Chwilio’r Ysgrythurau: Y Daith i Emaus gan Enid Morgan

Chwilio’r Ysgrythurau: Y Daith i Emaus  gan Enid Morgan

(Luc 24 : 13–35)

Stori am yr Atgyfodiad yw’r daith i Emaus – neu felly y tybiwn. Ac mae’n arwain yn aml at ddadl ynglŷn â natur y gŵr oedd mor anodd ei nabod, ac a ddiflannodd mor sydyn. Mae’n calonnau ninnau’n cynhesu wrth ddarllen y geiriau: ‘Onid oedd ein calonnau’n llosgi ynom …’ Ond nid yw’r ffaith fod y stori’n annwyl a chyfarwydd yn golygu ein bod ni wedi deall ei hamcan hi. Felly, gan gydnabod dyled enfawr i’m hathro diwinyddol James  Alison, rwy am agor drws i amgenach dealltwriaeth o Luc 24 :13–35. Mae’n crebwyll ni’n rhedeg mewn rhigolau cynefin, ac yn hynny o beth rydyn ni’n debyg iawn i’r ddau deithiwr digalon a droes eu cefnau ar Jerwsalem. Roedd meddyliau Cleopas a’i gyfaill dienw ynghlwm wrth hen freuddwydion a disgwyliadau.

James Alison

James Alison

Sut olwg oedd ar y ddau? ‘Gwynepdrist’, medd William Morgan; ‘eu digalondid yn eu hwynebau’, medd y Beibl Cymraeg Newydd. Y gair gwreiddiol yw skuthropoi – gair anghyffredin a chryf sydd ddim ond yn ymddangos un waith yng nghyfieithiad y deg a thrigain (y Septuagint) o’r ysgrythurau Hebraeg. Mae Joseff, wrth annerch ei gyd-garcharorion, sef y trulliad a’r pobydd, yng ngharchar, yn gofyn pam maen nhw’n skuthropa. Mae’r ddau’n methu gwneud synnwyr o’u breuddwydion a sylw Joseff wrthynt yw: ‘Onid i Dduw y perthyn dehongli?’

Pan yw awdur yn defnyddio gair prin o’r Hen Destament, gallwch fentro’i fod fel petai’n rhoi golau’n fflachio i dynnu’ch sylw. Dyma ddau berson a ddisgrifir yn skuthropa, mewn dryswch a digalondid, ac wele drydydd person yn ymddangos ac yn cynnig dehongliad iddynt ac yn mynnu mai dehongliad Duw ydyw. A dyna sy’n digwydd ar y ffordd i Emaus – bydd y ddau’n derbyn dehongliad ac yn gwybod mai dehongliad Duw yw e.

Dau bwynt arwyddocaol arall. Mae ’na bedwar man gwahanol sy’n mynnu mai eu pentre nhw yw Emaus – ond wyddon ni ddim ble roedd e. Roedd Luc yn berffaith abl i fod yn ddaearyddol fanwl am ynys Malta. Felly, pam mae e mor ddryslyd o amhendant yn y fan hon? A phwy yw cyfaill Cleopas?             

Awgrymwyd mai Mrs Cleopas yw – ond mae ’na gyfeiriad yn nes ymlaen at ‘rai gwragedd yn ein plith’, ac mae’n arfer i beidio ag enwi’r rheini. Dyma ni â chymeriad heb enw, rhyw N o berson, llythyren sy’n rhoi lle i berson penodol mewn dogfen gyfreithiol neu ymbiliau litwrgaidd. Nomen pwy?

Ac i ba amcan? Awgrym James Alison yw fod Luc, fel yn y stori am geisio bwrw Iesu dros glogwyn (nad yw’n bod) yn Nasareth, yn awgrymu rhyw ddaearyddiaeth symbolaidd neu ddiwinyddol. Gallai’r cyfarfyddiad hwn ddigwydd yn unman, mewn rhyw Gwm-sgwt o le, rhyw Lanunman. Gallai’r un peth fod yn wir am gyfaill dienw Cleopas. Mae’n bosibl mai chi neu fi a wahoddir i gymryd ein lle yn y stori. Gallwn ninnau gamu i mewn i’r stori, a gwrando’n daer a chrefu ar y gŵr dierth i aros, ein calonnau ninnau ar dân wrth wrando’r dieithryn hwn.

