Pam Agora?

Pam Agora?

Man agored, medd y geiriadur; man cyfarfod yn yr iaith Roeg, y man lle’r aeth Paul ati i geisio mynegi’r newyddion da mewn iaith seciwlar, sef iaith ei gyfnod. Mae’n disgrifio’n dda amcan y fenter hon i greu cylchgrawn digidol Cymraeg fydd o ddiddordeb a bendith i bawb y mae enw Iesu yn bwysig iddyn nhw (er bod capel ac eglwys yn eu digalonni). Y gobaith yw y daw yn fan agored a diogel i bobl holi a thrafod, man lle y gellir anghytuno heb ddigio, heb ymosod, heb gondemnio, ac yn sicr heb sarhau na bwrw neb allan. Yn yr hen Agora yr ymdrechodd Paul i gyfathrebu â chymdeithas amlddiwylliannol Athen, lle roedd yn bosibl i bawb a phob un fynegi ei syniadau a chael gwrandawiad.

O newid pwyslais o’r sill cyntaf i’r ail, mae ystyr pellach i Agora sydd hefyd yn ferf orchmynnol Gymraeg. Agora ddrws i fyd sy’n newid yn garlamus, agor meddyliau i ddulliau mynegiant newydd, ac agor calonnau i’n profiadau tra amrywiol ni, Gymry Cymraeg a’n cyfeillion heddiw. Mae fel gyrru car: mynd ymlaen, ond gan gadw llygad ar y drych sy’n dangos beth ddigwyddodd y tu cefn i ni.

Rydyn ni’n mentro lansio ‘cylchgrawn digidol’ ar wefan Cristnogaeth21 gan obeithio y gallwn ddatblygu a gwneud y gorau o’r posibiliadau technegol newydd sy’n agored i ni.

Yn ei erthygl ef, mae Aled Jones Williams yn rhoi cip i ni ar y gymdeithas sy’n bod yng Nghymru heddi, Cymru dra gwahanol i’r Gymru draddodiadol fytholegol a fu’n llawer iawn mwy amrywiol ei haelodau nag yr oedd y myth yn caniatáu. A ninnau Gristnogion wedi colli’r hawl i orchymyn a deddfu, be wnawn ni i godi amgenach pabell pan yw’r cyfundrefnau eglwysig yn glynu wrth ieithwedd y bymthegfed ganrif a ninnau, er gwell neu er gwaeth, yn meddwl sut y gall Iesu gael ei glywed un ganrif ar hugain ers ei groeshoelio gan rymoedd crefydd ac ymerodraeth?