar wahân)