Dieithryn, ie; paroikeis, medd y testun. Nid dieithryn yn gwmws, ond ‘trigiannydd’ dros dro sy ddim yn ‘perthyn’, ddim yn ‘un ohonon ni’ – un heb iddo ddinas barhaus, tebyg i Abraham, Isaac, Jacob a Joseff: crwydryn, ymwelydd, mewnfudwr, migrant. Dyw’r bachan hwn ddim yn perthyn.

Dywedir bod y ddau yn trafod – efallai y byddai dadlau’n gywirach; antiballete yw’r gair (fel yn antiballistic). Mae rhywbeth yn cael ei daflu ’nôl a mlaen, yn chwyrn, fel pêl rygbi. Dy’n nhw ddim yn deall beth sy wedi digwydd iddyn nhw, nac i’w breuddwydion na’u gobeithion. Ac yn hytrach nag egluro, mae’r ymwelydd yn gofyn am eu stori, sut maen nhw’n deall pethau.

Dyma bum llinyn yn eu meddyliau:

  • roedd Iesu’r proffwyd wedi eu cyfareddu â’i awdurdod;
  • doedd yr arweinwyr crefyddol ddim wedi ei gefnogi, ond yn hytrach wedi ei erlid;
  • croeshoeliwyd ef gan y llywodraethwyr Rhufeinig;
  • roedden nhw wedi gobeithio mai ef fyddai’r Meseia (eu Führer, meddai Gwilym O. Roberts gynt!);
  • mae’r gwragedd, na ellir dibynnu ar eu tystiolaeth, yn dweud ei fod yn fyw.

Be wnaen nhw o shwt ddryswch o themâu na ellir eu gweu ynghyd? Y paroikeis nad yw’n perthyn sy’n egluro, yn homilein, yn sgwrsio ag awdurdod mai fel hyn yr oedd yn rhaid i bethau fod. Mae’n eu harwain ar daith ddethol drwy’r ysgrythurau ac yn gwneud synnwyr newydd o le etholedigaeth, dioddefaint, aberth a lle’r unigolyn sy’n cael ei erlid yn economi ac amcanion Duw. ‘Ac onid i Dduw y perthyn dehongli?’

Mae’r paroikeis yn diflannu ar doriad y bara. A dim ond ar ôl iddo fynd maen nhw’n ei nabod e. A dyna’n union sut y mae IHWH’n  ymddwyn yn ei ymddangosiadau prin i unigolion fel Moses ac Elias yn yr Hen Destament. Ac mae Luc y storïwr, y cyfarwydd hynod grefftus a chynnil, yn rhoi i ni ffordd o ddehongli’r stori fel ymddangosiad nodweddiadol Iawistaidd: un sy’n dod yn dystiolaeth, yn brofiad ac yna’n diflannu, un na allwch chi ddim dal eich gafael ynddo a’i ddefnyddio i brofi dim. Ac wrth wneud synnwyr, wrth ddehongli’r profiadau amryfal na allan nhw wneud unrhyw sens ohonyn nhw, mae’n dod yn eglur nad unrhyw ‘fe’ yw hwn, ond Ef, a bod yr EF yn YDWYF.

Rydyn ni hefyd y dyddiau hyn yn tra skuthropoi. Rydyn ni’n ei chael yn anodd i ddehongli ein cred a’n profiad a’u hystyron. Mae gennym hanner dwsin o themâu ynglyn â’n cyfnod, am Ewrop a’r byd, ein cenedl a’n diwylliant, yn ogystal â’n hanes teuluol a phersonol. Does dim llawer o siâp arnon ni’n dehongli ein stori ein hunain mewn ffordd sy’n gwneud unrhyw sens. Ond rydyn ni’n dyheu am gael tanio’n calonnau ym mhresenoldeb y paroikeis sy’n torri bara drosom.

Yna, mae Cleopas yn dychwelyd i Jerwsalem ac yn egluro i’r sêt fawr beth sy wedi digwydd. Ac mae e’n clywed eu hanes nhw hefyd, a’r ffordd y ‘safodd yn eu canol hwy ac a ddywedodd wrthynt, Tangnefedd i chwi’.

Mae’n dweud yr un peth wrthyn ni, skuthropoi Cristnogaeth21, a hynny heb ddannod dim o’n methiannau i ni: ‘Tangnefedd i chwi.’

(Un o blith sawl dehongliad byw o’r Ysgrythur gan James Alison yn Y Dioddefus sy’n Maddau, sydd i’w gyhoeddi yn 2016 gan Gyhoeddiadau’r Gair)